Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2019-2020
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno’r Adolygiad
Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2019-2020 i’w gadarnhau.
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 8
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cadarnhau cynnwys Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2019 i 2020.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ynghyd â’r Adolygiad Perfformiad
Blynyddol ar gyfer 2019-2020, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth a’i
gyhoeddi yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Cynghorwyd y Cabinet bod yr adroddiad wedi cael ei oedi oherwydd yr
amhariad a achosodd Covid-19 ac o ganlyniad roedd yn trafod chwarter 1 hefyd
lle'r oedd gwybodaeth ar gael, gan gynnwys ymateb y cyngor i’r pandemig. Cyflwynodd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol
berfformiad y cyngor yn erbyn ei flaenoriaethau yn 2019 i 2020; amlinellodd
gynlluniau ar gyfer darpariaeth y Cynllun Corfforaethol yn 2020 i 2021;
dangosodd gynnydd prosiectau’r cyngor, ac amlygodd gynnydd y cyngor wrth reoli
ei risgiau.
Darparodd
y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol gyflwyniad cryno ar yr Adroddiad Perfformiad
Blynyddol, gan amlygu yr heriau/cyflawniadau allweddol yn sgil Covid-19;
diweddariad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o’r meysydd blaenoriaeth
corfforaethol; cyfeiriadau at reoli risg, datblygu cynaliadwy a materion
cydraddoldeb, ac fe ddarparwyd sicrwydd ynghylch craffu adroddiadau rheoleiddio
allanol. Yn
gryno, fe wnaeth y cyngor gynnydd da yn erbyn blaenoriaethau, sydd wedi cael eu
heffeithio gan Covid-19 er hynny, ac sydd wedi dod â’i heriau. Ychwanegodd bod adolygiad
cyfran o flaenoriaethau wedi datgelu eu bod yn berthnasol o hyd wrth adlewyrchu
ar anghenion cymunedau er bod angen addasiad efallai. Adroddodd y Prif Weithredwr ar
edefyn adfer newydd i adolygu cynnydd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol a
chynnydd mewn rhai meysydd sydd wedi cael eu heffeithio – byddai canlyniad yr
adolygiad yn cael ei adrodd yn ôl i aelodau. Nodwyd efallai bydd cynllunio
i’r dyfodol ar gyfer y Cynllun Corfforaethol newydd sydd fin cychwyn yn y chwe
mis nesaf yn cael ei effeithio gan Covid-19.
Teimlodd
yr Arweinydd bod yr adroddiad yn amlygu hyblygrwydd y cyngor wrth fynd i’r
afael â’r heriau a wynebwyd ac fe dalodd deyrnged i'r ffordd roedd yr awdurdod
wedi ymateb i'r pandemig, gan weithio'n dda gyda chymunedau wrth drin materion,
a sut addasodd y gweithlu ei adnoddau mewn cyfnod o bwysau. Roedd yn falch bod rôl y llywodraeth leol a’i waith
i ymateb i’r pandemig wedi cael ei
gydnabod gan Llywodraeth Cymru. Er
yr holl bwysau, roedd yr awdurdod wedi gallu darparu elfennau allweddol yn
nhermau ei flaenoriaethau corfforaethol ac fe amlygodd dau fater sydd angen
canolbwyntio arnynt ymhellach wrth symud ymlaen (1) cefnogi canol
trefi/ardaloedd gwledig o wybod y pwysau economaidd, a (2) buddsoddiad mewn
cysylltiad digidol i gyd-fynd ag arferion gweithio sy'n newid.
Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd -
·
Talodd y Cynghorydd Bobby
Feeley deyrnged i’r gwasanaeth a ddarparwyd gan Sir Ddinbych Yn Gweithio;
cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod gwaith yn cael ei wneud i ystyried sut y
gellir darparu’r gwasanaeth yn y dyfodol o ystyried ei fod yn dibynnu ar gyllid
grant.
·
mewn ymateb i faterion a
godwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, cytunodd Rheolwr Tîm Cynllunio
Strategol i edrych i mewn i’r geiriad addas i ddisgrifio anheddau gwag, ac i
gynnwys esboniad cyffredinol yng nghofrestr y prosiect lle'r oedd prosiectau
mewn perygl neu'n profi rhwystrau; cadarnhaodd y Cynghorydd Bobby Feeley mai hi
oedd yr Aelod Arweiniol a oedd yn gyfrifol am y prosiect wrth weithio tuag at
Gyngor Cyfeillgar i Ddementia (y Swyddog Arweiniol oedd Gwasanaethau Cymorth
Cymunedol) a rhoddodd ddiweddariad ar y cynnydd.
·
Roedd y Cynghorydd Peter Scott
yn croesawu prosiect amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer Dwyrain y Rhyl ac
amlygodd y gwaith adfer a oedd heb ei gwblhau mewn perthynas â'r Afon Elwy.
·
mewn ymateb i gwestiynau gan y
Cynghorydd Gwyneth Kensler, cadarnhaodd swyddogion bod strategaeth newid
hinsawdd drafft yn cael ei datblygu a fyddai’n cynnwys ffyrdd i leihau
allyriadau carbon a bu cydnabyddiaeth y byddai angen ystyried sut y byddai'r
cyngor yn gwaredu plastigion ychwanegol a ddefnyddiwyd mewn ymateb i Covid-19.
Darparwyd manylion o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer costau
ychwanegol a ysgwyddir gan ysgolion o ganlyniad i’r pandemig.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cadarnhau cynnwys Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2019 i
2020.
Yn y fan hyn
(11.30 am) cymerodd y pwyllgor egwyl deng munud am luniaeth.
Dogfennau ategol:
- ANNUAL PERFORMANCE REVIEW, Eitem 7. PDF 215 KB
- ANNUAL PERFORMANCE REVIEW - APPENDIX 1, Eitem 7. PDF 536 KB