Eitem ar yr agenda
ADOLYGU PENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD A RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF - CYNIGION BAND B
- Meeting of Pwyllgor Craffu Cymunedau, Dydd Llun, 5 Hydref 2020 10.30 am (Item 4.)
- View the declarations of interest for item 4.
- Gweld y cefndir i eitem 4.
Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
sy'n gofyn i'r Pwyllgor, yn
seiliedig ar y wybodaeth ysgrifenedig a llafar a ddarperir, adolygu penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi 2020.
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal
Y Pwyllgor:
Wedi
Penderfynu: bod gwybodaeth fanwl yn cael ei ddarparu i’r holl gynghorwyr sir erbyn
dechrau 2021 ar raglen ysgolion yr 21ain ganrif, i gynnwys -
(i)
cefndir y cyllid
a’r broses flaenoriaethu i benderfynu pa ysgolion sydd yn deilwng i elw o fuddsoddiad
a phryd;
(ii)
manylion o’r
buddsoddiad sydd wedi’i wneud yn barod yn ysgolion y sir a’r sefyllfa
bresennol; ac
(iii)
amlinelliad eglur o
gynlluniau’r dyfodol, yn ddarostyngedig i argaeledd cyllid gan Lywodraeth Cymru
a'r Cyngor, i wneud ysgolion Cyngor Sir Ddinbych yn addas ar gyfer y 21ain
Ganrif
Gyda’r Pwyllgor yn cytuno i’r penderfyniad uchod dyma’r llofnodwyr ar gyfer y cais galw i mewn yn nodi eu bod nhw'n cytuno na ddylai'r cais i adolygu penderfyniad y Cabinet fynd yn ei flaen.
Cofnodion:
Eglurodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi’i alw yn
unol â chyfansoddiad y Cyngor i ystyried cais galw i mewn a gyflwynwyd o ran
penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 22 Medi 2020 yn ymwneud â ‘Rhaglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif – Cynigion Band B’. Roedd y Cabinet wedi penderfynu -
·
cymeradwyo
dechrau prosiectau yn Ysgol Plas Brondyffryn / Ysgol Uwchradd Dinbych, Dinbych;
Ysgol Bryn Collen / Ysgol Gwernant, Llangollen ac Ysgol Pendref, Dinbych, fel
rhan o’r cam cyntaf o brosiectau ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif a chyflwyno’r cynigion hyn i Lywodraeth Cymru, a
·
pharhau
i geisio cyllid ychwanegol ar gyfer ail gam prosiectau Band B ac adolygu’r
sefyllfa ymhen 18 mis i ganfod opsiynau ar gyfer gweithredu rhai o’r prosiectau
hyn.
Roedd hysbysiad galw i mewn wedi’i gyflwyno gan y
Cynghorydd Paul Penlington, ac wedi’i gefnogi gan bedwar cynghorydd arall, i
alw am adolygiad o’r penderfyniad ar y sail ganlynol -
“...Rwy’n dymuno galw’r
penderfyniad hwn i mewn er mwyn i’r awdurdod adolygu angen Ysgol Uwchradd
Prestatyn yn iawn fel mae’n sefyll yn 2020 yn deg ochr yn ochr ag ysgolion
eraill. Fel yr ysgol uwchradd fwyaf
yn y sir, a’r unig ysgol uwchradd ym Mhrestatyn, mae ganddi achos ar gyfer
gwelliant cystal ag eraill sydd wedi’u trefnu ar gyfer cyllid Band B.”
Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad
(dosbarthwyd eisoes) sy’n nodi rheolau’r weithdrefn ‘galw i mewn’ a sail y cais
‘galw i mewn’ ac eglurodd pa weithdrefnau mae’n rhaid eu dilyn yn y cyfarfod. Cyfeiriwyd at atodiadau’r adroddiad gan
gynnwys adroddiad y Cabinet a ystyriwyd ar 22 Medi 2020 ynghyd ag adroddiad am
y ‘Broses ar gyfer Cyflwyniad Band B’ a oedd wedi’i ddwyn ymlaen o gyfarfod
nesaf y Pwyllgor a oedd wedi’i drefnu oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth
ddefnyddiol sy’n ymwneud â’r adolygiad presennol o benderfyniad y Cabinet.
Yn absenoldeb y Cynghorydd Paul Penlington,
darllenodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ddatganiad ar ei ran. Roedd y Cynghorydd Penlington wedi dweud -
·
roedd
penderfyniad y Cabinet wedi ei seilio ar gyfarfodydd y Cabinet mor bell yn ôl â
2017 ac nid oedd Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi’i chynnwys bryd hynny ac nid
oedd wedi'i chynnwys mewn unrhyw gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif ar hyn o bryd
chwaith
·
pan
holwyd yn gynharach yn y flwyddyn, dywedwyd wrtho ei bod yn bosibl y byddai
Ysgol Uwchradd Prestatyn yn cael ei hystyried yn 2024, ond nid oedd hyn yn
ddigon cadarn i ddiwallu anghenion plant ym Mhrestatyn
·
nid
oedd cynghorwyr wedi cael cyfle i graffu'r broses a arweiniodd at benderfyniad
y Cabinet ar 22 Medi ac roeddent wedi'u heithrio o unrhyw broses a arweiniodd
ato dros y misoedd diweddar, ac nid oedd wedi gallu ymuno â'r drafodaeth a
gofyn cwestiynau priodol yn y Cabinet oherwydd methiannau â chyfarfodydd
ar-lein y cyngor
·
roedd
y sefyllfa yn Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi newid yn sylweddol ers 2017 ac
roedd yr ysgol angen gwelliant sylweddol, os nad ysgol newydd sbon ar frys
·
dywedwyd
wrtho fod niferoedd disgyblion yn lleihau, ac nid oedd hyn yn wir – roedd 1,800
o ddysgwyr yn yr ysgol dair blynedd yn ôl, a 1,500 cyson o ddysgwyr ers hynny
·
roedd
ysgolion cynradd Prestatyn yn ei chael yn anodd ymdopi â’r galw a gyda dim ond
un ysgol uwchradd, roedd posibilrwydd y byddai anawsterau sylweddol yn y
dyfodol agos
·
roedd
yr hinsawdd ariannol bresennol a’r dyfodol yn ansicr a heb ymrwymiad pendant i
Ysgol Uwchradd Prestatyn, mae’n bosibl na fyddai'n cael unrhyw welliant
sylweddol am flynyddoedd
·
hyd y
gwyddai ef, roedd Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi’i hadeiladu ym 1956 gydag
ychydig o newidiadau ers hynny a dim gwelliannau mawr, felly roedd angen
gwelliant cyflym.
Roedd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts, y Pennaeth Addysg Dros Dro a’r Pen Reolwr – Cymorth i
Ysgolion yn bresennol. Rhoddodd yr Aelod Arweiniol rywfaint o gefndir i Raglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif a chynigion Band B, a sut roedd y Pwyllgor Craffu a’r Cabinet wedi
ymwneud â’r broses honno dros y dair blynedd ddiwethaf. Er mwyn eglurder, roedd y Cynghorydd
Penlington wedi gofyn y cwestiwn yng nghyfarfod y Cabinet o ran pam nad oedd
Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi’i chynnwys yn y cynigion ac roedd eglurhad wedi’i
roi bryd hynny, a oedd yn seiliedig ar angen a’r broses flaenoriaethu. O ran sail ar gyfer galw’r adolygiad o
benderfyniad y Cabinet, ymatebodd yr Aelod Arweiniol fel a ganlyn -
·
Niferoedd disgyblion Ysgol Uwchradd
Prestatyn – roedd
ffigurau a ddarparwyd ar gyfer cyfnod y pum mlynedd diwethaf yn dangos
gostyngiad cyffredinol o ran niferoedd disgyblion.
Roedd tua 230/240 o ddisgyblion wedi’u derbyn i Flwyddyn
7 yn ystod y cyfnod hwnnw, a cyn agor adeilad newydd Ysgol Uwchradd y Rhyl,
roedd y nifer hwn tua 260/270 o ddisgyblion. Roedd cyfran Ysgol Uwchradd Prestatyn o
ddisgyblion uwchradd ar draws Sir Ddinbych wedi lleihau mewn termau cymharol o
25% i 21%.
·
Niferoedd sector cynradd Prestatyn – yn gyffredinol, roedd 2,037 o leoedd
ysgol gynradd llawn amser ar draws y dref a’r ardaloedd cyfagos, ac roedd 1,777
o ddisgyblion yn mynychu, a oedd wedi arwain at 260 o leoedd gwag [12%].
Roedd buddsoddiad sylweddol wedi’i wneud yn y
sector cynradd ym Mhrestatyn. Roedd nifer derbyn Blwyddyn 7 ar gyfer 2020 yn dangos bod 77.3% yn dod o
ysgolion cyfrwng Saesneg yn y dref, 6.3% o ysgolion eraill Sir Ddinbych a 16.4%
o’r tu allan i’r sir. Roedd niferoedd disgyblion sydd yn trosglwyddo o'r Rhyl i Brestatyn wedi
gostwng ers 2016 a byddai ysgol newydd Crist y Gair yn cael effaith ar
niferoedd disgyblion yn y dyfodol hefyd.
·
Cyflwr Adeiladau – pan gyflwynwyd Cynllun Amlinellol Strategol yn
2017 cafodd Ysgol Uwchradd Prestatyn ei ystyried fel Cyflwr C ac Addasrwydd C.
O’i gymharu â’r wyth ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych – mae pedwar wedi cael eu
cydnabod i fod yn rhan o Fand A (yn dilyn hynny St. Brigid’s wedi optio allan)
gan adael un Categori B (Ysgol Brynhyfryd), tri Chategori C (St. Brigid’s, Ysgol Dinas Bran ag Ysgol
Uwchradd Prestatyn), ac un Categori D (Ysgol Uwchradd Dinbych) a gafodd ei weld
fel blaenoriaeth uchel. Mae’r rhestr
hir i Lywodraeth Cymru wedi cynnwys buddsoddiad i Ysgol Uwchradd Prestatyn ac
Ysgol Brynhyfryd. Wrth gydbwyso’r
achosion presennol ar gyfer gweddill yr ysgolion Categori C, rhoddwyd
blaenoriaeth uwch i St. Brigid’s ac Ysgol Dinas Bran o ystyried yr adnoddau
cyfyngedig pan gafodd y Cynllun Amlinellol Strategol ei gyflwyno.
·
Datblygu cynllun 5 mlynedd – yn dilyn y penderfyniad a wnaed,
cyfarfu swyddogion asesu â Grŵp Ardal Aelodau Prestatyn a Llywodraethwyr i
drafod anghenion brys ac anghenion tymor byr Ysgol Uwchradd Prestatyn a
arweiniodd at gynllun 5 mlynedd a gytunwyd.
Roedd meysydd blaenoriaeth yn cynnwys Ffensys a
Diogelwch Safle; Coridor Mynediad; Gwyddoniaeth; Technoleg a Chymraeg a Maes
Parcio a darparwyd manylion y materion oedd i gael sylw a chynnydd cadarnhaol a
wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth hynny. Roedd gwaith cynnal a chadw diweddar a gynlluniwyd
gwerth £1.64 miliwn wedi’i wneud yn yr ysgol ac roedd gwaith wedi’i drefnu ar
gyfer y dyfodol.
Ailadroddodd yr Aelod Arweiniol fod yr
argymhelliad i’r Cabinet wedi'i seilio ar broses flaenoriaethu o ran angen mwyaf
gyda’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. Roedd y Cyngor wedi gweithio’n agos gydag Ysgol
Uwchradd Prestatyn i ddatblygu’r cynllun 5 mlynedd i fynd i’r afael â meysydd
pryder ac roedd yr ysgol yn cefnogi’r dull gweithio mewn partneriaeth yn llawn
a chydnabod y buddsoddiad sy’n cael ei wneud y tu hwnt i’r Rhaglen Ysgolion yr
21ain Ganrif. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg Dros Dro ei fod mewn cyswllt rheolaidd â’r
ysgol ac roedd cynnydd da yn cael ei wneud o ran y cynllun 5 mlynedd. Er mai’r dewis amlwg a ffefrir oedd ar
gyfer ysgol newydd, cydnabuwyd bod proses flaenoriaethu ac adnoddau cyfyngedig
ar gael ac ar y sail hwnnw, roedd y Pennaeth wedi bod yn fodlon â’r lefel o
fuddsoddiad. Cadarnhaodd y Cynghorydd Hugh Irving, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol
Uwchradd Prestatyn y bu buddsoddiad sylweddol yn yr ysgol dros y blynyddoedd,
ac er bod methiannau amlwg, derbyniwyd mai ysgol newydd oedd y dewis delfrydol
ond nad oedd hyn yn bosibl dan amgylchiadau presennol. Roedd trafodaethau defnyddiol wedi’u cynnal
gydag aelodau arweiniol a swyddogion ac roedd rhaglen pum mlynedd o fuddsoddiad
wedi’i chytuno fel ffordd ymlaen.
Yn ystod y drafodaeth, gwahoddodd y Cadeirydd
aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau cyn gwahodd llofnodwyr y weithdrefn galw i
mewn ac unigolion eraill nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor i wneud yr un
fath. Gofynnwyd cwestiynau gan roi ystyriaeth benodol i Ysgol Uwchradd Prestatyn
fel a soniwyd yn yr hysbysiad galw i mewn ynghyd ag ysgolion eraill o fewn y
sir gan gynnwys cyflwr yr ysgolion hynny a gweithredu’r broses asesu ynghyd â
chanlyniad y broses honno o ran categoreiddio, trefn flaenoriaeth a therfynau
amser posibl ar gyfer buddsoddiad. Gofynnwyd am eglurder hefyd o ran elfennau cyllid Rhaglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif a phrosiectau’r dyfodol.
Ymatebodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Addysg Dros
Dro, Pen Reolwr – Cymorth i Ysgolion a Phennaeth Cyllid i gwestiynau a sylwadau
aelodau fel a ganlyn -
·
cadarnhawyd
bod 12 o ddisgyblion o Brestatyn yn mynychu Blwyddyn 7 yn y Rhyl o fis Medi
·
eglurwyd
cymhlethdodau safle Ysgol Uwchradd Prestatyn o ystyried maint yr adeilad a llif
disgyblion a’r angen i asesu’r effaith ar niferoedd disgyblion ym mlynyddoedd y
dyfodol gan ystyried adeilad newydd Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Crist y
Gair, er mwyn bod â data cadarn ar gyfer cynllunio yn y dyfodol a sicrhau bod
buddsoddiad yn cael ei wneud fel rhan o’r broses gyffredinol yn yr ysgolion
iawn ar yr amser iawn
·
ailadroddwyd
bod Corff Llywodraethu a Phennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn yn cael trafodaethau
rheolaidd â’r Aelod Arweiniol a swyddogion a’u bod nhw’n gefnogol o lefel y
buddsoddiad a’r ymrwymiad a ddarperir i’r ysgol ar hyn o bryd
·
dywedwyd
o ran derbyniadau Blwyddyn 7 yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, roedd 16.4% o’r tu
allan i’r sir, a oedd gyfwerth â 39 disgybl, ac roedd y mwyafrif o’r rhain yn
dod o ysgolion Sir y Fflint
·
eglurwyd
y newid o ran cyllid LlC ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r
cyfraddau ymyrraeth ar gyfer gwahanol gynlluniau a arweiniodd at fod angen
blaenoriaethu’r prosiectau hynny a nodwyd yng nghynigion Band B – ar sail
asesiad o ysgolion, nid oedd Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi’i nodi i’w chynnwys
ym Mand B ar unrhyw bwynt ac roedd wedi’i nodi ar gyfer buddsoddiad yn y
dyfodol
·
ymhelaethwyd
ar yr amrywiaeth o waith a oedd wedi’i gynnwys yn y cynllun 5 mlynedd ar gyfer
Ysgol Uwchradd Prestatyn a oedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn nhrefn
blaenoriaeth fel a nodwyd gan yr ysgol a chadarnhawyd nad oedd y ffigurau’n
cynnwys gwaith llifogydd allanol
·
eglurwyd
y newidiadau i’r meini prawf ar gyfer Cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif dros
amser a oedd yn seiliedig nawr ar gyflwr amgylchedd yr ysgol i ddysgwyr
·
eglurwyd
y broses flaenoriaethu ymhellach a chytunwyd i ddarparu rhagor o wybodaeth a
rhagor o eglurhad o’r broses asesu ysgolion a gwaith gofynnol gan gynnwys trefn
flaenoriaethu ar gyfer buddsoddiad ond dywedwyd na fyddai’n bosibl iddynt
ymrwymo i derfynau amser na phrosiectau penodol o ystyried lefel yr ansicrwydd
yn y dyfodol o ran meini prawf, cyllid a phenderfyniadau gwleidyddol ar lefel
leol a chenedlaethol yn y dyfodol
·
cyfeiriwyd
at raglen cynnal a chadw ysgolion a oedd yn dod i gyfanswm o £9 miliwn ac roedd
£2.2 miliwn o hwn ar gael a gellid ystyried hwn ochr yn ochr â Rhaglen Ysgolion
yr 21ain Ganrif hefyd a darparu darlun ehangach o fuddsoddiad ysgol
·
eglurwyd
y rhesymeg sy’n sail i gynnwys Ysgol Bryn Collen ac Ysgol Gwernant yn y
cynigion a gwersi a ddysgwyd o’r prosiectau a gyflawnwyd ym Mand A
·
darparwyd
sicrwydd y byddai’r cyngor yn parhau i lobïo LlC ar gyfer y cyllid ychwanegol i gwblhau ail
gam Band B, a oedd yn cynnwys darpariaeth gynradd y Rhyl, ac adrodd yn ôl i’r
Cabinet ar hynny ar ôl deunaw mis.
Croesawodd y Pwyllgor y buddsoddiad a wnaed eisoes
yn ysgolion Sir Ddinbych ac roedd yn falch o nodi cynlluniau buddsoddi’r
dyfodol yn hynny o beth. Roedd y Pwyllgor hefyd o’r farn fod yr eglurhad o’r broses flaenoriaethu a
ddarparwyd yn ystod y cyfarfod wedi bod yn ddefnyddiol ond roeddent yn teimlo
er mwyn darparu rhagor o eglurder a thryloywder, dylid darparu rhagor o wybodaeth
i bob cynghorydd am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a chyflwynodd y Cynghorydd
Graham Timms gynnig ar sail hynny, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn
Parry. Roedd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor yn cefnogi’r cynnig hefyd a gofynnodd
am derfyn amser ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth ofynnol. O'i roi i’r bleidlais, gwnaeth y Pwyllgor
-
BENDERFYNU bod gwybodaeth
fanwl yn cael ei darparu i bob cynghorydd sir erbyn dechrau 2021 am Raglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif gan gynnwys
-
(i)
cefndir y cyllid a’r broses flaenoriaethu a gaiff ei
dilyn i benderfynu pa ysgolion oedd yn deilwng o fanteisio ar fuddsoddiad a
phryd;
(ii)
manylion am fuddsoddiad a wnaed eisoes yn ysgolion y sir
a’r sefyllfa bresennol, ac
(iii)
amlinelliad clir o gynlluniau’r dyfodol, yn amodol ar
argaeledd cyllid Llywodraeth Cymru a’r Cyngor, er mwyn sicrhau bod ysgolion
Cyngor Sir Ddinbych yn addas ar gyfer y 21ain Ganrif.
Ar ôl i’r
Pwyllgor gytuno ar y penderfyniad uchod, dangosodd llofnodwyr y cais galw i
mewn eu bod yn cytuno na ddylai’r cais i adolygu penderfyniad y Cabinet
ddatblygu bellach.
[Ymunodd y Cynghorydd Paul Penlington â’r
cyfarfod ar ôl y drafodaeth, cyn y bleidlais.]
Yn y fan hyn (12.15 p.m.) cymerodd y pwyllgor
egwyl am luniaeth.
Dogfennau ategol:
- 21 Century Schools Report 051020, Eitem 4. PDF 290 KB
- 21 Century Schools Report 051020 Annex A, Eitem 4. PDF 665 KB
- 21 Century Schools Report 051020 - Annex B, Eitem 4. PDF 220 KB