Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF. 02/2020/0989 - WYNNSTAY STORES CYNT, FFORDD Y PARC, RHUTHUN

Ystyried cais i amrywio amod rhif. 7 o ganiatâd cynllunio rhif 02/2020/0251 i ganiatáu defnydd o beiriannau cynhyrchu sŵn rhwng 0800 - 17.30 dydd Llun i ddydd Gwener a 08.00 - 12.30 ar ddydd Sadwrn yn Wynnstay Stores cynt, Ffordd y Parc, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer amrywio amod rhif 7 caniatâd cynllunio cod rhif 02/2020/0251 i ganiatáu defnyddio peiriannau sy’n cynhyrchu sŵn rhwng 08.00 a 17.30 dydd Llun i ddydd Gwener a 08.00 - 12.30 ar ddydd Sadwrn yn yr hen Wynnstay Stores, Ffordd y Parc, Rhuthun.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Gail Banks (Yn Erbyn) –

 

Amlinellodd y siaradwr cyhoeddus y rhesymau dros ei gwrthwynebiad i'r cais i ddileu amod 7 a oedd yn cynnwys y rhesymau canlynol:

 

  • Roedd yr amodau a osodwyd yn cydnabod y pryderon ynghylch sŵn gan breswylwyr ac roedd ganddynt y nod o ddiogelu amwynderau'r preswylwyr. Dywedodd y siaradwr cyhoeddus fod yr ymgeisydd wedi torri'r amodau hyn.
  • Mae torri amodau'n barhaus a defnyddio offer sy’n cynhyrchu sŵn wedi cael effaith andwyol ar fywydau beunyddiol y teulu. Mae'r gwasgwr yn gwneud sŵn grwnan parhaus pan mae’n troi ac mae'n curo ac yn dirgrynu pan mae’n gwasgu deunyddiau.
  • Roedd y sŵn sy'n gysylltiedig â'r iard hefyd yn effeithio ar amwynder y teulu i fwynhau ymlacio yn yr ardd gefn, bu adegau pan oedd angen i ni ddod i mewn i'r tŷ oherwydd bod sŵn y gwasgwr yn tynnu gormod o sylw.
  • Pryder, pe bai amod 7 yn cael ei ddileu, y byddai'n 'agor y llifddorau' i ddefnyddio mwy o offer sy’n cynhyrchu sŵn ar yr iard a byddai preswylwyr unwaith eto dan anfantais o ran yr angen i gofnodi'r gweithgareddau cynhyrchu sŵn ar yr iard er mwyn rhoi darlun cywir o'r gweithgareddau o ddydd i ddydd yn hytrach na'r wybodaeth gyfyngedig a ddarparwyd gan G Parry.
  • Pe bai gwir weithgareddau’r iard o ddydd i ddydd wedi'u cyflwyno ar y cais cychwynnol, a fyddai'r cais wedi'i ganiatáu? 
  • Amlygodd cyflwyno tor-amod swyddogol o tri o’r saith amod nad oedd y gweithgareddau ar y safle yn cyd-fynd â'r ardal gyfagos. Roedd pum preswylydd ar ddwy ochr i'r iard, a oedd agosaf at y safle, yn gwrthwynebu ac roedd darpariaeth gofal plant The Mill yn gwrthwynebu hefyd.
  • Roedd y gweithgareddau'n fwy addas ar gyfer amgylchedd ystâd ddiwydiannol, ac roedd Rhuthun yn ffodus i fod ag un lai na milltir i fyny'r ffordd.

 

Mike Hall (O blaid) –

 

Amlinellodd y siaradwr cyhoeddus o blaid y cais hanes y busnes a chyfleoedd cyflogaeth yr ymgeisydd. Rhoddwyd crynodeb o’r gweithrediadau o fewn yr iard.

 

Dywedodd y siaradwr nad oedd gan yr iard gyfarpar neu beiriannau sefydlog ac nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu. Gwnaed sŵn o symud deunyddiau/peiriannau o amgylch yr iard storio, dadlwytho/llwytho deunyddiau, defnyddio offer llaw yn achlysurol ar gyfer torri deunyddiau a/neu baratoi deunyddiau ar gyfer y safle, ac ailgylchu deunyddiau i leihau gwastraff ac effaith amgylcheddol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai ychydig iawn o sŵn a wnaed a'i fod yn anaml, ac nad oedd yn unrhyw beth a fyddai'n cael ei ystyried yn ormodol neu'n afresymol i unrhyw fusnes ar y safle hwn. Dywedodd fod y Swyddfa Gynllunio a Swyddfa Gwarchod y Cyhoedd wedi bod i'r safle a'u bod o'r farn bod lefel ac amseriad y sŵn yn rhesymol.

 

Adroddwyd bod y safle wedi bod yn safle masnachol ers dros 50 mlynedd, gyda'r holl fusnesau blaenorol yn gwneud llawer mwy o sŵn nag yn awr. Amlinellodd y siaradwr y gweithrediadau blaenorol a gynhaliwyd ar y safle a sut yr oedd y safle wedi'i adael yn wag am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, wrth gwrs, ni chynhyrchwyd sŵn ac efallai fod trigolion cyfagos wedi dod yn gyfarwydd â'r sefyllfa honno.

 

Roedd y siaradwr yn cydnabod y bu ychydig fisoedd cychwynnol o lefelau uwch o sŵn wrth i'r safle gael ei baratoi ond bod y cwmni wedi gweithio gyda'r awdurdod lleol er mwyn lleihau sŵn a'r effaith ar drigolion lleol. Dywedodd na allai'r cwmni weithredu eu busnes yn llwyddiannus o'r safle heb allu gwneud lefelau rhesymol o sŵn o'u gweithgareddau.

 

 

Trafodaeth gyffredinol -

 

Atgoffodd swyddogion yr aelodau bod yr amod wedi'i ychwanegu mewn cyfarfod blaenorol o'r pwyllgor cynllunio. Newidiwyd yr amodau yr oedd swyddogion wedi'u hargymell gan y pwyllgor i ychwanegu'r amod nad oedd unrhyw offer cynhyrchu sŵn ar y safle. Roedd y cais heddiw ar gyfer mabwysiadu'r amodau gwreiddiol a argymhellwyd gan swyddogion cynllunio.

 

Tynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley (aelod lleol) sylw at bwyntiau i gefnogi'r cais. Mae'r safle wedi cael busnes arno ers dros 40 mlynedd a gynhyrchodd sŵn, ac roedd y safle hefyd wedi'i leoli ger ffordd brysur. Roedd y cwmni hefyd wedi bod yn darparu cyflogaeth leol. Dywedodd fod y pandemig wedi gwneud unrhyw lygredd sŵn yn fwy amlwg gan fod pobl yn treulio mwy o amser yn gweithio gartref, ond teimlai mai amodau'r swyddogion cynllunio arfaethedig oedd yr dewisiadau gorau i bawb dan sylw.

 

Holodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (aelod lleol) y swyddogion sut yr oedd uned ddiwydiannol i fod i weithredu heb unrhyw offer cynhyrchu sŵn a chyferbynnu'r defnydd yn awr â defnydd blaenorol y safle o gynhyrchu sŵn, nad oedd wedi'i gynnwys yn yr amodau cynllunio.

 

Holodd y Cynghorydd Ann Davies a ellid cyfyngu'r defnydd o’r gwasgwr creigiau i 30 munud y dydd, ac a oedd unrhyw rwystrau sŵn wedi'u cynnwys ar y safle i liniaru unrhyw lygredd sŵn, hefyd gofynnwyd a oedd y mater o lwch wedi'i amlygu.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid caniatáu'r cais yn unol ag argymhellion swyddogion (amod 7 ac 8) ac eiliwyd gan y Cynghorydd Brian Jones.

 

Ymatebodd swyddogion i’r aelodau ynghylch gweithgarwch gorfodaeth ar gyfer torri amodau cynllunio. Atgoffwyd yr Aelodau hefyd y byddai cyrff rheoleiddio fel y tîm gwarchod y cyhoedd yn gysylltiedig â materion fel niwsans llwch.

 

Pleidlais:

O blaid – 16

Ymatal – 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

Dogfennau ategol: