Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CREDYD CYNHWYSOL

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Prosiect Contractau a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y prosesau mudo Credyd Cynhwysol, effeithiolrwydd y mesurau lliniaru a sut mae COVID-19 wedi effeithio ar nifer y bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn Sir Ddinbych.

 

11.40am – 12.20pm

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod gan gynnwys Graham Kendall, o Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar gyfer y drafodaeth ar Gredyd Cynhwysol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Effeithlonrwydd, yr adroddiad Credyd Cynhwysol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Pwyllgor wedi gofyn yn wreiddiol am yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er mwyn adrodd ar symud y swp terfynol o dderbynwyr i Gredyd Cynhwysol.  Roedd pandemig Covid-19 wedi effeithio ar y broses hon ac o ganlyniad roedd manylion wedi'u cynnwys yn y papurau ar gyfer sylwadau'r aelodau. Cyfeiriwyd at y ffigurau data yn adlewyrchu'r pandemig presennol. Roedd nifer yr hawlwyr wedi cynyddu oherwydd ffactorau allan o reolaeth unigolion.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo gyflwyniad byr ar sut yr oedd Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi preswylwyr mewn perthynas â CC a chymorth cysylltiedig. Dywedwyd bod Credyd Cynhwysol wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn oherwydd y pandemig yn bennaf. Roedd y cynnydd yn y niferoedd yn cynnig sicrwydd bod trigolion Sir Ddinbych wedi cael cymorth ariannol. Oherwydd y cynnydd yn nifer y ceisiadau am Gredyd Cynhwysol gwelwyd effaith ar gyllid Cyngor Sir Ddinbych (CSDd). Gweinyddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau y Credyd Cynhwysol, gweinyddwyd budd-daliadau eraill fel Budd-dal Tai gan CSDd. Esboniwyd i'r aelodau fod y grant gweinyddu Budd-dal Tai wedi lleihau yn unol â'r symudiad i Gredyd Cynhwysol. Nodwyd er bod y cyllid wedi lleihau roedd y llwyth gwaith wedi aros yr un fath.  Tynnwyd sylw at y ffaith bod Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor wedi'i gynnig i breswylwyr cymwys, a bod y nifer a oedd wedi manteisio arno wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf. Roedd hyn wedi deillio o bandemig Covid-19; pwysleisiwyd y byddai'r adferiad yn araf. Hysbyswyd yr Aelodau bod grant arian parod i gynorthwyo'r effaith ariannol oherwydd cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor wedi'i sicrhau ar gyfer 2020/21, ond nid oedd yn glir eto a fyddai unrhyw gymorth ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Roedd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo am ddiolch i swyddogion a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych am yr holl waith caled a oedd wedi'i wneud i'r newid llyfn i Gredyd Cynhwysol, yn enwedig yn ystod y misoedd anodd.

 

Aeth y Rheolwr Cymorth Busnes i'r afael â nifer o bryderon yr oedd yr aelodau wedi'u codi cyn y cyfarfod. Esboniwyd i'r aelodau yr anhawster o ran darparu ffigurau cywir ynghylch nifer yr unigolion a oedd yn dal i gael budd-daliadau etifeddol. Roedd yn rhaid chwilio am y data ar gyfer y cwsmeriaid hynny o ystod eang o wahanol fudd-daliadau nad oedd gan CSDd fynediad at y wybodaeth.

Cadarnhawyd bod nifer yr hawlwyr Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor wedi cynyddu 2.8%, a bod cynnydd o 10.95% wedi bod yn nifer yr ymgeiswyr am brydau ysgol am ddim rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2020. Darparodd y Swyddog Cymorth Busnes gyd-destun i'r aelodau ar gyfer y data yn atodiad 1 ac atodiad 2. Pwysleisiwyd bod swyddogion yn monitro'r ystadegau'n rheolaidd bob mis er mwyn sicrhau bod ymchwiliad ac ymyrraeth bellach yn digwydd cyn gynted ag y bo angen.  Atgoffwyd yr Aelodau bod nifer o fudd-daliadau a mesurau ariannol brys ar waith ar hyn o bryd y gallai preswylwyr fod yn gymwys i’w hawlio, a bod gan bob un ohonynt ofynion meini prawf gwahanol.

 

Roedd Graham Kendall - Roedd Rheolwr Datblygu Busnes Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn adleisio meddyliau a sylwadau'r Aelod Arweiniol a swyddogion, gan ganmol bod y dull o ymdrin â Chredyd Cynhwysol y dull cywir. Roedd wedi rhoi'r wybodaeth a'r partneriaethau i unigolion allu cysylltu â nhw am gymorth. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 1235 o hawliadau newydd wedi'u derbyn yn ystod y cyfnod clo ar gyfer Credyd Cynhwysol. Roedd y berthynas waith agos barhaus â CSDd wedi bod yn amhrisiadwy i swyddogion Cyngor Ar Bopeth Sir Ddinbych a hawlwyr. Diolchodd cynrychiolydd Cyngor Ar Bopeth Sir Ddinbych i'r aelodau am y gwahoddiad i'r cyfarfod a chynigiodd ei ddiolch i swyddogion am y gwaith partneriaeth parhaus.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Mae’r ffigyrau cyfan ynglŷn ag unigolion sy’n dal ar yr hen fudd-daliadau’n anodd eu cael. Eglurwyd bod nifer o wahanol adrannau’n darparu’r data. Roedd y ffigyrau’n gymhleth iawn.

·         Cadarnhawyd bod cynnydd o tua 600 o hawliadau wedi bod gan unigolion oedd yn methu â gweithio yn ystod y pandemig Covid-19. Dywedodd y Swyddogion y gallai’r cynnydd yn nifer yr hawliadau fod am gymorth lefel isel ac nid y lwfans Credyd Cynhwysol llawn. Nodwyd bod nifer o unigolion weithiau yn cyflwyno hawliadau Credyd Cynhwysol ac weithiau ddim gan fod gwaith wedi bod yn dameidiog yn ystod y cyfnodau clo.

·         Roedd cynnydd mewn achosion wedi’i nodi gan Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych. Roedd holl weithlu Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych wedi newid i weithio ar-lein ac o bell oherwydd y pandemig. Roeddent wedi mabwysiadu nifer o ddulliau o ymgysylltu ag unigolion. Roedd allgymorth cymunedol gan nifer o sefydliadau wedi cefnogi unigolion i allu derbyn cymorth os oeddent ei angen.

·         Roedd gwarchodaeth i brydau ysgol a ddim wrth bontio wedi cael ei chyflwyno cyn y pandemig gan LlC. Roedd mewn grym i warchod y nifer bach iawn o blant a fyddai’n dal yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan yr hen fudd-daliadau ond nid o dan Gredyd Cynhwysol. Ers mis Ebrill 2019, byddai unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu wedi bod yn derbyn prydau ysgol am ddim yn y gorffennol yn parhau i dderbyn y prydau ysgol am ddim pe bai sefyllfa ariannol y teulu’n newid. Dan ddeddfwriaeth Cymru, byddai’r warchodaeth bontio yn parhau i fod mewn grym tan fis Rhagfyr 2024. 

 

Diolchodd yr Is-gadeirydd i’r holl swyddogion am yr ymateb manwl i bryderon yr Aelodau. Diolchwyd yn arbennig am yr holl waith roedd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych wedi’i wneud hyd yma. Felly

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n derbyn y cynnwys a’r wybodaeth o fewn yr adroddiad ar Gredyd Cynhwysol. 

 

 

Dogfennau ategol: