Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH AR NEWID HINSAWDD A NEWID ECOLEGOL CYNGOR SIR DDINBYCH (2021 - 2029)

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd a Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynglhwm) yn cyflwyno’r ddogfen strategaeth derfynol i’r Cabinet ei ystyried, ac argymell i’r Cyngor ei mabwysiadu.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      argymell bod y Cyngor yn mabwysiadu Strategaeth Cyngor Sir Ddinbych ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol (2021/22-2029/30), ac yn

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad A o’r adroddiad) i ystyriaeth fel rhan o'i benderfyniad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd a Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol derfynol Cyngor Sir Ddinbych i’r Cabinet er ystyriaeth ac argymhelliad i’r Cyngor i’w mabwysiadu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at y swm sylweddol o waith a wnaed ers y Datganiad o Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor yn 2019, sydd wedi arwain at ddogfen Strategaeth yn manylu ar sut fyddai nod y Cyngor o fod yn ddi-garbon net ac yn gadarnhaol yn ecolegol yn cael ei gyflawni. Pe bai’r Strategaeth yn cael ei chymeradwyo, byddai angen i'r Cyngor gyflwyno tua £9 miliwn dros y tair blynedd nesaf, gyda rhagor yn y dyfodol, ac roedd yn hyderus iawn mai dyma'r peth iawn i’w wneud, ac y byddai'n fanteisiol iawn i'r awdurdod wrth symud ymlaen. Fel Aelod Arweiniol Bioamrywiaeth, adroddodd y Cynghorydd Tony Thomas ar y rhaglen plannu coed a’r prosiect planhigfa goed ynghyd â’r gwaith a wnaed i gefnogi ecosystemau.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd at darged Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru di-garbon erbyn 2050 a chyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar leihau carbon ac amsugniad i roi cap ar dymheredd cynhesu byd-eang a chyfyngu’r effaith ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth.  Roedd y Strategaeth yn cynrychioli cyfraniad y Cyngor wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, a helpu Cymru i ddiwallu ei uchelgeisiau di-garbon a chyflawni ar ddyletswyddau bioamrywiaeth. Cafodd ei llunio ar y cyd ar draws y Cyngor, yn ogystal â chyda’r cyhoedd, ac mae'n darparu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer 2030 ynghyd â map llwybr o sut y caiff ei chyflawni, bancio manteision gostyngiad mewn carbon, cynnydd yn amsugniad carbon a gwell rhywogaethau, yn ogystal â buddion mewn perthynas a’r economi, iechyd a lles.

 

Croesawodd y Cabinet y Strategaeth gan gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed i’w datblygu'n brydlon ers Datganiad Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor. Wrth arnodi’r Strategaeth yn llawn, talodd y Cabinet deyrnged i bob un oedd wedi’u cynnwys ar draws y Cyngor a’r partïon gwleidyddol ynghyd ag aelodau’r cyhoedd am eu cyfraniad, gan gydnabod y frwdfrydedd a'r gefnogaeth eang. Wrth gydnabod y cyllid sylweddol sydd ei angen i gyflawni’r Strategaeth a’r hinsawdd ariannol anodd sy’n debygol wrth symud ymlaen, amlygodd y Cabinet bwysigrwydd y Strategaeth a’i chyflawniad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac roeddent yn unfrydol mai dyna oedd y cam gweithredu iawn.

 

Yn ystod y drafodaeth, cododd y Cynghorydd Mark Young nifer o gwestiynau yn ymwneud â’r Strategaeth ac fel Aelod Arweiniol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) roedd yn awyddus i’r CDLl fod mor wyrdd â phosib. Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen -

 

·         cafodd fforddiadwyedd ei gydnabod fel risg allweddol i’r Cyngor allu gyflawni’r Strategaeth, ond byddai nifer o’r mesurau i’w gweithredu’n arbed arian yn y tymor byr a’r tymor hir, yn ogystal â chynhyrchu incwm; byddwn yn gwneud y mwyaf o gyfleodd cyllid grant gan Lywodraethau Cymru a’r DU

·         roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Adran Cynllunio Polisi ac addysg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn nhermau datblygiad eu CDLl i ystyried yr agenda gwyrdd ac roedd cefnogaeth barhaus y Cynghorydd Young yn cael ei werthfawrogi'n arw o ran hynny; roedd ymgysylltiad gyda datblygwyr drwy gydol y broses cyn gwneud cais a chamau gweithredu pellach wedi’u cynllunio drwy bolisi cynllunio yn nhermau safleoedd datblygu o fewn y CDLl a thrwy reoli datblygu

·         adeiladau'r cyngor oedd yn gyfrifol am y swm uchaf o allyriadau carbon, a’r targed oedd haneru’r allyriadau hynny dros y naw mlynedd nesaf o ran ynni a dŵr; byddai’r Strategaeth yn cael ei adolygu bob tair blynedd i gyd-fynd gydag amgylchiadau a thechnolegau presennol 

Cyfeiriodd y Cynghorwyr Mark Young a Bobby Feeley at botensial y dyfodol i resymoli adeiladau’r cyngor o wybod patrymau gwaith a newidiol gyda symudiad at weithio o bell, a allai gael effaith sylweddol ar wneud y mwyaf o uchelgeisiau i leihau ôl troed carbon y cyngor ymhellach

·         roedd gweithio rhanbarthol yn nodwedd ddatblygol ac roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda chydweithwyr mewn awdurdodau lleol eraill; y bwriad oedd peri dull rhanbarthol o weithio drwy Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) a phrosiectau Ynni Clyfar Lleol a chysylltiadau cenedlaethol i Banel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol 

Cydnabu bod cydweithio o fewn y Strategaeth a fyddai'n darparu gwell buddion a rhagor o lwyddiant wrth ddiogelu cyllid grant  Cynghorodd yr Arweinydd ei fod wedi ysgrifennu at y BWUEGC i ystyried yr agenda newid hinsawdd ymhellach yn nhwf economaidd y rhanbarth yn y dyfodol ac amlygodd bwysigrwydd dull rhanbarthol o weithio.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr ystyriaethau ariannol o wybod y cyllid sylweddol sydd ei angen dros gyfnod y Strategaeth. Fel rhan o’r broses gosod cyllideb, cytunodd aelodau i ddyrannu £389,000 o gyllid refeniw i gefnogi benthyca darbodus a fyddai’n galluogi'r Cyngor i helpu ariannu’r rhaglen waith angenrheidiol ar gyfer 2021/22. Serch hynny, byddai angen swm sylweddol o gyllid ychwanegol dros gyfnod y rhaglen. Gofynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley am y swm o ffynonellau cyllid allanol ar gael, a chadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones bod yr agenda newid hinsawdd ehangach yn symud ar garlam, gan greu rhagor o gyfleodd yn nhermau technoleg a ffrydiau cyllido, a bod angen i swyddogion ac aelodau fod yn effro er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleoedd wrth iddynt ddod ar gael gyda mwy o gydweithio rhanbarthol wrth symud ymlaen.

 

Diolchodd yr Arweinydd y sawl oedd wedi bod yn rhan o ddatblygu’r Strategaeth, ac ystyriodd y byddai’r cydweithio a’r ymrwymiad a ddangoswyd yn sicrhau bod y Cyngor mewn safle cadarn i’w gyflawni. Ar wahoddiad yr Arweinydd, adroddodd y Cynghorydd Graham Timms, Cadeirydd Gweithgor Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ar y gwaith gwych a wnaed wrth ddatblygu'r Strategaeth gyda chefnogaeth eang ledled y sir.  Teimlodd bod swyddogion allweddol megis y Swyddog Bioamrywiaeth a’r Swyddog Coed a’r Swyddog Rhostir a benodwyd yn ddiweddar o fantais i’r Cyngor, a chymerodd y cyfle i dalu teyrnged i waith y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a’r Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd yn cydlynu’r prosiect.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan aelodau nad ydynt ar y Cabinet -

 

·         Cadarnhaodd y Cynghorydd Tony Thomas y byddai rhagor o goed yn cael eu plannu ar bob graddfa i ddiwallu targedu amsugno carbon, gan gynnwys plannu coed mewn lleoliadau dinesig lle bo’n briodol.

Byddai cynlluniau plannu'n cael eu datblygu a’u cyflawni dros flynyddoedd y Strategaeth a cheisir cyllid grant lle bo’n bosib, ac roedd gan Wasanaethau Cefn Gwlad lwyddiant blaenorol o ddiogelu cyllid ar gael.  Cafodd Swyddog Coed llawn amser ei gyflogi, gyda dau Swyddog Coed wedi'u cyflogi ar sail dros dro, a fyddai efallai'n cael eu datblygu i fod yn swyddi parhaol

·         Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £60 miliwn ar gyfer plannu coed yn ddiweddar, ond nid oedd yn glir eto a fyddai’n Cymru’n elwa o hyn, a chytunodd i ymchwilio i’r mater ymhellach, gyda'r bwriad o adrodd yn ôl i gyfarfod y Cyngor wedi hynny. 

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi addo cyllid ar gyfer plannu coed, a ddyrannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a chafwyd sicrwydd y byddai unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau plannu yn cael ei geisio’n weithredol i wneud y mwyaf o gyfleoedd cyllido

·         Cytunodd y Rheolwr Rhaglen i ddarparu diweddariad i’r Cynghorydd Glenn Swingler hefyd ar gynlluniau plannu coed yng Ngorllewin y Rhyl a Dinbych Uchaf.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn

 

 (a)      Argymell i’r Cyngor fabwysiadu Strategaeth Cyngor Sir Ddinbych ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol (2021/22-2029/30), a

 

 (b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant  i ystyriaeth (Atodiad A o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: