Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNNIG TWF GOGLEDD CYMRU CAM 2 – CYTUNDEB LLYWODRAETHU

Derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (copi ynghlwm) yn cyflwyno dogfennau allweddol i ddod i Gytundeb Bargen Derfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

10.10 – 10.50 a.m.

 

 

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal. 

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

yn amodol ar y sylwadau uchod -

(i)           ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth a’r dogfennau yn ymwneud â’r Cynnig Twf Terfynol a atodir fel Atodiad 1 i’r adroddiad, i gefnogi ac argymell y cynigion a gaiff eu cynnwys o fewn y dogfennau i’w cyflwyno i'r Cabinet a’r Cyngor i’w cymeradwyo yn ffurfiol; a

(ii)          chadarnhau ei fod fel rhan o’i ystyriaethau wedi darllen, deall ac ystyried cynnwys yr Asesiad o’r Effaith ar Les Cyngor Sir Ddinbych sydd wedi ei atodi fel Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Arweinydd y Cyngor, Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Rhoddodd Swyddog Monitro, Economi a Pharth Cyhoeddus, swyddog Adran 151 a’r Rheolwr Gweithrediadau o Swyddfa Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, wybodaeth gefndirol fanwl ynglŷn ag amcanion hirdymor y Fargen Twf, a ddatblygir mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd), a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Rhoddwyd manylion am y goblygiadau ariannol i bob partner, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych, a’r budd hirdymor a rhagwelir yn sgil y buddsoddi arfaethedig yn economi’r sir a’r rhanbarth.  Dylai aliniad clos rhwng y Strategaeth Sgiliau ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru a’r Fargen Twf gefnogi cyflawniad y rhaglenni a’r prosiectau a amlinellir yn y Cynllun Busnes a sicrhau ffyniant economaidd yr ardal i’r dyfodol.  Er bod prosiectau wedi eu lleoli mewn amrywiol ardaloedd ar draws y rhanbarth, rhagwelwyd y byddent i gyd mwy neu lai yn dod â budd i’r rhanbarth cyfan, gyda rhai prosiectau’n dod â budd i rai ardaloedd yn fwy nag eraill. Ond, cai hyn ei gydbwyso drwy brosiectau eraill ddoi â budd i ardaloedd eraill.  Dywedwyd wrth yr aelodau, er mwyn symud y Fargen ymlaen i’r cam gweithredu, sicrhau arian i gyflawni’r prosiectau a gwireddu’r budd economaidd a ragwelir, bod angen i bob partner gytuno ac arwyddo’r Cynllun Busnes Cyffredinol a Chytundeb Llywodraethu 2 cyn diwedd 2020. Roedd dogfen Cytundeb Llywodraethu 2 yn rhoi fframwaith llywodraethu i’r cytundeb fyddai’n manylu ar strwythurau a phrosesau fyddai’n cael eu rhoi yn eu lle i ddiogelu pob partner a sicrhau trefniadau monitro a chraffu agored a thryloyw, er mwyn diogelu atebolrwydd y penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd ar ran ei holl asiantaethau partner.

 

Er bod gan aelodau’r Pwyllgor bryderon ynglŷn ag effaith posibl pandemig COVID-19, ynghyd ag ansicrwydd ynglŷn â BREXIT ac effaith unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol ar brosiectau a ffurfiwyd fel rhan o’r Cytundeb arfaethedig yn ogystal â ffyniant economaidd a gwydnwch yr ardal, roeddent yn cydnabod fod y Bwrdd wedi adnabod y risgiau hyn ac yn eu monitro.  Sicrhawyd yr aelodau fod y trefniadau llywodraethu a amlygwyd yn y ddogfen Cytundeb Llywodraethu 2 a’r Achos Busnes Cyffredinol yn gosod cap ar gyfraniad ariannol blynyddol pob awdurdod tuag at y Fargen Twf, gyda mesurau diogelu mewn lle a olygai, pe bai angen unrhyw arian ychwanegol, y byddai’n rhaid sicrhau proses ddemocrataidd pob awdurdod i’w gymeradwyo cyn y gellid ei ddarparu.

 

Arweinydd y Cyngor, Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Bu Swyddog Monitro, Economi a Pharth Cyhoeddus, Swyddog Adran 151 a Rheolwr Gweithrediadau'r Bwrdd yn ateb cwestiynau'r aelodau mewn perthynas ag amrywiol agweddau ar waith y Bwrdd hyd yma, y Fargen Twf a'r Cynllun Busnes cysylltiedig a’r amcanion hirdymor, a’r Trefniadau Llywodraethu, gan gynnwys craffu ar y Bwrdd a’r Fargen Twf i’r dyfodol.  Trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder:

·         Cafwyd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn nhwf busnesau a symud ymlaen, yn lleol ac yn rhanbarthol. Drwy gydol pandemig Covid-19 roedd yr awdurdod a’r sector preifat wedi dangos hyblygrwydd a chadernid er mwyn goresgyn rhwystrau a phryderon.

·         Nodwyd, gyda phrosiectau Cyfalaf y byddai perygl cyson o orwario. Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol mai penderfyniad y Bwrdd fyddai cefnogi gorwario ar brosiectau. Byddai’r gwariant mwyaf yn swm o £240 miliwn. Nododd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo mai’r tebygrwydd mwyaf fyddai gweld gorwario mewn prosiectau adeiladu mawr megis colegau. Byddai’r prosiectau rhanbarthol yn fwy syml ac yn aros o fewn eu cyllideb. Roedd gan swyddfa’r rhaglen gyfrifoldeb i fonitro’r prosiectau. Pwysleisiwyd fod gan yr Awdurdod uchafswm cyfraniad o £90K, ac os byddai’n rhaid adolygu hynny, byddai’n rhaid ei gyflwyno nôl i’r awdurdod lleol i gytuno arno.

·         Cafwyd cadarnhad fod y noddwr arweiniol yn cyfeirio at noddwr arweiniol unrhyw brosiect unigol. Roedd y corff atebol yn cael ei reoli a’i ddiffinio yn dynn iawn. Byddai Cyngor Gwynedd, y Corff Atebol, yn derbyn yr arian gan y Llywodraeth ar ran y rhanbarth ac yn gweinyddu’r arian i’r prosiectau penodol. 

·         Rhoddodd Rheolwr Gweithrediadau’r Bwrdd wybod i’r aelodau fod y pedwar prif brosiect yn anelu at fynd i’r afael ag anghenion band eang. Byddai un o’r prosiectau hynny’n canolbwyntio ar y problemau gwledig yn ymwneud â chyswllt band eang.  Pwysleisiwyd bod angen gwirioneddol am gysylltiad band eang da. Atgoffwyd yr aelodau o’r strategaeth ddigidol ranbarthol oedd yn cynnwys mecanwaith ariannu amgen.

·         Y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Nododd Economi a Pharth Cyhoeddus y gallai un risg posibl fod ynghlwm â’r cyfraniad ariannol. Efallai na fydd rhai o’r prosiectau ar gyfer Sir Ddinbych yn cael eu cyflawni fel y bwriadwyd a hynny oherwydd amgylchiadau neu sefyllfaoedd nas rhagwelwyd ond fel awdurdod, byddai’n ddyletswydd ar y Cyngor i gyfrannu’n ariannol. Yn gyffredinol, pwysleisiwyd y byddai gwelliannau rhanbarthol yn treiddio i lawr i bob economi leol. Rhoddwyd cadarnhad fod trefniadau llywodraethu cadarn mewn lle er mwyn lleihau risg. Amlygodd Rheolwr Gweithrediadau’r Bwrdd beth yw effaith Covid-19 ar y sector preifat. Byddai sicrhau lefel buddsoddiad gan y sector preifat, er mwyn gweld effaith a budd mwyaf posibl y fargen twf i’r rhanbarth, yn cael ei weld fel risg posibl. Pwysleisiwyd fod swyddogion yn teimlo fod budd y cynnig Twf yn gorbwyso’r risgiau.

·         Roedd y safleoedd a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer safleoedd yn ymwneud â thai a allai ddenu arian drwy’r rhaglen tir ac eiddo, yn bennaf yn safleoedd oedd eisoes wedi eu dynodi ar gyfer datblygiad o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Cadarnhawyd fod gan safleoedd elfennau o ganiatâd cynllunio neu geisiadau wedi eu cychwyn. Roedd y pecyn ariannu ar gyfer tai yno i helpu i ddatblygu safleoedd y cytunwyd arnynt eisoes ar gyfer datblygu. Gobeithiwyd y byddai’r prosiectau yn annog pobl i fyw a gweithio o fewn yr awdurdod a dod â budd i’r economi.

·         Roedd yr adroddiad yn cynnwys y waelodlin isaf ar gyfer buddsoddiad. Roedd y gwaith i ennill buddsoddiad pellach gan y sector preifat yn parhau.

·         Byddai’r cynnig yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor er mwyn cymeradwyaeth y cynllun busnes cyffredinol, sy’n nodi'r strategaeth ynglŷn â sut byddai’r cynllun twf yn cael ei weithredu. Byddai achosion busnes y prosiectau unigol o fewn y rhaglenni yn cael eu cymeradwyo gan Gyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Pe bai angen newid y cynllun busnes cyffredinol, byddai’n rhaid ei gyflwyno a chael cytundeb arno gan bob un o’r Awdurdodau Lleol a’r partneriaid.

Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau'r Gyfraith, AD a Democrataidd fod dwy ddarpariaeth mewn lle i bartneriaid dynnu allan o’r cytundeb. Yn gyntaf byddai’n rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o 12 mis cyn tynnu allan a hynny’n dilyn y cyfnod ymrwymo o 6 mlynedd. Y dull arall fyddai hysbysiad terfynu. Gwneid hyn yn dilyn rhybudd diffygion yn nodi dulliau o ddiwygio unrhyw wahaniaethau yn y rhwymedigaethau nad oeddent wedi eu cyflawni. Byddai unrhyw bartner fyddai’n gadael y cytundeb yn cael adroddiad atebolrwydd ac yn gyfrifol am y costau y maen nhw eisoes wedi ymrwymo iddynt, yn ogystal â chostau a ddoi o ganlyniad i'r tynnu nôl neu'r terfynu.

Ar ôl ystyried y ddogfennaeth a’r wybodaeth a gafwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon ac wedi ei sicrhau y byddai Cytundeb Llywodraethu 2 yn rhoi fframwaith cadarn ar gyfer llywodraethu ac atebolrwydd, rheoli risg, monitro perfformiad ac ansawdd, a threfniadau craffu, gan gefnogi cyflawni amcanion y Cytundeb ar gyfer Sir Ddinbych a’r rhanbarth. Roedd yr aelodau o’r farn fod y Fargen Twf yn rhoi cyfle gwych i’r rhanbarth wireddu ei botensial economaidd, ond yn pwysleisio’r angen, unwaith y byddai Cytundeb y Fargen Twf wedi ei gymeradwyo a’i sicrhau, y dylai’r Bwrdd gysylltu ei waith â gwaith rhaglenni eraill uchel eu proffil, megis Pwerdy Gogledd Lloegr, er mwyn ceisio cael y budd mwyaf i’r rhanbarth o’r prosiectau a’r buddsoddiad a wnaed.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl a thrylwyr gan y Pwyllgor:  

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

Ar ôl ystyried yr wybodaeth a roddwyd yn ystod y drafodaeth a’r dogfennau yn ymwneud â’r Fargen Twf Terfynol a atodwyd fel Atodiad 1 i’r adroddiad, y dylid cefnogi ac argymell y cynigion yn y dogfennau i’w cyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor er mwyn eu hardystio a’u cymeradwyo’n ffurfiol; a

bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried cynnwys yr Asesiad o’r Effaith ar Les Cyngor Sir Ddinbych sydd ynghlwm fel Atodiad 2 i’r adroddiad fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: