Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN BRYS AR GYFER BYSIAU

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi yn amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymuno â Chynllun Brys ar gyfer Bysiau 2 i sicrhau cefnogaeth ariannol ar gyfer y sector bysiau a sefydlu perthynas gyda Chyngor Sir y Fflint fel yr awdurdod arweiniol rhanbarthol.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn

 

 (a)      cytuno ag egwyddorion cytundeb Cynllun Brys ar gyfer Bysiau 2 (Atodiad 2 yr adroddiad) i sicrhau  cymorth ariannol (amodol) i'r sector bysiau ac i sefydlu perthynas â Chyngor Sir y Fflint fel yr awdurdod arweiniol rhanbarthol a'r llofnodwr, sy'n sicrhau bod yr arian brys parhaus yn bodloni blaenoriaethau'r awdurdod ac yn cael ei ddarparu ar ei ran, ac

 

 (b)      maes o law, i alw am adroddiad pellach ar gynigion i ddiwygio bysiau mewn perthynas â rheoli gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gytuno i’r Cynllun Brys ar gyfer Bysiau a sefydlu perthynas gyda Chyngor Sir y Fflint fel yr awdurdod arweiniol rhanbarthol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cyd-destun a chefndir ehangach i’r Cynllun Brys ar gyfer Bysiau yn cynnwys cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau bws yn y dyfodol, ynghyd â manylion cymorth ariannol (amodol) sydd eisoes yn cael ei ddarparu i’r sector bysiau, a weinyddwyd yn ddiweddar gan Gyngor Sir y Fflint fel awdurdod arweiniol rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru, ond yn cael ei ddosbarthu ar ôl cytundeb rhanbarthol.  Y cam nesaf o fewn y broses honno ydi Cynllun Brys ar gyfer Bysiau 2 gyda Llywodraeth Cymru yn cynnig cytundeb gyda gweithredwyr ac awdurdodau lleol i amddiffyn gwasanaethau bysiau am gyfnod cychwynnol hyd at 31 Gorffennaf 2022, oni bai bod amodau'r farchnad yn gwella ddigon gan olygu nad oedd angen cefnogaeth bellach.  Manteision y cytundeb fyddai diogelu gwasanaethau tuag at lefelau cyn Covid a darparu sail gyfreithiol gadarn ar gyfer y cyllid ychwanegol, a chynnig rhywfaint o ddylanwad i awdurdodau lleol o’r hyn arferai fod yn wasanaethau masnachol.  Roedd hefyd yn darparu capasiti ychwanegol ar gyfer cludiant i'r ysgol.  Roedd y peryglon yn cynnwys gweithredwyr bysiau yn gwrthod cytuno, ond roedd y mwyafrif yn agos at wneud, felly os na fyddai Sir Ddinbych yn cytuno, roedd yr awdurdod yn llai tebygol o fod mewn sefyllfa i ddylanwadu ar lefelau gwasanaeth bysiau, a byddai’n anghydwedd ag awdurdodau eraill yn y rhanbarth.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mark Young, cadarnhaodd y Rheolwr Cludiant Teithwyr bod gwaith yn mynd rhagddo gyda Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau atebolrwydd democrataidd wrth symud ymlaen a byddai'r Aelod Arweiniol yn gweithio i sicrhau bod anghenion Sir Ddinbych yn cael eu bodloni a’u craffu. 

Cytunwyd y byddai aelodau yn cael gwybod am drefniadau llywodraethu yn y dyfodol ar ôl iddynt gael eu sefydlu.  O ran darpariaeth gwasanaethau bysiau a sicrhau bod teithwyr yn teimlo’n ddiogel tra’n teithio, darparwyd rhywfaint o ystadegau ar lefelau teithwyr oedd yn dangos bod teithwyr bellach yn fwy hyderus yn defnyddio gwasanaethau bws, gyda lefelau teithwyr tua 10-12% yn ystod y cyfnod clo cyntaf, o'i gymharu â 23% yn y cyfnod clo presennol.  Cyfeiriwyd hefyd at y drefn glanhau llym er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd tra'n teithio a chyflwyno’r drefn o archebu seddi ymlaen llaw ar rai gwasanaethu, gan roi lefel ychwanegol o hyder.  Serch hynny, roedd cydnabyddiaeth y byddai’n cymryd amser i ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd a lefelau teithwyr cyn Covid.

·         tynnwyd sylw at bwysigrwydd gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig oedd yn anodd i’w cynnal a chadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones bod trafodaethau lefel uchel yn cael eu cynnal ar hyn o bryd oedd yn ymwneud yn benodol ag anghenion gwledig ac roedd cefnogaeth ar gael o ran hynny gan aelodau arweiniol ar lefel ranbarthol. 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Jones am y sicrwydd yna ac roedd yn falch gallu nodi bod yr effaith ar ardaloedd gwledig yn uchel ar yr agenda ac y gallai ymagwedd ranbarthol ddarparu cyfle ar gyfer datrysiad mwy arloesol i fodloni anghenion gwledig.  Roedd yn cefnogi’r ymagwedd ranbarthol gan ei fod yn darparu gwasanaethau mwy cynaliadwy ac yn sicrhau dialog well gyda gweithredwyr ar lefel is-ranbarthol.

·         eglurwyd mai amharodrwydd rhai gweithredwyr i ymuno â’r cytundeb oedd maint penodol yr elw a osodwyd ar 2%, ac roedd  gweithredwyr yn teimlo oedd yn atal buddsoddiad yn y dyfodol a phryderon y gallai awdurdodau lleol a Thrafnidiaeth Cymru ddylanwadu ar y gwasanaethau a weithredir. 

Roedd trafodaethau yn parhau yr wythnos honno gyda gweithredwyr a Thrafnidiaeth Cymru, ond o ystyried pwysigrwydd y cynllun, disgwyliwyd y byddai materion yn cael eu cwblhau ac y byddai pawb mewn sefyllfa i arwyddo'r cytundeb

·         cydnabuwyd amharodrwydd posibl pobl i ddychwelyd i ddefnyddio cludiant cyhoeddus ar ôl Covid a fyddai’n debygol o gael ei ddylanwadu gan ba mor hir y byddai’r pandemig yn parhau a phatrymau oedd yn newid megis siopa ar-lein a llai o gymudo allai ddod yn rhywbeth sefydlog. 

Serch hynny, roedd y cynllun yn hyblyg ac yn cydnabod y gallai niferoedd teithwyr gynyddu’n sylweddol neu fod yn destun twf sefydlog.  Ers mis Gorffennaf, bu twf o tua 60% o gapasiti cyn Covid mewn rhai ardaloedd a byddai’n cymryd amser i gyrraedd 100%, ond os na chyrhaeddir lefelau cyn Covid, yn anorfod byddai angen trafod cwestiynau am y cydbwysedd rhwng cefnogaeth gyhoeddus a refeniw masnachol.

·         cafwyd trafodaeth am effaith buddsoddiad mewn bysiau yn y dyfodol o ran technolegau amgylcheddol megis cerbydau hydrogen neu drydan, yn enwedig o ystyried y terfyn 2% ar elw yn y cytundeb a nod Llywodraeth Cymru na fydd gan fysiau unrhyw allyriadau o’r bibell egsôst erbyn 2028. Hyd yn oed petai niferoedd teithwyr yn dychwelyd i'r lefelau normal, roedd lle i gredu y byddai'n anodd amnewid y fflyd bresennol yn unol â'r nod hwnnw a bod yna drafodaeth barhaus ynglŷn â hynny - roedd yn debygol y byddai angen rhagor o gyllid.

·         Mewn cysylltiad â deddfwriaeth berthnasol ers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, cyfeiriodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd at ‘State Aid Revocationns Amendments EU Exit Regulations 2020’, oedd fod i ddod i rym ddechrau’r flwyddyn, a chadarnhaodd y gellir darparu cyngor cyfreithiol wedi hynny y tu allan i’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cytuno ag egwyddorion cytundeb Cynllun Brys ar gyfer Bysiau 2 (fel y manylir yn Atodiad 2 yr adroddiad) i sicrhau  cymorth ariannol (amodol) i'r sector bysiau ac i sefydlu perthynas â Chyngor Sir y Fflint fel yr awdurdod arweiniol rhanbarthol a'r llofnodwr, sy'n sicrhau bod yr arian brys parhaus yn bodloni blaenoriaethau'r awdurdod ac yn cael ei ddarparu ar ei ran, a

 

 (b)      maes o law, i alw am adroddiad pellach ar gynigion i ddiwygio bysiau mewn perthynas â rheoli gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: