Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CCYSAGC

·         Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas, a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020. 

·         Cytuno pwy fydd yn bresennol yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC – y dyddiad i’w gadarnhau.

 

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei bod hi wedi mynychu dechrau cyfarfod ar-lein diweddaf CCYSAGC a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020.

Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth yr aelodau nad oedd cofnodion y cyfarfod ar gael i aelodau eu trafod. Dywedodd wrth y pwyllgor y bu 3 phrif maes o drafodaeth.

·         Y cwricwlwm newydd a safle Addysg Grefyddol ynddo;

·         Y fframwaith cefnogi a

·         Dysgu proffesiynol - roedd CCYSAGC eisiau cefnogi athrawon i ddysgu’r cwricwlwm newydd.

 

Fe gadarnhawyd bod dysgu cyfunol ac arholiadau wedi cael eu trafod hefyd ond eu bod yn cael eu newid yn rheolaidd ac mae Addysg Grefyddol yn cael ei ddyfarnu trwy asesiad athro ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am ragor o ddealltwriaeth a gwybodaeth ynglŷn â’r nifer o wasanaethau dyneiddiwr a gynhaliwyd yn amlosgfeydd Sir Ddinbych ers mis Ebrill diwethaf.

Gan ymateb i gwestiwn y Cadeirydd dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol bod y Gymdeithas Dyneiddwyr wedi gofyn a fyddai modd iddynt fod ag aelod ar bwyllgorau CYSAG. Fe glywodd aelodau bod nifer o gyfansoddiau CYSAG wedi nodi bod rhaid i aelodaeth y pwyllgor gynrychioli unigolion yn yr ardal leol. Fe nodwyd y gallai fod yn anodd i gael niferoedd o enwadau Cristnogol gwahanol sydd yn y gymdeithas, yn sgil y dewisiadau sydd yn y cyfrifiad gan ei fod yn nodi Cristnogol/Anghristnogol a chrefyddau eraill. Nid oedd yna ddewis ar gyfer enwadau penodol o ffydd gwahanol. Roedd gwybodaeth leol gan Gynghorwyr wedi cynorthwyo i gasglu data i ddarparu cynrychiolaeth gyfansoddiadol ar CYSAG Sir Ddinbych. Fe soniwyd ei bod yn bosibl ei fod wedi newid gyda nifer cynyddol o ddisgyblion a theuluoedd yn honni nad oedd ganddynt ffydd.

Fe soniodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am y dybiaeth nad oedd unigolyn oedd wedi nodi nad oedd ganddynt grefydd yn golygu nad oedd ganddynt gred mewn dwyfoldeb neu’r goruwchnaturiol, yn hytrach nid oeddynt yn uniaethu ag un o brif grefyddau’r byd.  Pwysleisiwyd pa mor anodd oedd canfod niferoedd y credoau a ffordd o fyw pobl. Teimlwyd petai’r ffigur am niferoedd y gwasanaethau amlosgi dyneiddiwr yn hysbys fe allai ddangos faint o bobl oedd â chred Dyneiddiwr yn Sir Ddinbych.

 

Diolchodd yr aelodau i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am y farn o gasglu gwybodaeth am gred Dyneiddiwr. Gofynnodd aelodau fel CYSAG a fyddai gwybodaeth am gredoau a grwpiau eraill yn gorfod cael eu casglu er mwyn bod yn deg â phawb. Gofynnodd aelodau a fyddai modd cynnal arolwg yn Sir Ddinbych oedd yn cynnwys ‘arall’ gyda blwch testun er mwyn i breswylwyr allu nodi eu credoau’n glir.  Teimlwyd bod crefyddau a chredoau eraill yn cael eu dilyn yn Sir Ddinbych.   

 

Clywodd aelodau bod pwyllgorau CYSAG mewn awdurdodau cyfagos wedi cael trafodaethau tebyg hefyd. Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y gellir anfon cwestiwn at Gynghorwyr lleol i gael gwybodaeth o’r gymuned yn cynnwys pa systemau cred y mae pobl yn eu dilyn, pa adeiladau maent yn eu defnyddio i ymgynnull, pa ystafelloedd cyfarfod sy’n cael eu defnyddio. Fe allai CYSAG ddefnyddio’r wybodaeth honno i ofyn am wybodaeth gan y Cyngor Llawn am ddarn o waith yn ymwneud â’r wybodaeth honno er mwyn edrych ar Gyfansoddiad ac aelodaeth CYSAG.

 

Fe awgrymodd y Cadeirydd a’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol mai’r peth gorau efallai fyddai anfon e-bost at bob Cynghorydd i ofyn pa grwpiau a ffydd oedd ym mhob ward. O’r wybodaeth honno, gellir ffurfio cyfeiriadur i ddangos y canfyddiadau. Byddai’r cyfeiriadur yn ddefnyddiol ar gyfer Sir Ddinbych a CYSAG.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n trafod gyda’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i lunio e-bost i’w anfon at y Cynghorwyr i ofyn am ragor o wybodaeth. Byddai’r holiadur yn cael ei anfon at aelodau i gael adborth cyn ei anfon at y Cynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD

·         bod aelodau yn nodi’r diweddariad ar lafar;

·         a bod y Cadeirydd a’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn trafod i lunio holiadur i’w anfon at bob Cynghorydd yn gofyn am wybodaeth ar ffydd a systemau cred ym mhob ward.

 

Dogfennau ategol: