Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cymeradwyo sefydlu cronfa wrth gefn i ganiatáu i Sir Ddinbych Yn Gweithio reoli’u harian yn fwy effeithiol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelid y byddai gorwariant o £1.759 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.

·        amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol.

·        amlinellwyd effaith ariannol y coronafeirws a'r safle ar hawliadau i Lywodraeth Cymru hyd yma, yn nhermau gwariant a cholled i incwm.

·        manylion o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn).

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo gosod cronfa wrth gefn i ganiatáu i Sir Ddinbych yn Gweithio reoli eu cyllid yn fwy effeithiol.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill y Cabinet drwy elfennau amrywiol yr adroddiad a symudiadau ers y mis blaenorol. Cymerodd y cyfle i roi'r newyddion diweddaraf i aelodau ar gynllun grant Llywodraeth Cymru i fusnesau lleol a dyrennir gan y cyngor, a talwyd teyrnged i waith diflino’r staff oedd yn gyfrifol am brosesu dros 1300 o hawliadau yn effeithiol, gyda chyfanswm o oddeutu £4.5 miliwn yn y gyfran ddiweddaraf o gyllid. Cydnabu’r Cabinet waith caled y staff oedd yn dyrannu'r cynllun, sydd wedi gweithio tu hwnt i’r gofyn i sicrhau bod taliadau effeithiol yn cael eu gwneud i hawlwyr cymwys, a dangoswyd gwerthfawrogiad o ran hynny.

 

Cynghorodd y Pennaeth Cyllid y cafwyd cadarnhad erbyn hyn bod hawliad colled incwm Chwarter 3 wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac roedd yn falch o adrodd ar ffrydiau cyllid eraill LlC oedd ar gael yn hwyr yn y flwyddyn ariannol a fyddai'n effeithio'n gadarnhaol ar gyllid y Cyngor i’w cynnwys yn adroddiadau monitro i’r Cabinet yn y dyfodol. I gloi, soniwyd am gwelliant i sefyllfa ysgolion, a oedd yn bennaf oherwydd effaith barhaus Covid-19 a chafwyd cadarnhad o gymeradwyaeth am gyllid ar gyfer eitemau penodol o wariant.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill, Pennaeth Cyllid i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mark Young fel a ganlyn -

 

·        y taliadau ni chymeradwywyd am golli incwm mewn perthynas â Chwarter 1 yn bennaf o ran y Cyfrif Refeniw Tai. 

O wybod mai dim ond hanner yr awdurdodau lleol sy’n rheoli eu stoc dai, gyda’r gweddill yn cael eu rheoli gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, roedd LlC wedi gwrthod hawliadau’r cyngor o ran hynny i sicrhau cydraddoldeb

·        roedd y rhan fwyaf o eitemau a ddaliwyd ar yr hawliadau yn ymwneud ag ymholiadau technegol am brydau ysgol am ddim ac am hawliadau incwm yn ymwneud â incwm gohiriedig megis ffioedd cynllunio a threth y cyngor; roedd disgwyl nawr y byddai LlC yn ariannu awdurdodau lleol ar gyfer y colled i incwm yn ystod y flwyddyn

·        yn nhermau’r mater ehangach o gyllid cenedlaethol a’r cyhoeddiad diweddar y byddai LlC yn derbyn £650 miliwn ychwanegol gan Drysorlys y DU am wariant ychwanegol yn sgil Covid-19, cafwyd ei nodi y gallai unrhyw gyllid ychwanegol heb ei wario erbyn mis Ebrill ei gario drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf, ac roedd disgwyliad y byddai arian ychwanegol yn cael ei ddyrnau i awdurdodau lleol gyda goblygiadau’r cyhoeddiad i’w trafod yn y dyddiau nesaf. 

Amlygodd y Cynghorydd Mark Young fod gan LlC swm sylweddol o arian sy’n rhaid ei wario cyn mis Ebrill, ac roedd yn awyddus bod y cyllid hwnnw'n cael ei ymrwymo cyn gynted â phosib o ystyried bod cynghorau a busnesau'n cael hi'n anodd yn ariannol.

 

Talodd y Cynghorydd Hugh Irving deyrnged i waith staff a oedd yn dyrannu cynlluniau cyllid grant a holodd am y prosesau ar waith i’w diogelu rhag talu hawliadau twyllodrus. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid y bu ymchwiliadau yn genedlaethol ac o ystyried mai’r canllawiau cenedlaethol oedd i ryddhau cyllid cyn gynted â phosib, roedd yn debygol y byddai elfen o dwyll. Serch hynny, oherwydd y gweithdrefnau ar waith ar gyfer prosesu hawliadau yn Sir Ddinbych, a’r gwiriadau cymhwysedd angenrheidiol yn cael eu cynnal yn unigol cyn talu, roedd yn teimlo y byddai talu hawliadau twyllodrus yn gyfyngedig, os o gwbl. Ychwanegodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei fod yn ymwybodol bod sawl ymgais ar gyfer hawliadau yn Sir Ddinbych wedi cael eu hatal, gan ddangos sicrwydd yn y broses o ganlyniad. Roedd yn croesawu’r cyllid cefnogaeth a’r cyllid grant ar gael i fusnesau, ond mynegodd bryder bod rhagor o fusnesau newydd heb fod yn gymwys yn ddiweddar am gefnogaeth ariannol, ac roedd yn ymwybodol bod LlC yn edrych i mewn i hynny, a gobeithiwyd y byddai cyllid ar gael ar gyfer y busnesau newydd hynny wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cymeradwyo gosod cronfa wrth gefn i ganiatáu i Sir Ddinbych yn Gweithio reoli eu cyllid yn fwy effeithiol.

 

 

Dogfennau ategol: