Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y FARGEN DWF DERFYNOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r dogfennau allweddol sy’n ofynnol i gyrraedd y Fargen Derfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru i’w cymeradwyo’n ffurfiol.

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo yn ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Trosfwaol fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau i gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru fel y sail ar gyfer bod yn rhan o’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y  DU;

 

 (b)      cymeradwyo’n ffurfiol y darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithrediaeth, argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, a’i fod yn benodol yn mabwysiadu dirprwyaethau'r cylch gorchwyl yng “Nghytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono fel y sail ar gyfer cwblhau’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU;

 

 (c)       cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid;

 

 (d)      cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn argymell cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo’r gost benthyg tybiannol angenrheidiol er mwyn hwyluso’r llif arian negyddol ar gyfer y Fargen Dwf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r craidd sefydledig a’r cyfraniadau atodol fel y nodir yng Nghytundeb Llywodraethu 2 (ac ym mharagraffau 5.5 a 5.7 yr adroddiad templed a atodir fel rhan o Atodiad 1);

 

 (e)      bod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151 yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel bo’n angenrheidiol i gwblhau’r cytundeb, a

 

 (f)        bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried cynnwys yr Asesiad o’r Effaith ar Les Cyngor Sir Ddinbych sydd ynghlwm fel Atodiad 2 fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol yr adroddiad i geisio cefnogaeth y Cabinet o’r dogfennau allweddol sydd eu hangen i gyrraedd y Fargen Dwf Derfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru i’w gyflwyno i'r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y cefndir mewn perthynas â chymeradwyaethau o’r holl bartneriaid yn arwain at y sefyllfa bresennol.  Roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyflawni Cytundeb Bargen Derfynol gyda Llywodraethau'r DU a Chymru erbyn diwedd 2020 ac roedd y ddogfennaeth berthnasol yn mynd trwy’r prosesau democrataidd ymhob awdurdod lleol.  Gofynnwyd i’r Cabinet a’r Cyngor, ynghyd â’r holl bartneriaid, gymeradwyo amryw o ddogfennau a fyddai’n galluogi i’r Fargen Dwf Derfynol gael ei gwblhau.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd nod y Fargen Dwf i adeiladu economi mwy cynaliadwy a chadarn yng Ngogledd Cymru mewn partneriaeth â’r sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda chymorth £240 miliwn o gyllid gan Lywodraethau’r DU a Chymru dros y 15 mlynedd nesaf.  Nod y Fargen Dwf oedd darparu buddsoddiad o hyd at £1.1 biliwn i economi Gogledd Cymru er mwyn creu 3,400 – 4,200 o swyddi newydd a chreu £2 - £2.4 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros erbyn 2036. Darparodd yr Arweinydd gyflwyniad ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a‘r Parth Cyhoeddus; Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Ad a Chyfraith a Phennaeth Cyllid, gan grybwyll meysydd canlynol y Fargen Dwf -

 

·         y Weledigaeth Dwf a Phortffolio'r Fargen Dwf o fuddsoddiad ynghyd â buddion uniongyrchol i'r rhanbarth, gan gynnwys ffyniant economaidd; creu swyddi o ansawdd gwell a gweithlu medrus, a gwelliannau i safonau byw

·         y portffolio o raglenni sy’n ymwneud ag (1) Ynni Carbon Isel; (2) Digidol; (3) Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel; (4) Bwyd Amaeth a Thwristiaeth, a (5) Tir ac Eiddo ynghyd â rhaglenni heb eu hariannu’n uniongyrchol ond a gefnogir mewn perthynas â Sgiliau a Chyflogaeth a Chludiant

·         dangos lledaeniad daearyddol y 14 o brosiectau a nodwyd, gyda phob prosiect yn darparu buddion eang ar draws y rhanbarth gan sicrhau newid

·         egluro’r prosiectau penodol a nodwyd yn Sir Ddinbych mewn perthynas â (1) Parc Busnes Llanelwy; (2) Hen Safle Ysbyty Gogledd Cymru Dinbych; (3) Prosiect Fferm Carbon Niwtral Llysfasi, a (4) Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan

·         manylion am gyfreithlondeb y Cytundeb Bargen Dwf Derfynol rhwng yr NWEAB a Llywodraethau’r DU a Chymru ar gyfer darparu’r Fargen a gaiff ei arwyddo ar sail achos busnes y portffolio a phump achosion busnes rhaglen

·         amlygu'r ystyriaethau ariannol gan gynnwys cost y rhaglen a sut gaiff ei ariannu, gan gynnwys cyfraniadau partner dros dymor o 15 mlynedd ynghyd â chyfraniadau partner blynyddol a'r fethodoleg tu ôl i'r cyfrifiadau a oedd yn dod a Sir Ddinbych rhwng £64,000 - £90,000

·         adrodd ar Gytundeb Llywodraethu 2 i fynd â’r bartneriaeth i gam gweithredu'r Fargen Dwf, gan barhau'r model llywodraethu a fabwysiadwyd yng Nghytundeb Llywodraethu 1 a diffinio'r berthynas rhwng y Bwrdd a'i sefydliadau partner, cyfyngiadau'r ddirprwyaeth ac atebolrwydd.

 

Roedd manylion y Fargen Dwf wedi cael eu craffu yn eang ac yn ddiweddar wedi bod yn destun Gweithdy i Aelodau.  Nid oedd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi gallu mynychu’r Cabinet, a gofynnodd i'r Arweinydd ddarllen ei datganiad ar ganfyddiadau craffu yn dilyn ystyried y Fargen Dwf ar 5 Tachwedd.  Yn gryno, roedd y Pwyllgor Craffu -

 

·         yn cydnabod er y byddai’r prosiectau wedi’u lleoli mewn ardaloedd amrywiol ar draws y rhanbarth, byddent oll, i ryw raddau, yn elwa'r rhanbarth gyfan

·         yn cytuno ei fod yn hollbwysig bod y Fargen yn symud ymlaen er mwyn sicrhau cyllid i ddarparu’r prosiect a gwireddu’r buddion economaidd a ragwelir

·         wedi cael sicrwydd bod y Cytundeb Llywodraethu yn ddigon cadarn ac wedi gosod strwythurau i ddiogelu holl bartneriaid gyda threfniadau monitro a chraffu tryloyw er mwyn cynnal atebolrwydd penderfyniadau’r Bwrdd

·         wedi bod yn gefnogol o'r egwyddorion a nodwyd yn y Protocol Craffu

·         wedi codi pryderon am effaith posibl Covid-19 a Brexit ar brosiectau a ffyniant a chadernid economaidd yr ardal yn y dyfodol, ond cydnabuwyd bod y Bwrdd eisoes wedi nodi’r risgiau hynny ac yn eu monitro; teimlwyd y gallai’r Fargen Dwf ddarparu diogelwch a chefnogaeth yn erbyn unrhyw effeithiau negyddol o ran hynny

·         o’r farn bod y Fargen Dwf yn darparu cyfle gwych i’r rhanbarth wireddu ei photensial economaidd

·         yn pwysleisio’r angen, unwaith i’r Cytundeb Bargen Dwf gael ei gymeradwyo, i’r Bwrdd gysylltu ei waith i raglenni eraill o broffil uchel, megis Pwerdy’r Gogledd, er mwyn gwneud y mwyaf o’r buddion i’r rhanbarth.

 

Ar ran y Pwyllgor Craffu, argymhellodd y Cynghorydd Chamberlain-Jones, bod y Cabinet yn cefnogi’r Fargen Dwf Derfynol ac argymell bod y cynigion o fewn y ddogfen yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor i'w cymeradwyo'n ffurfiol.  Diolchodd yr Arweinydd i’r Pwyllgor Craffu am ei waith caled wrth graffu a herio manylion y Fargen Dwf ac am y sicrwydd a ddaw o’u gwaith.

 

Yn ystod y drafodaeth, ceisiodd y Cabinet eglurhad pellach o ran elfennau amrywiol y ddogfennaeth ac ymatebodd yr Arweinydd a swyddogion fel a ganlyn -

 

·         cadarnhawyd bod y cread posibl o Gydbwyllgorau Corfforaethol, yr oedd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori arnynt ar hyn o bryd, wedi cael eu hystyried o fewn y cytundeb cyfreithiol - roedd yn nodi’n benodol, pe byddai’r gyfraith yn newid a’r Cydbwyllgorau Corfforaethol wedi’u ffurfio, roedd y penderfyniad i drosglwyddo’r model presennol i’r Cydbwyllgorau Corfforaethol yn cael ei wneud gan bob un o’r chwe awdurdod lleol yn unigol

·         dywedwyd, yn y ddeddfwriaeth ddiwygiedig bydd pŵer i ddau neu fwy o awdurdodau i uno yn wirfoddol, a phe byddai hynny'n digwydd, byddai bob rhwymedigaeth gyfreithiol yr oedd gan bob corff yn unigol cyn iddynt uno, yn disgyn i rwymedigaeth y corff newydd

·         Holodd y Cynghorydd Mark Young os oedd angen i’r Cyngor ddatgan cysylltiad mewn unrhyw dir yn eu heiddo sydd wedi cael ei ragnodi ar gyfer datblygiad, o ystyried y byddent yn ennill buddsoddiad sylweddol, a chafodd sicrwydd, fel corff partner, y byddai'r Cyngor yn dal i allu cymryd rhan mewn trafodaethau ac ni fyddai angen datgan unrhyw gysylltiad sy'n rhagfarnu ar y sail hon.

·         roedd ymrwymiad gwleidyddol i gyllid y llywodraeth o £240 miliwn ac roedd trafodaethau gyda'r ddau lywodraeth yn parhau ar faterion manwl, heb unrhyw fynegiant y byddai'r ymrwymiad gwleidyddol yn cael ei dynnu'n ôl.  

Fodd bynnag, nid oedd unrhyw ymrwymiad cyfreithiol i ddarparu’r cyllid tan i’r Fargen gael ei arwyddo.

·         eglurwyd y cyfrifiadau cyllido ar gyfer cyfraniadau partner gan gadarnhau y bod prosiectau ar draws y rhanbarth yn cael eu cyllido’n hafal, ond ar gyfer prosiectau unigol lle byddai partneriaid penodol yn derbyn mwy o fuddion (adeilad/ased ac ati), disgwylir iddynt dalu am y gofyniad benthyca mewn cysylltiad â’r prosiect hwnnw.

·         cydnabuwyd yr anawsterau o sicrhau dyfodol prosiectau penodol dros dymor 15 mlynedd y Fargen Dwf, yn arbennig mewn ardaloedd megis isadeiledd digidol, sydd wedi cael ei nodi fel risg.  

Derbyniwyd y byddai angen ychydig o hyblygrwydd o fewn rheoli'r rhaglen a'r prosiect gyda rhai addasiadau er mwyn adlewyrchu'r newid mewn amgylchiadau a fyddai'n cael ei fonitro dros amser, a bydd gan y Cabinet a'r Cyngor rôl o ran hynny.  Fodd bynnag, gobeithiwyd y byddai'r prosiectau yn cael sicrhau yn y dyfodol cymaint â phosibl, gyda dull o edrych ymlaen o ran y gofynion yn y dyfodol megis y rhaglen werth a datgarboneiddio, sgiliau a swyddi newydd yn addas i’r oes fodern.

 

Cydnabu'r Cabinet y broses gymhleth a hir yn arwain at y cam Cytundeb Terfynol a thalodd deyrnged i waith caled pawb ynghlwm gyda'r broses a datblygu trefniadau cadarn wrth fynd ymlaen.  Roedd y Cabinet yn fodlon bod y wybodaeth eglur a ddarparwyd yn nhelerau’r portffolio o raglenni a phrosiectau; ystyriaethau ariannol a fforddiadwyedd, a threfniadau llywodraethu wedi dangos bod yr holl elfennau wedi cael eu hystyried a bod sicrwydd wedi cael ei dderbyn o waith craffu.  Ychwanegodd y Cynghorydd Thompson-Hill bod y cyllid i ysgwyddo’r costau ychwanegol wedi cael ei ganfod gan ddarparu sicrwydd bod yr elfen ariannol yn gadarn.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd gwestiynau gan aelodau nad oeddent ar y Cabinet, ac ynghyd â'r swyddogion perthnasol, ymatebwyd i'r materion a godwyd fel a ganlyn -

 

·         cytunodd y swyddogion i ystyried y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies ynglŷn â sut oedd y wybodaeth yn cael ei gyflwyno yn hygyrch

·         roedd disgwyliad i’r rhaglen ddigidol gael ei ddarparu yn gynnar o fewn y broses a byddai gwaith yn cael ei gyflawni i ddatblygu capasiti’r sector preifat a fyddai’n cael ei gefnogi gan y buddsoddiad sylweddol arfaethedig yn y maes hwnnw.

·         byddai effaith amgylcheddol ac ecolegol y prosiectau penodol yn cael eu hystyried fel rhan o'r prosesau statudol o ran caniatâd cynllunio ac roedd y cynigion hefyd wedi cael eu halinio gyda'r nodau lles a datblygiadau addas

·         roedd manylion am y dull caffael yn y cynllun busnes trosfwaol gyda phwyslais ar annog a chefnogi gwell mynediad i BBaChau rhanbarthol a lleol, ac o ystyried y nod i hybu'r economi lleol roedd y cysyniad wedi cael ei adeiladu i mewn i’r cynnig cyffredinol er mwyn sicrhau bod cwmnïau lleol yn elwa ac yn helpu i ddarparu’r buddsoddiad; o ran ôl Brexit, roedd y rheoliadau caffael presennol yn dal i fod yn gymwys a byddai gwaith yn parhau o fewn y cyfyngiadau a pharamedrau cyfreithiol wrth a phryd i'r rheolau newid.

·         nid oedd llwybrau beicio wedi cael ei gynnwyd fel prosiect penodol o fewn y cynnig, ond byddai’n cael ei drafod ar lefel strategol ar draws y rhanbarth o fewn y rhaglen gludiant, a chafodd yr aelodau eu hatgoffa bod ffynonellau cyllido lleol eraill ar gael i awdurdodau lleol ddarparu disgwyliadau lleol o’r natur hwnnw.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo yn ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Trosfwaol fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau i gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru fel y sail ar gyfer bod yn rhan o’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y  DU;

 

 (b)      cymeradwyo’n ffurfiol y darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithrediaeth, argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, a’i fod yn benodol yn mabwysiadu dirprwyaethau'r cylch gorchwyl yng “Nghytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono fel y sail ar gyfer cwblhau’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU;

 

 (c)       cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid;

 

 (d)      cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn argymell cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo’r gost benthyg tybiannol angenrheidiol er mwyn hwyluso’r llif arian negyddol ar gyfer y Fargen Dwf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r craidd sefydledig a’r cyfraniadau atodol fel y nodir yng Nghytundeb Llywodraethu 2 (ac ym mharagraffau 5.5 a 5.7 yr adroddiad templed a atodir fel rhan o Atodiad 1);

 

 (e)      bod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151 yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel bo’n angenrheidiol i gwblhau’r cytundeb, a

 

 (f)        bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried cynnwys yr Asesiad o’r Effaith ar Les Cyngor Sir Ddinbych sydd ynghlwm fel Atodiad 2 fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: