Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN ADFER AR ÔL COVID-19 AR GYFER Y FLAENORIAETH ADFER CYMORTH I FUSNESAU

Ystyried adroddiad i roi cyfle i Aelodau archwilio cynllun adfer y Cyngor mewn perthynas â chymorth i fusnesau (copi ynghlwm).

10.05 a.m. – 11.00 a.m.

 

Penderfyniad:

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar yr arsylwadau ac awgrymiadau a wnaed yn ystod y drafodaeth, i gefnogi swyddogion gyda’r gwaith a wnaed i gefnogi busnesau yn y Sir a’u cyfraniad parhaus i waith adferiad economaidd rhanbarthol mewn partneriaeth gyda Swyddfa Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru (LlC).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel, y Cynghorydd Mark Young, Archwiliad o'r cynllun adfer Ôl Covid 19 ar gyfer yr adroddiad blaenoriaeth adfer cymorth i fusnesau (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd y cynllun adfer yn ymwneud a chymorth i fusnesau ac i aelodau ddeall y cynnydd a wnaed hyd yma, yn ogystal â’r cysylltiad â Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar adferiad economaidd.

 

Roedd y Coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus, ond roedd yr effaith ar yr economi a busnesau hefyd yn hollbwysig.  Yn dilyn canol trefi yn cau, roedd busnesau yn cael trafferth adfer yn y tymor canolig a’r hirdymor.  Roedd hefyd yn bosibl na fydd rhai busnesau’n gallu adfer o gwbl. 

 

Roedd pedair is-thema i'r Thema Adfer Cymorth i Fusnesau ac roedd gan bob is-thema swyddog arweiniol a fyddai'n cynhyrchu cynllun adfer ar gyfer pob is-thema:

 

·         Canol Trefi - Mike Jones, Swyddog Arweiniol

·         Cyswllt Busnesau - Gareth Roberts, Swyddog Arweiniol

·         Twristiaeth - Peter Mcdermott, Swyddog Arweiniol

·         Caffael - Helen Makin, Swyddog Arweiniol

 

Roedd y cynlluniau ar gyfer pob is-thema ar gamau gwahanol o ran eu datblygiad, fodd bynnag, roedd llawer iawn o waith cefnogi ‘busnes fel arfer’ yn mynd rhagddo.

 

Rhoddodd Mike Jones, Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd a Peter McDermott, Arweinydd Tîm - Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau ddiweddariad byr i'r aelodau ynghylch is-themâu Canol y Dref a Thwristiaeth.

 

Yn ystod trafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Cadarnhaodd swyddogion fod taliadau parcio wedi bod yn benderfyniad a ddirprwywyd gan Aelod Arweiniol yn dilyn trafodaethau gyda'r Cabinet. 

Ar ddechrau’r cyfnod clo, roedd parcio am ddim er mwyn helpu gweithwyr allweddol a gwirfoddolwyr.  Ailgyflwynwyd taliadau ym mhob maes parcio ar 3 Awst 2020. Parhaodd nifer fach o feysydd parcio i fod am ddim am hyd at 2 awr, a fyddai’n parhau hyd at 31 Rhagfyr 2020. Hyd yma, ni wnaed unrhyw benderfyniadau i ymestyn y cyfnod.    

·         Cadarnhaodd Mike Jones y byddai’n edrych i mewn i’r wybodaeth am ba mor aml y caiff toiledau eu glanhau, ac yna’n dosbarthu’r wybodaeth i’r aelodau.

·         Mynegodd y Cynghorydd Paul Penlington ei anghytundeb â'r wybodaeth a roddwyd gan Mike Jones wrth iddo nodi na welodd unrhyw arwyddion o hyn ym Mhrestatyn ynghylch rheolaeth y Stryd Fawr. 

Cwestiynodd y cyfleuster dim dwylo ar gyfer peiriannau talu am barcio hefyd.   Ymatebodd swyddogion i egluro, yn gyntaf bod sticeri ar bob peiriant maes parcio i hysbysu cwsmeriaid o ap y gellid ei gymhwyso i bob maes parcio ledled y sir.  Yn ail, cadarnhawyd hefyd fod yna arwyddion ledled Stryd Fawr Prestatyn ac y gallai swyddogion ddarparu cynlluniau o leoliadau arwyddion ar gyfer y Cynghorydd Penlington.   Roedd Ed Parry wedi cysylltu ag aelodau perthnasol y ward a oedd yn cwmpasu Stryd Fawr Prestatyn, er mwyn sefydlu cyfarfod safle i drafod y gwaith arfaethedig ar gyfer Stryd Fawr Prestatyn.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Hugh Irving ei fod wedi cael e-bost ac y byddai'n hapus i fynychu cyfarfod safle.  Cadarnhaodd aelodau y dylid ymgynghori ag aelodau wardiau am waith sy’n mynd rhagddo, ynghyd â Grwpiau Ardal yr Aelodau.     Dylid ymgynghori a Busnesau a grwpiau Busnes yn y dyfodol hefyd. 

Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) wedi cadarnhau y dylid ymgynghori ag aelodau a grwpiau busnes gan ei fod yn rhan hanfodol o'u rôl.

·         Codwyd materion ynghylch safleoedd Carafanau yn ystod y newidiadau cyfredol i’r cyfnod clo. 

Cwestiynwyd sut y byddai perchnogion carafanau yn gallu cloi a diogelu eu carafanau ar gyfer y gaeaf.  Cadarnhaodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau cwestiynau cyffredin am barthau gwarchod iechyd ac eglurhad o'r cyfyngiadau.  Y geiriau yn y canllawiau oedd “esgus rhesymol”.  Roedd angen i Gyngor Sir Dinbych (CSDd) gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â hyn er mwyn cael eglurhad, ac yna byddai'n ei gyfleu i bob perchennog safle carafanau.  Byddai angen i swyddogion gysylltu ag ALlau eraill hefyd er mwyn sicrhau cysondeb.

·         Roedd gwybodaeth am gefnogaeth i fusnesau yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru a mwy o gymorth grant i fusnesau sy'n dod o fewn parthau ar gael ar wefan CSDd. 

Roedd y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor a’r Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata i dynnu sylw at yr hyn a oedd ar gael drwy ddatganiadau i’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol.  Byddai Mike Jones yn gweithio gyda grwpiau canol tref i roi cyfarwyddyd iddyn nhw am sut i gael gafael ar wybodaeth

·         Gwiriodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad gyda Llywodraeth y DU pa gynlluniau sydd ar gael ar gyfer pobl hunangyflogedig ac i roi cyhoeddusrwydd i'r rhai a oedd ar gael.

 

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar yr arsylwadau a’r awgrymiadau a wnaed yn ystod y drafodaeth, cefnogi swyddogion o ran y gwaith sydd wedi’i wneud mewn perthynas â chefnogi busnesau o fewn y Sir a’u cyfraniad parhaus at waith adferiad economaidd rhanbarthol mewn partneriaeth â Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru (LlC).

 

 

 

Dogfennau ategol: