Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 03/2020/0909/PF – TIR YN (RHAN O ARDD) 15 MAES BACHE, LLANGOLLEN
Ystyried cais ar
gyfer adeiladu annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig
ar dir yn (rhan o ardd) 15 Maes Bache, Llangollen (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais
ar gyfer Adeiladu 1 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith
cysylltiedig ar dir (sy’n rhan o ardd) 15 Maes Bache, Llangollen. [Cafodd y cais hwn ei ohirio o’r cyfarfod
diwethaf]
Siaradwr Cyhoeddus –
Bob Dewey (asiant) (o blaid) - dywedodd bod y cais yn bodloni’r
holl ofynion safonol ac nid oedd yn ddatblygiad tiroedd cefn, ond â mynediad
annibynnol ei hun a phriffordd ar y blaen. Dadleuodd y byddai cynsail yn cael ei osod gan
grybwyll caniatâd cynllunio blaenorol ar gyfer datblygiadau tai ar yr un
llechwedd a oedd wedi bod yn dderbyniol o ran AHNE, a chyfeiriodd at y
ddibyniaeth ar benderfyniad apêl gynllunio oedd wedi dyddio fel un amhriodol. Roedd yr annedd yn fach ac wedi’i
ddylunio’n dda ac yn benodol ar gyfer topograffi’r safle ac ni fyddai’n
niweidio harddwch yr ardal. Nid oedd gan Gyngor Tref Llangollen na CADW unrhyw wrthwynebiad, a
cadarnhaodd CADW na fyddai’r cynnig yn effeithio ar Safle Treftadaeth y Byd. Gwrthododd y pryderon o ran preifatrwydd,
golau a sŵn hefyd, gan fod y cymdogion yn gefnogol o’r cynnig.
Trafodaeth Gyffredinol – Disgrifiodd y Cynghorydd Melvyn Mile
(Aelod Lleol) safle’r cais a'r amgylchedd o bwyntiau gweledol gwahanol yn yr
ardal. Cyfeiriodd at leoliad y gronfa ddŵr goncrid a'r datblygiad tai dwysedd
uchel a'r effaith ar y tirlun, heb godi unrhyw bryderon o ran yr AHNE. Ni fyddai’r datblygiad arfaethedig yn weledol iawn gyda’r to yn is na’r
ffens ar gefn yr eiddo a’r coedd y tu ôl. Anghytunodd gyda barn y Cyd-Bwyllgor AHNE a barn y
swyddog nad oedd y cynnig yn parchu cymeriad y datblygiad gerllaw na’r ardal
agored. Ar ôl ymweld â safle’r cais ac o ran graddfa a dyluniad y cais, nid oedd y
Cynghorydd Mile yn ystyried y posibilrwydd bod trosolwg yn bryder, nid oedd hyn
yn broblem yn yr apêl gynllunio yn 2007, ac roedd y coed a’r gwrych (nad oedd
ar y lluniau) yn cuddio’r eiddo. Hefyd, nid oedd yn ystyried y golau i fod yn broblem o ystyried maint yr
annedd gyda dau eiddo arall uwch ei ben wedi’u lleoli ymhellach allan. Yn yr apêl yn 2007, cododd yr Arolygydd
Cynllunio bryderon am y mynediad ar lôn wledig a oedd wedi newid ers hynny yn
dilyn datblygiadau eraill. Yn olaf, fel amlygodd y gwahaniaeth rhwng safbwyntiau’r Cyd-bwyllgor AHNE,
Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW o ran effaith yr amwynder gweledol ar yr un cais.
Roedd y Cadeirydd wedi derbyn e-bost gan y
Cynghorydd Graham Timms (aelod lleol) nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod. Roedd y Cynghorydd Timms yn anghytuno â
barn y swyddog y byddai’r datblygiad yn achosi niwed annerbyniol i gymeriad ac
ymddangosiad y tirlun, gan gredu na fyddai posib sylwi ar yr effaith gan y
byddai'n disgyn yn naturiol o fewn ffin weledol Maes Bache. Cyfeiriodd hefyd at y nifer o dai gerllaw
a chefnogodd y defnydd o'r tir o fewn ffin datblygu Llangollen. Credai’r Cynghorydd Timms y byddai
defnyddio tir priodol o fewn y ffin i elwa mynediad trigolion at wasanaethau a
siopau canol y dref yn fwy ffafriol na defnyddio'r mannau gwyrdd amgylchynol i
gefnogi'r galw am dai.
Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am eglurder o
ran ffin y datblygiad mewn perthynas â safle’r cais a safle’r eiddo uwchben y
safle a oedd wedi cael caniatâd cynllunio er gwaethaf mwy o effaith gweledol. Credodd y Cynghorydd Brian Jones bos y
Cynghorydd Mile wedi gwneud achos ysgogol i gymeradwyo’r cais yn seiliedig ar
ei wybodaeth leol o'r ardal.
Ymatebodd y swyddog cynllunio i’r materion a
godwyd yn ystod y drafodaeth fel a ganlyn –
·
cadarnhaodd bod safle’r cais
wedi cael ei leoli o fewn y ffin datblygiad a’r llinell ffiniol wedi’i lunio ar
hyd y ffordd.
·
dywedodd bod adeiladau i dde'r
eiddo ar oleddf uwch, ond roedd topograffi a sgrinio’r coed yn golygu nad
oeddent yn sefyll allan yn yr un ffordd â safle’r cais ar draws y dyffryn.
·
cydnabu
safbwyntiau gwahanol yr aelodau lleol a’r paralelau a luniwyd gyda datblygiadau
eraill, ond gofynnodd i’r aelodau ystyried yr effeithiau ar yr AHNE a oedd yn
ddynodiad statudol cenedlaethol, wrth wneud eu penderfyniad.
·
eglurodd
o ran pellter, y byddai’r balconi a’r ffenestr ystafell fyw ar y llawr cyntaf
ond yn 4.5m ar y pwynt agosaf i’r ffin, a oedd yn llai na’r 12m a argymhellir o
ystafell fyw ar y llawr cyntaf, er mwyn rhwystro trosolwg.
·
pwysleisiodd
sail argymhelliad y swyddog o ystyried y penderfyniad apêl ddiwethaf y byddai
datblygu'r safle yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad yr AHNE, sylwadau Cyd-bwyllgor
AHNE a Chyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â'r canllawiau yn nodi safonau
pellteroedd.
·
eglurodd
bod y Llawlyfr Rheoli Datblygiad yn ddogfen ganllawiau gan Lywodraeth Cymru i
ddelio gyda, a phenderfynu ar gynigion cynllunio.
Ymatebodd y Cynghorydd Melvyn Mile o ran y pellter
rhwng y balconi arfaethedig a'r ffin, gan bwysleisio bod y ffin mewn perthynas
â'r ardd drws nesaf ond bod yr eiddo ei hun yn bellach o lawer ar lethr serth. Teimlodd y byddai unrhyw bryderon o ran
trosedrych yn gallu cael eu datrys trwy amod, megis gwydr tywyll ar gyfer y
balconi. Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu pe byddai’r aelodau o blaid
cymeradwyo'r cais, byddai cyfres o amodau cynllunio yn cael eu llunio gyda'r
aelod lleol a allai gynnwys amod i fynd i'r afael â throsolwg os yn briodol. Derbyniodd bod rhai materion wedi cael eu
trafod o ran effaith ar gymeriad yr ardal a'r ardal agored, ond pwysleisiodd
safbwyntiau Cyd-Bwyllgor AHNE a Chyfoeth Naturiol Cymru a oedd wedi argymell
gwrthod caniatâd.
Cynnig – Ystyriodd y Cynghorydd Melvyn Mile bod y cynnig yn parchu cymeriad y
datblygiad yn yr ardal leol a’r ardal agored. Ar y sail hwnnw, cynigodd y dylid cymeradwyo’r
cais a bod y swyddogion yn cysylltu gyda’r aelod lleol o ran yr amodau
cynllunio ar gyfer caniatâd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mark Young.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 19
GWRTHOD – 0
YMATAL – 0
PENDERFYNWYD CYMERADWYO caniatâd, yn erbyn argymhelliad y
swyddog, ar y sail bod y cynnig yn parchu cymeriad y datblygiad yn yr ardal
leol ac yr ardal agored, a bod swyddogion yn cysylltu gyda’r aelod lleol o ran
amodau cynllunio ar gyfer y caniatâd.
Dogfennau ategol:
- ITEM 5 - LAND AT 15 MAES BACHE, LLANGOLLEN, Eitem 5. PDF 95 KB
- ITEM 5 - APPENDIX LAND AT 15 MAES BACHE, LLANGOLLEN, Eitem 5. PDF 2 MB