Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI BUDDION CYMUNEDOL CSDd

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar Bolisi Buddion Cymunedol arfaethedig y cyngor a’r argymhellion wrth gefnogi ei ddefnyddio.

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

(a)       Cymeradwyo'r Polisi Buddion Cymunedol;

 

(b)       Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar Bolisi Buddion Cymunedau arfaethedig.

 

Ym mis Mehefin 2019, cymeradwyodd Bwrdd Rhaglen Pobl Ifanc a Thai sefydlu Canolfan Buddion Cymunedol (Canolfan BC) i gefnogi a galluogi gwasanaethau i gynnwys buddion cymunedol mewn contractau mor gynnar â phosibl er mwyn cynyddu gwerth ar gyfer gwariant y cyngor. Penodwyd Rheolwr a Swyddog Canolfan BC yn gynharach yn y flwyddyn ac fe luniwyd y polisi a gyflwynwyd i bob Grŵp Ardal yr Aelodau a chafodd ei adolygu gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau a argymhellodd bod y polisi’n cael ei gymeradwyo.  Byddai’r polisi’n darparu fframwaith ar gyfer budd-ddeiliaid mewnol ac allanol, ac yn gweithio i gefnogi’r Ganolfan Buddion Cymunedol i fonitro’r canlyniadau oedd yn cael eu cyflwyno yn sgil manteision cymunedol. Gwariodd y Cyngor oddeutu £116m yn flynyddol, felly roedd sgôp i wneud buddion sylweddol o ganlyniad. Nid buddion ariannol oedd y buddion cymunedol y cyfeiriwyd atynt yn yr achos hwn, ond buddion mewn nwyddau megis hyfforddiant a phrentisiaethau ac ati. Er bod cytundebau A.106 y tu allan i gylch gwaith y polisi, roedd y Ganolfan Buddion Cymunedol wedi ymgymryd â rôl ‘system glirio’ er mwyn sicrhau bod y budd cymunedol gorau posib yn dod ohono.

 

Rhoddodd y Rheolwr Canolfan Buddion Cymunedol rywfaint o gefndir gan ailadrodd gwariant sylweddol y Cyngor ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau trydydd parti a’r potensial i gael buddion ychwanegol mewn nwyddau o’r gwariant hwnnw. Roedd y polisi presennol yn amodi y dylai gwariant contract oedd yn fwy na £1m ystyried buddion cymunedol. Roedd y polisi arfaethedig yn gostwng y throthwy hwnnw i gontractau gwaith o fwy na £100,000 a chontractau gwasanaethau nwyddau o fwy na £25,000 er mwyn agor cyfran helaeth o wariant y Cyngor i ddenu buddion cymunedol. Serch hynny, ni fyddai’r trothwyon hynny yn berthnasol yn awtomatig. Fe fyddai yna ymagwedd cais a chefnogaeth i fuddion cymunedol ac ymgysylltu â thimau caffael a thimau chomisiynu o ran hynny. Byddai mabwysiadu’r polisi yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fuddion cymunedol, yn dilysu ymagwedd y Cyngor i alluogi cyfleoedd i sicrhau buddion sydd ar gael ac yn gwneud y mwyaf o werth gwario i breswylwyr ac yn sefydlu buddion cymunedol mewn prosesau caffael.  Byddai’r polisi hefyd yn cyd-fynd ag uchelgais di-garbon y Cyngor gyda photensial ar gyfer buddion cymunedol i gyfrannu at fesurau lliniaru a lleihau carbon.

 

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd i gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn -

 

·         o ran prentisiaethau roedd yna nifer o gyfleoedd roedd y Cyngor yn eu dilyn trwy Sir Ddinbych yn Gweithio, ond pwrpas y polisi Buddion Cymunedol oedd ystyried y manteision y gellir eu sicrhau trwy wariant caffael.  

Serch hynny, roedd nifer o leoliadau wedi cael eu sicrhau trwy ymagwedd buddion cymunedol ac roedd y Ganolfan Buddion Cymunedol yn gweithio’n agos â Sir Ddinbych yn Gweithio er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleoedd posibl o ran hynny.

·         rhoddodd eglurhad o rôl adrannau’r gyfraith a chynllunio o ran trefniadau A.106, ac eglurodd bod y Ganolfan Buddion Cymunedol wedi ymgymryd â rôl monitro a thracio trefniadau A.106 er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n iawn. Cadarnhawyd y gallai manylion y gwaith hwnnw gael ei rannu ag aelodau.

·         roedd yn cydnabod y potensial i ymestyn cylch gwaith Canolfan Buddion Cymunedol, ond cadarnhaodd bod y flaenoriaeth bresennol i sicrhau buddion cymunedol yn cael eu sefydlu o fewn y broses gaffael ac yn cael eu hystyried yn gynnar yn y broses ynghyd â monitro'r buddion cymunedol hynny’n effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno.

·         rhoddwyd sicrwydd bod y Ganolfan Buddion Cymunedol yn cydweithio â Thimau Cefnogaeth Gymunedol o ran cyllid fferm wynt a chyllid cymunedol eraill er mwyn osgoi dyblygu a sicrhau nad oeddynt yn gweithio ar ddau beth gwahanol

·         rhoddodd enghraifft o fuddion cymunedol ar waith oedd yn cynnwys contractau bach ar gyfer gwasanaethau ymgynghoriaeth, yn benodol darparu gofal cymdeithasol, a gofynnwyd i ymgynghorwyr ymrwymo i nifer o oriau i ofal o bell i’w gynnig  i rywfaint o’r grwpiau cymunedol sy'n ffurfio mynediad i gyllid fferm wynt

·         fe eglurodd bod y Ganolfan Buddion Cymunedol yn gweithio gydag adrannau gwahanol i ganfod y buddion cymunedol mwyaf priodol o fewn cymunedau gwahanol sydd angen bod yn berthnasol ac wedi’i alinio â rhan sylweddol y contract ac o fewn disgwyliadau rhesymol o beth fyddai contract yn gallu ei ddarparu ac yn gymesur i faint y contract.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod gwerth y polisi a dywedodd y Prif Weithredwr ei bod hi’n cefnogi’r gwaith oedd yn alinio â nod y Cyngor o roi cymunedau yn ganolbwynt i’w waith.  Fe gadarnhaodd hefyd bod yr Uwch Dîm Reoli wedi cymeradwyo’r polisi’n llawn a diolchodd i’r Ganolfan Buddion Cymunedol am eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo dogfen Polisi Buddion Cymunedol, a

 

 (b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: