Eitem ar yr agenda
ADOLYGU’R POLISI ENWI A RHIFO STRYDOEDD
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol Gwasanaethau
Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet ar gyfer newidiadau arfaethedig i Bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd y
Cyngor.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y dylai’r Cabinet gymeradwyo’r
newidiadau canlynol i’r Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd –
(i) bod strydoedd
newydd yn cael eu henwi yn Gymraeg yn unig, a
(ii) bod y dewis i
enwi strydoedd ar ôl unigolion yn cael ei dynnu o’r polisi.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau
Corfforaethol yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar newidiadau
arfaethedig i Bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd y Cyngor ynghyd â’r rhesymeg tu ôl
i’r newidiadau hynny.
Cynhaliwyd
adolygiad o’r polisi ar gais y Pwyllgor Craffu Perfformiad, gyda phwyslais
penodol ar sicrhau ei fod yn adlewyrchu Polisi Iaith y Cyngor ac roedd Pwyllgor
Llywio’r Gymraeg wedi cytuno i’r dull hwnnw o weithio. Yn dilyn ymgynghoriad gyda
Swyddog Cymraeg y Cyngor a Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, argymhellwyd y byddai
strydoedd newydd i gyd yn cael eu henwi'n Gymraeg yn unig. Roedd
y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi codi’r mater o allu enwi strydoedd ar ôl
pobl yn sgil enghreifftiau diweddar o enwau strydoedd yn gorfod cael eu newid. Yn achos Sir Ddinbych, roedd
mwy o broblem o enwi strydoedd ar ôl unigolion a oedd yn cynnwys elfen
emosiynol, ac ar ôl ystyried Cyfamod y Lluoedd Arfog, argymhellwyd bod y dewis
i enwi strydoedd ar ôl unigolion yn cael ei ddileu.
Codwyd
y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –
·
roedd trafodaeth am dynnu’r
dewis o enwi strydoedd ar ôl unigolion yn gyfan gwbl, gan dderbyn y rhesymeg tu
ôl i’r argymhelliad hwnnw, roedd Julian Thompson-Hill yn anfodlon atal
anrhydeddu unigolion arbenigol megis Capten Sir Tom Moore er enghraifft be
bai'n lleol i'r ardal.
Amlygwyd
yr anawsterau presennol a wynebwyd gan swyddogion wrth fynd i’r afael ag enwi
strydoedd ar ôl unigolion a thrafodaethau ehangach ar werth perthnasol unigol,
a oedd yn fater emosiynol a sensitif iawn. Y farn gyffredinol oedd dylid
dileu normaleiddio enwi strydoedd ar ôl unigolion a pheidio cynnwys
rhagdybiaeth yn y polisi i gynnwys y dewis hwnnw. Serch hynny, derbyniwyd bod
gan y Cyngor ddewis i amrywio’r polisi ar gyfer achosion eithriadol, ac i
ganiatáu anrhydeddu unigolion arbennig, ac ystyriwyd mai hyn oedd y ffordd orau
ymlaen
·
mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd Tony Thomas yn ymwneud â’r ffordd draddodiadol o enwi strydoedd ar
ôl sefydliadau neu noddwyr, dywedodd y Cynghorydd Mainon mai ei ddewis personol
oedd enwi strydoedd gyda’r bwriad o ddisgrifio’r ardal leol ac adlewyrchu ei
harwyddocâd diwylliannol a hanesyddol yn unol ag egwyddorion cyffredinol y
polisi
·
Amlygodd y Cynghorydd Graham
Timms broblemau cychwynnol wrth gyfieithu’r polisi o’r Saesneg i’r Gymraeg, ac
mewn ymateb i gwestiynau, trafododd y Gweinydd Perfformiad a Systemau’r
canlynol:
(1) cadarnhaodd bod rhestr awgrymedig o enwau
strydoedd wedi’i chynnwys yn y polisi, ond nad oedd y rhestr yn un gyfyngedig a
byddai ‘Heol’ yn sicr o gael ei ystyried, (2) cytunodd i ofyn i Swyddog y
Gymraeg i ailymweld ag Adran 1.12 ar ddatblygiad enwau bloc i sicrhau bod y
rhagddodiaid priodol yn cael eu defnyddio yn y cyfieithiadau Cymraeg a (3)
chynghorodd bod y defnydd o’r gwaith “fflat” a “rhandy” wedi bod yn seiliedig
ar ddiffiniad hanesyddol
·
Gwnaeth y Cynghorydd Arwel
Roberts gais bod y pwyllgor craffu’n ystyried y polisi, a llongyfarchodd yr
Aelod Arweiniol a’r swyddogion ar y gwaith a wnaed.
Ailadroddodd
bwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg, a oedd yn rhan o dreftadaeth a diwylliant yr
ardal, ac roedd angen eu cadw am byth.
·
Amlygodd yr Arweinydd
bwysigrwydd sicrhau bod datblygwyr yn ymwybodol o’r polisi newydd ar gam cynnar
o’r broses gynllunio er mwyn darparu dealltwriaeth glir o ofynion y polisi o'r
cychwyn cyntaf.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r
newidiadau canlynol i’r Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd -
(i) enwi strydoedd
newydd yn Gymraeg yn unig, a
(ii) bod y dewis i
enwi strydoedd ar ôl unigolion yn cael ei dynnu o’r polisi.
Dogfennau ategol:
- STREET NAMING NUMBERING POLICY, Eitem 6. PDF 211 KB
- SNN DRAFT POLICY E - APPENDIX 1, Eitem 6. PDF 567 KB