Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 02/2020/0724/PF – TIR YN GLASDIR, RHUTHUN
Ystyried cais ar
gyfer adeiladu 63 o anheddau fforddiadwy ynghyd â mynediad, man agored a gwaith
cysylltiol (cynllun diwygiedig) ar dir yn Glasdir, Rhuthun (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i godi 63 annedd fforddiadwy ynghyd â mynediad, man agored a’r gwaith cysylltiedig (cynllun diwygiedig) ar dir yng Nglasdir, Rhuthun.
Siaradwyr Cyhoeddus -
Matthew Green (yn erbyn) - Gellir crynhoi fy
mhryderon ynglŷn â’r cais cynllunio penodol fel a ganlyn:
1 – Gwrthwynebwyd cynlluniau tebyg ym mis Mawrth eleni (9 – 4) gan nad oedd
cynllun, cymeriad a dyluniad y tai arfaethedig yn cyd-fynd â’r datblygiadau
presennol yn yr ardal.
Mae’r ceisiadau hyn (er eu bod yn wahanol) yr un mor wahanol eu natur /
cymeriad i’r eiddo sydd wedi eu hadeiladu ar Glasdir (a gweddill Rhuthun) ac ar
sail cysondeb democrataidd dylid gwrthod y rhain yn yr un modd y tro hwn.
2 – Cytunodd Cynghorwyr ym mis Mawrth 2020 (chwe mis yn unig yn ôl) y
byddai’r cynnydd yn y nifer o anheddau a phobl yn rhoi straen ar y seilwaith
gyfredol yn yr ardal. Mynegwyd pryderon am ardal arfaethedig y datblygiad gan y
byddai’n cael effaith ar lif y traffig yn yr ardal, sydd eisoes yn wael yn
ystod adegau prysur. Mynegwyd pryderon hefyd am yr effaith bosib ar ecoleg yr
ardal, a’r risg uwch o safbwynt llifogydd, yn enwedig gan fod yr ardal o fewn
ardal perygl llifogydd. Yn wir, nododd un cynghorydd: “Ni allwn barhau i
ddal y glaw yn ei ôl na dal yr afonydd yn ôl, nac ychwaith ddal y llanw yn ôl.
“Dylem adolygu ein cynllun datblygu lleol ar unwaith a rhoi’r gorau i adeiladu
ar orlifdiroedd” ac mae’r cynghorydd a ddywedodd hyn yn bresennol.
3 – Pam fyddai’r Cyngor yn cytuno i adeiladu eiddo newydd yn Rhuthun, pan
fod lle yn dal i fod ar gael ar safle Clwyd Alyn yn Llanbedr Dyffryn Clwyd.
Roedd hwnnw yn safle 38 uned – ac eto mae lle yn dal i fod ar gael.
4 – A ellir ymddiried yng Nghlwyd Alyn i adeiladu mwy na 60 o anheddau pan
fydd eu gwybodaeth gynllunio yn llawn camgymeriadau a gwybodaeth anghywir. Ar
uwchgynllun Clwyd Alyn ar-lein mae’n sôn am
• Ysgol Glasdir – sydd mewn gwirionedd yn sarhad i Ysgol Pen Barras ac
Ysgol Stryd y Rhos.
Roedd gwaith papur cychwynnol yn nodi fod 63 annedd.
Mae datganiad cynllunio CAHL – tudalen 31, pwynt 117, yn nodi 65 annedd.
Er mai camgymeriadau bychain yw’r rhain – sut allwn ni ymddiried mewn cwmni
i adeiladu eiddo os nad yw eu hymchwil yn gywir ar eu gwaith papur? Ni allwn
ganiatáu’r fath gam o safbwynt ymddiriedaeth.
5 – Yr effaith ar yr iaith Gymraeg. Yn yr Asesiad o Effaith ar yr Iaith
Gymraeg, mae’n dweud “maint cartref ar gyfartaledd yw 2.3 o bobl, byddai 145 o
drigolion yn y datblygiad” (tudalen 14, pwynt 5.9). BYDD 6 o bobl mewn eiddo
sydd yn cael eu hadeiladu ar gyfer 6 o bobl. Bydd pob eiddo yn cael ei lenwi
i’w uchafswm. Felly, y cyfrifiad fydd 263 o drigolion.
6 – Mae’r holl waith papur yn awgrymu y byddai trigolion newydd yr ystâd
dai hon yn bobl “leol”. Fodd bynnag, onid y gwir yw y bydd yr eiddo hyn yn
agored i fandiau 1 – 4 ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH)? Mae band
4 SARTH ar gael i unrhyw un – ddim yn
lleol i’r sir nac i’r wlad?
7 – Yn yr holl waith papur, a gofynnais y cwestiwn yn y cais cyn cynllunio
– does dim gwybodaeth am y mathau o denantiaethau fydd gan drigolion y cynllun
arfaethedig. Fyddan nhw i gyd yn anghenion Cyffredinol? Tai â chymorth?
Lesddeiliaid? IMR? A fydd y tenantiaethau yn sicr neu’n dymor penodol? A fydd
tenantiaethau rhagarweiniol? A fydd gan y trigolion hawl i olyniaeth? Heb yr
wybodaeth hon sut allwch chi ddisgwyl trigolion Rhuthun i gytuno neu anghytuno
8 – Llawer o’r wybodaeth a’r arolygon a ddefnyddir allan o ddyddiad. Mae’r
Arolwg Traffig yn dyddio o 20 Mehefin 2019. Mae hynny dros flwyddyn galendr /
ddwy flynedd ysgol allan o ddyddiad.
Blwyddyn eithriadol, ac rwyf yn crefu ar y Pwyllgor i wrthod y cais
cynllunio am yr ail dro.
Peter
Lloyd (ar gyfer) - Mae’n
teimlo fel amser maith ers i mi siarad â chi ym mis Mawrth, ac mae'r byd wedi
newid yn arw. Rydych wedi nodi'r newid yn yr hinsawdd fel egwyddor arweiniol ac
wedi diwygio eich cyfansoddiad er mwyn sicrhau fod pob penderfyniad yn ‘rhoi ystyriaeth i fynd i’r afael â newid
hinsawdd ac ecolegol’, mae’r datblygiad hwn o dai arloesol di-garbon net yn
cyd-fynd â’r egwyddorion hynny.
Mae’r pandemig wedi ein dysgu fod pobl yn
awyddus i fyw mewn llefydd diogel, lleol a hygyrch sy’n agos at gyfleusterau
dydd i ddydd mewn tai o ansawdd uchel gyda mannau cymunedol. Mae’r angen am dai
fforddiadwy yn parhau a bydd gwaith datblygu yn cyfrannu at fynd i'r afael â'r
diffyg darpariaeth tai – mae adroddiad monitro blynyddol y CDLl yn nes ymlaen
yn yr agenda hefyd yn cydnabod hyn.
Mae CAHL wedi ymrwymo i egwyddorion Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru ac wedi
gweithio ers mis Mawrth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, y Comisiwn Dylunio ac yn
arbennig gydag Aelodau Ward Rhuthun i ddeall eu pryderon dylunio a'u datrys yn
dilyn y gwrthodiad annisgwyl ym mis Mawrth.
Mae’r cynllun bellach yn cynnwys llai o dai (63) ar ôl gwaredu'r rheiny ger
yr ysgol, mae'r dyluniad, cynllun, gogwydd a deunyddiau wedi’u diwygio i
fodloni dyheadau'r aelodau i sicrhau fod y cynllun yn integreiddio'n weledol
â’r datblygiad amgylchynol.
Bydd isadeiledd draenio a llifogydd yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor,
gyda chytundeb y timau SAB a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n cydymffurfio â TAN
15. Darperir swm ohiriedig o £68,000 i wella meysydd chwarae lleol.
Cynllun datblygu dros 20 mlynedd sy’n cyfuno tai, cyfleusterau cymunedol,
ysgolion a chyflogaeth yn agos i’r dref yw Glasdir. Ariennir y cynllun gan Raglen Tai Arloesol
a Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Chyllid Preifat gan Clwyd Alyn,
bydd yn rhydd rhag llifogydd yn ystod y digwyddiad dylunio, ac yn darparu
mannau agored, cyfleusterau seiclo ac isadeiledd dŵr wyneb ar gyfer pob
rhan o Glasdir. Mae’n debyg y bydd pob un ohonoch yn ymwybodol mai darparu tai
ar gyfer pobl leol yw un o’r dibenion a fwriedir ar gyfer Glasdir.
Mae arolygon deiliadaeth tai Sir Ddinbych yn dangos mai preswylwyr
presennol Sir Ddinbych sy’n byw yn 66% o gartrefi newydd (mae 80% o’r
preswylwyr yn dod o ogledd Cymru) ac mae 2/3 ohonynt yn gweithio yn Sir
Ddinbych.
Mae polisi cynllunio yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy ar dir priodol
dynodedig a heb ei ddatblygu o fewn aneddiadau fel hyn er mwyn darparu
canlyniadau Creu Lleoedd cenedlaethol.
Mae’n darparu adeiladu carbon isel, defnydd carbon isel i leihau tlodi
tanwydd, a deunyddiau a llafur lleol. Mae’r cynlluniau yn cyd-fynd â chodau a
briff Dyluniad Glasdir mewn modd sy'n ffurfio lleoliadau gwydn o ran y newid yn
yr hinsawdd.
Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau yn yr ymatebion gan ymgyngoreion statudol a
mewnol, gan gynnwys y Cyngor Tref, Cyfoeth Naturiol Cymru, Swyddogion
Priffyrdd, Perygl Llifogydd, Bioamrywiaeth ac Addysg. Mae’r cynllun hwn yn gwbl
ymarferol a phriodol ac yn bodloni pob agwedd o bolisïau cenedlaethol a lleol.
Felly, i gloi, dyma rai buddion arbennig:
Partneriaeth, cyflwyno tir cyhoeddus ar
gyfer cartrefi fforddiadwy i bobl leol – partneriaeth rhwng LlC, CSDd a Clwyd Alyn.
Cyfraniadau ariannol sylweddol i Fannau Agored a Draenio Cynaliadwy drwy
gymeradwyaeth SABS a lliniaru perygl llifogydd.
Datgloi safle tai segur gyda chyllid Rhaglen Tai Arloesol, buddsoddiad CAHL
a Llywodraeth Cymru. Darparu tai nid caniatâd, dangos hyder a buddsoddiad yn
Rhuthun. Rwy’n eich annog i roi caniatâd heddiw.
Trafodaeth Gyffredinol –
Cadarnhaodd y
Cynghorydd Emrys Wynne, aelod lleol, yn dilyn y cais a gafodd ei wrthod ym
Mawrth 2020 fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal ynghyd â chyfarfodydd rheolaidd gydag aelodau
lleol. Roedd y cyhoedd wedi cyfarfod yn rheolaidd ac ymgynghoriad cyhoeddus
wedi’i gynnal ar-lein oedd wedi galluogi pobl leol i ymateb.
Cadarnhaodd y
Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts, ill dau yn aelodau lleol fod yr
ymgynghoriad canlynol, a chyfarfodydd, dyluniad yr eiddo, mynediad, a nifer yr
eiddo wedi cael eu hadolygu. Roedd Cymdeithas Dai Clwyd Alyn wedi cytuno hefyd
i adael darn o dir sy’n ffinio’r ysgol yn rhydd. Cytunodd yr holl aelodau lleol
i’r cynllun diwygiedig a gafodd ei gyflwyno i fod yn fwy derbyniol.
Wrth drafod,
codwyd y materion canlynol:
·
Pryderon
ynglŷn â llifogydd. Cadarnhawyd fod
y safle wedi’i gynnwys yn y CDLl presennol ond yn y dyfodol byddai’n ffafriol i
beidio â chynnwys unrhyw ddatblygiad ar orlifdir a ŵyr bobl amdano. Bod
yr holl amddiffynfeydd llifogydd yn cael eu cyflawni i sicrhau diogelwch y
safle a bod CNC ynghyd â pheirianwyr risg o lifogydd yn eu gweld nhw’n
dderbyniol. Byddai gofyniad ar Clwyd Alyn i gynnal system
draenio gynaliadwy. Mewn sefyllfa lle
mae Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn wynebu heriau methdaliad, mi fyddai
Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb.
·
Pryderon
gyda mynediad a thraffig. Swyddogion
Priffyrdd methu mynychu’r cyfarfod ond wedi cymryd i ystyriaeth yr holl ddata
traffig na gafodd ei ystyried i’w oes fod wedi darfod. Ym mis Mawrth roedd y cais wedi cael ei
wrthod yn bennaf ar ddyluniad a ni chodwyd yr achos priffyrdd. Ni chododd swyddogion Priffyrdd unrhyw
achosion gyda’r datblygiad arfaethedig.
·
Cynnal
a chadw ardaloedd chwarae ac ardaloedd gwyrdd – cadarnhawyd fod galw yn cael ei
wneud am gyfraniad at gynnal a chadw ardaloedd chwarae.
Cadarnhaodd y
Cynghorydd Paul Penlington nad oedd o blaid adeiladu y datblygiad ar orlifdir a
gofynnodd i’w bryderon gael ei nodi.
Yn y fan hon
fe ddywedodd y Cynghorydd Melvyn Mile ym mis Mawrth mai’r prif bryder oedd
ynglŷn ag estheteg a bod yr ymgeisydd wedi gwneud llawer o waith i newid y
dyluniad ac fe ddylen nhw gael eu cymeradwyo.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas dderbyn argymhelliad y swyddog i
gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Evans.
Pleidlais -
O blaid -
Ymatal -
Gwrthod -
PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.
Dogfennau ategol: