Eitem ar yr agenda
DIWEDDARIAD AR Y FLAENORIAETH CADERNID AMGYLCHEDDOL
Cael diweddariad
gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar y Flaenoriaeth Cadernid Amgylcheddol (copi’n
amgaeedig).
9.40 am – 10.15 am
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad (a rannwyd yn flaenorol) gan Gyfoeth Naturiol Cymru,
sy'n darparu diweddariad ar gynnydd ac adolygiad o’r pum maes gwaith yn y
flaenoriaeth Cadernid Amgylcheddol gan yr Is-grwpiau Cefnogi Cadernid
Amgylcheddol fel y gofynnwyd gan y Bwrdd yn sgil pandemig Covid-19, ac
amlinellwyd dau brosiect y cyflwynwyd i broses grant Dyrannu Cyllid Strategol
Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd.
Adroddodd Helen Millband ar ganfyddiadau'r adolygiad ynghyd ag argymhellion
yr Is-grŵp. Er bod y pum
maes gwaith yn cael eu hystyried i fod yn berthnasol o hyd, argymhellwyd bod y
prosiectau canlynol yn cael eu gohirio oherwydd capasiti neu nid yw'r amser yn
iawn yn ystod pandemig (1) gweithio gyda chymunedau i ddatblygu addewidion a
newidiadau gwyrdd, (2) edrych ar y broses graffu i wneud y mwyaf o fuddion
cymunedol o ddatblygiadau adeiladau, a (3) gweithio gyda thimau cynllunio i
sicrhau bod materion amgylcheddol yn cael eu hystyried wrth gynllunio
datblygiadau newydd. Awgrymwyd hefyd y
dylid datblygu blaenoriaeth newydd ynglŷn â gofodau gwyrdd a glas ar gyfer
cymunedau a nododd trafodaethau ynghylch gweithio o gartref a theithio dau is
weithred newydd dan y gam gweithredu lleihau carbon. Cafodd crynodeb o’r
meysydd gwaith hynny eu manylu yn yr adroddiad.
Trafodwyd syniadau am brosiectau ar gyfer £25,000 Cyfoeth Naturiol Cymru
gan yr is-grŵp, ac mae dau brosiect wedi cael eu cymryd ymlaen ar ôl y cyfarfod
sy’n ymwneud â (1) rhaglen pweru beics trydan ar yr Arfordir (£12,000) a (2)
Coetir Cymunedol Glan Morfa (£13,000).
Yn ystod
trafodaeth, cydnabuwyd y materion ynglŷn â chapasiti, ond roedd
amharodrwydd ar gyfer gohirio’r blaenoriaethau a nodwyd, yn benodol y buddion
amgylcheddol, a oedd wedi cael eu creu oherwydd y pandemig a'r momentwm
parhaus, a brwdfrydedd y cyhoedd o ran hynny. Adroddodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill bod Sir Ddinbych wedi newid ei gyfansoddiad yn ddiweddar i
sicrhau bod pob penderfyniad yn rhoi sylw i i’r effaith amgylcheddol ac roedden
nhw am ystyried y polisi buddion cymunedol cyn hir ac roedd yn pryderu y byddai
gohirio'r blaenoriaethau hynny yn profi i fod yn wrthgynhyrchiol. Roedd y farn
honno’n cael ei rhannu gan y Cynghorydd Goronwy Edwards, o wybod bod gymaint o
waith wedi cael ei gynnal wrth ymgysylltu gyda phreswylwyr a chynghorau
tref/cymuned o fewn Conwy ac roedd awydd gan gymunedau i gael eu cynnwys, ac
roedd yn teimlo y dylid datblygu hynny ymhellach. Er mwyn egluro’n bellach,
adroddodd Helen Millband bod yr is-grŵp yn teimlo bod capasiti yn
gyfyngedig ac roeddent wedi cwestiynu a oedd yn addas gyrru’r addewidion
amgylcheddol hyn ymlaen pan roedd cymunedau yn mynd i’r afael â sawl mater
arall. Serch hynny, byddai barn y Bwrdd yn cael ei adrodd yn ôl i'r
Is-grŵp. Fe wnaeth Helen MacArthur gydnabod y gwaith caled a gynhaliwyd yn
nhermau ymgysylltu â'r gymuned, ond petai’r blaenoriaethau hyn yn cael eu
gohirio, fe amlygodd bwysigrwydd deall effaith y camau hynny, a’r amserlen ar
gyfer eu datblygu yn y dyfodol. Cyfeiriodd Judith Greenhalgh at gyfoeth
ymgysylltu â'r gymuned a oedd wedi codi o’r ymgynghoriad cyfredol ar
Strategaeth Hinsawdd ac Ecoleg Sir Ddinbych, a thra bo sefydliadau statudol yn
cael hi’n anodd o ran capasiti, roedd y cymunedau yn ymatebol iawn ac roedd
hi’n teimlo y gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddal ddychymyg y cyhoedd ar
y mater hwn.
Trafododd y Bwrdd
y flaenoriaeth arfaethedig newydd ynghylch gofodau gwyrdd a glas. Ehangodd
Helen Millband ar y cyfle i adeiladu ar y frwdfrydedd newydd ar gyfer yr
amgylchedd lleol yn ystod y cyfnod clo cyntaf a’r posibilrwydd o helpu i adfer
a chysylltu i ddatblygu mewn perthynas â blaenoriaeth “Cefnogi Lled Meddyliol
Da i bob oed”. Adroddodd ymhellach ar y
ddau brosiect a oedd wedi eu cymryd ymlaen a’r cysylltiadau gyda’r gwaith fel
rhan o’r datganiadau ardal yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio
arnynt. Roedd llawer o gefnogaeth ar
gyfer y flaenoriaeth newydd a'r buddion i'r cymunedau, ond fe nodwyd efallai
bod effaith ar adnoddau o ran cynnal ardaloedd awyr agored a gwneud y mwyaf
ohonynt er budd i bawb. Atgoffodd y Cadeirydd y Bwrdd o’r cysylltiadau rhwng
Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd, a fe groesawodd
gyfranogiad sefydliadau partner yn y sesiynau ymgysylltu ar-lein hynny mewn
perthynas â gwaith datganiadau ardal a hwyluswyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Byddai manylion y sesiynau hynny’n cael eu rhannu ar ôl y cyfarfod.
Wrth ddod â'r
drafodaeth i ben, crynhodd y Cadeirydd sylwadau’r Bwrdd, sef yn hytrach na
gohirio’r meysydd blaenoriaeth yn syth, bydd angen cysylltu gyda chymunedau
gyda'r bwriad o adeiladu ar yr ymgysylltiad cadarnhaol a’r cynnydd sydd eisoes
wedi cael ei wneud. Cytunwyd bod angen
gwneud gwaith ar sut i barhau i ymgysylltu gyda chymunedau orau a chadw’r
brwdfrydedd, boed drwy addewidion o ofodau gwyrdd a glas, ac i weithio gyda’r
sawl sydd ag awydd am newid amgylcheddol, a chapasiti ar hyn o bryd, gyda’r
bwriad o ddarparu newidiadau cadarnhaol o fewn eu hardaloedd, yn hytrach na
rhoi’r cyfrifoldeb i sefydliadau statudol i’w gyflawni iddynt.
PENDERFYNWYD –
(a) derbyn a nodi’r
adroddiad cynnydd a’r adolygiad gan yr Is-grŵp Cefnogi Cadernid
Amgylcheddol;
(b) ailymweld â’r
blaenoriaethau presennol a chynnal gwaith cymunedol gyda’r bwriad o ddatblygu’r
meysydd gwaith hynny;
(c) datblygu
blaenoriaeth newydd sy’n adnabod pwysigrwydd gofodau gwyrdd a gas lleol ar
gyfer cymunedau;
(d) mae dau gam
gweithredu is-waith ychwanegol ynglŷn ag arferion gwaith staff
partneriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Lleol a sefydlu cysylltiadau gyda’r
strategaeth cludiant ac ynni rhanbarthol yn berthnasol, a
(e) cytuno ar
gyfrifoldeb awgrymedig wedi'i rannu ar gyfer adrodd a monitro camau gweithredu,
ar draws partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dogfennau ategol: