Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN ADFER AR GYFER PRIFFYRDD A'R PARTH CYHOEDDUS

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) gan Bennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol, yn nodi manylion y cynllun adfer ar gyfer priffyrdd a’r parth cyhoeddus o ganlyniad i effaith Covid-19.

 

11:30 – 12:05

Penderfyniad:

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)           cefnogi’r cynllun adfer, fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad;

(ii)          estyn diolch diffuant y Pwyllgor i holl staff Priffyrdd a Pharth Cyhoeddus am eu holl waith caled ac ymdrechion yn cyflwyno gwasanaethau hyd orau eu gallu yn ystod cyfyngiadau’r cyfnod clod, ac am eu gwaith yn paratoi a chynllunio adferiad y Gwasanaethau o ymateb i’r pandemig i ddarparu busnes o ddydd i ddydd ac amcanion adferiad y Gwasanaeth; a

(iii)        gofyn bod y Gweithdy Aelodau ar God Ymarfer Priffyrdd a materion sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaeth y bu’n rhaid ei ganslo oherwydd y pandemig yn cael ei ail-drefnu ac yn cael ei gynnal trwy gyfrwng fideo gynhadledd cyn gynted â phosibl

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gwastraff, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn esbonio'r dull dau gam o wella fel:

 

1.    Tymor byr – ailddechrau gweithgareddau cynnal a chadw priffyrdd arferol a

2.    Model cynaliadwy – cynllun cynnal a chadw tymor hir sy'n cynnwys strwythurau'r adran yn y dyfodol a thechnoleg newydd ar gyfer mwy o effeithlonrwydd.

 

Cydnabu Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol nad oedd yr adroddiad yn rhoi darlun arbennig o gadarnhaol ond bod angen bod yn agored ac yn onest am yr heriau yr oedd y Gwasanaeth yn eu hwynebu. Digwyddodd y 7 mis o darfu ar gynnal a chadw priffyrdd ar yr union adeg y byddai'r rhan fwyaf o'r gwaith cynnal a chadw ar gyfer y flwyddyn wedi'i wneud. Roedd colli'r cylch cynnal a chadw priffyrdd blynyddol cyfan yn golygu bod ffyrdd yr oedd angen gwneud gwaith iddynt o'r blaen wedi dirywio mwy ac y byddent yn costio llawer mwy i'w codi i safon dderbyniol eto. Roedd gwaith priffyrdd wedi ailddechrau fel mater o frys er mwyn cyflawni cymaint â phosibl cyn dechrau'r gaeaf gyda'i risgiau cynhenid - graeanu'r gaeaf ac ail don bosibl o Covid-19. Roedd cynlluniau wrth gefn yn cael eu datblygu i reoli'r risg honno.

 

Mewn ymateb i aelodau'r Pwyllgor, tynnwyd sylw gan Bennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheolwr Risg ac Asedau:

 

·         at yr anhawster o sicrhau contractwyr i wneud gwaith trin wyneb y ffyrdd pan oedd cyn lleied ohonynt a galw mawr amdanynt drwy’r holl wlad;

·         dywedodd fod contractwyr ar y cyfan yn haws cael gafael arnynt pan oedd gwaith ar raddfa fwy ar gael, oedd yn golygu bod rhaglen gymharol fach Sir Ddinbych o dan anfantais;

·         tynnodd sylw at y ffaith bod yr arolygon sgorio cyflwr ffyrdd lleol a gynhelir ddwywaith y flwyddyn fel arfer wedi'u gohirio yn ystod y 6 mis diwethaf, oherwydd Covid-19. Fodd bynnag, roedd yr arolwg ffyrdd ar gyfer y Dangosyddion Perfformiad Allweddol cenedlaethol wedi'i gwblhau ar 6 Awst. Disgwylir y canlyniadau yn ôl Gwanwyn 2021;

·         cytunwyd i ystyried ailgynnull gweithdy'r aelodau (yn rhithiol) ar y Cod Ymarfer Priffyrdd a'r Strategaeth Cynnal a Chadw a gynlluniwyd cyn cyfnod y cyfyngiadau;

·         cydnabu’r capasiti cyfyngedig yn sgil cydbwyso adnoddau ar gyfer gwaith cynnal a chadw gylïau a ffosydd. Am y rheswm hwnnw, cedwir rhywfaint o gapasiti ar gyfer gwaith yn ôl yr angen, er bod llawer o'r gwaith hwnnw wedi'i drefnu;

·         cadarnhawyd y cysylltwyd â pherchnogion tir ynglŷn â chyflwr eu gwrychoedd ar ochr y ffordd a'u bod wedi cyflwyno rhybudd i'w torri'n ôl, lle bo angen; a

·         dywedodd mai anaml yr oedd Dŵr Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am ddŵr wyneb y ffordd ond, pan oedd yn gyfrifol, fod yr Awdurdod wedi gweithio gyda nhw i'w ddatrys;

 

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad yn yr adroddiad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)        cefnogi’r cynllun adfer, fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad;

(ii)       estyn diolch diffuant y Pwyllgor i holl staff Priffyrdd a Pharth Cyhoeddus am eu holl waith caled ac ymdrechion yn cyflwyno gwasanaethau hyd orau eu gallu yn ystod cyfyngiadau’r cyfnod clod, ac am eu gwaith yn paratoi a chynllunio adferiad y Gwasanaethau o ymateb i’r pandemig i ddarparu busnes o ddydd i ddydd ac amcanion adferiad y Gwasanaeth; a

(iii)      gofyn bod y Gweithdy Aelodau ar God Ymarfer Priffyrdd a materion sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaeth y bu’n rhaid ei ganslo oherwydd y pandemig yn cael ei ail-drefnu ac yn cael ei gynnal trwy gyfrwng fideo gynhadledd cyn gynted â phosibl.

 

Dogfennau ategol: