Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SEFYDLU PARTNERIAETH CHWARAEON GOGLEDD CYMRU

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi yn amgaeedig) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet mewn egwyddor i sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a) cefnogi, mewn egwyddor, sefydliad Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru ac yn dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd mewn ymgynghoriad gydag Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Swyddog Adran 151 i gymeradwyo telerau y Cytundeb Rhwng Awdurdodau Terfynol, a

 

 (b)      bod Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig yn cael ei benodi i gynrychioli’r Cyngor ar Fwrdd Llywodraethu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru gan weithredu fel asiant i’r Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet mewn egwyddor i sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru.

 

Darparwyd rhywfaint o gefndir o ran rôl Chwaraeon Cymru oedd wedi darparu arian i awdurdodau lleol yn hanesyddol, a phartneriaid eraill i ymgymryd â rhaglenni ac ymyraethau chwaraeon.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y cynnig arfaethedig i sefydlu partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru rhanbarthol newydd yn cynnwys awdurdodau lleol eraill gogledd Cymru a phartneriaid allweddol, gan weithio gyda gweledigaeth a rennir a fydd o fudd i’r rhanbarth.  Petai’n cael ei gymeradwyo, byddai’r cyllid cronnus gan Chwaraeon Cymru (tua £2.7 miliwn y flwyddyn) yn cael ei gyfeirio trwy Chwaraeon Gogledd Cymru gyda chyfanswm dangosol y cyllid am 5 mlynedd rhwng 2021/22 a 2025/26 yn £13,529,494. Cyfeiriodd y Cynghorydd Feeley at gyfranogiad Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig yn y bartneriaeth, ac achubodd ar y cyfle i roi teyrnged i’r staff am eu hymateb i’r heriau a wynebwyd ac am gyfrannu mewn meysydd gwasanaeth eraill er mwyn ymateb i bandemig y Coronafeirws.

 

Fe arweiniodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd yr aelodau trwy gyfreithlondeb yr adroddiad, yn cynnwys egwyddor Chwaraeon Gogledd Cymru a’r telerau er mwyn gweithredu, gan dynnu sylw penodol at y model i gael ei fabwysiadu gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awdurdod cynnal ynghyd â sail y cyllid a threfniadau llywodraethu.  Fe argymhellwyd bod Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig yn cynrychioli’r Cyngor ar y Bwrdd Llywodraethu o ystyried eu harbenigedd a'r swyddogaethau y mae’n eu gwneud ar ran y Cyngor.  Byddai Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig yn adrodd yn rheolaidd trwy gyfarfodydd rheoli contract a’r Bwrdd Llywodraethu Strategol.  Roedd yr amserlenni i gymeradwyo’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod erbyn 22 Ionawr 2021 wedi golygu diwygiad arfaethedig i argymhelliad yr adroddiad i roi awdurdod dirprwyedig o ran hynny.  Roedd adroddiad templed wedi cael ei lunio er mwyn i’r awdurdodau geisio cymeradwyaeth ar gyfer y cynnig drwy eu prosesau ac roedd y cyfeiriad at Wrecsam ym mharagraff 4.1 wedi cael ei gynnwys mewn camgymeriad, a dylid ei anwybyddu.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at bwysigrwydd sicrhau atebolrwydd clir fel y nodwyd gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd, a nodwyd os na fyddai Sir Ddinbych yn cymryd rhan, ni fyddai modd iddynt arfer unrhyw ddylanwad, ond roedd yna berygl y gallai blaenoriaethau lleol gael eu gwanhau o ganlyniad i ymagwedd ranbarthol.  Pwysleisiodd y pwysigrwydd bod cynrychiolydd o’r Cyngor ar y Bwrdd Lywodraethu er mwyn tynnu sylw at anghenion a  dyheadau lleol wrth symud ymlaen.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd bod y gweithgareddau a ariennir trwy Chwaraeon Gogledd Cymru yn cael eu cyflwyno gan Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ar ran y Cyngor ac roedd strwythurau llywodraethu yn eu lle yn sicrhau deialog barhaus rhwng Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig a’r Cyngor mewn cysylltiad â hynny.  O ran yr ymagwedd ranbarthol, peilot ydi Gogledd Cymru, a bwriad Chwaraeon Cymru ydi sefydlu pump partneriaeth ranbarthol ar draws Cymru.  Cyfnod cychwynnol y cytundeb ydi pum mlynedd a byddai’n dod i ben yn awtomatig wedi hynny oni bai bod pob partner yn cytuno i’w ymestyn, neu bod pob partner yn cytuno i’w ddirwyn i ben cyn diwedd y pum mlynedd.  Gan ymateb i ragor o gwestiynau ynglŷn â chyllid, cafodd yr aelodau wybod y byddai Chwaraeon Cymru yn darparu cyllid i Chwaraeon Gogledd Cymru i’w ddosbarthu ar draws y rhanbarth; nid oedd y Cyngor yn cyfrannu unrhyw gostau cyllido.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cefnogi mewn egwyddor sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru ac yn dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Swyddog Adran 151 i gymeradwyo telerau’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod terfynol, a

 

 (b)      phenodi Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig i gynrychioli’r Cyngor ar Fwrdd Llywodraethu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru gan weithredu fel asiant i’r Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: