Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2021/22

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo'r Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Cyfalaf ar gyfer 2021/22 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

 (b)      cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £93.89 i’w weithredu o ddydd Llun 5 Ebrill 2021;

 

 (c)       nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 i’r adroddiad) ar Arbedion Effeithlonrwydd, Fforddiadwyedd a gwerth am arian, a

 

 (d)      bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2021/22 a'r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Fe arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar ffigurau’r gyllideb a thybiaethau o ran lefel incwm a gyfrifwyd er mwyn gallu cyflwyno gwasanaethau refeniw, y rhaglen buddsoddi cyfalaf i gynnal safonau ansawdd tai ac i ddatblygu’r rhaglen adeiladu newydd.  O ran y cynnydd rhent blynyddol cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bolisi rhent pum mlynedd ym mis Rhagfyr 2019 ar gyfer rhent tai cymdeithasol ac mae setliad y rhenti wedi'u cyfrifo gan ystyried y polisi a’r mecanwaith hwnnw ar gyfer codi rhent.  Y cynnydd ar gyfer 2021/22 oedd 1.5% gan arwain at rent wythnosol cyfartalog o £93.89 (cynnydd o £1.38 mewn rhent wythnosol cyfartalog). Nid oedd cynnig i ddefnyddio’r tâl dewisol o hyd at £2 yr wythnos ar gyfer eiddo.  Yn rhan o’r broses gosod rhent, rhoddwyd ystyriaeth i fforddiadwyedd tenantiaid, gwerth am arian ac asesiad o effeithiolrwydd cost.  Roedd adolygiad blynyddol Cynllun Busnes y Stoc Dai y dangos ei fod yn parhau’n gadarn ac yn ariannol hyfyw ac roedd digon o adnoddau ar gyfer cefnogi’r gwasanaeth tai ac anghenion y stoc am fuddsoddi. 

 

Tynnodd y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol sylw at yr angen i gydbwyso lefel mewn cynnydd rhent er mwyn gallu talu costau yn y dyfodol yn erbyn fforddiadwyedd tenantiaid.  Yn sgil lefel chwyddiant, dyma oedd y cynnydd rhent isaf ers peth amser, ac i denantiaid sy'n derbyn budd-dal tai, byddai’r hawl i fudd-dal yn cynyddu i dalu am y cynnydd mewn rhent.  Roedd y taliadau gwasanaeth cyfartalog, er yn amrywio rhwng eiddo, wedi gostwng rhywfaint.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol ymhellach gyda’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill a’r Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol -

 

·         Dywedodd y Cynghorydd Mark Young ei fod yn adroddiad gonest oedd yn nodi’n glir y rhesymau dros gynyddu rhent, ond gofynnodd am ragor o sicrwydd ynglŷn â'r elfen fforddiadwyedd, yn enwedig o ystyried y gostyngiad posibl mewn taliadau Credyd Cynhwysol a'r caledi ariannol roedd tenantiaid yn eu hwynebu.  

Cafodd wybod waeth beth yw lefel y Credyd Cynhwysol, os ydi tenantiaid yn gymwys i gael budd-dal byddai unrhyw gynnydd yn y rhent a thâl gwasanaeth yn cael ei gynnwys.  Rhoddwyd sicrwydd bod y gwasanaeth wedi bod yn cefnogi tenantiaid yn rhagweithiol ac roedd telerau ad-dalu fforddiadwy’n cael eu cynnig os oeddynt yn mynd i ddyled, heb fygythiad o weithred gyfreithiol.  Rhoddwyd teyrnged hefyd i Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych am ddarparu cefnogaeth werthfawr a chyngor am gyllidebu i denantiaid.  Roedd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Sir Ddinbych yr un cyfrifoldebau o ran safonau datgarboneiddio a buddsoddi mewn stoc dai, ond rhenti’r Cyngor oedd yr isaf, ond yr un safon o wasanaeth a ddarperir.  Roedd data’r llynedd yn dangos bod rhenti’r Cyngor ar ochr isaf y raddfa o ran rhent targed Llywodraeth Cymru, ac mae’n debygol y bydd rhagor o denantiaid yn disgyn o dan y rhent targed eleni, gan ddangos gwasanaeth ardderchog am gost isel i denantiaid.

·         er ei bod yn gwerthfawrogi’r angen am adolygiad blynyddol a’r achos dros gynyddu rhent, roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn cwestiynu amseru’r cynnydd yng ngoleuni’r caledi ariannol a achoswyd gan y pandemig, ac fyddai hi’n bosibl i oedi’r cynnydd tan y flwyddyn ganlynol.  

Cafwyd eglurhad nad ydi’r ddeddfwriaeth yn caniatáu hawlio incwm yn ôl-weithredol a’r flwyddyn nesaf dim ond CPI +1 oedd posibl ei ystyried, a’r tâl dewisol o £2 o bosibl, ond byddai’n gosod cynnydd uwch ar denantiaid mewn un blwyddyn yn hytrach na’i ymestyn dros ddwy flynedd.  Byddai hefyd yn arwain at lai o incwm yn y flwyddyn ariannol nesaf a fyddai o bosibl yn effeithio ar hyfywedd Cynllun Busnes y Stoc Dai wrth symud ymlaen.  Roedd lles tenantiaid yn ystyriaeth allweddol ac roedd y cynnydd wedi cael ei drafod gyda Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych.  Fe nodwyd y byddai’r cynnydd yn cael ei gynnwys gan y budd-dal tai mewn dros dau draean o’r achosion, a byddai gweddill y tenantiaid yn cael eu cefnogi gymaint â phosibl.  Yn y gorffennol, roedd y cynnydd mewn rhent werth tua £800,000 y flwyddyn, ond byddai’r cynnig presennol tua £240,000 a byddai rhent di-symud heb unrhyw gynnydd yn arwain at golled yn agos at £1miliwn mewn pedair blynedd.  Byddai hyn yn effeithio ar fuddsoddi yn y stoc dai a darpariaeth gwasanaeth i denantiaid.  Er yn gwerthfawrogi’r cynnydd i denantiaid, roedd y rhent dal yn llawer is na lefel rhent targed Llywodraeth Cymru.

·         o ran polisi rhent pum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer rhenti tai cymdeithasol, fe ailadroddwyd bod y polisi yn cytuno ar gynnydd rhent blynyddol o ddim mwy na CPI +1% gyda ffi £2 yr wythnos yn ychwanegol ar gartrefi unigol ar yr amod nad oedd y rhent yn cynyddu mwy na CPI +1%.  

Roedd awdurdodau lleol eraill yng ngogledd Cymru hefyd yn codi rhenti gyda rhai yn bwriadu defnyddio’r  cynnydd £2 wythnosol yn hytrach na CPI+1%.  Roedd rhenti targed Llywodraeth Cymru wedi codi 11.5% dros y pedair blynedd diwethaf, ond dim ond 9% oedd y cynnydd yn rhenti’r Cyngor dros y cyfnod hwnnw.  Wrth ystyried y cynnydd arfaethedig mewn rhent, mae lefelau rhent Sir Ddinbych yn parhau i fod yn llawer is na rhent targed Llywodraeth Cymru.  Cyfeiriwyd hefyd at y buddsoddiad yn y stoc dai yn cynnwys gwneud eiddo yn fwy effeithlon o ran ynni a fyddai’n arwain at filiau tanwydd is i denantiaid.

·         Mynegodd y Cynghorydd Glenn Swingler bryderon am y terminoleg a ddefnyddiwyd yn yr Asesiad o Effaith ar Les gan gyfeirio at y pryder y byddai gan Tai Sir Ddinbych nifer anghymesur o aelwydydd tlotach yn sgil ei rent is.  

Roedd y Swyddog Arweiniol yn derbyn y pwynt a chytunodd i ail eirio’r ddogfen.  Fe eglurodd bod yr Asesiad o’r Effaith ar Les wedi cael ei gynnal gyda thenantiaid ac roedd yna bryder blaenorol ynglŷn â’r dull roedd cymdeithasau eraill wedi’u cymryd o ran asesiad fforddiadwyedd a chymhwyster ar gyfer tenantiaethau wedi dyddio.

 

Rhoddodd y Cabinet deyrnged i waith gwasanaethau tai, mewn partneriaeth gyda Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych wrth gefnogi tenantiaid i reoli eu cyllid yn effeithiol ac i wneud y mwyaf o’u hincwm, a’r ymagwedd sensitif i ddelio â thenantiaid sydd mewn trafferthion ariannol.  Ar ôl ystyried ffigurau’r gyllideb a’r cynnydd arfaethedig mewn rhent, ac ar ôl ystyried fforddiadwyedd i denantiaid a’r lefel o fuddsoddiad yn y stoc dai yn y dyfodol, roedd yna gefnogaeth gyffredinol i’r argymhellion.

 

PENDERFYNWYD -

 

 (a)      mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

 (b)      cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £93.89 i’w weithredu o ddydd Llun 5 Ebrill 2021;

 

 (c)       nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 i’r adroddiad) am Effeithiolrwydd Cost, Fforddiadwyedd a Gwerth am Arian, a

 

 (d)      Y Cabinet  yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Yn y fan hyn (11.25am) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: