Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ARCHWILIAD BLYNYDDOL O DDIOGELU PLANT MEWN ADDYSG – FFRAMWAITH SICRHAU ANSAWDD

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Arweinydd y Tîm, Gweithwyr Cymdeithasol Addysg, sy’n amlinellu gweithgareddau atgyfeirio ysgolion i’r Gwasanaethau Plant dros y flwyddyn ysgol ddiwethaf, yn diweddaru’r Pwyllgor ar y Cynllun Gweithredu Amddiffyn sy’n ymwneud â threfniadau mewn addysg a’r hyfforddiant a gynigir i ysgolion.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm Gweithwyr Cymdeithasol Addysg (ATGCA) adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) yn diweddaru’r Pwyllgor ar weithgaredd diogelu o fewn addysg ac ar y cynllun gweithredu diogelu yr ymgymerwyd ag ef mewn ymateb i adroddiad Cyngor Sir Benfro Medi 2011.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor am eu cymeradwyaeth a’u cefnogaeth i’r camau a gymerir yn y dyfodol i fynd i’r afael â’r meysydd gwan a glustnodwyd yn yr archwiliad blynyddol o ysgolion ac i fynd i’r afael â materion diogelu ar draws gwasanaethau.

 

Eglurodd ATGCA i’r Pwyllgor fod newidiadau arwyddocaol wedi digwydd yn ystod y 12 mis blaenorol yng Nghymru.  Yn dilyn adroddiad Cyngor Sir Benfro (Medi 2011), a ddefnyddiwyd fel templed o feysydd sy’n peri pryder, codwyd materion at lefel Gweinidogol.  Ysgrifennodd y Gweinidog at bob Awdurdod Lleol yn gofyn am i archwiliadau gael eu gwneud.

 

Mae pob atgyfeiriad yn cael ei gopïo’n awtomatig i’r ATGCA i’w archwilio.  Os nad yw’r atgyfeiriad yn cael ei ystyried yn ddigon difrifol i gael ei drin gan yr Uned Diogelu, neu fod y rheswm dros yr atgyfeiriad yn aneglur, mae’r ATGCA yn cysylltu â’r ysgol i gael gwybod y rhesymau paham y gwnaed yr atgyfeiriad.   Roedd rhaglen dreigl o hyfforddiant blynyddol yn cael ei darparu’n awr ar gyfer pob ysgol.  Anfonir manylion staff sy’n methu mynychu hyfforddiant yn ôl i’r Pennaeth i sicrhau y gwneir yr hyfforddiant o fewn y flwyddyn ysgol.

 

Roedd prosiectau a gyflenwir drwy gyllid Cymorth ar ran yr Awdurdod Lleol hefyd wedi’u gwneud yn ymwybodol o bwysigrwydd materion diogelu a’r angen i ddatblygu polisïau diogelu.  Roedd hyn wedi arwain at wneud archwiliad o bolisïau amddiffyn a diogelu plant yr asiantaethau. 

Gan fod cyllid Cymorth yn dod i ben, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Demograffeg, Lles a Chynllunio (CC: DLlCh) y byddai contractau newydd a ddyfernir dan y fenter Teuluoedd yn Gyntaf yn pennu’r angen am brosesau AD i ddelio â materion amddiffyn plant ac y byddai diogelu’n ffurfio rhan o’r broses monitro contractau.

 

Cyhoeddodd Dr Dawn Marjoram, Aelod Cyfetholedig mai’i  diddordeb arbenigol oedd plant gydag anghenion arbennig ac roedd plant anabl yn arbennig o agored i gael eu cam-drin.  Gofynnodd Dr Marjoram a oedd staff sy’n gweithio mewn ysgolion anghenion arbennig a hefyd staff mewn ysgolion prif ffrwd, sy’n delio â phlant anghenion arbennig, yn derbyn hyfforddiant penodol, yn arbennig y staff hynny a oedd yn gofalu am blant gyda phroblemau cyfathrebu.  Cadarnhaodd yr ATGCA fod yna staff gyda gwybodaeth arbenigol yn gweithio mewn ysgolion ac y byddent yn gallu adnabod unrhyw amgylchiadau a oedd yn achos pryder.  Cyflëwyd yn y sesiynau hyfforddi nad cyfrifoldeb y staff yn unig oedd diogelu’r plant ond ei fod hefyd yn gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol, a oedd yn cynnwys llywodraethwyr ysgolion.  Roedd gan y gwasanaethau allweddol o fewn Cyngor Sir Ddinbych yr wybodaeth berthnasol i ddelio â phroblemau.

 

Cadarnhaodd CC:DLlCh fod y Cyd-Banel Asesu Risg yn cyfarfod ddwyaith yr wythnos a bod cynrychiolwyr Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu ac Iechyd yn mynychu’r cyfarfodydd hyn.  Roedd gwybodaeth yn cael ei chydgasglu ynghylch y math o gymorth y gall plentyn neu deulu fod â’i angen, fel y gallai tîm gael ei adeiladu o gwmpas y teulu i’w cefnogi.

 

Holodd Dr Marjoram os oedd plentyn o du allan i’r sir yn cael ei addysgu mewn ysgol yn Sir Ddinbych, sut fyddai hyn yn effeithio ar y broses?  Eglurodd ATGCA fod yna system glir i ddelio â phlentyn o’r tu allan i Sir Ddinbych.  Roedd disgwyliad gan y tîm rheoli y byddid yn cysylltu â’r Awdurdod Lleol, roedd hyn yn sicrhau bod Sir Ddinbych yn bod yn rhagweithiol ac nid yn adweithiol.  Roedd y tîm rheoli wedi mynychu hyfforddiant Lefel 2 yn ddiweddar er mwyn mwyhau ymwybyddiaeth yn cynnwys pan fyddir yn penodi cynrychiolwyr i gyrff llywodraethol.

 

Eglurhaodd ATGCA fod yr archwiliad yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Diogelu Plant.  Yn dilyn cyfarfod y Bwrdd, roedd unrhyw broblemau’n cael eu hymgorffori wedyn o fewn y rhaglen hyfforddi.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Gwilym Evans y system TG a oedd yn ei lle ar hyn o bryd a pha un a oedd yn ddigonol i ddelio â’r problemau fel y bônt yn codi.  Eglurhaodd ATGCA petai problem yn codi ynghylch y system TG, mai rhyngwyneb arall fyddai cysylltu dros y ffôn.  Roedd gan bob ysgol rifau cysylltu ar gyfer Gwasanaethau Plant i alluogi atgyfeiriad llafar.  Felly, ni fyddai problemau gyda’’r system TG yn achosi unrhyw oedi yn yr atgyfeirio.

 

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y mater canlynol am y rheswm ei fod yn debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

RHAN II

 

Roedd hyfforddiant yn cael ei ddarparu hefyd ar gyfer staff   Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, a oedd wedi’i addasu’n arbennig i gwrdd â’u hanghenion, a staff Gwasanaeth Cerdd Ysgol William Mathias yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Mae rheolwyr a staff Canolfannau Hamdden wedi cael hyfforddiant.  Roedd staff y Gwasanaeth Ieuenctid i fod i gael hyfforddiant o fewn y mis nesaf.  Holodd John Saxon, Aelod Cyfetholedig, a oedd Penaethiaid yn derbyn hyfforddiant ychwanegol. Cadarnhaodd ATGCA fod Penaethiaid yn derbyn hyfforddiant lefel 1 a lefel 2 hefyd.  Roedd hyfforddiant Lefel 1 a 2 yn rhoi ymwybyddiaeth ehangach o ddiogelu o amgylch ysgolion, e.e. staffio, recriwtio, AD a lles plant. 

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch cludiant ysgol a hebryngwyr.  Cadarnhaodd ATGCA fod ei staff yn gweithio’n agos â’r Adran Drwyddedu.  Gofynnodd Dr Marjoram a oedd strwythur yn ei le ar gyfer hebryngwyr ac os felly, y dylai fod yn ei le ar gyfer gyrwyr tacsis/bysus ysgol hefyd.  Cadarnhaodd ATGCA fod gyrwyr tacsi, wedi’u trwyddedu gyda Sir Ddinbych, yn cael archwiliad CRB manylach.  Roedd archwiliadau CRB yn cael eu gwneud ar bob gyrrwr bws hefyd gan yr Adran Cludiant Teithwyr.  Hefyd os oedd yna yrrwr tacsi gwaharddedig o sir arall, byddai’r wybodaeth yma’n cael ei hanfon ymlaen gan sicrhau nad oedd y gyrrwr gwaharddedig yn gallu gweithio mewn sir arall.  Roedd prosesau o’r fath i’w gwneud yn fwy trwyadl a chadarn ar ôl cyhoeddi Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.  Holodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Dewi Owens, ynghylch gyrwyr tacsis sy’n gweithio heb hebryngwr ysgol.  Eglurhaodd ATGCA nad oedd hi’n orfodol i hebryngwyr ysgol fynd gyda phob plentyn sy’n teithio mewn tacsi. 

 

Gofynnodd John Saxon, aelod Cyfetholedig a oedd pob bws/coetsh ysgol wedi’u ffitio â chamerâu.  Nid oedd ATGCA yn gwbl siŵr ynghylch y pwynt hwn ac awgrymodd y dylid gofyn am eglurhad gan Reolwr Adran Cludiant Teithwyr i gael gweld a oedd hynny’n wir.  Awgrymodd Dr. Marjoram hefyd fod angen edrych i mewn i blentyn yn diogelu plentyn ar gludiant ysgol.

 

Cadarnhaodd ATGCA i’r Pwyllgor ei bod yn rhaid i bob ysgol ymgymryd ag archwiliad blynyddol, ym mha un yr oedd 127 o gwestiynau ag angen ymatebion.  Roedd yr wybodaeth yma’n cael ei hanfon at ATGCA, a oedd yn archwilio’r wybodaeth wedyn.  Fe wnaeth y Pwyllgor:

 

BENDERFYNU yn amodol ar y sylwadau uchod:

(a)               nodi’r camau a gymerwyd hyd yn hyn i fynd i’r afael â materion diogelu ar draws gwasanaethau, a chymeradwyo camau yn y dyfodol i fynd i’r afael â’r meysydd gwan a glustnodwyd yn yr archwiliad blynyddol o ysgolion i fynd i’r afael â materion diogelu ar draws gwasanaethau; a

(b)               gofyn i lywodraethwyr ysgolion fonitro’n rheolaidd fod gan holl staff a gwirfoddolwyr eu hysgol archwiliadau diogelu cyfredol perthnasol yn eu lle a’u bod wedi cael yr hyfforddiant diogelu sy’n berthnasol i’w swydd.

 

 

Dogfennau ategol: