Eitem ar yr agenda
YMGORFFORI FFYRDD NEWYDD O WEITHIO
Ystyried
adroddiad i adolygu’r potensial i’r Cyngor fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio fel
rhan o’r broses adfer (copi ynghlwm).
11.15 a.m. – 12.10 p.m.
Penderfyniad:
Roedd yna
gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.
Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.
Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw
un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu
pleidlais.
Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:
(i)
derbyn yr wybodaeth a ddarparwyd mewn cysylltiad
â’r Cyngor yn mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio fel rhan o’r broses adferiad;
a
(ii)
chefnogi
cyfleoedd posibl i’r Awdurdod sefydlu dulliau newydd a mwy effeithiol o weithio
mewn i arferion gweithio yn y dyfodol.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwasanaethau
Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol, y Cynghorydd Richard Mainon, yr adroddiad
Ymgorffori Ffyrdd Newydd o Weithio (a ddosbarthwyd yn flaenorol).
Cafodd nifer o swyddogaethau’r Cyngor eu
darparu’n llwyddiannus drwy weithio dros y we yn ystod y pandemig. Roedd y defnyddwyr a oedd yn cyrchu
systemau'r Cyngor fwy neu lai wedi codi yn ystod y pandemig o tua 200 y dydd
hyd at bron i 1600. Roedd y mwyafrif o gyfarfodydd, gweithredol a democrataidd,
yn rhai dros y we ar hyn o bryd.
Roedd buddion gweithio fel hyn wedi
lleihau effaith carbon y Cyngor oherwydd bod milltiroedd busnes a theithio i
gyfarfodydd wedi lleihau. Roedd tagfeydd
traffig lleol a’r llygredd dilynol wedi gostwng, ac roedd gweithio o gartref
wedi gwella’r cydbwysedd gwaith a bywyd i nifer o bobl, staff ac Aelodau fel ei
gilydd.
Oherwydd hyn, cynigiwyd y dylid parhau â’r
dull hwn pan fydd y gofynion cadw pellter cymdeithasol wedi dod i ben. Dylai'r mwyafrif o gyfarfodydd arferol fod
dros y we a dylai gweithio gartref yn llawn amser / rhan amser fod y ffordd
arferol o weithio.
Roedd yr holl fanylion yn llawn yn Atodiad
yr adroddiad.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei chytundeb gyda'r
Aelod Arweiniol a nododd hefyd ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ar y
mwyafrif o staff. Roedd y staff wedi
cael holiadur i gael nodi eu safbwyntiau ar y ffyrdd o weithio yn ystod y
pandemig. Yr adborth gan staff oedd bod
gweithio gartref yn dda i iechyd meddwl y mwyafrif o bobl, tra bod lleiafrif
o'r farn nad oedd yn addas ar eu cyfer.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr hefyd na fyddai’r ffordd y mae pobl yn
gweithio yn dychwelyd i'r ffordd yr oedd cyn y pandemig. Roedd gweithio gartref hefyd yn gwneud Cyngor
Sir Ddinbych yn fwy deniadol fel cyflogwr oherwydd y gallai gweithwyr y dyfodol
fod yn byw y tu allan i'r ardal gan y byddent yn gweithio gartref.
Yn dilyn yr holiadur, dywedodd y Pennaeth Gwella a
Moderneiddio Busnes wrth yr aelodau fod 80% o'r staff wedi nodi ei bod yn well
ganddynt weithio gartref. Nododd staff
hefyd ei bod yn amser newid y ffordd o weithio.
Byddai canlyniadau’r holiadur yn cael eu trafod yn ystod cyfarfod yr
Uwch Dîm Arweinyddiaeth y prynhawn yma. Roedd
aelodau wedi cael holiadur hefyd yn ymwneud â’r ffordd o weithio yn y
dyfodol. Byddai’r ymgynghoriad ag
aelodau yn dod i ben yn ystod yr wythnos hon.
Mae technoleg wedi gwella’n aruthrol ers dechrau’r cyfnod clo. Roedd
yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Richard Mainon, i ffurfio Gweithgor gydag
aelodau i asesu canlyniadau holiaduron staff ac aelodau.
Yn ystod trafodaeth codwyd y pwyntiau
canlynol:
·
Lles
meddylion staff sy’n byw eu hunain.
Cadarnhaodd swyddogion y
gellid cael ffordd hybrid o weithio yn y dyfodol, gan rannu'r wythnos waith o
bosibl rhwng y cartref a’r swyddfa.
Byddai hefyd yn gadarnhaol i'r holl staff gwrdd yn y swyddfa neu
leoliadau eraill i rwydweithio a dal i fyny gyda chydweithwyr.
·
Gan
fod llai o staff yn mynychu adeiladau swyddfa, cwestiynodd aelodau a fyddai
posib gwerthu unrhyw adeiladau.
Cadarnhaodd yr Aelod
Arweiniol y byddai adeiladau’r cyngor yn cael eu hadolygu yn y dyfodol, ond nad
oedd hyn am ddigwydd dros nos.
·
Yr
effaith economaidd bosibl ar ganol trefi’r sir a busnesau lleol oherwydd
gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi oherwydd bod y Cyngor a staff
cyflogwyr mawr eraill yn gweithio mwy o gartref
·
Er
mwyn cynorthwyo staff, roedd dau gynllun gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi lle
gallai staff hawlio gostyngiad yn y dreth am weithio gartref neu gyflwyno
hawliad pro-rata am filiau cartref.
·
Cododd
yr aelodau’r ffaith fod angen i'r cyfleuster cyfieithu fod ar waith yn ystod
cyfarfodydd a chadarnhaodd swyddogion fod hyn yn y broses o gael ei drefnu a'i
brofi ar hyn o bryd.
Byddai cyfarfodydd pwyllgor cyhoeddus
dwyieithog yn cael eu cynnal drwy Zoom cyn hir.
Diolchodd y Prif Weithredwr i’r aelodau am eu
sylwadau, yn enwedig o ran lles staff. Roedd
rheolwyr mewn cyswllt rheolaidd gyda’u staff tra’n gweithio gartref. Ymddengys mai cydbwysedd hybrid o weithio yn
y dyfodol oedd y ffordd fwyaf priodol ymlaen.
Gallai staff fynychu adeilad cyngor neu gyfleuster arall ar gyfer
meithrin tîm neu rwydweithio ond byddai angen ail-ffurfweddu'r adeiladau. Dyma oedd y ffordd ymlaen.
Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy
gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais
ffurfiol. Dywedodd pob aelod eu bod o
blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni
ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.
Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:
(i)
derbyn
y wybodaeth a ddarperir mewn perthynas â'r Cyngor yn mabwysiadu ffyrdd newydd o
weithio fel rhan o'r broses adfer; a
(ii)
chefnogi'r
cyfleoedd posibl i'r Awdurdod ymgorffori ffyrdd newydd a mwy effeithiol o
weithio mewn arferion gwaith yn y dyfodol.
Dogfennau ategol:
- Embedding New Ways of Working Report 011020 Cymraeg, Eitem 6. PDF 217 KB
- Embedding New Ways of Working Report 011020 - App Cymraeg, Eitem 6. PDF 395 KB