Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN ADFYWIO’R RHYL A'I DREFN LLYWODRAETHU

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Datblygu Busnes ac Economaidd (copi ynghlwm) sy’n amlinellu’r gwaith a wnaed drwy Raglen Adfywio’r Rhyl, y trefniadau llywodraethu sy’n cefnogi'r gwaith hwnnw, ac yn ceisio sylwadau gan aelodau ar yr wybodaeth a ddarparwyd. 

 

10.05am – 10.45am

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Hugh Evans wybodaeth gefndirol i'r aelodau y tu ôl i'r rhaglen adfywio yn y Rhyl. Cadarnhawyd bod gan y Rhyl ddwy o'r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

 

Oherwydd anawsterau technegol collwyd cysylltiad fideo a sain â'r Arweinydd. Aeth Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Parth Cyhoeddus ymlaen i arwain aelodau drwy'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Pwysleisiwyd i'r aelodau fod angen adfywio'r Rhyl fel ardal. Pwysleisiwyd bod swyddogion wedi nodi bod pob tref a ward wedi wynebu cyfnod anodd a bod angen cymorth arnynt.

 

Yn yr adroddiad roedd diweddariad o'r trefniadau ynghylch blaenoriaeth gweledigaeth canol y dref ac roedd y trefniadau llywodraethu wedi'u cynnwys. Roedd Bwrdd Rhaglen Adfywio'r Rhyl wedi'i sefydlu. Cadarnhawyd bod Grŵp Ardal Aelodau (MAG) y Rhyl wedi'u cynghori am yr holl ddatblygiadau a bod yna Grŵp Cyfeirio'r Rhyl a oedd yn cael ei fynychu gan Gynghorwyr y Rhyl, aelodau Cyngor Tref y Rhyl a'r AC a'r AS lleol. Pwysleisiwyd bod llawer o waith wedi'i gwblhau yn y Rhyl. Gan gynnwys gwaith ar y promenâd, yr harbwr a'r gwaith parhaus yng Nghei'r Marina.  Cadarnhawyd mai un o'r meysydd blaenoriaeth oedd canolbwyntio ar ganol y dref, tra byddai un arall yn canolbwyntio ar adfywio ar gyfer pobl a thrigolion y Rhyl. Cafwyd cadarnhad bod Bwrdd Datblygu Cymuned y Rhyl wedi'i sefydlu gyda phartneriaid fel iechyd a'r heddlu.

 

Rhoddwyd mwy o fanylion i'r Aelodau gan y Swyddog Datblygu Economaidd a Busnes. Roedd y ddogfen weledigaeth a gynhwyswyd fel atodiad i'r adroddiad wedi deillio o 18 mis o waith ac fe'i cymeradwywyd gan y Cabinet ar ddiwedd 2019. Y gobaith oedd y byddai'n rhoi arweiniad ar y weledigaeth ar gyfer canol y dref a'i adfywio.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i godi cwestiynau a thrafodwyd gwahanol agweddau ar yr adroddiad gyda'r swyddogion a oedd yn bresennol. Roedd prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol -

·         Nodyn Cynghori Technegol (TAN) 15 oedd cyngor Llywodraeth Cymru (LlC) mewn perthynas â datblygiadau o ran llifogydd. Tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer o ardaloedd yn y Rhyl wedi'u nodi fel ardaloedd o lifogydd posibl. Roedd angen i ddatblygiadau yn yr ardaloedd llifogydd roi sylw arbennig i sut y byddent yn mynd i'r afael â'r problemau llifogydd ar y safle datblygu. Cadarnhawyd y byddai rhannau o'r Rhyl yn dal i aros ar y mapiau perygl llifogydd. Roedd nifer o gynlluniau yn y Rhyl i fynd i'r afael â phryderon llifogydd wedi dechrau. Roedd y canllawiau TAN 15 yn nodi y dylid hyrwyddo datblygu adfywio gyda phob agwedd ar y datblygiad yn cael ei asesu.

·         Dangosodd Atodiad 2 i'r adroddiad fod y gwaith adfywio yn y Rhyl wedi'i rannu'n bum sector gwahanol. Un o'r sectorau a nodwyd oedd mynediad a symudiad. Roedd hyn edrych ar ac yn mynd i'r afael â chludiant a pharcio yn y Rhyl0} Clywodd yr Aelodau fod nifer o brosiectau wedi'u cynnwys i asesu pryderon. Pwysleisiwyd bod gwaith wedi dechrau i edrych ar ddatblygiadau ar gyfer cludiant yn y Rhyl gan gynnwys gwaith gyda'r llwybrau teithio llesol, llwybrau beicio a phwyntiau gwefru ceir trydan. Byddai'r gwaith yn agwedd hirdymor o’r prosiect adfywio.

·         Pwysleisiwyd nad oedd aelodau wedi'u heithrio o'r byrddau sy'n gweithio ar y prosiect adfywio. Croesawodd swyddogion adborth a mewnbwn gan aelodau a chynghorwyr y Rhyl. Clywodd yr Aelodau fod Bwrdd Rhaglen Adfywio'r Rhyl yn fforwm technegol a oedd yn sicrhau bod prosiectau y cytunwyd arnynt yn gydgysylltiedig ac yn gweithio gyda'i gilydd. Teimlwyd mai bwrdd dan arweiniad swyddogion fyddai’n gweddu orau gydag unrhyw wybodaeth wedyn yn cael ei chyfleu gyda'r byrddau a'r grwpiau eraill. Roedd aelodau Grŵp Ardal Aelodau'r Rhyl wedi pwysleisio awydd i gael eu cynnwys ar y byrddau sy'n gweithio ar y prosiect Adfywio. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Parth Cyhoeddus y byddai'n rhoi adborth ar bryderon aelodau Grŵp Ardal Aelodau’r Rhyl ynghylch aelodaeth y bwrdd. Awgrymwyd y dylid mynd ag adroddiad i Grŵp Ardal Aelodau’r Rhyl i drafod ymhellach. 

·         Cadarnhaodd swyddogion fod ymchwil wedi'i wneud ar brosiectau adfywio eraill a gwblhawyd gan awdurdodau lleol eraill. Roedd swyddogion Bwrdd Rhaglen Adfywio'r Rhyl wedi gweithio gydag ymgynghorwyr a fu'n ymwneud â datblygiadau adfywio eraill yn y DU.

·         Cadarnhawyd y cydymffurfir â pholisi Iaith Gymraeg y Cyngor fel rhan o'r strategaeth farchnata.

·         Cafwyd cadarnhad bod gan Sir Ddinbych ymrwymiad i gynorthwyo a chefnogi'r digartref. Roedd nifer o brosiectau a gwaith i fynd i'r afael â'r anghenion llety dros dro a llety argyfwng wedi dechrau. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'n bosibl cynnwys terfyn amser ar y caniatâd cynllunio ar gyfer yr uned ddigartrefedd newydd arfaethedig yn Nwyrain y Rhyl er mwyn osgoi i'r eiddo rhag dod yn dŷ arall amlfeddiannaeth mewn amser. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Parth Cyhoeddus y byddai'n trafod gyda Chadeirydd Grŵp Ardal Aelodau’r Rhyl i gynnwys adroddiad ar ddigartrefedd a sut y gallai'r awdurdod lleol weithio gyda'r Cyngor Tref i geisio eu cynnwys mewn cynlluniau i fynd i'r afael â'r broblem, ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer aelodau’r Grŵp Ardal Aelodau ei drafod.

·         Trafododd yr Aelodau'r angen am barciau cartrefi modur yn y Rhyl a Sir Ddinbych yn gyffredinol. Teimlwyd y byddai angen posibl am safleoedd parcio ar gyfer unigolion sy'n ymweld â'r ardal, yn enwedig ar ôl COVID-19. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad y byddai'n fuddiol cael trafodaethau gyda swyddogion o adrannau eraill i ymchwilio i ddatblygiadau posibl. Awgrymodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad i'r aelodau ei fod yn archwilio'r darpariaethau sydd yna ar hyn o bryd i’w gynnwys mewn adroddiad i’r swyddogaeth graffu yn y dyfodol. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad a’r ymateb manwl i gwestiynau a phryderon yr aelodau. Nodwyd cais yr aelodau i ganmol y gwaith a gwblhawyd hyd yma ar brosiect adfywio'r Rhyl. Yn dilyn y drafodaeth,

 

PENDERFYNWYD gan y Pwyllgor:  yn amodol ar y sylwadau uchod -

    i).        derbyn yr adroddiad ar Raglen Adfywio’r Rhyl a Llywodraethu a nodi ei gynnwys;

  ii).        bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Yr Economi a'r Parth Cyhoeddus yn cysylltu â Chadeirydd Grŵp Ardal Aelodau'r Rhyl i gynnwys adroddiad ar y ddarpariaeth llety i'r digartref yn y Rhyl a sut y gallai'r Cyngor weithio gyda'r Cyngor Tref i fynd i'r afael â'r angen, ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Grŵp Ardal Aelodau;

 iii).        bod Pennaeth Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yn trafod gyda swyddogion eraill y ddarpariaeth bosibl yn y dyfodol ar gyfer cyfleusterau parcio cartrefi modur yn y Rhyl a Sir Ddinbych yn gyffredinol, a

 iv).        cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn y dyfodol o leiaf bob blwyddyn am ddatblygu a chyflawni'r Rhaglen Adfywio.

 

 

Dogfennau ategol: