Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN ADFER AR GYFER YSGOLION

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) gan Bennaeth Dros Dro Addysg, ar y cynnydd a wnaed i alluogi ysgolion i agor yn ddiogel i bob disgybl ym mis Medi ac i archwilio'r Cynlluniau Adfer ar ôl COVID ar gyfer ysgolion.

 

10:05 – 10:40

Penderfyniad:

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)           cefnogi’r hyn oedd wedi digwydd hyd yn hyn i alluogi ysgolion i agor yn ddiogel ar gyfer pob disgybl ym mis Medi 2020, a chefnogi’r Cynlluniau Adfer ar gyfer Ysgolion ar ôl Covid sy’n esblygu; a

(ii)          ac estyn diolch diffuant y Pwyllgor i holl staff yr adran Addysg a gwasanaethau eraill y Cyngor am eu holl waith caled ac ymdrechion yn ystod y cyfnod clo ac wrth gynllunio a hwyluso ailagor ysgolion y Sir

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gan yr Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd a ddechreuodd drwy ddiolch i holl staff Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir Ddinbych – gan gynnwys y Pennaeth Gwasanaeth sy'n gadael, penaethiaid ysgolion, rhieni a phlant am eu gwaith caled a'u hymrwymiad yn ystod cyfnod heriol y cyfyngiadau.

 

Cyn dechrau gwyliau'r haf, cafodd y dysgwyr gyfle i fynychu sesiynau cadw mewn cysylltiad, dal i fyny a pharatoi ar gyfer y tymor newydd. Ar gyfartaledd, manteisiodd cyfradd o 50%, er, mewn rhai ysgolion roedd hyd at 85% - 90% yn bresennol.

 

Roedd y Rhanbarth, yr awdurdod lleol (ALl) ac ysgolion wedi bod yn paratoi ar gyfer pedair sefyllfa bosibl ar ddechrau tymor newydd yr ysgol ond fe'u synnwyd pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r canlyniad yr oeddent yn ei ddisgwyl leiaf - 100% o ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgol - yr wythnos cyn i ysgolion gau ar gyfer gwyliau'r haf. Hefyd gwnaed cyhoeddiad pellach (ond heb ganllawiau) ynghylch defnyddio gorchuddion wyneb gan Lywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf. Mewn ymateb, cynhaliwyd cyfarfod gyda'r holl Benaethiaid a oedd wedi cytuno y byddai'n ofynnol i blant ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb wrth symud rhwng dosbarthiadau yn y coridorau.

 

Cydnabu'r Pennaeth Addysg Dros Dro rôl gwahanol adrannau eraill drwy’r Awdurdod a oedd wedi bod yn rhan o'r gwaith o helpu'r Gwasanaeth Addysg i ymateb i'w heriau. Rhoddodd sicrwydd fod ysgolion yn barod i dderbyn y plant, roedd disgwyl i bob un ohonynt fod wedi dychwelyd erbyn 14 Medi.  Roedd asesiadau risg manwl yn cynnwys arlwyo, glanhau, trafnidiaeth, Adnoddau Dynol ac ati wedi'u cynnal i sicrhau lles 16,000 o fyfyrwyr Sir Ddinbych.

 

Mewn ymateb i gwestiynau cafodd y Pwyllgor:

·         ei sicrhau bod cefnogaeth a chapasiti yn eu lle ar gyfer Gwasanaethau Addysg a Phlant yn dilyn symudiad diweddar y Pennaeth Gwasanaeth blaenorol i Awdurdod arall;

·         dywedwyd bod y penodiadau dros dro ar gyfer Penaethiaid Addysg a Gwasanaethau Plant wedi'u gwneud am gyfnod o 12 mis (wedi cychwyn ym Mehefin 2020) gyda'r disgwyliad o benderfyniad parhaol ynghylch strwythur y Gwasanaeth ym mis Rhagfyr;

·         cafwyd sicrwydd bod y newidiadau a wnaed i'r Polisi Dyrannu Tai a’r Rheoliadau Digartrefedd gan Lywodraeth Cymru (LlC) mewn ymateb i Covid-19 yn dal ar waith a bod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â nhw.

·         cadarnhawyd y byddai canllawiau Llywodraeth Cymru a phrotocol gweithredu dilynol yn cael eu dilyn pe bai unrhyw blant yn arddangos symptomau tra eu bod yn yr ysgol;

·         dywedwyd nad oedd unrhyw gynlluniau i brofi plant asymptomatig – penderfyniad i Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd hynny yn hytrach nag Awdurdodau Lleol;

·         dywedwyd na fyddai hysbysiadau cosb benodedig am ddiffyg presenoldeb yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd ac na fyddai data presenoldeb a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio yn y flwyddyn academaidd bresennol neu flaenorol;

·         cafwyd sicrwydd bod y broses amddiffyn plant wedi parhau yn ystod y cyfyngiadau a bod cyswllt wedi'i wneud drwy gydol y cyfnod gyda'r holl blant bregus y gwyddys amdanynt.  Rhagwelwyd y byddai nifer yr atgyfeiriadau plant yn cynyddu ar ôl i'r ysgolion ailagor yn llawn;

·         dywedwyd bod costau ychwanegol ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ac ati yn cael eu talu ar hyn o bryd drwy gyllideb yr ysgol ond bod grantiau Covid-19 yn cael eu defnyddio;

·         cydnabuwyd bod trefniadau cludiant i'r ysgol yn anodd o ystyried y capasiti is ar gyfer cadw pellter cymdeithasol; a

·         phwysleisiwyd bod canllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Ysgolion ac arferion gweithredu gwasanaethau cymorth cysylltiedig yn newid yn rheolaidd.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, diolchodd y Cadeirydd unwaith eto i'r Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, Pennaeth Addysg Dros Dro a Phennaeth Gwasanaethau Plant Dros Dro.

 

Roedd yna gonsensws i gytuno ar yr argymhelliad yn yr adroddiad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod i:

 

(i)          gefnogi'r camau a gymerwyd hyd yma i alluogi ysgolion i agor yn ddiogel ar gyfer pob disgybl ym mis Medi 2020, a chymeradwyo'r Cynlluniau Adfer ôl-COVID sy'n datblygu ar gyfer Ysgolion; ac

(ii)         estyn diolch diffuant y Pwyllgor i holl staff gwasanaethau Addysg a gwasanaethau eraill y Cyngor am eu holl waith caled a'u hymdrechion yn ystod y cyfyngiadau ac wrth gynllunio a hwyluso’r gwaith o ailagor ysgolion y Sir

 

Dogfennau ategol: