Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SYSTEM DARIFFAU MAES PARCIO A CHYNLLUNIAU PARCIO TRIGOLION

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd (copi ynghlwm) sy'n gofyn i'r Pwyllgor archwilio a yw system dariffau meysydd parcio presennol y Cyngor a'r Polisi Cynllun Parcio Trigolion yn ddigon hyblyg i gwrdd ag anghenion pob rhan o'r sir.

 

10.45am – 11.30am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am system tariff presennol y meysydd parcio a'r polisi ar gyfer cynlluniau preswyl. Atgoffwyd yr Aelodau bod adroddiad tebyg wedi'i gyflwyno'n flaenorol yn 2015. Darparwyd rhagor o fanylion gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd. Esboniwyd bod Sir Ddinbych wedi mabwysiadu system codi tâl unffurf ar draws y Sir.

 

Roedd datblygu cynllun peilot arfaethedig yn Llangollen yn rhan o drefniadau rheoli traffig a pharcio ehangach ar gyfer y dref, a oedd yn cynnwys trafodaethau ynghylch gwahanol daliadau parcio rhwng meysydd parcio. Codwyd cwestiwn ynghylch a ellid mabwysiadu tâl uwch am barcio mewn meysydd parcio canolog a chodi tâl is am feysydd parcio ar yr ymylon. Cadarnhawyd nad oedd y polisi presennol yn caniatáu'r dull hwn o godi tâl. Cadarnhaodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd fod yn rhaid i'r incwm cyffredinol ar gyfer tref benodol fod mor niwtral o ran cost â phosibl. Nod y cynllun peilot arfaethedig oedd caniatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer taliadau amrywiol mewn tref i gynorthwyo llif traffig ac argaeledd mannau. Pwysleisiodd swyddogion fod y cynnig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar gyfer sylwadau a chytundeb i fwrw ymlaen â'r cynllun peilot. Cafwyd cadarnhad y byddai adroddiad diweddaru ac unrhyw ganfyddiadau'n cael eu cyflwyno i'r pwyllgor ar ôl monitro am gyfnod o 12 mis.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Graham Timms hanes byr i'r aelodau o'r problemau a gafwyd yn Llangollen yn ymwneud â pharcio ceir. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai meysydd parcio Llangollen a greodd yr ail incwm mwyaf o feysydd parcio yn y Sir. Teimlwyd trwy amrywio’r gost o barcio yn y dref, byddai’r ddarpariaeth ar gael a fyddai'n diwallu ar gyfer anghenion pawb, e.e. trigolion, cymudwyr a busnesau lleol. Tynnodd y Cynghorydd Melvyn Mile sylw'r aelodau at y gwaith a oedd wedi dechrau yn Llangollen i amlygu materion a oedd yn bwysig i bob unigolyn ac ymwelydd.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i godi cwestiynau a thrafodwyd gwahanol agweddau o’r cynllun peilot gyda'r swyddogion a’r Aelod Arweiniol. Roedd prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol -

·         Roedd y system trwyddedau parcio presennol ar gyfer parcio ym meysydd parcio'r Cyngor yn dal i fodoli i unigolion eu prynu. Byddai swyddogion yn penderfynu pa faes parcio oedd fwyaf addas i ddeiliaid trwyddedau ei ddefnyddio.

·         Rhoddwyd sicrwydd bod yr incwm a gynhyrchwyd o feysydd parcio wedi'i ail-fuddsoddi mewn meysydd parcio neu swyddogaethau sy'n gysylltiedig â diogelwch ar y ffyrdd yn Sir Ddinbych. Cadarnhawyd bod cyfathrebu wedi digwydd â Phriffyrdd i werthuso cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer pob maes parcio yn Sir Ddinbych.

·         Dywedodd swyddogion nad oeddent wedi cael gwybod am unrhyw faterion diogelwch mewn meysydd parcio yn Llangollen. Roedd diogelwch yn ystyriaeth bwysig i feysydd parcio. Byddai'r gwaith o fonitro diogelwch meysydd parcio yn parhau.

·         Cafwyd cadarnhad mai yn 2016 y codwyd taliadau parcio ceir yn y Sir ddiwethaf.  Er nad oedd unrhyw gynlluniau penodol ar hyn o bryd i gynyddu taliadau parcio, diwygiwyd ffioedd a thaliadau yn flynyddol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a'r atebion a roddwyd i bryderon yr aelodau.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD gan y Pwyllgor, yn amodol ar y sylwadau uchod

    i).        argymell y dylid amrywio'r cynllun peilot yn Llangollen lle byddai tariffau meysydd parcio yn cael eu hamrywio yn y gwahanol feysydd parcio yn y dref ar y sail, lle y bo'n bosibl, na fyddai unrhyw golled net yn incwm meysydd parcio o'r holl feysydd parcio yng nghanol tref Llangollen;

   ii).        bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor, tua 15 mis ar ôl i'r Cynllun gael ei weithredu, ar ei effeithiolrwydd ac unrhyw wersi a ddysgwyd o'r cynllun peilot ar gyfer cynlluniau tebyg yn y dyfodol; a   

  iii).        chadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les, ei ddeall a’i ystyried fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: