Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECT ARCHIFAU AR Y CYD SIR DDINBYCH A SIR Y FFLINT

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer adeilad Archif Passivhaus newydd a adeiladwyd yn bwrpasol yn Yr Wyddgrug ar gyfer Gwasanaeth Archifau ar y Cyd newydd Sir Ddinbych a Sir y Fflint a gofynion arian grant ac arian cyfatebol cysylltiol.

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cytuno y caiff y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd gyflwyno cais i gam nesaf (Rownd 1) Cronfa Treftadaeth Gorwelion Cronfa Dreftadaeth y Loteri;

 

 (b)      nodi’r galw posib ar £2,034,521 o gyllid y Cyngor er mwyn cyflawni’r ganolfan archifau newydd.  Mae hyn yn dibynnu os bydd y cais yn llwyddiannus ar gam Rownd 1 o’r broses ymgeisio am grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri a derbyn ffurflen cynnig cyllid, a

 

 (c)       cymeradwyo’r dull gweithredu o safbwynt Carchar Rhuthun ac estyniad arfaethedig yr atyniad treftadaeth, fel yr amlinellir yn adran 4.8 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

[Roedd rhaid i’r Arweinydd adael yn ystod yr eitem hon a chymerodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y Gadair am weddill y cyfarfod.]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet am adeilad Archif Passivhaus pwrpasol newydd arfaethedig yn yr Wyddgrug, er mwyn lletya Gwasanaeth Archifau ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint sydd newydd ei ffurfio a'r cyllid grant cysylltiedig a'r gofynion arian cyfatebol.

 

Roedd y gwasanaeth archifau ar y cyd wedi’i ffurfio i alluogi’r cynghorau i fodloni eu cyfrifoldebau deddfwriaethol o ran dogfennau o bwysigrwydd hanesyddol a chreu gwasanaeth gwell a mwy cynaliadwy.  Roedd y gwasanaeth ar y cyd yn cael ei weithredu dros ddwy safle ym Mhenarlâg a (Carchar) Rhuthun.  Datblygwyd y cais Grant Heritage Horizons Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn ariannu adeilad newydd pwrpasol yn yr Wyddgrug a chynllun gweithgaredd 3 mlynedd cysylltiol.  Dewiswyd y safle o astudiaeth ddichonoldeb safle a gynhaliwyd gan ymgynghorydd annibynnol.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r achos ar gyfer yr adeilad newydd; gan roi manylion ystyriaethau ariannol, a chynigion ar gyfer Carchar Rhuthun.

 

Amlygodd y Cynghorydd Thomas gyfrifoldebau statudol y Cyngor i ddiogelu ei eitemau hanesyddol a’r anawsterau presennol a wynebwyd o ran problemau capasiti, cyflwr y cyfleusterau presennol a’r buddsoddiad sylweddol angenrheidiol wrth symud ymlaen.  Byddai’r cynigion yn parhau i ganiatáu presenoldeb yr archifau yn Rhuthun gyda darpariaeth cysylltu-o-bell o holl lyfrgelloedd a fyddai’n cryfhau safle a darparu hygyrchedd i holl drigolion.  Roedd ymrwymiad hefyd i wella'r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun (gan ddefnyddio gofod gwag y gwasanaeth archifau) gyda'r golwg o ddyblu'r 12,000 o ymwelwyr presennol i’r safle.  Roedd mynegiannau cadarnhaol o ran y cynnig i Gronfa Heritage Horizon Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ond nid oedd sicrwydd o lwyddiant.  Pe bydda’i cynnig yn llwyddiannus, byddai adeilad pwrpasol newydd yn cael ei ddarparu i letya’r gwasanaeth archifau ar y cyd a fydd yn elwa holl gymunedau, gydag ymrwymiad llawn i wella’r ddarpariaeth yn y Carchar.

 

Trafododd y Cabinet yr argymhellion yn fanwl.  Ar y dechrau, roedd anfodlonrwydd o ran y cynigion ar gyfer y gwasanaeth pan cawsant eu cyflwyno i ddechrau, ond roedd mwyafrif y pryderon wedi cael eu datrys ac ar y cyfan roedd y Cyabinet yn cefnogi’r argymhellion, yn arbennig o ystyried yr heriau o gadw dogfennau hanesyddol ac arteffactau ynghyd â’r effaith andwyol ar ddarpariaeth y gwasanaeth a’r goblygiadau cost sylweddol pen a fyddai’r argymhellion yn cael eu gwireddu.  Er fod anfodlonrwydd am golli’r cyflester yng Ngharchar Rhuthun a symud tu allan i’r sir, roedd y Cabinet hefyd wedi ystyried mai rhannu gwasanaethau oedd y dewis cywir o ran cynaliadwyedd a chyfleoedd moderneiddio i sicrhau bod y dylestswyddau deddfriaethol yn cael eu bodloni ac i gadw hanes a threftadaeth lleol yr ardal.  Nodwyd hefyd y byddai’r cynnig yn darparu mynediad ehangach i wybodaeth o fewn Sir Ddinbych trwy’r gwasanaeth llyfrgelloedd ynghyd â phresenoldeb rhan amser yng Ngharchar Rhuthun a gwell mynediad i ysgolion a ddylai annog cynulleidfa fwy.  Roedd y Cabinet hefyd yn falch o nodi y cynlluniau gwella ac ehangu Carchar Rhuthun o ganlyniad i hyn a fyddai’n elwa’r sir.

 

Ymatebodd y Rheolwr Tîm a Gwybodaeth Busnes i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mark Young fel a ganlyn -

                                   

·         tra bod yr adnoddau wedi cael eu rhoi tuag at y cais, cytunwyd  bod angen cynllun wrth gefn os na fyddai’r cais yn llwyddiannus a byddai'r gwaith hynny'n dechrau'n fuan

·         Byddai’r Gwasanaeth Moderneiddio a Gwella Busnes yn adeiladu cronfa wrth gefn o £65,000 fel cost untro yn unol â’r costau mynegiannol a ddarparwyd er mwyn symud ymlaen â’r cynlluniau arfaethedig i ehangu’r atyniad treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun.  

Roedd y Tîm Treftadaeth hefyd yn ceisio ymgeisio am gyllid allanol er mwyn gwella'r cynigion ymhellach.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd gwestiynau/sylwadau gan aelodau nad oeddent yn y Cabinet ac yn ystod y drafodaeth mynegodd y Cynghorwyr Meirick Davies a Gwyneth Kensler eu cefnogaeth am y cynigion o ystyried y byddai’n cadw treftadaeth a dogfennau pwysig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Fodd bynnag, roedd y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts ac Emrys Wynne, er yn derbyn y rhesymeg tu ôl i’r cynigion, yn lleisio pryderon dros golli'r gwasanaeth archifau yn Rhuthun, gan geisio eglurhad a sicrwydd ar nifer o faterion yn yr adroddiad, gan gynnwys y cynlluniau ar gyfer gwella'r atyniad treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun, darpariaeth gwasanaeth ar gyfer cymunedau a rôl llyfrgelloedd a'r cynnig ar gyfer ysgolion.

 

Wrth ymateb i’r rhain a’r materion eraill a godwyd yn ystod y drafodaeth, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r Rheolwr Tîm a Gwybodaeth Fusnes -

 

·         gydnabod pwysigrwydd sicrhau bod Safonau Cymraeg Sir Ddinbych yn cael eu cynnal wrth fynd ymlaen o fewn y gwasanaeth ar y cyd gan ddarparu sicrwydd i aelodau o ran hynny

·         pwysleisiwyd buddion cynnig llwyddiannus o ran darpariaeth a gwelliannau'r gwasanaeth, ond os na fyddai’r cynnig yn llwyddiannus byddai’r Cyngor yn wynebu heriau mawr o ran cynnal y gwasanaeth a chadw cofnodion hanesyddol a byddai hyn yn golygu costau ychwanegol sylweddol

·         eglurwyd nad oedd Carchar Rhuthun yn adeilad addas i letya’r gwasanaeth archifau gyda chostau rhedeg/cynnal a chadw sylweddol ac aneffeithlonrwydd gweithredol, ac roedd y cynigion yn rhoi cyfle i ddefnyddio'r gofod gwag gan y gwasanaeth archifau i ehangu'r atyniad treftadaeth ac roedd trafodaethau gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol o ran gweithrediad parhaus y safle fel atyniad i dwristiaid

·         rhoddwyd gwybod pe byddai’r cais yn llwyddiannus, byddai Sir Ddinbych yn cyfrannu 40% o’r cydran arian cyfatebol a byddai Sir y Fflint yn cyfrannu 60%

·         cyfeiriwyd at y cynlluniau ar gyfer darpariaeth allgymorth yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam, fel rhan o ddull adsefydlu addysgol

·         eglurwyd yr astudiaeth ddichonoldeb a gyflawnwyd mewn chwe safle posibl (tri ymhob sir) i sicrhau’r lleoliad gorau ar gyfer yr adeilad newydd, ac fe sefydlwyd mai’r Wyddgrug oedd y dewis gorau ar gyfer y gwasanaeth ar y cyd wrth fynd ymlaen

·         cadarnhawyd bod angen gwneud gwaith wrth symud ymlaen, er mwyn sicrhau dyraniad teg o adnoddau i’r gwasanaeth ar y cyd ar draws y ddwy sir, gan gynnwys ysgolion

·         darparwyd sicrwydd o ran y gronfa wrth gefn o £65,000 i ariannu’r datblygiadau arfaethedig yng Ngharchar Rhuthun, ac fe gytunodd y Cabinet yn flaenorol i sefydlu ac adeiladu cronfa wrth gefn erbyn 2025 yn benodol ar gyfer y diben hwn

·         eglurwyd bod darpariaeth allgymorth parhaol o’r gwasanaethau archifau yn defnyddio'r rhwydwaith llyfrgell fel rhan allweddol o'r gwasanaeth ar y cyd wrth fynd ymlaen, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda'r llyfrgelloedd yn y ddwy sir er mwyn cadarnhau darpariaeth gwasanaeth mwyaf priodol gyda nifer o gynigion gwahanol yn cael eu hystyried

·         nodwyd y byddai’r archifau ar gael yn ddigidol a bod y cynigion hefyd yn cynnwys presenoldeb archifau rhan amser yng Ngharchar Rhuthun ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth

·         cydnabuwyd, er y gall ysgolion elwa o adeilad archifau hyblyg, yn canolbwyntio ar ddysgu, roedd heriau o ran cludiant ac roedd ystyriaeth yn cael ei roi i ddarparu gwasanaethau allgymorth i ysgolion a byddai gwasanaeth ar y cyd yn darparu cyfleoedd gwell.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, pwysleisiodd y Cynghorydd Wynne ei bryderon o golli'r cyfleuster archifau yn Rhuthun yn gyfan gwbl gydag ansicrwydd o amgylch y cynigion.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cytuno y caiff y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd gyflwyno cais i gam nesaf (Rownd 1) Cronfa Treftadaeth Gorwelion Cronfa Dreftadaeth y Loteri;

 

 (b)      nodi’r galw posib ar £2,034,521 o gyllid y Cyngor er mwyn cyflawni’r ganolfan archifau newydd.  Mae hyn yn dibynnu os bydd y cais yn llwyddiannus ar gam Rownd 1 o’r broses ymgeisio am grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri a derbyn ffurflen cynnig cyllid, a

 

 (c)       cymeradwyo’r dull gweithredu o safbwynt Carchar Rhuthun ac estyniad arfaethedig yr atyniad treftadaeth, fel yr amlinellir yn adran 4.8 yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: