Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISÏAU’R CYNGOR A'R ASIANTAETH CEFNFFYRDD AR GYFER CYNNAL A CHADW YMYLON FFYRDD A PHERTHI A GWASGARU PLALADDWYR

I drafod ac ystyried adroddiad gan Bennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol ar bolisi’r Cyngor o ran cynnal a chadw ymylon ffyrdd/ perthi a gwasgaru plaladdwyr (copi ynghlwm).

 

 

10.10am – 11am

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Tony Thomas - Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Phennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol gwybodaeth gefndir i’r aelodau am bolisi cynnal a chadw ymylon ffyrdd a pherthi a gwasgaru plaladdwyr yr adran Priffyrdd. Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn dilyn adroddiad blaenorol a gafodd ei drafod.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth –

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd, Cyfleusterau ac Amgylcheddol a’r Rheolwr Uned Waith a Gwasanaethau Stryd gwestiynau’r aelodau mewn perthynas ag agweddau amrywiol o’r polisïau. Trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder:

  • Cafwyd cadarnhad bod ymchwil wedi’i gynnal i’r plaladdwyr gwahanol sy’n cael eu defnyddio yn y sir. Fe wynebwyd heriau dros y blynyddoedd blaenorol ynglŷn â defnyddio plaladdwyr. Pwysleisiwyd wrth yr aelodau am y gofyniad i reoli chwyn gan ddefnyddio’r dull sydd â’r effaith lleiaf ar fioamrywiaeth ac ecoleg. Roeddynt wedi edrych ar ddatrysiadau i ddefnyddio plaladdwyr ac roeddynt yn parhau i ymchwilio iddynt yn flynyddol. Cafodd yr aelodau wybod eu bod wedi gofyn am ganllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwaith y mae’r awdurdod wedi’i gwblhau yn unol â’r Polisi Cenedlaethol.
  • Bu gweithio agos gyda’r grŵp cenedlaethol – Amenity Forum i edrych ar y ffyrdd gorau o ddelio â bioamrywiaeth tra’n rheoli twf chwyn yn effeithiol.
  • Cadarnhawyd bod 21 safle peilot wedi cael eu nodi fel safleoedd bioamrywiaeth man agored arbrofol.  Dewiswyd y safleoedd yma yn seiliedig ar eu maeth cyfoethog ac oherwydd eu potensial ar gyfer bioamrywiaeth anifeiliaid.  Y gobaith yw ymestyn nifer y safleoedd yn y dyfodol. Mae’r safleoedd wedi cael eu dewis gan y Gwasanaeth Cefn Gwlad fel y rhai mwyaf addas i annog bioamrywiaeth. Fe gadarnhawyd i ddechrau bod 97 safle wedi cael eu dewis fel safleoedd posibl. Mae gwaith wedi dechrau ar 21 safle a bydd 2 safle pellach yn cael eu datblygu dros y tymor sydd i ddod. Mae’r safleoedd posibl wedi cael eu sefydlu ar draws y sir pa unai ydynt o fewn ardal ddynodedig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) neu beidio.
  • Roedd Gwasanaethau Stryd yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Cefn Gwlad i ddewis safleoedd posibl ar gyfer bioamrywiaeth yn y dyfodol.  Mae Sir Ddinbych yn cael ei ystyried yn arweinydd cenedlaethol yn y maes yma o waith.
  • Cadarnhawyd y byddai ymgynghoriad gydag aelodau lleol ynglŷn â safleoedd ychwanegol yn cael ei gynnal.
  • Roedd y Cyngor wrthi’n prynu offer torri a chasglu gwair newydd i’r Gwasanaethau Stryd ei ddefnyddio ar y cyd â'r Gwasanaeth Cefn Gwlad.    Mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi llwyddo i gael arian grant tuag at gost yr offer.
  • Roedd aelodau eisiau diolch i swyddogion am ychwanegu biniau halen melyn yn ardal Llangollen, gan fod hyn yn lleihau’r halen rhag llithro o domenni o halen a’i effaith andwyol ar fioamrywiaeth ac ecoleg yr ardal.
  • Roedd hi’n anodd mabwysiadau un dull cyffredin i bawb ar draws y sir. Cymerir gofal wrth ddefnyddio plaladdwyr yng nghefn gwlad. Cafodd yr aelodau wybod bod cost y plaladdwyr yn ddrud ac felly dim ond pan mae ei angen y mae’n cael ei ddefnyddio. Er mwyn lleihau difrod amgylcheddol posibl, dim ond y swm isafswm o blaladdwyr sydd ei angen i fod yn effeithiol sy’n cael ei ddefnyddio i gwblhau’r gwaith. Cafodd aelodau eu cyfeirio at ddatganiad dull sydd wedi’i gynnwys ym mhecyn yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).
  • Cadarnhawyd mai cyfrifoldeb y perchennog tir yn gyffredinol oedd cynnal a chadw canghennau a gwrychoedd sy’n hongian drosodd. Yr Awdurdod sy’n gyfrifol os ydynt yn hongian dros y briffordd. Mewn ardaloedd gwledig, roedd torri ymylon ffordd yn unol â’r polisi bioamrywiaeth er mwyn annog tyfiant a datblygiad.
  • Mae’r Polisi Cynnal a Chadw Ymylon Ffordd yn nodi y dylid gadael bwlch o un metr wrth dorri ymylon ffordd a gwrychoedd. Roedd toriadau Iechyd a Diogelwch yn cael eu cynnal ar gyffyrdd penodol a chorneli dall ac ati. Pan fyddai pryderon yn cael eu codi ar sail unigol, byddant yn cael eu hymchwilio ac yn cael sylw’n seiliedig ar risg. Fe gadarnhawyd nad oedd ymagwedd nôl at y ffin wedi cael ei fabwysiadu.      
  • Fe gadarnhawyd bod y Cyngor wedi mabwysiadu Polisi Rheoli Coed.  Y dull cyffredinol i reoli coed oedd i weithredu os oedd y goeden yn achosi perygl yn unig. Roedd dogfen gryno ar gael ar y rhyngrwyd er gwybodaeth. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad manwl a'r atodiadau oedd ynghlwm yn y pecyn. Roedd y papurau wedi cynnwys sgôp enfawr o wybodaeth i aelodau eu trafod. Roedd yr aelodau eisiau diolch i’r swyddogion a swyddogion Cefn Gwlad am y gwaith cadarnhaol oedd wedi cael ei ddechrau.

 

Felly:

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad a’r atodiadau cysylltiedig:  

  • cefnogi polisi’r Cyngor mewn cysylltiad â chynnal a chadw ymylon a gwrychoedd a’i Bolisi Defnyddio Plaladdwyr;
  • bod adroddiad dilynol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor mewn blwyddyn; a
  • bod adroddiadau gwybodaeth yn cael eu dosbarthu i bob Grŵp Ardal Aelodau yn manylu ar amserlenni torri ymylon ffordd a gwrychoedd, a defnyddio plaladdwyr yn eu hardal nhw.

 

 

Dogfennau ategol: