Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

BIL LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021

Derbyn adroddiad ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2019 (y Bil) (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r aelodau. Rhannodd y Swyddog Monitro gyflwyniad. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol yr wythnos flaenorol a’i fod bellach yn Ddeddf. Cytunwyd arno a chafodd ei basio gan y Senedd ym mis Tachwedd 2020. Cadarnhawyd y byddai’r darpariaethau a osodir yn y Ddeddf yn cael eu cyflwyno’n raddol. Byddai nifer o adroddiadau’n cael eu cyflwyno i’r aelodau pan fo angen.

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro fwy o wybodaeth i’r aelodau am yr adrannau canlynol -

 

Trefniadau etholiadol – Cadarnhad bod y Ddeddf yn ymestyn yr etholfraint mewn etholiadau lleol i rai 16 ac 17 mlwydd oed a dinasyddion tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn galluogi cynghorau i ddewis rhwng system bleidleisio ‘y cyntaf i’r felin’ neu’r ‘system pleidlais sengl drosglwyddadwy’. Byddai newid y drefn bresennol yn galw am benderfyniad gan y Cyngor Sir llawn. Byddai’r cylch etholiad yn mynd yn gylch pum mlynedd yn ffurfiol. Roedd diddymu ffioedd y Swyddog Canlyniadau wedi ei gynnwys.

 

Pŵer cymhwysedd cyffredinol – ar hyn o bryd gall Awdurdodau Lleol weithredu dan amgylchiadau lle bydd ganddynt hawl ffurfiol i wneud hynny yn ôl deddfwriaeth yn unig. Nod y pŵer cyffredinol yw eu galluogi i weithredu oni bai eu bod wedi eu gwahardd yn benodol rhag gwneud hynny yn ôl deddfwriaeth.

 

Cyfranogiad y cyhoedd mewn llywodraeth leol – pwysleisiwyd y byddai gan Gyngor Sir Ddinbych ddyletswydd i ymgysylltu â thrigolion lleol a’u hannog i gymryd rhan yng ngwaith llywodraeth leol. Roedd fersiwn derfynol y Ddeddf yn cynnwys yr angen i ddarlledu rhai cyfarfodydd. Cadarnhawyd y byddai hyblygrwydd cyfarfodydd o bell yn parhau. 

 

Llywodraethu democrataidd ac arweinyddiaeth – Nodai’r Ddeddf bod yn rhaid i bob Awdurdod Lleol benodi Prif Weithredwr. Byddai’r rôl yn cynnwys nifer o ddyletswyddau a gofynion yn ymwneud â threfniadau ariannol, trefniadau rheoli risg, adnoddau a staffio.

 

Y gofyn i gynnwys trefniadau o fewn y cyfansoddiad i alluogi’r Cyngor i ethol mwy nag un person fel cyd-Arweinydd a rhannu swyddi yn y Cabinet. Roedd cyflwyno dirprwyon penodedig i’r Cabinet hefyd wedi ei gynnwys, a disgwylir canllawiau pellach.

 

Gweithio Cydweithredol – Bydd yn rhaid i’r Cyngor roi sylw i ganllawiau gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhawyd y byddai gan Weinidogion Cymru y pŵer i sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig i ymwneud â gwaith lles economaidd, cludiant, cynllunio strategol a gwella ysgolion, er nad yw’r cynigion presennol yn cynnwys gwella ysgolion.

 

Perfformiad a llywodraethu – Mae’r Ddeddf yn datgan mai ‘Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’ y dylai’r pwyllgor gael ei alw. Cadarnhad y byddai newid i’r aelodaeth rhagnodedig a Chadeiryddiaeth y pwyllgor. Byddai’r newid yn cynnwys aelodau lleyg annibynnol i gynrychioli un traean o’r pwyllgor a byddai’n rhaid i’r Cadeirydd fod yn aelod lleyg annibynnol. Nid oedd dyddiad y newid i’r aelodaeth wedi ei gadarnhau.  

 

Uno ac ailstrwythuro – Cadarnhad y byddai uno gwirfoddol yn dal i fodoli. Gallai Gweinidogion Cymru wneud ‘rheoliadau ailstrwythuro’ o fewn y Ddeddf. Byddai’r pwerau hynny’n cael eu rhoi ar waith yn dilyn adroddiad archwiliad arbennig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn unig, neu gais diddymu gan gyngor.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro eu bod yn disgwyl am lawer mwy o wybodaeth ac y byddai ar gael yn raddol yn ystod y misoedd nesaf, a bydd diweddariad yn cael ei roi i’r pwyllgor pan fydd yr wybodaeth ar gael. Gofynnodd y Swyddog Monitro am farn yr aelodau ar greu gweithgor i adolygu sut y rhoddir y Ddeddf ar waith a’r newidiadau angenrheidiol. Cadarnhad y byddai gwybodaeth a diweddariadau’n cael eu rhannu â’r aelodau pan fydden nhw ar gael.

 

Yn ystod y cyflwyniad wedi hynny, manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i holi cwestiynau a thrafod sawl agwedd o’r adroddiad. Roedd y prif bwyntiau trafod yn canolbwyntio ar y materion canlynol –

·         Cytunai’r aelodau y byddai’n fuddiol i gael gweithgor swyddogion/aelodau i edrych ar ddatblygiad y Ddeddf. Dywedodd yr Aelod Lleyg Paul Witham y byddai’n hapus i gynorthwyo swyddogion gyda’r broses.

·         Y ddyletswydd a fyddai’n cael ei gosod ar yr awdurdod lleol i drefnu’r asesiad panel. Mae’n debyg y byddai canllawiau ar gael mewn da bryd er mwyn esbonio sut i gynnal yr asesiad.

·         Y ddyletswydd statudol i arweinwyr grŵp hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel yn y grŵp. Ni chyfeiriwyd at sancsiynau hyd yma. Gobeithir y bydd mwy o ganllawiau’n cael eu darparu.

·         Cadarnhad y byddai amserlen yn cael ei chwblhau o bryd byddai agweddau o’r Ddeddf yn cael eu gwneud yn gyfraith a byddai’n cael ei rhannu â’r aelodau. Cadarnhawyd y byddai’n rhaid rhoi rhai agweddau o’r Ddeddf gerbron y pwyllgor hwn a’r Cyngor llawn.

·         Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n holi a yw’r gostyngiad yn oedran yr unigolion sy’n cael pleidleisio yn eu galluogi i sefyll mewn etholiad a byddai’n adrodd yn ôl i’r aelodau.

·         Mae’r ddyletswydd i annog cyfranogiad y cyhoedd yn cynnwys annog y cyhoedd i gymryd rhan mewn etholiadau a phrosesau llunio penderfyniadau.

·         Nid yw’r Ddeddf yn newid y gweithdrefnau presennol ar gyfer cyfethol ar Gynghorau Tref, Dinas a Chymuned. Byddai’r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gael i gynghorau cymuned cymwys, gan dybio eu bod yn gymwys i wneud hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro am ei gyflwyniad manwl a’r atebion eglur i gwestiynau a phryderon yr aelodau.

 

Felly,

PENDERFYNWYD bod aelodau wedi ystyried cynnwys yr adroddiad a’u bod yn cefnogi’r cynnig i gael gweithgor swyddogion/aelodau i oruchwylio sut rhoddir y Ddeddf ar waith.

 

 

Dogfennau ategol: