Eitem ar yr agenda
Y FARGEN DWF DERFYNOL
Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd
(copi ynghlwm)
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd,
y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad Bargen Dwf Derfynol (a ddosbarthwyd
eisoes), i’r Cyngor gyrraedd Cytundeb Bargen Derfynol ar gyfer Bargen Dwf
Gogledd Cymru gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Yn 2016, mabwysiadodd
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Weledigaeth Twf ar gyfer Economi
Gogledd Cymru. Yn ddiweddarach, cafodd y
Weledigaeth honno ei mabwysiadau gan y 6 Cyngor yng Ngogledd Cymru. Yn seiliedig ar y Strategaeth Gweledigaeth
Twf, fe baratowyd cais Bargen Dwf a’i gytuno gan bob partner, yn cynnwys Cyngor
Sir Ddinbych, gan weithio gyda Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig a’r
sector preifat ym mis Hydref 2018. Ym mis Tachwedd 2019, cytunodd Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig ar
Benawdau'r Telerau ar gyfer Cytundeb Bargen Derfynol i gael ei gwblhau tuag at
ddiwedd 2020.
Roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyflawni Cytundeb
Bargen Derfynol gyda’r ddwy Lywodraeth cyn diwedd Rhagfyr 2020.
Ar 24 Tachwedd 2020, fe
ystyriodd y Cabinet y dogfennau sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yma ac
argymhelliad y Pwyllgor Craffu Partneriaethau y dylai’r Cabinet a’r Cyngor
gefnogi a chymeradwyo’r dogfennau sydd eu hangen er mwyn cwblhau’r Fargen Dwf
Derfynol. Penderfynodd y Cabinet i gefnogi’n ffurfiol y
dogfennau angenrheidiol i gwblhau’r Fargen Dwf Derfynol a chymeradwyo’r rhannau
hynny o Gytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithredol. Fe argymhellodd y Cabinet bod y Cyngor yn
cymeradwyo’n ffurfiol y dogfennau fel y’i nodwyd yn yr adroddiad.
Pwysleisiodd yr
Arweinydd nod y Fargen Dwf i adeiladu economi mwy cynaliadwy a chadarn yng
Ngogledd Cymru mewn partneriaeth â’r sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda
chymorth £240 miliwn o gyllid gan Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru dros y
15 mlynedd nesaf. Nod y Fargen Dwf oedd darparu buddsoddiad o hyd at £1.1
biliwn i economi Gogledd Cymru er mwyn creu 3,400 – 4,200 o swyddi newydd a
chynhyrchu £2 - £2.4 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros net erbyn 2036.
Darparodd yr Arweinydd gyflwyniad ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr
Economi a‘r Parth Cyhoeddus; Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd, a’r Pennaeth Cyllid, gan drafod meysydd o’r Fargen Dwf.
Cadarnhawyd mai Cyngor
Gwynedd oedd yr awdurdod lletya a’r corff atebol.
Yn ystod trafodaethau
codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Mynegodd
y Cynghorydd Paul Penlington bryderon ynghylch y ganran o bŵer niwclear yn y
ddogfennaeth. Cadarnhaodd y swyddogion
nad oedd pŵer niwclear yn rhan arwyddocaol a’r prosiectau. Roedd pŵer gwynt, dŵr ac ati hefyd
yn brosiectau pŵer wedi’u cynnwys yn y prosiect. Nododd swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw
bryderon ynghylch ynni niwclear.
·
Roedd ymrwymiad gwleidyddol i
gyllid y llywodraeth o £240 miliwn ac roedd trafodaethau gyda'r ddwy lywodraeth
yn parhau ar faterion manwl, heb unrhyw fynegiant y byddai'r ymrwymiad
gwleidyddol yn cael ei dynnu'n ôl. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw ymrwymiad
cyfreithiol i ddarparu’r cyllid tan i’r Fargen gael ei harwyddo.
·
Eglurodd y swyddogion y
cyfrifiadau cyllido ar gyfer cyfraniadau partner gan gadarnhau y bod prosiectau
ar draws y rhanbarth yn cael eu cyllido’n gyfartal, ond ar gyfer prosiectau
unigol lle byddai partneriaid penodol yn derbyn mwy o fuddion (adeilad/ased ac
ati), disgwylid iddynt dalu am y gofyniad benthyca mewn cysylltiad â’r prosiect
hwnnw.
·
Mynegwyd pryderon nad oedd ardaloedd gwledig wedi eu
hamlygu yn y Fargen Dwf a chadarnhaodd yr Arweinydd a’r swyddogion fod yna
ffrwd ariannu arall ar gael ar gyfer ardaloedd gwledig. Buddsoddir mewn ardaloedd gwledig ond nid yn
uniongyrchol trwy’r Fargen Dwf.
·
Byddai pob penderfyniad a wneir gan Fwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru yn cael ei gyhoeddi gan bob Awdurdod Lleol. Byddai adroddiad chwarterol yn cael ei
gynhyrchu a byddai’n cael ei gyflwyno ddwy waith y flwyddyn mewn Pwyllgor
Craffu.
Yn dilyn trafodaethau,
cynigodd yr Arweinydd yr argymhellion, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill gyda phleidlais i ddilyn.
Pleidleisiodd mwyafrif
yr aelodau o blaid yr adroddiad, roedd 2 aelod yn ymatal a phleidleisiodd 4
aelod yn erbyn yr adroddiad. Felly,
PENDERFYNWYD:
·
Bod y
Cyngor yn cymeradwyo Cynllun Busnes Trosfwaol fel y ddogfen sy’n nodi’r
trefniadau i gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i’r
Cytundeb Bargen Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllido Grant gyda Llywodraethau
Deyrnas Unedig a Chymru.
·
Bod y
Cyngor yn cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud
â swyddogaethau anweithredol a’i fod yn mabwysiadu’n benodol y trefniadau ar
gyfer Craffu sydd wedi’u nodi yn “Cytundeb Llywodraethu 2: Atodlen 3” fel y
sylfaen ar gyfer cwblhau’r Cytundeb Bargen Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllido
Grant gyda Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru.
·
Bod y
Cyngor yn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig
Cyllid Grant ar ran y Partneriaid.
·
Bod y
Cyngor yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo cost y benthyca sy’n ofynnol
yn dybiannol i hwyluso’r llif arian negyddol ar gyfer y Fargen Dwf, ac i
gynnwys darpariaeth yng nghyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a’r
cyfraniadau craidd ac atodol sefydledig fel y’u nodir yn GA2 (ac ym
mharagraffau 5.5 – 5.7 o’r adroddiad templed sydd ynghlwm fel rhan o Atodiad
1).
·
Bod y
Cyngor yn rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r
Arweinydd, Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151 i gytuno ar fân newidiadau i’r
dogfennau gyda’r Partneriaid yn ôl yr angen i gyflawni’r cytundeb.
·
Bod y
Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried cynnwys yr Asesiad
o’r Effaith ar Les Cyngor Sir Ddinbych sydd ynghlwm fel Atodiad 2 fel rhan o’i
ystyriaethau.
Dogfennau ategol:
- Growth Deal Council Report WELSH, Eitem 5. PDF 370 KB
- Appendix 1 WELSH, Eitem 5. PDF 7 MB
- Appendix 2, Eitem 5. PDF 155 KB