Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HEN WESTY'R SAVOY A MARCHNAD Y FRENHINES, THEATR A GWESTY, Y RHYL

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â datblygiad y safle, y risgiau cysylltiedig a’r  cyllid ychwanegol sydd ei angen.

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyrannu £1.5m o gyllid i’r prosiect i alluogi dymchwel a chwblhau’r broses gynllunio.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad hwn wedi’i baratoi i ddiweddaru aelodau ar ddatblygiad y dyfodol o hen Westy’r Savoy a Gwesty a Theatr y Queen’s Market, y Rhyl, ynghyd â risgiau cysylltiedig, a’r cyllid ychwanegol sy’n ofynnol.

 

Darparwyd gwybodaeth gefndir mewn perthynas â chaffael y safle a chynlluniau ar gyfer ei ailddatblygu (dros nifer o gamau/cyfnodau) a oedd wedi cael ei ystyried i fod yn hollbwysig i'r adfywiad a llwyddiant economaidd yr ardal yn y dyfodol. Roedd yn canolbwyntio ar gam 1 gyda chamau ychwanegol yn amodol ar adolygiad yng ngoleuni effaith ariannol ac economaidd Covid-19. Darparwyd trosolwg o elfennau'r prosiect yn ymwneud â cham 1 sy'n dangos y buddion i'r ardal hefyd. Roedd amcangyfrifon o’r costau wedi cynyddu’n sylweddol ers yr amcangyfrifiad gwreiddiol gan adael diffyg presennol o £4.3 miliwn, a cafwyd manylion llawn o’r costau o fewn yr adroddiad ynghyd â’r rhesymeg tu ôl i’r cynnydd mewn costau y cafodd eu disgrifio ymhellach yn y cyfarfod. Roedd adolygiad manwl o’r sefyllfa ariannol gyfredol wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd y gellir cyflawni’r prosiect o fewn yr amcangyfrifiad cost diwygiedig.  I gadw’r prosiect ar y trywydd iawn ac i alluogi i'r safle gael ei ddymchwel fel mater o argyfwng, ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet i ddyrannu £1.5 miliwn ychwanegol i’r prosiect. Amlygwyd y risgiau oedd yn gysylltiedig â’r prosiect, gan gynnwys gofyniad o £2.8 miliwn pellach y gobeithiwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu’r arian ychwanegol.

 

Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn bryderus i nodi'r sefyllfa bresennol a gofynnodd beth oedd y posibilrwydd o gymryd rôl partner datblygu mewnol, efallai gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf.  Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y byddai’r cynnydd mewn costau wedi digwydd er gwaethaf popeth, a bod gan y partner datblygu cyfredol llwyddiant blaenorol, ac wedi gweithio’n dda gyda’r cyngor ar brosiectau adfywio blaenorol.  Oherwydd maint y prosiect, nid oedd gan y cyngor yr adnoddau na’r arbenigedd yn fewnol i’r ddarparu, ac felly ystyriwyd mai partner allanol oedd y dull gorau i fwrw ymlaen â'r prosiect.  Nodwyd hefyd efallai bydd cwmpas ar gyfer cynnwys Hamdden Sir Ddinbych Cyf yng nghamau’r prosiect yn y dyfodol, yn amodol ar reolau caffael perthnasol a gweithdrefnau llywodraethu cywir.

 

Ymatebodd y Swyddog Arweiniol – Rheoli Asedau Strategol i gwestiynau fel a ganlyn:

 

·         nid oedd unrhyw un o’r adeiladau ar y safle'n rhestredig

·         byddai adeilad yn wynebu Sussex Street (a elwir yn Queen’s Chambers) o fewn ardal gadwraeth ganol y dref yn cael ei adnewyddu a’i ailwampio fel rhan o’r cynllun cyffredinol a byddai pob adeilad arall yn cael eu dymchwel

·         rhoddwyd llawer o amser i geisio cynnal yr adeiladau gyda nifer o arolygon yn cael eu cynnal, ond yn anffodus roeddent tu hwnt i'w hadfer yn economaidd.

·         roedd gwaith yn parhau i fynd rhagddo gyda'r Gymdeithas Hanes ac eraill gyda'r bwriad o achub unrhyw beth o werth hanesyddol neu ddiddordeb lleol ar y safle.

·         Nid oedd yr islawr a’r sianel yn bodoli bellach, a tybiwyd eu bod wedi cael ei dinistrio gan dân yn 1912, a losgodd yr holl adeilad.

·         Nid oedd awgrymiad y byddai unrhyw fudd mewn ychwanegu cymal yn y contract dymchwel mewn perthynas ag archeoleg, ond roedd prosesau ar waith petai unrhyw beth o werth archeolegol yn cael ei ganfod yn ystod y gwaith dymchwel.

·         ymddiheurwyd bod y Gymraeg a ddefnyddiwyd ar y darluniadau ddim yn cydymffurfio gyda safonau'r iaith ar hyn o bryd a byddant yn cael eu newid.

·         byddai angen adolygu camau’r dyfodol yng ngoleuni Covid-19 a byddai angen ystyried lleoliad posib gwasanaethau’r cyngor ar y pryd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Joan Butterfield o blaid yr argymhelliad a chadarnhaodd bod Grŵp Aelod Ardal y Rhyl wedi craffu ar y rhaglen yn fanwl, ac er y gwerthfawrogir y cyllid sylweddol sydd ei angen a'r risgiau sy'n gysylltiedig, roedd hi'n gyfforddus gyda symud y prosiect ymlaen i elwa’r Rhyl a Sir Ddinbych.  Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod yn iawn cael pryderon ac i ddeall y risg, ac ei fod wedi bod yn gyfforddus gyda'r ymatebion a roddwyd mewn ymateb i'r materion a godwyd.  O ganlyniad, roedd yn gyfforddus gyda’i argymhelliad i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyrannu £1.5 miliwn o gyllid i’r prosiect i alluogi dymchwel a chwblhau’r broses gynllunio.

 

 

Dogfennau ategol: