Eitem ar yr agenda
CYFLOG BYW GWIRIONEDDOL
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo a’r Arbenigwr Cyflog a’r Arbenigwr
Tâl a Gwobrwyon (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol, adroddiad y Cyflog Byw Gwirioneddol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).
Gwnaeth y Cyngor
Sir ystyried goblygiadau talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn Rhagfyr 2018 yn wreiddiol
ac yna yn Ionawr 2020 yn dilyn y trafodaethau tâl cenedlaethol. Yna gofynnodd y Cyngor am adroddiad pellach
yn Ionawr 2021 i ystyried y sefyllfa bresennol ac, os oedd gwahaniaeth rhwng y
Dyfarniad Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Gwirioneddol, a ddylid talu’r
Cyflog Byw Gwirioneddol i’w staff yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Ceir dwy lefel o
gyflog byw. Y Cyflog Byw Cenedlaethol a osodir gan y Llywodraeth ac sy’n
ofynnol i bob cyflogwr ei dalu yn ôl y gyfraith, a’r Cyflog Byw Gwirioneddol
sy’n cael ei asesu a’i osod gan Sefydliad y Cyflog Byw Gwirioneddol ym mis
Tachwedd bob blwyddyn.
Roedd y
dyfarniadau cyflog diweddar ym maes llywodraeth leol wedi ceisio sicrhau y
byddai’r graddau cyflog isaf yn cael eu talu’n uwch na chyfradd y cyflog byw
gwirioneddol. Mae cynnydd pellach yn lefel y cyflog byw gwirioneddol wedi
golygu bod Gradd 1 a phwynt isaf Gradd 2 o dan y gyfradd honno. Mae gan y
Cyngor ar hyn o bryd 725 aelod o staff sy’n derbyn cyflog is na lefel bresennol
y cyflog byw gwirioneddol.
Roedd gan gyflogwyr chwe mis ar ôl y cyhoeddiad ym
mis Tachwedd i weithredu'r cynnydd yn lefel y cyflog byw gwirioneddol, a chan
ystyried sefyllfa ariannol ehangach y Cyngor yn sgil Covid, byddai’n gosod
pwysau ychwanegol pe bai’n cael ei roi ar waith eleni. Felly, nodwyd y byddai’n fanteisiol i
ddefnyddio’r cyfnod chwe mis a’i roi ar waith yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan
ystyried y dyfarniad cyflog cenedlaethol.
Yn dilyn trafodaeth fer, cynigiodd y Cynghorydd
Graham Timms argymhellion pellach fel a ganlyn:
(i)
Ôl-ddyddio
swm y Cyflog Byw Gwirioneddol i Ebrill 2020 i’r rhai a fethodd yn y fargen
gyflogau ddiwethaf, ar gost o tua £17,000 y flwyddyn
(ii)
Ym
mlwyddyn ariannol 2021/2022 bod Cyngor Sir Ddinbych yn talu'r Cyflog Byw
Gwirioneddol fel y’i gosodwyd ym mis Tachwedd 2020 i’r holl staff a fyddai’n is
nag ef a byddai hynny’n costio £37,500.
(iii)
Cynnig
bod yr Aelod Arweiniol Cyllid yn dod ag adroddiad i'r Cyngor gyda chostau a map
cynllun o sut gallai'r Cyngor fod yn Gyflogwr Achrededig y Cyflog Byw
Gwirioneddol.
Cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms yr
argymhellion ychwanegol, eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.
Esboniodd y Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol y
gallai’r ail argymhelliad godi problemau rhwng Graddau gan y byddai'n effeithio
ar berthynoledd cyflogau a gallai greu goblygiadau posibl o ran cyflogau
cyfartal. Byddai'n rhaid gwneud gwaith i asesu'r risg i'r Cyngor cyn cytuno ar
hyn.
Cytunodd yr Aelodau fod angen i'r swyddogion
gyfrifo beth fyddai'r goblygiadau ariannol yn 2021/2022 a fyddai'n dibynnu ar
ddyfarniadau cyflog, y gellid dod i gytundeb yn eu cylch yn ystod y cyfnod
hwnnw, neu beidio.
Felly, cytunwyd y dylid cynnal pleidlais ar y ddau
argymhelliad canlynol:
(i)
Holl
weithwyr y cyngor i dderbyn y cyflog byw gwirioneddol ar gyfer blwyddyn
ariannol 2020/2021 a fyddai’n golygu ôl-ddyddio cyflog y rhai sydd ar bwynt 1 y
golofn gyflog sy’n derbyn £9.25 yr awr, i fyny i £9.30 yr awr, a byddai hyn yn
costio £17,500, a
(ii)
Bod
yr Aelod Arweiniol yn dod ag adroddiad yn ôl i'r Cyngor gyda chostau a map
cynllun o sut gallai'r Cyngor ddod yn gyflogwr achrededig y cyflog byw
gwirioneddol.
Gwnaeth y Cynghorwyr Graham Timms a Barry Mellor,
y cynigydd a’r eilydd gwreiddiol, gytuno ar hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar y diwygiad i’r
argymhelliad a chytunwyd arno yn unfrydol.
Felly, ar ôl cytuno ar y diwygiad, cynhaliwyd
pleidlais ar yr argymhelliad gwreiddiol a chytunwyd arno yn unfrydol.
PENDERFYNWYD:
(i)
Holl weithwyr y Cyngor i dderbyn y cyflog
byw gwirioneddol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021 a fyddai’n golygu
ôl-ddyddio cyflog y rhai sydd ar bwynt 1 y golofn gyflog sy’n derbyn £9.25 yr
awr, i fyny i £9.30 yr awr, a byddai hyn yn costio £17,500.
(ii)
Bod yr Aelod Arweiniol yn dod ag adroddiad
yn ôl i'r Cyngor gyda chostau a map cynllun o sut gallai'r Cyngor ddod yn
gyflogwr achrededig y cyflog byw gwirioneddol.
Dogfennau ategol: