Eitem ar yr agenda
RHAGLEN TRAWSNEWID TREFI LLYWODRAETH CYMRU
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ddirprwyo awdurdod ar gyfer dibenion sicrhau buddsoddiad adfywio yn Sir
Ddinbych o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD (yn dilyn
cymeradwyaeth wreiddiol y Cyngor ar 22 Mai 2018) y dylai’r Cabinet gymeradwyo
awdurdod dirprwyedig parhaus i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r
Parth Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu
Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd
a’r Pennaeth Cyllid (Swyddog Adran 151) ar gyfer blynyddoedd ariannu 2021-22
(Blwyddyn 4) a 2022-23 (Blwyddyn 5) er mwyn –
(i) gwneud unrhyw
geisiadau cyllido prosiect sy’n angenrheidiol i sicrhau adnoddau o’r rhaglen
Trawsnewid Trefi ar gyfer cyfnod ei weithrediad;
(ii) derbyn a
gweithredu gwariant ar brosiectau sy’n cael mynediad i gefnogaeth rhaglen
Trawsnewid Trefi, yn cynnwys dyfarnu grantiau i drydydd parti;
(iii) ailnegodi ac
ymgymryd ag unrhyw gytundebau newydd gyda chynghorau eraill gogledd Cymru fel
bo’r angen i ymgeisio neu i dderbyn arian rhaglen Trawsnewid Trefi, a
(iv) chytuno ar
unrhyw newidiadau/diweddariadau a wneir i Gynllun Adfywio Rhanbarthol Gogledd
Cymru (RRP).
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu
Corfforaethol yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu
Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a alwyd yn Rhaglen Targedu
Buddsoddiad mewn Adfywio yn flaenorol, a dirprwyo awdurdod er pwrpas diogelu
buddsoddiad i adfywio.
Roedd
y Cabinet wedi cefnogi datblygiad y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn
2018. Roedd gan y rhaglen ranbarthol gyllideb o tua £16 miliwn, ac roedd Sir
Ddinbych wedi manteisio'n llwyddiannus ar dros £4 miliwn o fuddsoddiad yn ei
threfi. Roedd yr adroddiad yn manylu
ar barhad y rhaglen dros y ddwy flynedd nesaf gyda rhai newidiadau, gan gynnwys
dyrannu dros hanner o’r cyllid i’r cynllun ‘Thematig Trawsnewid Trefi Gwneud
Lleoedd’ ond roedd y meini prawf yn aneglur ar hyn o bryd, a faint a phryd fydd
cyllid ar gael. Cynghorodd yr Arweinydd, o
wybod y dull ehangach o weithio o ran y cyllid, gobeithiwyd y byddai rhagor o
hyblygrwydd ar gyfer prosiectau yn y cynllun, a darparodd sicrwydd y byddai'r
aelodau yn cael eu ymgynghori ar y cam nesaf, unwaith roedd gwell dealltwriaeth
o’r meini prawf. Wrth groesawu’r pecyn
cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, amlygodd yr Arweinydd bod angen canolbwyntio
fwy ar drefi wrth symud ymlaen, gan gydnabod yr heriau sylweddol a wynebwyd, ac
i greu trafodaeth o fewn yr awdurdod i ddeall y gefnogaeth a'r buddsoddiad angenrheidiol
wrth symud ymlaen.
Trafododd
y Cabinet yr adroddiad yn fanylach fel a ganlyn -
·
mewn ymateb i gwestiynau gan y
Cynghorydd Mark Young, amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd creu’r trafodaethau
hynny i ddechrau, i nodi’r buddsoddiad sydd ei angen mewn trefi, ac yna teilwra
prosiectau i ddiwallu’r meini prawf ar gyfer cefnogaeth grant, a allai olygu
gweithio mewn partneriaeth gydag eraill wrth symud ymlaen
·
yn nhermau sut i liniaru'r
risgiau sy'n cael ei creu gan ddiffyg amser ac arbenigedd staff, cynghorodd
swyddogion y byddai cyfle i godi refeniw ar brosiectau a fyddai'n galluogi
prynu adnoddau arbenigol neu helpu i osod costau staffio yn eu herbyn a
fyddai’n sicrhau bod yna ddigon o staff a medrusrwydd i gyflawni'r prosiectau
hynny.
Roedd
y rhaglen yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd ac roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi
y byddai'n ei hymestyn ymhellach, felly o ystyried yr adnoddau staffio
cyfyngedig byddai angen blaenoriaethu prosiectau ynghyd â strategaeth cyflenwi
dros y blynyddoedd nesaf; serch hynny, y cam cyntaf oedd i ddeall meini prawf y
cyllid
·
Amlygodd y Cynghorydd Richard
Mainon ei rwystredigaeth o ran natur tymor byr y rhaglen, a nad oedd yn darparu
digon o gyfle i ymgymryd â dull mwy strategol o weithio i fuddsoddi mewn trefi,
a fyddai'n cael mwy o effaith a gwell newidiadau arloesol yn y dyfodol, sy'n
ofynnol er mwyn cyflenwi i fusnesau a phreswylwyr.
Cytunodd
yr Arweinydd gyda’r manteision o gael dull strategol o weithio i fuddsoddi yn y
tymor hir, ac adleisiodd waith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth lobio ar
gyfer dyraniad cyllid tair blynedd gan Lywodraeth Cymru. Ar
ôl dweud hynny, amlygodd yr Arweinydd y buddsoddiad sylweddol yr oedd Sir
Ddinbych wedi manteisio arno dros gyfnod y rhaglen, a oedd wedi cael effaith er
nad oedd yn rhan o ddull strategol o weithio yn y tymor hir, ac roedd y Cyngor
wedi gweithio o fewn yr amgylchedd ariannol presennol, ac mewn safle da ar
gyfer buddsoddiad yn y dyfodol wrth symud ymlaen.
PENDERFYNWYD (yn dilyn
cymeradwyaeth y Cabinet ar 22 Mai 2018) bod y Cabinet yn cymeradwyo awdurdod dirprwyedig i'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r Parth Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol yr Economi
a Llywodraethu Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a
Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid (Swyddog Adran 151) ar gyfer
blynyddoedd cyllid 2021 – 22 (Blwyddyn 4) a 2022 – 23 (Blwyddyn 5) i -
(i) wneud unrhyw
geisiadau cyllido prosiect sy’n angenrheidiol i ddiogelu adnoddau o’r rhaglen
Trawsnewid Trefi ar gyfer cyfnod ei weithrediad;
(ii) derbyn a
gweithredu gwariant ar brosiectau sy’n cael mynediad i gefnogaeth rhaglen
Trawsnewid Trefi, gan gynnwys dyfarnu grantiau i drydydd parti;
(iii) aildrafod a mynd
i unrhyw gytundeb newydd gyda chynghorau Gogledd Cymru i wneud cais am neu
dderbyn cyllid rhaglen Trawsnewid Trefi, a
(iv) chytuno i unrhyw
newidiadau/diweddariadau i Gynllun Adfywio Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Dogfennau ategol:
- WG TRANSFORMING TOWN PROGRAMME, Eitem 7. PDF 242 KB
- WG TRANSFORMING TOWN PROGRAMME - APPENDIX 1, Eitem 7. PDF 360 KB
- WG TRANSFORMING TOWN PROGRAMME - APPENDIX 2, Eitem 7. PDF 403 KB
- WG TRANSFORMING TOWN PROGRAMME - APPENDIX 3 WBIA, Eitem 7. PDF 96 KB