Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2021/22 – CYNIGION TERFYNOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2021/22 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2021/22.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2021/22;

 

 (b)      cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2021/22;

 

 (c)       argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 3.8% yn Nhreth y Cyngor; 

 

 (d)      argymell i’r Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol, a

 

 (e)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad hwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau Setliad drafft Llywodraeth Leol 2021/22 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol 2021/22, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Darparodd y Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2020/21. Roedd y setliad drafft wedi arwain at setliad cadarnhaol o +3.6% (o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 3.8%) a disgwylir y setliad terfynol ar 2 Mawrth 2021. Roedd pwysau o £9.903 miliwn wedi’u manylu ac roedd effaith defnyddio £685,000 o arian yn 2021/22 yn golygu cyfanswm o ddiffyg gwerth £10.588 miliwn.  Roedd y setliad o +3.6% yn cynhyrchu £5.42miliwn gan adael bwlch cyllid o £5.167m gyda chynigion i gau’r bwlch wedi’u nodi yn yr adroddiad a’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod.  Roedd cynnydd o 3.8% yn Nhreth y Cyngor wedi’i gynnig i gynhyrchu £2.132m o refeniw ychwanegol.  Gan fod y setliad terfynol yn hwyr, argymhellwyd bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo er mwyn galluogi addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500,000.

 

Fe ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo bod y gyllideb yn parhau fel arfer gyda thybiaeth y byddai rhywfaint o gefnogaeth yn dod gan Lywodraeth Cymru petai pwysau oedd yn gysylltiedig â Covid yn parhau.    Cadarnhaodd hefyd y byddai yna ymgysylltu cynnar gydag aelodau am broses y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at y diffyg mewn cyllid a’r blynyddoedd o doriadau i gyllidebau awdurdod lleol a gofynnodd am gynaliadwyedd cyflwyno gwasanaethau yn y dyfodol a gofynnodd am ddiweddariad am geisiadau blaenorol ar gyfer cyllideb tair blynedd i gynorthwyo gyda chynllunio ariannol yn y dyfodol 

Ymatebodd yr Arweinydd eu bod wedi gwerthfawrogi’r setliadau cadarnhaol dros y ddwy flynedd diwethaf, yn enwedig o ystyried y sefyllfa ariannol y mae Llywodraeth Cymru a’r DU yn ei hwynebu.  Roedd yna ddeialog rheolaidd a chadarnhaol gyda Gweinidog Cymru trwy gydol y pandemig ac roeddynt yn deall yr heriau a’r pwysau oedd llywodraeth leol yn ei wynebu ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol yn y modd maent wedi ymateb i sefyllfa Covid-19.  Serch hynny, fe allai etholiadau Senedd Cymru olygu newid mewn Gweinidog allai gael effaith sylweddol.  Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu’r setliad ariannol oedd yn galluogi’r awdurdod i dalu am y mwyafrif o bwysau gwasanaeth ar gyfer 2021/22, ond nid oedd modd gwarantu y byddai pwysau newydd yn sgil colli incwm oherwydd Covid-19 yn cael ei fodloni.  Os na fyddai setliadau yn y dyfodol yn cael eu cynnal ar lefel o’r fath i fodloni pwysau cynyddol, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol, byddai angen gwneud penderfyniadau anodd.  Mewn cysylltiad â setliad tair blynedd, fe eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo bod y cynnig gwreiddiol ar gyfer adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi cael ei oedi yn sgil Covid-19 ac roedd y Canghellor wedi cyhoeddi setliad un mlynedd fis Tachwedd diwethaf.  Roedd Llywodraeth Cymru angen syniad o’u ffigurau am dair blynedd gan Drysorlys y DU er mwyn gallu bod mewn sefyllfa i ddarparu setliad tair blynedd ar gyfer llywodraeth leol wrth symud ymlaen.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Glenn Swingler at arbedion o un flwyddyn i'r llall gan ysgolion ac roedd yn teimlo nad oedd hi’n briodol ceisio am ragor o arbedion yng ngoleuni’r anawsterau a wynebwyd yn ymateb i Covid-19 a gofynnodd am y swm o fuddsoddiad mewn ysgolion. 

Mewn cysylltiad â’r pecyn o arbedion cyffredinol, gofynnodd a oedd modd edrych eto i ystyried yr elfen fforddiadwyedd i breswylwyr.  Fe eglurodd yr Aelod Arweiniol Cyllid bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser gyda Fforwm Cyllideb Ysgolion , ac fel y blynyddoedd diwethaf, i gyflawni 1% o arbedion (roedd disgwyl i bob gwasanaeth arall ddod o hyd i 4%).   Roedd yr arbediad o 1% gyfystyr â £733,000 gyda £3.27 miliwn yn ychwanegol wedi’i gynnig i gael ei ddyrannu er mwyn i gyllideb ddirprwyedig ysgolion gynyddu tua £2.5 miliwn fel ffigur net cyffredinol.  Roedd y cynnydd i ysgolion ar gyfer gwariant refeniw ac roedd buddsoddi mewn ysgolion trwy gyllideb Moderneiddio Addysg ar wahân.  Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol Addysg bod Fforwm Cyllideb Ysgolion yn cefnogi’r cynnig, ac roedd yna ennill clir yn y gyllideb.  Serch hynny, fe dynnodd sylw at y pwysau ar ysgolion o ran ariannu dysgu cyfunol a rheoliadau Covid-19 ac ati ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i geisio unrhyw gyllid allai fod ar gael gan Lywodraeth Cymru i’w gosod yn erbyn y costau a ysgwyddir gan ysgolion.  Gan ymateb i’r pwynt a wnaed ynglŷn â phecyn cyffredinol cynigion y gyllideb fe eglurodd Aelod Arweiniol Cyllid yr opsiwn i naill ai lleihau’r swm yn y cyllid i dalu am bwysau cyllideb (er bod y mwyafrif yn anochel) neu newid swm Treth y Cyngor.  Nid oedd yn credu y dylid codi mwy na’r hyn oedd ei angen ar breswylwyr i gyflwyno gwasanaethau, roedd hyn hyd yn oed yn fwy gwir yn y flwyddyn ariannol hon a’r caledi ychwanegol a wynebir yn sgil Cvoid-19. Nid oedd codi Treth y Cyngor 3.8% yn benderfyniad hawdd o ystyried yr effaith y byddai’n ei gael ar breswylwyr.  Petai lefel is yn cael ei argymell byddai’n golygu na fyddai rhai pwysau ychwanegol yn cael eu bodloni neu doriadau ychwanegol i wasanaethau.  O ganlyniad, roedd yn credu bod cynigion y gyllideb yn cynrychioli’r ffordd orau o fynd i’r afael â phwysau gyda’r effaith leiaf negyddol ar breswylwyr.

·         gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Paul Penlington ynglŷn â ffigurau’r gyllideb fe eglurodd yr Aelod Arweiniol Cyllid bod y ffigur diffyg yn yr adroddiad cyn mynd i’r afael â Threth y Cyngor, yn fwlch cyllid o £5.167 miliwn. 

Roedd yr eitemau oedd wedi’u rhestru ym mharagraff 4.4. yr adroddiad yn cael eu cynnig i helpu i gau’r bwlch cyllido gan adael £2.132m oedd gyfystyr â chynnydd o 3.8% yn Nhreth y Cyngor oedd yn cael ei gynnig.  Petai Treth y Cyngor yn cael ei osod ar gyfradd is na 3.8% byddai naill ai’n golygu toriadau ychwanegol i wasanaethau neu beidio â bodloni’r holl bwysau a nodwyd ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2021/22;

 

 (b)      cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2021/22;

 

 (c)       argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 3.8% yn Nhreth y Cyngor; 

 

 (d)      argymell i’r Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol, a

 

 (e)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad hwn.

 

 

Dogfennau ategol: