Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

EITEM O’R PWYLLGOR CRAFFU – ADOLYGU PENDERFYNIAD CABINET SY’N BERTHNASOL I GAEL GWARED AR DIR GER YSGOL PENDREF, DINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau (copi ynghlwm) yn nodi casgliadau y daeth y Pwyllgor Craffu iddynt yn dilyn ystyried penderfyniad y Cabinet a alwyd i mewn ar 22 Medi 2020, o ran cael gwared ar dir yn ymyl Ysgol Pendref ac argymell i’r Cabinet i ailedrych ar ei benderfyniad i ystyried casgliadau’r Pwyllgor Craffu ac argymhellion pellach.

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 4 o blaid, 4 yn erbyn, 0 ymataliad; Defnyddiodd yr Arweinydd ei bleidlais fwrw i bleidleisio o blaid y penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet  

 

(a)       Yn cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o benderfyniadau’r Cabinet ar 22 Medi 2020;

 

(b)       Ar ôl adolygu eu penderfyniad ac ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau, gadarnhau penderfyniad y Cabinet ar 22 Medi i:

 

(i)    cymeradwyo gwaredu tir wrth ymyl Ysgol Pendref, Dinbych a amlinellir mewn coch ar y cynllun (Atodiad A yr adroddiad) nad oes ei angen ar y Cyngor, ar y farchnad agored ar gyfer datblygiad preswyl, a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i gymeradwyo’r gwerthiant terfynol, a

 

(ii)  cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o Effaith ar Les i ystyriaeth (Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, adroddiad oedd yn rhoi manylion y casgliadau a gyrhaeddwyd gan y Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyried y cais galw i mewn o ran penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi 2020 i gael gwared ar dir ger Ysgol Pendref, Dinbych, nad oedd y cyngor ei angen mwyach, ar y farchnad agored ar gyfer datblygiad preswyl.

 

Hysbyswyd y Cabinet am y trafodaethau manwl a gynhaliwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau mewn perthynas â phenderfyniad y Cabinet.  Nodwyd casgliadau’r Pwyllgor Craffu yn yr adroddiad, ynghyd â’i argymhellion.  Yn gryno, roedd y Pwyllgor wedi argymell bod y Cabinet yn -

 

·         cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu;

·         ailedrych ar ei benderfyniad gan roi ystyriaeth i’r weledigaeth ar gyfer tai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn y dyfodol fel a nodir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd drafft, ‘Cymru’r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040’;

·         gohirio’r penderfyniad o ran y safle penodol hwn am 12 mis, nes i’r fframwaith datblygu cenedlaethol newydd gael ei gytuno;

·         ystyried opsiynau i wneud y tir yn fwy deniadol i landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr llai drwy ei rannu’n barseli/blotiau llai, a

·         peidio creu gorgyflenwad o dai anfforddiadwy mawr yn Ninbych, nad ydynt yn diwallu angen lleol.

 

Fel Aelod Arweiniol, atgoffodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y Cabinet fod y tir dan sylw wedi cael ei ddyrannu ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn 2013, yn dilyn yr holl brosesau a chamau ymgynghori priodol.  Roedd y tir wedi’i gadw yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ac felly byddai unrhyw dderbyniad cyfalaf o’r gwerthiant yn cael ei glustnodi ar gyfer y CRT ac ni ellid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddiben arall.  Ymatebodd i argymhellion y pwyllgor craffu fel a ganlyn -

 

·         mae fframwaith datblygu cenedlaethol newydd LlC yn dal i fod ar ei ffurf ddrafft heb unrhyw arwydd y bydd unrhyw gyllid newydd yn cael ei gynnig i gefnogi’r dyheadau am dai fforddiadwy. 

Er y gallai awdurdodau lleol gael gafael ar grant tai cymdeithasol o Ebrill 2021 ymlaen, swm penodol fyddai’r cyllid hwn wedi’i dorri allan o gyllidebau presennol, y byddai angen i gynghorau ymgeisio yn erbyn ei gilydd amdano a chyfrannu’n ariannol tuag ato.  Byddai’r gyfradd ymyrraeth o 58% ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael ei diogelu ac nid oedd disgwyl i’r swm i gynghorau fod yn fawr iawn;

·         nid yw gohirio penderfyniad yn y gobaith y gallai rhywbeth ddigwydd yn y dyfodol yn ffordd gynaliadwy o wneud penderfyniadau. 

Roedd y derbyniad cyfalaf o werthu’r safle eisoes wedi’i ragdybio yng nghynllun busnes y CRT a byddai unrhyw oedi yn effeithio ar gyflawniad y cynllun hwnnw, gan arwain at lai o dai newydd neu lai o waith cynnal a chadw i’r stoc bresennol neu gyfuniad o’r ddau, a byddai yna gyfnod hirach o aros am dai fforddiadwy ar y safle;

·         roedd yna resymau pwysig pam na fyddai’n ymarferol rhannu’r safle’n blotiau datblygu llai, sef yr effaith ar y derbyniad cyfalaf a chost fesul uned y tai fforddiadwy a gynigir, sy’n codi o gost uwch y datblygiad a gwerth is y tir. 

Roedd plotiau llai yn cynyddu costau ar bob cam o’r datblygiad a byddai angen i gonsortiwm o ddatblygwyr gytuno ar raglen gyfan o waith cyn prynu.  Gallai’r cyngor ddarparu’r seilwaith ar eu risg a’u cost eu hunain heb sicrwydd y gallent adennill yr arian gan brynwyr y dyfodol, a byddai hefyd yn lleihau neu’n negyddu unrhyw dderbyniad cyfalaf;

·         o ran creu gorgyflenwad o dai anfforddiadwy nad ydynt yn diwallu angen lleol, byddai’r gwerthiant arfaethedig yn digwydd ar y farchnad agored gydag amod o 20% o dai fforddiadwy, sy’n darparu dwbl nifer yr unedau fforddiadwy sy’n ofynnol dan y CDLl. 

Roedd galw heb ei fodloni am dai fforddiadwy a thai'r farchnad agored yn Ninbych, a byddai’r safle'n mynd i’r afael â hyn i ryw raddau.  Roedd disgwyl dan Bolisi BSC1 y byddai datblygiad yn darparu amrywiaeth o ddeiliadaethau i adlewyrchu’r angen a’r galw am safleoedd datblygu, a byddai cymysgedd o ddatblygiadau’n bodloni’r polisi hwnnw.  Cafwyd cryn drafodaeth yn y pwyllgor craffu am effaith datblygiadau tai eraill, yn enwedig mewn perthynas â safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru, gyda thua 300 o gartrefi’n cael eu cynnig ar y safle hwnnw.  Byddai’r tai hynny’n cael eu cyflwyno’n raddol dros gyfnod o ddeng mlynedd ac mae'n debygol y byddent o wahanol ddeiliadaeth i'r tai hynny a gynigir ar y safle dan sylw;

·         o ran cefndir, roedd tua 123 o unedau fforddiadwy newydd wrthi’n cael eu hadeiladu neu eisoes wedi’u cynllunio ar gyfer Dinbych, heb gynnwys yr 20% o’r safle hwn. 

Cyfeiriwyd yn y pwyllgor craffu at ddata a ffigyrau Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) ar gyfer Dinbych, ond roedd hefyd yn bwysig cadw mewn cof yr amseroedd aros am dai fforddiadwy yn yr amrywiol gymunedau, gyda ffigyrau Dinbych yn sylweddol is na’r Rhyl neu Brestatyn.  Roedd y CDLl drafft hefyd yn cynnwys targed llawer is o ran tai newydd dros gyfnod y cynllun.

 

Ar ôl adolygu argymhellion y pwyllgor craffu, dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill na allai eu cefnogi am y rhesymau a amlinellodd, ac argymhellodd fod y Cabinet yn ailddatgan ei benderfyniad i gael gwared ar y safle ar y farchnad agored.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, ac i gynnig rhywfaint o gyd-destun i’r fframwaith cenedlaethol drafft newydd, dyfynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus o’r nodiadau a amgaewyd gyda’r ddogfen ar wefan LlC, a nododd nad oedd yn fersiwn newydd na therfynol, ond yn ddogfen weithredol a allai newid yn dilyn proses graffu’r Senedd, ac na ddylid ei defnyddio fel ffynhonnell bolisi.

 

Trafododd y Cabinet rinweddau argymhellion y pwyllgor craffu yn helaeth, ac roedd y farn yn gymysg o ran p’un a luniwyd achos i gyfiawnhau penderfyniad gwahanol.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Mark Young nad oedd y safle dan sylw na safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru wedi cael caniatâd cynllunio, a oedd yn destun proses ar wahân.  Mynegodd bryder mai dim ond 20 o dai fforddiadwy fyddai'n cael eu cynnig allan o’r 400 o dai ar draws y ddau safle, a chredai fod cyfle i’r cyngor fod yn fwy uchelgeisiol.  Felly cefnogodd y cynnig i ohirio gwneud penderfyniad, gyda golwg ar gynyddu nifer y tai fforddiadwy ar y safle.  Cododd aelodau’r Cabinet gwestiynau am gysylltiadau â safleoedd datblygu tai eraill a darpariaeth tai fforddiadwy, ynghyd ag effaith gohirio’r penderfyniad ar yr angen am dai yn y dyfodol a chyflawniad cynllun busnes y CRT.  Ceisiwyd eglurder hefyd am y posibilrwydd o godi adeilad ysgol newydd ar y safle.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus a’r Rheolwr Rhaglen – Datblygu Tai i’r cwestiynau fel a ganlyn -

 

·         nid yw’r safle wedi cael caniatâd cynllunio ond sefydlwyd yr egwyddor o ddatblygu tai yn 2013 pan ddyrannwyd y tir er dibenion preswyl yn y CDLl yn dilyn y prosesau a'r ymgynghoriadau angenrheidiol.

·         ni roddwyd caniatâd cynllunio i safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru hyd yma, oedd yn ddatblygiad galluogi (cwbl ar wahân i’r safle bresennol) ac na ragwelwyd y byddai’n cynnig tai fforddiadwy. 

Nid oedd yn safle tai dynodedig yn y CDLl ond roedd wedi’i gynnwys dan bolisi penodol i ganiatáu datblygiad galluogi yn y tiroedd fel modd o fuddsoddi a diogelu’r adeilad rhestredig; nid oedd tai fforddiadwy’n ofyniad, ond byddai’n cael ei groesawu pe bai’n cael ei gynnig fel rhan o’r datblygiad hwnnw;

·         byddai 20% o dai fforddiadwy yn cael ei nodi fel amod yn y cytundeb gwerthu ac yn rhwymo’r prynwr mewn cyfraith. 

Cyfrifwyd yr 20% i sicrhau y byddai posib cyflawni unrhyw ddatblygiad, y byddai’n ariannol hyfyw ac y byddai’n cynhyrchu derbyniad cyfalaf i gyflawni’r cynllun busnes stoc tai.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Tony Thomas fod lefel uwch na’r disgwyl o dai fforddiadwy wedi cael eu cyflenwi yn y gorffennol, gyda chyfartaledd o ychydig dros 30% yn y 3 blynedd diwethaf, ac ar sail safleoedd y gorffennol, byddai potensial i’r safle gynnig mwy na’r gofyniad o 20%.  Pa un bynnag, byddai’r derbyniad cyfalaf a gynhyrchir yn cael effaith gadarnhaol ar stoc tai’r cyngor;

·         eglurwyd protocol gwaredu’r cyngor fel y’i cymhwysir, a dim ond y CRT oedd yn nodi gofyniad ar gyfer y tir. 

Er mai dim ond yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet y trafodwyd yr argymhelliad bod safleoedd yn cael eu cyflwyno ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’r Adran Addysg wedi bod yn gwbl ymwybodol o’r cynigion ar gyfer y tir ac wedi rhoi gwybod na fyddai’n edrych ar y safle penodol hwn.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Huw Hildtich-Roberts y safbwynt hwnnw, gan egluro ymhellach y gwaith asesu a gyflawnwyd mewn perthynas â Band B yn 2016, gyda nifer o opsiynau yn yr ardal o ran Ysgol Pendref y gellid eu harchwilio ymhellach ar ôl i LlC gymeradwyo’r cyllid;

·         cafwyd ar ddeall yr ymgynghorwyd â Grŵp Ardal Aelodau Dinbych ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y safle cyn ei ddyrannu yn y CDLl.

 

Bu i’r Cynghorydd Richard Mainon gydnabod rhinweddau’r argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor craffu, a mynegodd ei rwystredigaeth gyda’r polisïau a’r canllawiau cynllunio, yn enwedig y CDLl.  Fodd bynnag, roedd ganddo amheuaeth ynglŷn â gohirio penderfyniad ar sail deddfwriaeth amodol.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau nad oeddent yn aelodau’r Cabinet i siarad a gofyn cwestiynau.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Rhys Thomas bod y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft newydd wedi bod allan ar gyfnod ymgynghori, a’i fod yn debygol o fod bron ar ei ffurf derfynol ac yn cynnig cyfle i’r cyngor elwa ar gam cynnar.  Ailadroddodd ei bryderon o ran nifer y tai a’r mathau o ddatblygiadau tai sydd wrthi’n cael eu codi neu eisoes wedi’u cynllunio ar gyfer Dinbych, gan geisio eglurhad hefyd am y safleoedd posib ar gyfer Ysgol Pendref.  Ehangodd y Cynghorydd Glenn Swingler ar y sail dros alw am adolygiad o benderfyniad y Cabinet, gan annog y Cabinet i ohirio’r penderfyniad yn unol ag argymhellion y pwyllgor craffu.  Tynnodd y Cynghorydd Merfyn Parry sylw at ei bryderon, gan gefnogi’r cynnig i ohirio’r penderfyniad; awgrymodd hefyd y gellid cyfnewid tir gyda Jones Bros fel rhan o ddatblygiad safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru er mwyn hwyluso adeilad ysgol newydd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Graham Timms at y pwyslais amlwg yn y fframwaith drafft newydd ar yr angen am dai fforddiadwy, gan annog y Cabinet i ohirio’r penderfyniad er mwyn canfod faint o ddylanwad a fydd ganddo.

 

Ymatebodd yr Aelodau Cabinet Arweiniol perthnasol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus i’r sylwadau a’r cwestiynau pellach a godwyd fel a ganlyn -

 

·         cadarnhawyd y dylid rhoi ystyriaeth i faint o bwys i'w roi ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft newydd, o ystyried nad oedd wedi cael ei addasu eto;

·         Adroddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ar drafodaethau blaenorol gyda Grŵp Ardal Aelodau Dinbych ar yr opsiynau ar gyfer Ysgol Pendref, gan nodi y gwnaed rhywfaint o waith cwmpasu ar safleoedd presennol pan unodd yr ysgolion. 

Bydd pob opsiwn yn cael ei gwmpasu’n llawn ar ôl i’r cyllid gael ei gymeradwyo gan LlC, ond ni ystyriwyd y safle dan sylw fel dewis ymarferol ar gyfer adeilad ysgol newydd oherwydd materion topograffi a seilwaith;

·         o ran amserlenni, roedd y tir wedi’i ddyrannu er dibenion preswyl yn y CDLl yn 2013 a’i bennu yn y CRT yn 2016.  Roedd y CRT wedi bod yn gweithio drwy flaenoriaethau caffael safle ar eiddo a meysydd eraill i’w datblygu, ac roedd bellach wedi cyrraedd y flaenoriaeth i gyflenwi ar y safle hwn;

·         cyflwynir y CRT i’r Cabinet yn flynyddol a cheir adroddiadau misol hefyd fel rhan o’r adroddiad cyllid rheolaidd, gyda £19.2 miliwn o fewn y cynllun cyfalaf ar hyn o bryd a lle i tua 220 o eiddo newydd yn y cynllun hwnnw;

·         roedd cyn denant y tir wedi prynu’r rhan fwyaf o’r daliad tir yr oedd yn ei rentu’n flaenorol, ond nid oedd wedi prynu’r cae penodol hwn ac nid oedd ystadau amaethyddol eisiau ei gadw fel cae ar ei ben ei hun; roedd yn cael ei osod ar drwydded bori tymor byr nes y byddai'r datblygiad yn cychwyn;

·         byddai’r dyraniad o 20% o dai fforddiadwy yn amod ar y gwerthiant ac felly dyma’r isafswm fyddai’n sicr o gael ei gynnig ar y safle;

·         ailddatganwyd y cynnig i gael gwared ar y tir ar y farchnad agored heb ddim i atal Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig rhag prynu’r safle;

·         teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod yn rhy gynnar i wneud sylw ar rinweddau na gwendidau’r cynnig i gyfnewid tir i hwyluso adeilad ysgol newydd, gan nodi y byddai angen ymchwilio ymhellach i asesu ei ymarferoldeb. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y byddai hefyd yn cyfiawnhau trafodaeth gydag aelodau lleol yn gyntaf.

 

Wrth gloi’r ddadl, ailadroddodd y Cynghorydd Mark Young yr angen am fwy o dai fforddiadwy yn Ninbych, a chredai y byddai gohirio’r penderfyniad yn rhoi cyfle i’r cyngor ddarparu mwy o dai fforddiadwy.  O ganlyniad, cynigiodd y Cynghorydd Young argymhellion y Pwyllgor Craffu fel y’u nodir yn yr adroddiad.  Wrth eilio’r cynnig, teimlai’r Cynghorydd Bobby Feeley fod achos wedi’i wneud i ohirio’r penderfyniad ar sail argymhellion a chasgliadau’r pwyllgor craffu a’r sylwadau dilys a gyflwynwyd yn y cyfarfod.

 

Yn ei ddatganiad terfynol, anogodd y Cynghorydd Huw Williams y Cabinet i gefnogi argymhellion y pwyllgor craffu a gohirio'r penderfyniad am 12 mis, fyddai hefyd yn rhoi cyfle i ymchwilio i'r posibilrwydd o gyfnewid tir er mwyn hwyluso adeilad ysgol newydd.

 

Yn ei ddatganiad clo, ailddatganodd y Cynghorydd Thompson-Hill ei benderfyniad gwreiddiol a chynigiodd ddiwygiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd Tony Thomas, i gydnabod argymhellion a chasgliadau’r pwyllgor craffu  ac i ailddatgan penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi mewn perthynas â chael gwared ar y safle.

 

Pleidleisiodd aelodau'r Cabinet ar y diwygiad fel a ganlyn -

 

O BLAID – Y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill, Tony Thomas, Brian Jones a Hugh Evans [4]

 

YN ERBYN -  Y Cynghorwyr Mark Young, Bobby Feeley, Huw Hilditch-Roberts a Richard Mainon [4]

 

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd yr Arweinydd ei bleidlais fwrw i nodi ei fod o blaid derbyn y diwygiad.  Daeth y diwygiad i fod yn argymhelliad gwirioneddol ac ailddatganodd aelodau’r Cabinet eu safle pleidleisio blaenorol, gan arwain unwaith eto at bleidlais gyfartal.  Defnyddiodd yr Arweinydd ei bleidlais fwrw i nodi ei fod o blaid derbyn y penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn sgil ei adolygiad o benderfyniad y Cabinet ar 22 Medi 2020;

 

 (b)      ar ôl adolygu eu penderfyniad ac ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau, ailddatgan penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi 2020 i -

 

(i)    “gymeradwyo gwaredu tir ger Ysgol Pendref, Dinbych a amlinellir mewn coch ar y cynllun (Atodiad A yr adroddiad) nad oes ei angen ar y Cyngor mwyach, ar y farchnad agored ar gyfer datblygiad preswyl, a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i gymeradwyo’r gwerthiant terfynol, a

 

(ii)  cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a rhoi ystyriaeth i'r Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad B yr adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad”

 

 [Yn y fan hon (12pm) cymerodd y pwyllgor egwyl o ddeng munud am luniaeth]

 

 

Dogfennau ategol: