Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2019 I 2020

Ystyried adroddiad oddi wrth y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol a’r Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad i ddarparu gwybodaeth ynghylch cynnydd y Cyngor wrth gyflawni canlyniadau’r Cynllun Corfforaethol fel y saif pethau ar chwarter 4, 2019 i 2020 a chwarter 1, 2020 i 2021 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr Adroddiad Adolygu Perfformiad Blynyddol 2019 i 2020 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'w gymeradwyo yr oedd yn ofynnol i'r Cyngor ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref bob blwyddyn o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Yn 2019, cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Gorffennaf ac roedd yn cynnwys ein diweddariad chwarter 4 ar y Cynllun Corfforaethol. Fodd bynnag, oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan Covid-19, cafwyd oedi gyda’r adroddiad hwn, felly mae bellach yn cynnwys chwarter 1 lle mae’r wybodaeth ar gael, ac yn ceisio dangos yn benodol sut mae’r cyngor wedi cynnal gwasanaethau allweddol, a mwy, er budd ein trigolion yn ystod y pandemig.

 

Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn cynnwys astudiaethau achos ac enghreifftiau o gynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau corfforaethol o bortffolio ehangach y Cyngor.    Roedd hyn yn cydnabod bod gwasanaethau yn gwneud gwaith pwysig y tu allan i'r Cynllun Corfforaethol sydd o fudd i drigolion.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol, er gwaethaf Covid-19, parhaodd y Cyngor i wneud cynnydd da gyda’i flaenoriaethau gan nodi’r hyblygrwydd sylweddol yn y modd roedd prosiectau a gwasanaethau wedi addasu i newid.  Bu ychydig o oedi gyda rhai amserlenni, ond ar y cyfan, roedd prosiectau ar y trywydd iawn i gyflawni manteision i gymunedau.

 

Arweiniodd y Cyngor drwy’r adroddiad a darparu gwybodaeth fanwl am y cynnydd a wnaed yn erbyn pob blaenoriaeth gorfforaethol. 

 

Roedd y pum blaenoriaeth fel a ganlyn:

·         Tai – Mae pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n bodloni eu hanghenion;

·         Clymu Cymunedau - Mae cymunedau wedi’u cysylltu ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant da;

·         Cymunedau gwydn - mae’r Cyngor yn gweithio gyda phobl a chymunedau i gynyddu annibyniaeth a chadernid;

·         Amgylchedd - mae’r amgylchedd yn ddeniadol ac wedi ei warchod, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd; a

·         Pobl ifanc - man lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo, a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Isadeiledd Digidol a phroblemau mynediad i 4G – Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod problemau cysylltedd yn bodoli mewn rhai ardaloedd gwledig. Bydd Bargen Dwf Gogledd Cymru yn edrych ar gysylltiad digidol.  Roedd Swyddog Digidol Sir Ddinbych wedi gweithio gyda chymunedau i roi cymaint o wybodaeth â phosibl iddynt.  Roedd cysylltiad digidol yn rhan o flaenoriaethau’r Cyngor.

·         Trafodion ar-lein – o ran y preswylwyr nad oedd â mynediad at gyfleusterau ar-lein, yn enwedig pobl ddiamddiffyn a’r henoed, roedd llyfrgelloedd a siopau un alwad a chanolfannau galw wedi gallu cynorthwyo’r preswylwyr hynny.

·         Ffyrdd – Roedd Covid wedi cael effaith sylweddol ar grynodeb y sir o waith atgyweirio.  Roedd gwaith wedi gallu ailddechrau ar atgyweirio ac roedd meysydd yn cael eu blaenoriaethu.

·         Cadarnhawyd y penodwyd Swyddog Rhostiroedd ers tân Llantysilio ac maent yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a pherchnogion tir.

·         Gofal preswyl - codwyd cwestiynau am ba mor hir roedd preswylwyr mewn cartrefi preswyl, ac a fu yna gynnydd mewn marwolaethau yn sgil Covid.   Cadarnhawyd bod gofal preswyl wedi cael ei fonitro ac roedd gwybodaeth ar gael ynghylch pam fod preswylwyr wedi eu derbyn a pham eu bod wedi gadael.  Roedd rhai preswylwyr wedi marw ac roedd rhai eraill wedi cael eu symud i gael lefel uwch o ofal.  Cynigiwyd gofal amgen i nifer o breswylwyr.  Bu cynnydd mewn marwolaethau mewn cartref ac yn y gymuned yn sgil Covid.

·         Cymunedau Cryf – Roedd gwirfoddolwyr yn y sir wedi bod yn gymorth mawr yn ystod pandemig Covid a chadarnhaodd swyddogion y byddant yn cysylltu â phob banc bwyd yn y sir i gael gwybod sut roedd y gwaith yn datblygu a’u hysbysu o grantiau Covid oedd ar gael.  Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn cydnabod gwaith y gwirfoddolwyr yn ystod y cyfnod anodd yma.   

·         Teithio llesol – roedd gordewdra yn fater parhaus.  Roedd Iechyd y Cyhoedd yn arwain ar hyn, ond byddai’n ddull amlasiantaeth.

·         Cyrhaeddwyd y targed o ostwng biliau ynni CO2 o 15%.   Gofynnodd y Cynghorydd Graham Timms i gael gwybod faint o CO2 oedd yn cael ei gynhyrchu a chododd y mater o ail gategoreiddio gan Lywodraeth y DU.  Gofynnodd y Cynghorydd Timms faint oedd y biliau ynni ar hyn o bryd.  Cadarnhawyd y byddai’r wybodaeth yn cael ei gasglu a’i ddosbarthu. 

·         Rhoi llety i bobl ddigartref yn ystod Covid – gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler a fyddai hyn yn parhau ac a fyddent yn aros yn y llety.   Cadarnhawyd y byddai’r cynllun llety i bobl ddigartref yn parhau ac y byddai pobl yn aros yn y llety a ddyrannwyd iddynt. Roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi cael cyllid i ddarparu llety argyfwng ac roedd angen defnyddio’r cyllid erbyn mis Mawrth 2021.

·         Cafodd 179 o gartrefi gwag eu llenwi.  Gofynnodd y Cynghorydd Kensler faint oedd yr amser cyfartaledd i’w llenwi.  Cadarnhaodd swyddogion y byddant yn dod o hyd i’r wybodaeth ac yn ei ddosbarthu i aelodau.

·         Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams bod fferm wynt Clocaenog bellach wedi cael ei lansio ac roedd ar ddeall y byddai angen 20% o arian cyfatebol.   Yn sgil yr arian cyfatebol, byddai hyn yn cyfyngu ar nifer y prosiectau.  Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi codi’r mater gyda’r Panel a bod y meini prawf ar waith ar gyfer prosiectau dros £10,000.

·         Gofalu am goed – cadarnhawyd bod rhestr o goed oedd â Gorchymyn Diogelu Coed ar gael, ac os oedd coeden o dan Orchymyn Diogelu Coed, byddai angen cyflwyno cais i’w thorri i lawr i’r Pwyllgor cynllunio. 

·         Datblygu Cymuned y Rhyl – cadarnhaodd swyddogion eu bod yn trafod ag Ardal Gwella Busnes y Rhyl.

 

 

 

Rhoddodd yr aelodau deyrnged i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru a lwyddodd i barhau i gynnal gwasanaethau yn ystod y pandemig.

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones i gymeradwyo’r adroddiad, ac fe’i HEILIWYD gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

Cafwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar unrhyw newidiadau cytunedig, bod y Cyngor yn cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2019-2020.

 

Dogfennau ategol: