Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF - CYNIGION BAND B

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r dull ar gyfer cyflawni cynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir Ddinbych.

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo dechrau prosiectau yn Ysgol Plas Brondyffryn / Ysgol Uwchradd Dinbych, Dinbych; Ysgol Bryn Collen / Ysgol Gwernant, Llangollen ac Ysgol Pendref, Dinbych, fel rhan o’r cam cyntaf o brosiectau ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a chyflwyno’r cynigion hyn i Lywodraeth Cymru, a

 

(b)       parhau i geisio cyllid ychwanegol ar gyfer ail gam prosiectau Band B ac adolygu’r sefyllfa ymhen 18 mis i ganfod opsiynau ar gyfer gweithredu rhai o’r prosiectau hyn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad gan ddarparu diweddariad ar gynnydd y cynigion a cheisio cymeradwyaeth darpariaeth Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir Ddinbych.

 

Roedd cynigion Band B yn canolbwyntio ar fuddsoddiad mewn ysgolion yn ardal Llangollen a Dinbych ynghyd ag ysgol gynradd newydd yn y Rhyl.  Ystyriodd y Cabinet ddewisiadau i symud Band B ymlaen ym mis Rhagfyr 2019 a cytunodd i ofyn am gyllid ychwanegol o £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru (LlC) a oedd angen cyfraniad cyffredinol o tua £21 miliwn ar gyfer Sir Ddinbych hefyd er mwyn darparu rhaglen o £83 miliwn.  Darparwyd manylion o ymateb LlC, a oedd angen rhestr o brosiectau i gael eu blaenoriaethu a darpariaeth y rhaglen mewn dau gam.  Byddai cam cyntaf y prosiect yn cynnwys gwaith ymarferoldeb manwl sy'n eu galluogi i gychwyn, a byddai'r ail gam angen i'r cyngor barhau i drafod eu hachos gyda LlC am adnoddau ychwanegol i sicrhau dewisiadau darparu.

 

Esboniodd yr Aelod Arweiniol, er bod y rhaglen yn canolbwyntio ar yr un ysgol, ni fyddai’n bosib, o wybod bod addasiad i gyllid LlC, i barhau gyda phob prosiect ar yr un pryd.  Cynhaliwyd proses flaenoriaethu yn seiliedig ar alw ac fe eglurodd y broses honno ymhellach, yn ogystal â'r rhesymeg tu ôl i drefn flaenoriaethau pob prosiect ysgol unigol.  Awgrymwyd y dylid dychwelyd gydag adroddiad pellach i'r Cabinet ymhen 18 mis, o wybod yr angen i roi pwysau ar LlC am ragor o gyllid tuag at y prosiectau yn yr ail gam. Yn nhermau terfynau amser, darparwyd manylion o'r camau amrywiol ac roedd yn bleser nodi y byddai datblygiadau a rheolaeth prosiectau adeiladu carbon isel yn cael effaith gadarnhaol ar ôl troed carbon y cyngor ac yn arwain at arbedion ariannol.

 

Roedd y Cabinet yn siomedig wrth adrodd na fyddai’n bosibl parhau gyda’r cynigion gwreiddiol fel y cynlluniwyd oherwydd yr addasiad i'r cyllid, ond cytunodd gyda'r ffordd o weithio a amlinellwyd yn yr adroddiad fel y ffordd gorau ymlaen i ddarparu buddsoddiad wedi'i dargedu yn seiliedig ar yr angen, a chroesawodd y buddsoddiad hwnnw mewn ysgolion.  Ystyriwyd bod llwyddiant blaenorol y cyngor wrth gyflawni prosiectau yn sylfaen gadarn ac roedd yn cefnogi rhoi pwysau ar LlC am gyllid ychwanegol ar gyfer yr ail gam, ac i adolygu’r sefyllfa mewn 18 mis. Cafodd y mesurau arbed ynni ar gyfer prosiectau ysgolion y cyfeiriodd yr Aelod Arweiniol atynt eu croesawu hefyd.  Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mark Young, cadarnhawyd bod pob Pennaeth wedi cael eu briffio ar y sefyllfa ynghyd ag aelodau lleol, a cafwyd sicrwydd y byddai gohebiaeth yn parhau gydag ysgolion wrth symud ymlaen. Y gobaith oedd datblygu achosion busnes ar ddechrau'r flwyddyn nesaf, ond roedd hyn yn dibynnu ar LlC.

 

Ymatebodd Aelodau Arweiniol i gwestiynau gan aelodau nad oedd yn rhan o’r Cabinet fel a ganlyn -

 

·         mewn ymateb i'r Cynghorydd Paul Penlington, esboniwyd bod ysgolion ym Mand B wedi cael eu dewis yn seiliedig ar broses flaenoriaethu o’r angen mwyaf a'r cyflwr cyffredinol. 

Bu buddsoddiad sylweddol yn Ysgol Uwchradd Prestatyn yn nhermau atgyweirio a gwaith cynnal a chadw, a byddai’r ysgol yn debygol o fod ym Mand C, er, er byddai angen gwneud gwaith i fesur yr effaith ar niferoedd disgyblion o ganlyniad i’r buddsoddiad yn ysgolion y Rhyl.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at ddefnydd Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru i gaffael prosiectau, ac roedd yn awyddus bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gwmnïau lleol – rhoddwyd sicrwydd bod dros 50% o fusnesau wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru a bod camau wedi cael eu cymryd i alluogi i fusnesau lleol gymryd rhan. 

Roedd rhai prosiectau mwy yn atal busnesau lleol oherwydd capasiti, fodd bynnag roedd cyfran uchel o'r gwaith hwnnw wedi cael ei wneud gan isgontractwyr yn lleol.

·         ar argymhelliad y Cynghorydd Meirick Davies, cytunwyd i ddiwygio’r argymhellion i gynnwys cyflwyno’r cynigion i Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo dechrau prosiectau yn Ysgol Plas Brondyffryn / Ysgol Uwchradd Dinbych, Dinbych; Ysgol Bryn Collen / Ysgol Gwernant, Llangollen ac Ysgol Pendref, Dinbych, fel rhan o’r cam cyntaf o brosiectau ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a chyflwyno’r cynigion hyn i Lywodraeth Cymru, a

 

 (b)      parhau i geisio cyllid ychwanegol ar gyfer ail gam prosiectau Band B ac adolygu’r sefyllfa ymhen 18 mis i ganfod opsiynau ar gyfer gweithredu rhai o’r prosiectau hyn.

 

 

Dogfennau ategol: