Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR FLAENORIAETH YMRYMUSO'R GYMUNED – EITHRIO DIGIDOL

Bydd Nicola Kneale (CSDd) yn arwain y drafodaeth ar yr eitem hon am y cyfleoedd i wella isadeiledd digidol yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

10.15 am – 10.45 am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Kneale yr adroddiad (a rannwyd yn flaenorol) yn manylu ar y cyfleoedd ar gyfer gwella isadeiledd digidol yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn dilyn cytundeb y Bwrdd yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf bod angen canolbwyntio ar bobl sy’n cael eu heithrio’n ddigidol a sgiliau digidol. [Cynigiwyd adroddiad ar sgiliau digidol ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.]

 

Cynghorwyd aelodau o’r safle gyfredol mewn perthynas â chysylltedd digidol a’r gefnogaeth sy’n bodoli ar gyfer gwella isadeiledd digidol. Roedd gan y ddwy sir lawer o ardaloedd gwledig gyda eiddo “gwyn” (eiddo sy’n derbyn llai na 30Mb).  Roedd gan BT Openreach gynllun i gyflwyno cysylltiadau ffeibr ar draws rhannau o'r siroedd erbyn mis Mehefin 2022, ond ni fyddai llawer o’r eiddo yn rhan o’r cynllun. Roedd cyllid gan gynllun taleb Rural Gigabite ar gael i’r sawl nad ydynt yn rhan o'r cynllun ffeibr a byddai cynllun arall gan y llywodraeth, Rhwydweithiau Ffeibr Llawn Lleol, yn cyflwyno cysylltiadau ffeibr llawn i adeiladau cyhoeddus o rŵan hyd at fis Mawrth 2021 (er efallai fydd ychydig o lithriant). Serch hynny, hyd yn oed ar ôl cyflwyno’r cynlluniau, byddai gan sawl ardal gysylltedd gwael o hyd. Mae Sir Ddinbych wedi buddsoddi mewn Swyddog Digidol (Chwefror 2020 – Mawrth 2021) a roedd Conwy wedi cynllunio i benodi Swyddog Digidol (Ionawr – Rhagfyr 2021) gyda gwahanol ddulliau o weithio i fynd i’r afael â’r mater. Roedd dadansoddiad o’r isadeiledd digidol wedi arwain at nifer o argymhellion i effeithio ar welliant, a oedd yn cynnwys proses flaenoriaethau ar gyfer cymunedau; cyllid hirdymor ar gyfer swyddi Swyddog Digidol, a dull ar y cyd o weithio o wybod y nifer yr eiddo “gwyn” sy'n ffinio’r siroedd.

 

Pwysleisiodd y Bwrdd bwysigrwydd cysylltedd da sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig gyda mwy o bobl yn gweithio o gartref a busnesau yn symud rhai o'u gweithgareddau ar-lein, a oedd yn darparu achubiaeth i sawl cymuned wledig hefyd. Awgrymodd y Cynghorydd Goronwy Edwards y dylid cynnal trafodaethau gyda BT Openreach o wybod yr ymagwedd dameidiog er mwyn darparu cyfle iddynt gydweithio ar ddull cydlynol o weithio i fynd i'r afael ag anghenion y cymunedau yn well.  Cefnogwyd argymhelliad i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gytuno ar ddiffiniad o ‘gymunedau gwledig’ gyda BT er mwyn blaenoriaethu’r cymunedau gyda’r diffy cysylltedd mwyaf. Cadarnhaodd Judith Greenhalgh bod cysylltedd digidol wedi cael ei gydnabod gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) fel blaenoriaeth uchel. I sicrhau nad oedd gwaith yn cael ei ddyblygu, awgrymodd i geisio diweddariad gan BUEGC er mwyn galluogi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau sut y gallant atodi’r cynlluniau gwaith hynny.  Cytunwyd i estyn gwahoddiad i Alwen Williams o’r BUEGC i gyfarfodydd yn y dyfodol i drafod y mater yn fanylach.  Cytunwyd hefyd i sicrhau a oedd mater wedi cael ei godi fel blaenoriaethau mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill gyda’r posibilrwydd ar gyfer dull o weithio ar y cyd er mwyn ymdrechu i gael mwy o ddylanwad mewn trafodaethau yn y dyfodol gyda Llywodraeth Cymru neu BT Openreach.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      bod aelodau’n nodi’r sefyllfa gyfredol o ran Cysylltedd Digidol (manylion yn Atodiad 1 yr adroddiad), ynghyd â dadansoddiad o Gryfderau, Cyfyngiadau, Gwendidau a Bygythiadau ar gyfer bob pwnc;

 

 (b)      gwahodd Alwen Williams o BUEGC i gyfarfod yn y dyfodol i drafod y ffrydiau gwaith sy’n cael eu cynnal i fynd ‘ir afael â chysylltedd digidol yn yr ardal, a

 

 (c)       cysylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill i sicrhau a oeddent wedi nodi cysylltedd digidol fel maes blaenoriaeth gyda’r posibilrwydd o ddarparu ymateb gydlynol mewn unrhyw drafodaethau gyda Bt Openreach a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn (10.40am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: