Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

Ar y pwynt hwn, ar ran y Cyngor Llawn, gwnaeth y Cadeirydd longyfarch Ann Jones, Aelod o’r Senedd a Chyn-gynghorydd gyda Sir Ddinbych, ar ennill OBE.

 

 

Cwestiwn a ofynnwyd gan Ceri Mair Davies ar ran Cyfeillion y Ddaear Rhuthun:

 

 “A all Cyngor Sir Ddinbych ddarparu rhestr lawn o’r holl eiddo, tir, ystafelloedd ac asedau mae Cynghorau Sir a  Thref Sir Ddinbych yn berchen arnyn nhw ac sydd ar hyn o bryd yn cael eu tanddefnyddio neu heb eu meddiannu?

 

A all Cyngor Sir Ddinbych amlinellu beth yn union yw’r broses a ddefnyddir wrth Drosglwyddo Asedau Cymunedol a beth yw’r cylch gwaith ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i wneud cais? (byddem yn hapus i dderbyn copi o’r ddogfen hon ar ôl y cyfarfod os hoffech chi ein rhoi mewn cysylltiad â’r adran a’r bobl sy’n gyfrifol am hyn)”

 

Dyma ymateb y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:

 

Gellir darparu rhestr o eiddo gwag yn ein portffolio eiddo a rhestr gyfredol o eiddo gwag yn y portffolio masnachol. <0}

Dywed ein Strategaeth Asedau na ddylid cadw unrhyw adeilad nac eiddo nad oes eu hangen at ein dibenion gweithredol neu fasnachol.

Adeiladau Cynghorau Tref a Chymuned – ni allwn ddarparu’r rhain gan nad yw’r data gennym.  Mae data ar gael am asedau Cyngor Sir Ddinbych yn unig.

 

Tanddefnyddio o ran portffolio swyddfeydd – rydym yn ymwybodol o'r lleoliadau gwag sydd gennym ac rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid.  Mae’r GIG a’r Crwner yn gweithio yn Neuadd y Sir ac rydym yn y broses o symud grwpiau eraill i Neuadd y Sir hefyd.  Mae’r holl adeiladau’n cael eu tanddefnyddio ar hyn o bryd oherwydd Covid a newidiadau i batrymau gwaith dros y 12 mis diwethaf.  Bydd hyn cael ei ailasesu pan fyddwn yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd.

 

O ran y portffolio Masnachol, sy’n cynnwys pethau fel ffermydd ac unedau diwydiannol, mae’r rhain yn cael eu rhedeg fel eiddo masnachol sy’n creu incwm.  Mae’r gyfradd feddiannu yn uchel.

 

Ail gwestiwn yn ymwneud â pholisïau – nid oes polisi ffurfiol wedi’i fabwysiadu ar gyfer hyn.  Ymdrinnir â nhw fesul achos, gan gydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned a grwpiau lleol.  Fel arfer, bydd sefydliadau’n cysylltu â’r Cyngor i brynu eiddo.  Bydd yn seiliedig ar gynllun busnes i esbonio sut defnyddir yr adeiladau, gwaith cynnal a chadw a chostau rhedeg ac fe’u gwneir fel arfer ar drosglwyddiad hirdymor.

 

Rydym yn mynd drwy broses gyflawn i sicrhau bod pobl wedi gwneud cais gyda chaniatâd gwaredu’r Ddeddf Llywodraeth Leol, yn ogystal â phroses fewnol i lunio penderfyniadau.

 

 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, ddatganiad am y llifogydd diweddar fel a ganlyn:

 

 “Roedd y llifogydd a welwyd yn dilyn storm Christophe yr wythnos diwethaf wedi achosi llawer o ddinistr i'r rhai yr effeithiwyd arnynt a hoffem fynegi ein cydymdeimlad â'r rhai hynny sy'n cychwyn ar y daith hir i ailadeiladu eu bywydau.

 

Rwyf wedi ymweld â nifer o’r ardaloedd a gafodd lifogydd a'r wythnos nesaf byddaf yn ymweld ag ardaloedd gwledig a gafodd lifogydd.

 

Hoffwn dalu teyrnged i staff y priffyrdd a weithiodd oriau maith i baratoi ar gyfer y llifogydd ac, mewn rhai achosion, y cynghorwyr a phawb arall a fu’n ymwneud â’r gwaith.

 

Mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud fel awdurdod lleol a’r ffordd orau i ddiogelu cymunedau wrth symud ymlaen.

 

Yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu yn ddiweddar, soniwyd am gael Grŵp Tasg a Gorffen i edrych ar ardaloedd llifogydd.   Rydym eisoes wedi cael cytundeb y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn rhan o’r Grŵp a hoffem hefyd gynnwys perchnogion y tir a’r ffermydd dan sylw, yn ogystal â chynghorwyr sir lleol perthnasol. Bydd y Grŵp hwn yn offeryn ac yn fecanwaith da.

 

Diolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith gan holl aelodau'r Cyngor Llawn."

 

 

 

Cwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Emrys Wynne:

 

 “Dros y penwythnos roedd adroddiadau yn y wasg yn dweud bod staff Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn brechlynnau Covid 19 er nad oeddent yn gymwys i wneud hynny.  Pam na chafodd cynghorwyr wybod am hyn?  Pryd ddaethoch chi’n ymwybodol o hyn?

 

Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans – O’m safbwynt i, ar yr achlysur hwn, ni chafodd yr wybodaeth hon ei rhannu gydag unrhyw un o aelodau’r cyngor a dim ond swyddogion a wyddai am y sefyllfa cyn i’r hanes dorri yn y wasg.  Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, fe wnaethon ni gynnal cyfarfod arbennig o’r Cabinet nos Sul er mwyn ceisio deall beth oedd yn digwydd, a chafwyd cyfarfod arall gyda’r swyddogion fore Llun.  Nid oedd yn eglur beth oedd wedi digwydd ac rydym wedi galw am ymchwiliad mewnol. Roedd tri prif reswm dros wneud hyn.

 

Yn gyntaf, er bod pethau'n cael eu hamlygu yn y wasg, mae angen i swyddogion ac aelodau fod yn gyfarwydd â’r holl ffeithiau cyn i ni gymryd unrhyw gamau gweithredu, ac felly nid ymateb i’r wasg yw’r ffordd orau i ddod i gasgliad.

 

Ail bwynt – Mae gennym staff gwych yn yr Awdurdod Lleol ac maent wedi gwneud gwaith anghredadwy drwy gydol Covid.  Nid ydym am i enw da’r holl staff gael ei bardduo oherwydd gweithredoedd posibl lleiafrif bychan.

 

Trydydd pwynt – mae’n bwysig ein bod ni fel Awdurdod Lleol yn rhoi sicrwydd fod ein perthynas gyda'r Bwrdd Iechyd yn agored a thryloyw ac mae’n bwysig iddyn nhw fod popeth mae’r awdurdod lleol yn ei wneud yn agored a thryloyw ac ni fyddwn yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau neidio i flaen y ciw a byddwn yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Prif Weithredwr, Judith Greenhalgh – mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi rhestr i Betsi Cadwaladr o’n staff sy’n gymwys i gael brechlyn yn unol â'r canllawiau.  Anfonwyd e-bost gan y Bwrdd Iechyd (BIPBC) at y staff hynny yn eu gwahodd i wneud apwyntiad i gael brechlyn. Daeth i'r amlwg yn ddiweddar y gallai staff cymwys fod wedi anfon yr e-bost hwnnw ymlaen, a bod nam yn system BIPBC a fyddai o bosibl wedi caniatáu i staff anghymwys wneud apwyntiad am frechlyn. Pan ddaeth hyn i’n sylw, dywedwyd wrth yr holl staff i beidio ag anfon yr e-bost ymlaen ac mae ein tîm TG yn ymchwilio ar hyn o bryd i weld pa gamau gweithredu a gymerwyd gyda’r aelodau staff hynny, os o gwbl. Rydym wedi cwblhau cam cyntaf yr ymchwiliad hwnnw. Nid oes tystiolaeth o gwbl fod yr e-bost wedi cael ei rannu’n eang.  Pan ddaw’r ymchwiliad i ben, os bydd tystiolaeth fod unrhyw aelodau staff wedi ymddwyn yn amhriodol, bydd camau disgyblu’n cael eu rhoi ar waith.  Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth fod staff wedi defnyddio’r man gwan hwn.  Fel y dywedodd yr Arweinydd, mae ein staff wedi gweithio’n hynod o galed yn ystod y pandemig ac rwy'n gwbl hyderus yn eu gonestrwydd ac yn uniondeb eu cymeriad. Os oes unrhyw un wedi gwneud hyn, dim ond nifer fach iawn o staff fydd hynny a byddwn yn diweddaru’r aelodau ar ôl i’r ymchwiliad ddod i ben.  Roedd y datganiad yn y wasg yn anghywir ac, ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod am unrhyw aelod o staff a gafodd y brechlyn pan nad oeddent yn gymwys i wneud hynny.

 

 Gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne gwestiwn atodol sef pryd ddaeth hi’n amlwg i’r swyddogion fod y sefyllfa hon o bosibl yn bodoli a phryd ddaeth hi'n amlwg fod hyn yn debygol o ymddangos yn y wasg?

 

Atebodd y Prif Weithredwr y daeth hi’n amlwg i ni ar 14 Ionawr 2021 fod man gwan posibl yn system apwyntiadau BIPBC, yna gwnaethom anfon e-bost at yr holl staff yn dweud nad oedd hyn yn cael ei ganiatáu a chlywodd y wasg am hynny.