Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

(b)       cytuno i sefydlu cronfa wrth gefn fach i helpu i dalu am fuddsoddiad yn safle Carchar Rhuthun i wella’r profiad i ymwelwyr.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelwyd gorwariant o £5.221m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ pellach neu geisiadau).

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu Amgen Hamdden

·        manylion o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn).

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Gofynnwyd y Cabinet i gytuno ar sefydlu cronfa wrth gefn fach i helpu i dalu am fuddsoddiad yn safle Carchar Rhuthun i wella’r profiad i ymwelwyr.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf yn fanwl, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, gan gynnwys y cyllid grant a gafwyd hyd yma a'r safle ar hawliau i'r cyngor. Derbyniwyd taliad o £2.6 miliwn i fynd i’r afael â cholledion incwm i ardaloedd cyffredin ar draws yr awdurdodau ond roedd yn anhysbys a fyddai hawl pellach ar gyfer ystod amrywiol o golledion yn cael ei dalu'n llawn oherwydd bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi pwysleisio'r angen am gysondeb ar draws cynghorau ac i osgoi noddi dewis lleol. Cyhoeddodd LlC £264 miliwn yn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol i’w cefnogi gyda’r costau ychwanegol a’r incwm a gollwyd yn sgil pandemig Covid-19 dros weddill y flwyddyn ariannol a disgwylir manylion pellach a chanllawiau o ran hynny yn yr wythnosau nesaf.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·        rhoddodd drosolwg o’r ffrydiau cyllid sydd ar gael i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ynghyd â threfniadau y cytunwyd arnynt i helpu gyda llif arian. 

Y prif ffynhonnell cyllid oedd cronfa colli incwm LlC ac roedd taliad ar gyfer Chwarter 1 wedi cael ei dderbyn.  Gobeithir y byddai’r hawliad ar gyfer Chwarter 2 yn cael ei dalu'n llawn hefyd.

·        cafwyd manylion talu £500 o anrheg i weithwyr gofal gan LC a oedd yn cael ei ddyrannu gan y cyngor a bu cynnydd da. 

Roedd bron i bob aelod o staff y cyngor wedi cael eu talu ac roedd trydydd taliad i ddarparwyr allanol ar y gweill, yn dilyn beth fyddai wedi cael ei dalu. Talodd y Cynghorydd Bobby Feeley deyrnged i’r Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol a’r staff am ddarparu'r cynllun yn enwedig o ystyried y diffyg ymgynghori ymlaen llaw.

·        eglurwyd bod cytundeb wedi cael ei geisio i’r egwyddor o sefydlu cronfa wrth gefn i helpu i dalu am fuddsoddiad yn safle Carchar Rhuthun a’r bwriad oedd bod y gwasanaeth yn gweithio i ganfod arbedion i gynyddu’r gronfa i £60 mil erbyn 2025; deallwyd bod gwasanaeth gwahanol yn gyfrifol am adfer canol tref ac o ganlyniad nid oedd trosglwyddiad, neu wrth-ymrwymiad rhwng y cyllidebau gwasanaeth hynny – gofynnodd yr Arweinydd am ragor o eglurhad a bod neges e-bost yn cael ei hanfon i’r Cynghorydd Gwyneth Kensler mewn ymateb i’w ymholiad mewn perthynas â hynny.

·        o ran ad-dalu'r costau a ysgwyddir ar gyfer darpariaeth cynlluniau LlC, y farn oedd petai’n gynnydd go iawn mewn costau, ac nad ellir ei osgoi oherwydd Covid-19, gellir hawlio’r costau, ond byddai pob achos yn cael ei asesu yn ôl ei haeddiant ei hun.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cytuno i sefydlu cronfa wrth gefn fach i helpu i dalu am fuddsoddiad yn safle Carchar Rhuthun i wella’r profiad i ymwelwyr.

 

 

Dogfennau ategol: