Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeëdig) yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

(a)       Nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni;

 

(b)       Cymeradwyo defnyddio’r Grant Cynnal Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 5, 6 a 7;

 

(c)        Cymeradwyo defnyddio’r dyraniad grant dangosol sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar gyfer difrod i asedau priffyrdd, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 8, 9 a 10;

 

(d)       Cymeradwyo defnyddio’r Grant Gofal Plant Cyfalaf sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 11 a 12.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelwyd gorwariant o £2.476miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (roedd y gorwariant yn cynnwys £2.7miliwn a dalwyd ar gyfer grant ‘colli incwm’ ar gyfer Chwarter 2)

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu Amgen Hamdden

·        manylion o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn).

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo defnyddio dyraniadau grant fel yr awgrymodd y Grŵp Buddsoddi Strategol yn ymwneud ag (1) Grant Cynnal a Chadw Ysgolion, (2) Adfer ar ôl Llifogydd mis Chwefror (Asedau Priffordd), a (3) Grant Cyfalaf Gofal Plant, ac fe soniwyd mwy am yr elfennau hynny yn y cyfarfod.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf yn fanwl, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, gan gynnwys y cyllid grant a gafwyd hyd yma a'r safle ar hawliau i'r cyngor. Roedd y gorwariant o £2.475miliwn a ragwelwyd (£5.492miliwn fis diwethaf) yn cynnwys £2.7miliwn a dalwyd mewn cysylltiad â grant ‘colli incwm’ ar gyfer Chwarter 2 (roedd yr hawliad llawn yn £3.233miliwn). Darparwyd naratif hefyd ynglŷn ag amrywiadau gwasanaeth a thynnwyd sylw at symudiadau o’r mis blaenorol. Er nad oedd cyllidebau corfforaethol yn dangos amrywiant, roedd hi'n debygol y byddai holl wariant yn ôl disgresiwn a chyllidebau wrth gefn yn cael eu rhyddhau er mwyn helpu i ariannu’r sefyllfa gyda risgiau yn parhau o ran Incwm o'r Dreth Gyngor a Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Mae’n bosibl y bydd angen adolygu Balansau Cyffredinol heb eu clustnodi wrth i ni barhau i deimlo effaith y pandemig.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·         roedd y golofn ‘disallowed’ o ran hawliadau a gyflwynwyd yn ymwneud ag elfennau o’r hawl roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu nad oedd yn gymwys ac felly ni fyddai'n cael ei dalu.  

Ar yr ochr gwariant, roedd hawliadau o £119,649 wedi cael eu gwrthod oedd yn ymwneud ag elfennau nad oedd LlC yn ystyried oedd yn wariant ychwanegol, ac mewn rhai achosion roedd hi’n anodd i wasanaethau benderfynu ar gymhwysedd, ond daeth y canllaw a ddarparwyd gan LlC yn fwy clir dros amser ac mae’r Cyngor wedi dod yn fwy medrus gyda'r broses hawlio gan ymarfer cyfrifyddu llyfr agored.  Cafodd hawliadau colli incwm a wrthodwyd gwerth £642,922 yn bennaf eu priodoli i hawliadau cychwynnol ar gyfer colledion y cyfrif refeniw tai a ffioedd ar draws awdurdod.    Cafodd colledion y cyfrif refeniw tai eu gwrthod am resymau rheoleiddio gan fod rhaid eu trin yr un fath â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac nid oedd hawliadau ar gyfer incwm gan awdurdodau lleol eraill bellach yn gymwys yn dilyn cytundeb rhanbarthol y gallai’r taliadau contract yma rhwng yr awdurdodau gael eu bodloni.  O ganlyniad, nid oedd cyfanswm y swm a wrthodwyd yn cynrychioli’r incwm a gollwyd na fyddai’n cael ei ad-ennill, ond roedd yn adlewyrchu mireinio’r broses ar gyfer gwasanaethau penodol.

·         roedd y golofn ‘Holding’ yn ymwneud â hawliadau a gyflwynwyd y mae LlC wedi gofyn am ragor o wybodaeth a thystiolaeth cyn penderfynu i dalu'r hawliad neu beidio, a defnyddiwyd rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo colli incwm ar gyfer meysydd parcio fel enghraifft dangosol.  

Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda LlC ynglŷn â hynny ac roedd yna hyder y byddai mwyafrif y ffigur ‘holding’ ar gyfer Chwarter 2 yn cael ei dalu erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd yna rywfaint o bryder ynglŷn â’r hawliadau a gyflwynwyd mewn cysylltiad ag elfennau megis ffioedd cynllunio pan oedd LlC yn credu bod oedi wedi bod mewn cyllid a chymerwyd yr un agwedd gyda incwm o'r dreth gyngor pan roedd arian dal i fod yn ddyledus – ni fyddai’r golled yn amlwg tan ddiwedd y flwyddyn a darpariaeth dyled ddrwg. Serch hynny, roedd LlC wedi cytuno i adolygu’r sefyllfa ar Dreth y Cyngor ym mis Ionawr, a gobeithio erbyn hynny y bydd rhagor o eglurder am rai o’r elfennau ‘holding’ eraill i adrodd yn ôl i’r Cabinet. O ystyried graddfa’r hawliadau ar yr ochr incwm, ni dybiwyd unrhyw incwm yn yr adroddiad monitro oedd yn cynrychioli’r senario gwaethaf posibl ac roedd gostyngiad yn y gorwariant i’w ddisgwyl ar dalu hawliadau yn Chwarteri 3 a 4. Gan fod y mwyafrif o incwm yn ddibynnol ar yr elfen dwristiaeth, bu gostyngiad yng ngholli incwm a risg cysylltiedig dros fisoedd y gaeaf.

·         o ran cyfeiriadau blaenorol ym mhrosiect Ailddatblygu Marchnad y Frenhines yn y Rhyl sydd wedi'u manylu yn yr adroddiad, cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'r geiriad yn cael ei ailystyried ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol er mwyn adlewyrchu ar y cynnydd a’r sefyllfa ddiweddaraf

·         roedd y rhestr o waith cynnal a chadw adeiladau ysgol yn yr adroddiad yn cynnwys pob eitem a gyflwynwyd ar gyfer cyllid grant. O ystyried y swm bychan o gyllid oedd ar gael, roedd swyddogion wedi cynnal ymarfer blaenoriaethu o’r gwaith oedd ei angen fel sail i ddyrannu’r cyllid hwnnw, ac roedd yr eitemau gyda ffigurau yn y golofn amcangyfrif o’r gost yn waith blaenoriaeth a fyddai’n cael ei wneud.  Byddai’r gwaith na chafodd eu dewis yn cael eu cario ymlaen i’w ystyried fel rhan o ddyrannu’r cyllid yn y dyfodol.

·         adfer ar ôl lifogydd mis Chwefror - o ran yr elfen refeniw, nid oedd y Cyngor yn gymwys ar gyfer cyllid ymateb i argyfwng gan nad oedd yn bodloni’r trothwy gwariant £250,000 gydag oddeutu £115,000 o gostau fel ymateb uniongyrchol.  

Serch hynny, cadarnhaodd LlC y byddai cyllid cyfalaf ar gael i gael ei wario yn y flwyddyn ariannol bresennol ar gyfer difrod a achoswyd, ac roedd y Cyngor wedi cyflwyno rhestr o gynlluniau gydag amcangyfrifon werth tua £1.3miliwn, a’r arwyddion oedd y byddai dyfarniad grant ar gyfer y swm llawn yn dod.

·         gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Arwel Roberts ynglŷn â’r Cylch Meithrin yn Ysgol Dewi Sant, rhoddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts sicrwydd ynglŷn â’r ymrwymiad i gefnogi’r sefyllfa yn Ysgol Dewi Sant a darpariaeth iaith Gymraeg, a chadarnhaodd y buddsoddiad oedd wedi’i drefnu ar y safle – o ystyried y math o waith oedd ei angen roedd yna amserlen hirach, ond roedd cefnogi’r Gymraeg yn parhau yn flaenoriaeth i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

 (b)      cymeradwyo defnyddio’r Grant Cynnal a Chadw Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 5, 6 a 7;

 

 (c)       cymeradwyo defnyddio’r grant dangosol sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar gyfer difrod i asedau priffyrdd fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 8, 9 a 10, a

 

 (d)      cymeradwyo defnyddio’r Grant Cyfalaf Gofal Plant sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 11 ac 12.

 

 

Dogfennau ategol: