Eitem ar yr agenda
CYLLIDEB 2021/2022 – CYNIGION TERFYNOL
- Meeting of Cyngor Sir, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2021 10.00 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd Meirick
Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn aelod o Fwrdd yr Awdurdod Tân.
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol, adroddiad Cyllideb 2021-22 – Cynigion Terfynol (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw).
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb fantoledig y gellir
ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel Treth y Cyngor er
mwyn caniatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr.
Derbyniodd y Cyngor y Setliad Drafft Llywodraeth
Leol ar gyfer 2021/22 ar 21 Rhagfyr ac arweiniodd at setliad cadarnhaol o +3.6%
o’i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 3.8%.
Disgwylir y Setliad Terfynol ar 2 Mawrth ond mae Llywodraeth Cymru wedi
nodi na fydd llawer o newidiadau o gwbl.
Fel rhan o’r setliad roedd yna 'drosglwyddiadau i
mewn' o £1.280m a oedd wedi eu trosglwyddo i’r meysydd gwasanaeth perthnasol
fel yn y blynyddoedd blaenorol:
·
Grant
Cyflog Athrawon 2020/21 - £0.135m
·
Y
Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol £1.145m
Mae’r cynigion terfynol i gydbwyso cyllideb
2021/22 wedi eu dangos yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn Atodiad 1. Y prif
feysydd o ran twf a phwysau yw:
·
Pwysau
tâl o £0.870m
·
Chwyddiant prisiau ac ynni £250,000
·
Ardoll y Gwasanaeth Tân o £162,000
·
Lwfans ar gyfer cynnydd yn y Cynllun Gostyngiadau
Treth y Cyngor o £350,000.
·
Pwysau chwyddiant ysgolion yn cael eu cydnabod yn
swm o £1.205m
·
Buddsoddiad ysgolion mewn Anghenion Dysgu
Ychwanegol £1.192m
·
Buddsoddiad ysgolion yng nghynaliadwyedd ysgolion
bach £161,000
·
Pwysau demograffig ysgolion o £718,000
·
£2.4m i gydnabod pwysau’r galw a’r rhagolygon ym
maes Gwasanaethau Cymorth Cymunedol fel rhan o strategaeth hirdymor y cyngor i
reoli cyllidebau gofal.
·
£0.750m i gydnabod y pwysau presennol ym maes
Addysg a Gwasanaethau Plant sy’n ymwneud â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ac
Adennill.
·
Mae'r pwysau o £250,000 ym maes Gwasanaethau
Gwastraff wedi ei gydnabod yn seiliedig ar amcangyfrifon o bwysau yn ystod y
flwyddyn.
·
Effaith penderfyniadau blaenorol gan y
Cyngor/Cabinet (e.e. Cynllun Llifogydd y Rhyl, Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru):
£0.276m
·
Pwysau o £389,000 am fuddsoddi yn y Targed
Di-garbon sydd ei angen er mwyn cyrraedd y targed ar gyfer 2030 a gytunwyd gan
y Cyngor.
·
Buddsoddiad o £250,000 ym mhroblem y Clefyd Coed
Ynn. Byddai hyn yn gwneud taliad untro parhaol a nodwyd yng nghyllideb y llynedd.
·
Yn sgil graddfa'r pwysau, a’r ffaith nad yw effaith
Covid a Brexit wedi eu datrys, mae £683,000 o arian at raid wedi ei gynnwys.
Cyfanswm y pwysau a nodwyd uchod yw £9.903m. Mae
effaith defnyddio £685,000 o arian yn 20/21 (a gafodd yr effaith o ohirio’r
angen i nodi arbedion yn unig) yn golygu bod cyfanswm y diffyg yn £10.588m.
Byddai angen setliad drafft o tua 8% er mwyn ariannu’r pwysau hyn i gyd. Mae’r
setliad net +3.6% yn cynhyrchu £5.42m o refeniw ychwanegol, gan adael bwlch
cyllido o £5.167m. Mae’r eitemau
canlynol wedi eu cynnwys yn y cynigion er mwyn cau’r bwlch hwnnw:
·
Mae
Cyllidebau Incwm Ffioedd a Thaliadau wedi bod yn destun chwyddiant yn unol â’r
polisi Ffioedd a Thaliadau a gytunwyd, sy’n gweld cynnydd o £0.462m mewn incwm allanol.
·
Mae
arbedion effeithlonrwydd gweithredol sy’n gyfanswm o £690,000 wedi eu nodi yn
bennaf gan wasanaethau drwy gydol y flwyddyn ac o fewn cyfrifoldeb a
ddirprwywyd i Benaethiaid Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelodau Arweiniol.
·
Mae
arbedion o £0.781m hefyd wedi eu nodi sy’n newid darpariaeth gwasanaeth mewn
ryw ffordd a chawsant eu rhannu mewn manylder gyda'r Cabinet a'r Cyngor yn
sesiynau briffio mis Rhagfyr.
·
1%
(£0.733m) Targed effeithlonrwydd ysgolion o Gyllidebau Dirprwyedig Ysgolion.
Gan fod cyllidebau ysgolion wedi eu datganoli, y cyrff llywodraethu fydd yn
penderfynu sut bydd yr arbedion yn cael eu cyflawni.
·
Argymhellir
bod Treth y Cyngor yn cynyddu 3.8% a fydd yn creu refeniw ychwanegol o £2.132m.
Mae hyn yn cymharu â chynnydd y llynedd o 4.3% a 6.35% y flwyddyn cyn hynny.
·
Yn
olaf, mae Sylfaen Treth y Cyngor wedi cynyddu fwy na’r disgwyl eleni sy’n
golygu y rhagwelir Treth y Cyngor ychwanegol o £369,000.
Yn ystod trafodaethau,
codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Mynegodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ei bryder
gan fod diffyg ymgynghori a thryloywder wedi bod gyda’r holl gynghorwyr yn ei
farn ef.
Cyflwynwyd
papur y gyllideb mewn Cyfarfod Briffio am y Gyllideb ar 21 Rhagfyr 2020 a
chafodd ei gyflwyno i’r Cabinet hefyd. Nododd y Cynghorydd ap Gwynfor nad oedd
hyn yn caniatáu digon o amser i drafod y manylion yn llawn. Felly, cadarnhaodd y Cynghorydd ap Gwynfor na
fyddai’n cefnogi Adroddiad y Gyllideb.
·
Mynegodd y Cynghorydd Glenn Swingler ei fod yn
cytuno â'r Cynghorydd Mabon ap Gwynfor.
Mynegodd y
Cynghorydd Swingler ei bryder hefyd am faint y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ac
nid oedd yn cytuno â'r cynnig y dylai ysgolion wneud 1% o arbedion.
·
Mynegodd y Cynghorydd Paul Penlington ei fod yn
cytuno â'r Cynghorydd Mabon ap Gwynfor. Yna gofynnodd y
Cynghorydd Penlington beth fyddai effaith Brexit. Cadarnhaodd yr Aelod
Arweiniol Cyllid nad oes modd gwybod beth fydd effaith Brexit ar hyn o bryd, os
byddai unrhyw effaith o gwbl.
·
Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ei fod wedi
mynychu'r Fforwm Cyllideb Ysgolion a rhoddodd wybodaeth lawn am yr arbedion
sydd eu hangen.
Yn dilyn trafodaeth,
cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y Gyllideb ac eiliwyd
gan y Cynghorydd Richard Mainon.
Ar y pwynt hwn,
gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington am bleidlais wedi’i chofnodi. Roedd angen mwy nag un o bob chwech o’r rhai
a oedd yn bresennol i alluogi pleidlais wedi'i chofnodi a nododd wyth aelod y
byddai'n well ganddynt gael pleidlais wedi'i chofnodi.
Felly, cynhaliwyd
pleidlais wedi'i chofnodi.
Roedd y rhai a
bleidleisiodd o blaid Adroddiad y Gyllideb fel a ganlyn:
Cynghorwyr – Jeanette Chamberlain-Jones, Ellie Chard, Ann Davies,
Gareth Lloyd Davies, Hugh Evans, Peter Evans, Bobby Feeley, Tony Flynn, Rachel
Flynn, Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Hugh Irving, Alan James, Brian Jones, Tina
Jones, Geraint Lloyd Williams, Richard Mainon, Christine Marston, Barry Mellor, Melvyn Mile, Merfyn Parry, Anton Sampson, Peter Scott,
Tony Thomas, Andrew Thomas, Julian Thompson-Hill, Joe Welch, Cheryl Williams,
Huw Williams a Mark
Young.
Roedd y rhai a bleidleisiodd yn erbyn Adroddiad y
Gyllideb fel a ganlyn:
Cynghorwyr – Mabon ap Gwynfor, Paul Penlington,
Arwel Roberts, Glenn Swingler, Rhys Thomas ac Emrys Wynne
Roedd y rhai a wnaeth ymatal rhag pleidleisio fel
a ganlyn:
Cynghorwyr - Meirick Lloyd Davies ac Eryl Williams
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:
·
nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth
Leol 2021/22.
·
cymeradwyo’r cynigion a amlinellwyd yn
Atodiad 1, a manylwyd yn Adran 4, er mwyn cwblhau’r gyllideb ar gyfer 2021/22.
·
cymeradwyo’r cynnydd cyfartalog o 3.8% a
gynigiwyd yn Nhreth y Cyngor.
·
dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyllid ac
Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian
sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500,000 os oes yna
newid rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod
Treth y Cyngor yn brydlon.
·
cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les.
Dogfennau ategol:
- Committee Report January Council 2021 Budget WELSH, Eitem 5. PDF 237 KB
- Appendix 1 MTFP Budget Proposals, Eitem 5. PDF 196 KB
- Appendix 2 Council Tax Sensitivity, Eitem 5. PDF 345 KB
- App 3 Council Tax WI Assessment, Eitem 5. PDF 102 KB