Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ARCHIFAU GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU A CHARCHAR RHUTHUN

Ystyried adroddiad gan Reolwr Tîm Trawsnewid Busnes (copi ynghlwm) sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am y prosiect archifau ac sy’n gofyn am farn yr aelodau am y cynigon ar gyfer defnydd Carchar Rhuthun i'r dyfodol.

 

11.30am – 12pm

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 6 o blaid, 1 yn erbyn, 0 ymatal.

 

Ar ôl rhoi ystyriaeth i’r adroddiad am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Charchar Rhuthun, gwnaeth y Pwyllgor:

 

Benderfynu:

 

(i)           nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a chefnogi’r cynigion ar gyfer defnyddio Carchar Rhuthun yn y dyfodol;

(ii)          cofnodi pryderon nad oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer yr Archifau na’r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun, pe na bai’r cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid i ddatblygu Hyb yn yr Wyddgrug ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn llwyddiannus; a

(iii)         bod canlyniadau Ymgynghoriad Mynediad presennol Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu dosbarthu i aelodau er gwybodaeth.

 

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, Tony Thomas, Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio, Alan Smith, Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth, Huw Rees,  Rheolwr y Tîm Gwybodaeth Busnes, Craig Berry,  yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Mae’r cyflwyniad yn dilyn adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Hydref 2019, yn amlinellu cynlluniau ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a’r posibilrwydd o'i symud i'r Wyddgrug erbyn 2025 (yn amodol ar Gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri). Yn ystod y cyfarfod hwn, gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad yn ystod 2020 ar y defnydd o le gwag posibl yng Ngharchar Rhuthun.

 

Sefydlwyd gweithgor yn gynharach yn y flwyddyn i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y defnydd hirdymor o Garchar Rhuthun. Roedd y gweithgor yn cynnwys Aelodau Lleol, swyddogion allweddol a chynrychiolydd o Gyngor Tref Rhuthun ac wedi datblygu cynlluniau cyffrous ac arloesol i ymestyn yr atyniad treftadaeth yn y Carchar, fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Roedd y Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio wedi clustnodi £65,000 o arian wrth gefn er mwyn hwyluso’r gwaith ymestyn.

 

Roedd y cynlluniau ar gyfer y Carchar yn unol â’r gyllideb a ddyrannwyd, sef £65,000, byddai’r gyllideb yn cael ei defnyddio p’un a fyddai’r Gwasanaeth Archifau yn symud neu beidio. Byddai’r estyniad arfaethedig i’r Gwasanaeth Treftadaeth ar y safle yn ymgorffori’r adeilad sy'n wag ar hyn o bryd ar 46 Stryd Clwyd. Roedd ystod o ffrydiau cyllido allanol yn cael eu harchwilio gyda'r bwriad o ddarparu'r prosiect cyfan.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Gofynnodd y pwyllgor pam fod yr eitem yn cael ei thrafod cyn cwblhau’r ymgynghoriad cyhoeddus. Cadarnhaodd swyddogion fod angen ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer cam nesaf y cynnig am gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer Canolfan y Gwasanaethau Archifau. Byddai’r ymgynghoriad yn cael ei hysbysebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau ymgysylltiad helaeth â’r cyhoedd.

·         Byddai presenoldeb Archifol yn y Carchar p’un a fyddai’r Gwasanaeth Archifau’n ail-leoli neu beidio. Byddai cofnodion ar gael ar-lein neu byddai modd cael mynediad atynt yn ddigidol mewn llyfrgelloedd lleol. Byddai presenoldeb corfforol ar y safle un neu ddau ddiwrnod yr wythnos yn ogystal. Roedd angen cadarnhau’r manylion.

·         Roedd y bartneriaeth rhwng Gwasanaethau Archifau Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint yn anffurfiol ar hyn o bryd, a gallai unrhyw Gyngor adael y cytundeb ar unrhyw bryd. Fodd bynnag, roedd y bartneriaeth yn gweithio'n dda ar hyn o bryd.

·         Roedd y cynigion ar gyfer y Carchar yn ddibynnol ar y Gwasanaeth Archifau yn gadael y safle. Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn gweithio ar weledigaeth ehangach ar gyfer y cyfleuster.

·         Nodwyd y gwahaniaeth rhwng bolisïau iaith Gymraeg CSDd a CSyFf, ac roedd aelodau yn gofyn am sicrwydd o ran pa bolisi fyddai’n cael ei fabwysiadu pe bai Canolfan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei hadeiladu. Cynghorwyd y pwyllgor y byddai'n rhaid pennu'r polisi iaith fel rhan o'r broses o benodi 'partner arweiniol’ os, a phan fydd y cynnig am gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri yn llwyddiannus.

 

Cymerwyd pleidlais ar yr argymhelliad: 6 o blaid, 1 yn erbyn, 0 ymatal.

 

Ar ôl rhoi ystyriaeth i’r adroddiad am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Charchar Rhuthun:

 

Penderfynwyd:

 

(i)  nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a chefnogi’r cynigion ar gyfer defnyddio Carchar Rhuthun yn y dyfodol;

(ii)  cofnodi pryderon nad oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer y Gwasanaeth Archifau na’r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun, pe na bai’r cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid i ddatblygu Canolfan yn yr Wyddgrug ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn llwyddiannus; a

(iii)  bod canlyniadau Ymgynghoriad Mynediad presennol Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu dosbarthu i aelodau er gwybodaeth.

 

 

Dogfennau ategol: