Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

EFFAITH ADOLYGIAD ADDYSG GYNRADD RHUTHUN

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr - Cefnogi Ysgolion (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor asesu effaith adolygiad addysg gynradd ardal Rhuthun yn erbyn nodau lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015..

 

10.10am – 10.45am

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 1 ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

ar ôl ystyried y canfyddiadau yn yr adroddiad ac a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth -

 

(i)           derbyn y wybodaeth am effaith Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun fel y’i haseswyd yn erbyn saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;

(ii)          cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1);

(iii)         bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei baratoi i’w ddosbarthu i aelodau am yr effaith economaidd ar Rhewl yn dilyn cau’r ysgol fel rhan o adolygiad addysg gynradd Rhuthun;

(iv)        bod gwybodaeth yn cael ei darparu i aelodau sy’n cynnwys ystadegau’r Arolwg o’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar draws Sir Ddinbych yn ddiweddar; a

(v)          bod diolchgarwch aelodau yn cael ei gyfleu i holl staff yr ysgol, y Gwasanaeth Addysg a Gwasanaethau eraill y Cyngor am eu hymdrechion a’u hymrwymiad o ran sicrhau darpariaeth addysg a chefnogaeth i ddisgyblion y sir trwy gydol pandemig COVID-19.

 

Cofnodion:

Roedd y Pennaeth Addysg Dros Dro, Geraint Davies (GD), Prif Reolwr – Cefnogi Ysgolion, James Curran (JC) yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts adroddiad yn darparu gwybodaeth ynghylch effaith adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun yn erbyn saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Cytunodd Cabinet Sir Ddinbych ym mis Tachwedd 2012 i ddechrau ymgynghoriad anffurfiol ar adolygiad o Addysg Gynradd yn ardal Rhuthun. Cytunwyd y byddai adolygiad yr ardal yn canolbwyntio ar yr amcanion canlynol:  sicrhau cynaliadwyedd darpariaeth addysg o ansawdd uchel; gwella ansawdd adeiladau ysgol a chyfleusterau a darparu’r nifer cywir o lefydd, o’r math cywir yn y lleoliad cywir. Adolygodd y Cabinet ganfyddiadau’r ymgynghoriad anffurfiol a gwnaethpwyd chwe argymhelliad a fyddai’n cael effaith ar ddarpariaeth ysgolion yn yr ardal.

 

Yn ei hanfod, roedd y canlyniadau yn gadarnhaol ar gyfer y mwyafrif o bobl, roedd yr ardal wedi elwa o fuddsoddiad sylweddol, ond dysgwyd gwersi yn sgil rhai profiadau hefyd h.y, yr ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanbedr D.C. Ar y cyfan, roedd yr ymgynghoriad yn brofiad buddiol. Roedd plant yn derbyn addysg mewn amgylcheddau da ac roedd cryn dipyn o arian wedi’i fuddsoddi yn ardal Rhuthun. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal hefyd.

 

Roedd y Pennaeth Addysg Dros Dro yn cytuno â’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod y buddsoddiad a wnaed i ysgolion wedi gwneud y profiad addysg yn llawer haws ac yn llawer mwy cynhyrchiol i athrawon a disgyblion. Nodwyd hefyd bod canlyniad cadarnhaol annisgwyl ac anfwriadol wedi deillio o’r buddsoddiad, sef fod yr adeiladau mawr newydd yn yr ysgolion wedi ei gwneud yn haws i gadw at y rheolau COVID.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Pwyllgor, yn dilyn ymgyrch llwyddiannus i gadw Ysgol Llanbedr DC ar agor, roedd nifer y disgyblion wedi parhau i gynyddu.

·         Gofynnodd Aelodau a oedd asesiad o effaith dilynol wedi cael ei gynnal ers cau Ysgol Rhewl i weld yr effaith ar y gymuned a'r economi. Dywedodd Swyddogion fod adroddiad gwybodaeth wedi cael ei rannu ar effaith y penderfyniad i gau’r ysgol ar ddisgyblion. Gofynnodd yr aelod lleol i adroddiad gael ei gynhyrchu ar yr effaith ar gymuned ac economi ardal Rhewl.

·         Amlygodd Swyddogion yr effaith ar y Gymraeg yn yr ardal. Roedd cynnydd wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac roedd cynnig yr iaith Gymraeg wedi cynyddu.

·         Cadarnhawyd bod yr Adolygiad o Ardal Rhuthun wedi'i ddarparu o fewn y gyllideb, ac er mai prif ffocws Llywodraeth Cymru ar ddechrau'r adolygiad oedd lleihau lleoedd gwag, dros amser, rhoddwyd rhagor o ffocws ar y cynnig addysg i ddisgyblion. Roedd adroddiadau Estyn diweddar ar ysgolion a oedd yn rhan o’r adolygiad o ardal Rhuthun wedi amlygu canlyniadau cadarnhaol i ddisgyblion a oedd yn deillio o’r adolygiad.

·         Nid oedd unrhyw un wedi mynegi pryderon mewn perthynas â diogelwch yn sgil mannau agored mawr gyda staff ysgolion a’r Gwasanaeth Addysg ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau negyddol gan Lywodraethwyr Ysgolion mewn perthynas â materion o’r fath. Gellid ystyried yr agwedd o les ymhellach.  Roedd ysgolion yn teimlo’n fwy diogel gan fod angen ffobiau i gael mynediad at yr adeiladau ac yn sgil y ffensys diogelwch o amgylch ysgolion.

·         Roedd gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau darpariaeth mannau awyr agored ymarferol a theg ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos; a 

·         Chadarnhawyd y bydd atebion ynni adnewyddadwy yn cael eu hystyried fel rhan o gynigion Band B Ysgolion yr 21ain ganrif

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, cymerwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 1 ymatal

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

ar ôl ystyried y canfyddiadau yn yr adroddiad ac a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth -

 

(i)  derbyn y wybodaeth am effaith Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun fel y’i haseswyd yn erbyn saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;

(ii)   cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1);

(iii)  bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei baratoi i’w ddosbarthu i aelodau am yr effaith economaidd ar Rhewl yn dilyn cau’r ysgol fel rhan o adolygiad addysg gynradd Rhuthun;

(iv)  bod gwybodaeth yn cael ei darparu i aelodau sy’n cynnwys ystadegau’r Arolwg o’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar draws Sir Ddinbych yn ddiweddar; a

(v)   bod diolchgarwch aelodau yn cael ei gyfleu i holl staff yr ysgol, y Gwasanaeth Addysg a Gwasanaethau eraill y Cyngor am eu hymdrechion a’u hymrwymiad o ran sicrhau darpariaeth addysg a chefnogaeth i ddisgyblion y sir trwy gydol pandemig COVID-19.

 

 

Dogfennau ategol: