Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI BUDDION CYMUNEDOL

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Canolbwynt Cymunedol (copi ynghlwm) sy’n gofyn am sylwadau a chefnogaeth y Pwyllgor i Bolisi Buddion Cymunedol y Cyngor a’r argymhellion mewn perthynas â’i ddefnydd.

 

10.45am – 11.15am

 

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynodd y Pwyllgor: - ar ôl ystyried y polisi -

 

(i)           cefnogi ei nodau a’i amcanion;

(ii)          cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2); ac

(iii)         argymell o ran tudalen 4 y polisi, dan yr adran ‘Mentrau Cynaliadwyedd Amgylcheddol’, bod y geiriau “cyfyngu ar lygredd” yn cael eu disodli â “cyfyngu ar lygredd lle bo’n bosibl”.

 

 

Cofnodion:

Roedd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, Julian Thompson-Hill, y Rheolwr Buddion Cymunedol, Karen Bellis a Rheolwr y Fframwaith, Tania Silva yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar y polisi Buddion Cymunedol arfaethedig a'i aliniad gyda chynlluniau corfforaethol a blaenoriaethau'r Cyngor.

 

Ym mis Mehefin 2019, cymeradwyodd Bwrdd Rhaglen Pobl Ifanc a Thai Cyngor Sir Ddinbych y bwriad i greu Canolbwynt Buddion Cymunedol (Canolbwynt BC), ynghyd â chynnwys buddion cymunedol ym mhob contract perthnasol. Byddai’r Canolbwynt yn darparu cymorth ac yn galluogi Gwasanaethau i gynnwys BC mewn contractau cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

Mae proses y gylched gomisiynu yn ganolog i gyflawni gwerth gorau a chanlyniadau ar gyfer gwariant CSDd a disgwylir y bydd defnyddio dull gweithredu BC yn gynnar yn y broses yn cyfrannu at godi gwerth gwariant CSDd. Penodwyd Swyddog Canolbwynt BC ym mis Chwefror 2020 a Rheolwr Canolbwynt BC ym mis Mawrth. Byddai Polisi Buddion Cymunedol CSDd yn cefnogi gwaith a chamau gweithredu’r Canolbwynt BC i gyflawni canlyniadau a thargedau a fwriadwyd.

 

Gwariodd y Cyngor £116 miliwn yn 2017/18 felly gyda dychweliad cymedrol o 1% mewn BC gallai hyn gynhyrchu gwerth £1.16 miliwn o fuddion newydd bob blwyddyn. Byddai’r Polisi hwn yn cefnogi gwaith y Canolbwynt BC a swyddogion y cyngor y mae’n eu cefnogi i gael mynediad at gyllid a buddion tebyg i gryfhau blaenoriaethau ein cynllun corfforaethol a fydd yn helpu ein cymunedau i fod yn fwy annibynnol a chadarn. Mae’r Cyngor yn darparu ei wasanaethau yn uniongyrchol trwy ei weithlu ei hun a thrwy sefydliadau preifat a’r trydydd sector. Mae hefyd yn caffael ystod eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan dros 4,500 o gyflenwyr, darparwyr gwasanaeth a chontractwyr.

 

Byddai’r Polisi BC yn darparu fframwaith ar gyfer budd-ddeiliaid mewnol ac allanol i fod yn weithredol mewn ymgysylltiad parhaus sy’n datblygu gan ein galluogi i fonitro a gwerthuso, dysgu gwersi, mesur effaith a dylunio cynlluniau BC sy’n addas i’r diben yn y dyfodol. Byddai’r polisi hefyd yn cefnogi’r Canolbwynt BC i olrhain, monitro ac adrodd am ganlyniadau buddion cymunedol ar draws y cyngor a bod yn fodd o asesu cryfder, bywiogrwydd a pherfformiad Cynllun Corfforaethol 2017-2022. Yn ei dro defnyddir hwn i ffurfio strategaethau ar gyfer gwelliannau a dylanwadu ar benderfyniadau polisi. Byddai hefyd yn darparu cyfleoedd i gynnwys cymunedau lleol yn narpariaeth buddion cymunedol.

 

Roedd y Canolbwynt drwy eu gwaith yn ceisio cynyddu buddion ac effaith pob penderfyniad yn unol â'r dyletswyddau a roddir ar gyrff cyhoeddus gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy sicrhau budd ariannol mewn contractau yn ogystal ag effaith cadarnhaol hirdymor.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai modd i swyddogion y BC gydweithio’n agos gydag aelodau etholedig, nododd swyddogion y byddent yn cysylltu gydag aelodau lleol gan mai nhw sydd yn y lle gorau i ymgysylltu a chyfathrebu â phobl leol ar faterion sydd o ddiddordeb i gymunedau.

·         Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor a fyddai modd newid y geiriad o fewn y polisi o ‘gyfyngu ar lygredd’ i ‘atal llygredd'.  Cynghorodd aelodau a swyddogion eraill bod ‘atal llygredd’ neu ddileu llygredd bron yn amhosibl ac awgrymwyd felly y dylid diwygio’r geiriad i ‘gyfyngu ar lygredd lle bo’n bosibl’. Cytunodd y Pwyllgor i’r diwygiad hwn.

 

Cymeradwyodd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd y gwaith a gwblhawyd gan y Swyddogion i ddatblygu’r Polisi a bwrw ymlaen â’i weithrediad.  Roedd hefyd yn cytuno â barn y swyddogion y byddai diweddariadau rheolaidd ar y Polisi a dialog gyda Grwpiau Ardal Aelodau ar gynlluniau posibl o fewn eu hardaloedd lleol a allai elwa o’r Polisi yn allweddol os yw’r polisi am wireddu ei botensial a gwneud y mwyaf o’r arian sydd ar gael ar gyfer prosiectau lleol.

 

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

 

 

Penderfynwyd: - ar ôl ystyried y polisi -

 

(i)           cefnogi ei nodau a’i amcanion;

(ii)  cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2); ac

(iii)argymell o ran tudalen 4 y polisi, dan yr adran ‘Mentrau Cynaliadwyedd Amgylcheddol’, bod y geiriau “cyfyngu ar lygredd” yn cael eu disodli â “cyfyngu ar lygredd lle bo’n bosibl”.

 

 

Dogfennau ategol: