Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003:–ADOLYGIAD O DRWYDDED EIDDO – THE NORTH, 27 FFORDD WELLINGTON, Y RHYL
Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 51
o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD fod
yr amodau ar y Drwydded Eiddo yn cael eu haddasu yn unol â’r deuddeg addasiad
fel yr argymhellwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn eu Cais Adolygu, gan gynnwys
diddymu'r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –
(i)
cais wedi dod i law gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu
Trwydded Eiddo mewn perthynas â The North, 27 Wellington Road, y Rhyl (roedd
copi o'r Drwydded Eiddo bresennol a'r amserlen weithredu gyfredol wedi’u hatodi
fel Atodiad A i’r adroddiad);
(ii)
y sail dros adolygu, a nodir yn y cais, yw -
“Methu â hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu, yn enwedig Atal Trosedd ac Anrhefn,
Diogelwch y Cyhoedd ac Atal Niwsans Cyhoeddus”.
roedd manylion llawn y Cais am
Adolygiad wedi’u hatodi fel Atodiad B yr adroddiad, ond i grynhoi, roeddent yn
ymwneud â chronoleg o nifer o ddigwyddiadau trosedd, anhrefn ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r eiddo, ei gwsmeriaid a rhedeg y
sefydliad, sy’n dyddio’n ôl i fis Rhagfyr 2018 gan arwain at ddiffyg hyder o
ran rheolaeth gyffredinol yr eiddo; o ganlyniad, roedd yr Heddlu wedi argymell
addasu’r Drwydded Eiddo fel ffordd o fynd i’r afael â meysydd pryder;
(iii)
cyfeiriwyd at ddefnyddio’r protocol gorfodi ar y cyd gyda
Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor i ddelio â phroblemau mewn eiddo trwyddedig,
gan arwain at y cais i Adolygu’r Drwydded Eiddo;
(iv)
roedd dau sylw wedi dod i law mewn ymateb i’r hysbysiad
cyhoeddus gofynnol am y Cais am Adolygiad (wedi’u hatodi fel Atodiad C i’r
adroddiad);
(v)
roedd sylwadau wedi dod i law mewn ymateb i’r Cais am
Adolygiad gan Mr. Robin Jones, Cyfarwyddwr The North, y Rhyl Cyf (Deiliad
Trwydded Eiddo – PLH) a Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig (DPS) (wedi’u hatodi fel
Atodiad D i’r adroddiad);
(vi)
yr angen i ystyried y Cais am Adolygiad gan ystyried
Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau a dderbyniwyd, a
(vii)
yr opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor wrth benderfynu ar
y cais.
Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu yr adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos. Tynnodd sylw hefyd at wybodaeth ychwanegol
gan Heddlu Gogledd Cymru (a oedd wedi’i chytuno a’i dosbarthu i bawb cyn y
gwrandawiad) a oedd yn cynnwys cyfeirio at ddigwyddiadau eraill a fu ers
cyflwyno'r Cais am Adolygu ar gyfer cyfnod mis Mawrth 2020 - mis Awst 2020.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)
Roedd
Cyfreithiwr Cynorthwyol yr Heddlu, Mr. Gareth Preston a Swyddog Trwyddedu’r
Heddlu, PC Manus Sheridan yn bresennol ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
Wrth
gyflwyno’r achos ar ran yr Heddlu, ailadroddodd Mr. Preston y sail dros adolygu
a dywedodd, er bod cyfathrebu parhaus rhwng y rheolwyr a’r Heddlu, nid oedd y
rheolwyr wedi gweithredu newid i ddileu’r anawsterau gyda gweithrediad parhaus
yr eiddo, neu eu lleihau’n sylweddol hyd yn oed. Roedd y wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd fel
tystiolaeth gan yr Heddlu yn dangos nad oedd problemau wedi cael sylw priodol
ac roeddent yn parhau i effeithio ar yr ardal.
O ganlyniad, nid oedd gan yr Heddlu ffydd yn y ffordd yr oedd yr eiddo’n
cael ei redeg, a dywedasant fod angen newid llwyr. Wrth fanylu ar yr addasiadau a argymhellir
i’r drwydded, barn yr Heddlu oedd eu bod yn gwbl gymesur o ystyried natur eang
a difrifol y problemau a oedd yn parhau.
Roedd yr Heddlu yn cefnogi ac annog economi hwyr y nos ffyniannus,
bywiog a diogel, ac felly nid oeddent wedi gofyn i’r eiddo gau, ond o ystyried
faint o dystiolaeth oedd yn yr achos hwn, gallai hyn fod yn ystyriaeth i’r
Is-Bwyllgor.
Cyfeiriodd
Cyfreithiwr yr Heddlu at y dystiolaeth gynhwysfawr a ddarparwyd yn y Cais am
Adolygiad a nifer yr achosion o gael eu galw allan i’r eiddo yn ystod y bum
mlynedd diwethaf, gyda mwy na thraean wedi digwydd yn ystod mis Rhagfyr 2018 a
mis Ionawr 2020 gyda 55 galwad i’r Heddlu o ran digwyddiadau a oedd yn
gysylltiedig â’r eiddo. Amlygodd yr
Heddlu eu pryderon difrifol o ran rheolaeth yr eiddo, a oedd yn arwain at roi
pobl mewn perygl. Ymhelaethodd Mr.
Preston ar y dystiolaeth a ddarparwyd yn y Cais am Adolygiad a chronoleg y
digwyddiadau yn ystod mis Rhagfyr 2018 a mis Chwefror 2020 o ran trosedd,
anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Er gwaethaf nifer o ymdrechion gan yr Heddlu a’r Cyngor i ymgysylltu â’r
eiddo a datrys problemau, roedd diffyg difrifol o hyd o ran rheolaeth gan y
rheolwyr ac roedd yr eiddo yn dal i ddenu troseddu treisgar ac anhrefn. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth ychwanegol a
gyflwynwyd gan yr Heddlu, a oedd yn amlygu digwyddiadau pellach ers mis Mawrth
2020 a’r problemau parhaus gyda’r eiddo.
Yna ymatebodd Mr. Preston i’r sylwadau ysgrifenedig
a gyflwynwyd gan Mr. Barry Jones, Goruchwyliwr Drws yn yr eiddo (Atodiad C i’r
adroddiad) a Mr. Robin Jones, PLH/DPS (Atodiad D i’r adroddiad) a chadarnhaodd
fod yr Heddlu yn dal at eu fersiwn nhw o ddigwyddiadau ac amlygodd lle roedd y
dystiolaeth honno wedi’i chadarnhau ymhellach gan adroddiadau’r Heddlu a
lluniau’r TCC.
Wrth gloi cyflwyniad yr Heddlu, cyfeiriodd Mr.
Preston at y cyfoeth o dystiolaeth a oedd yn dangos methiannau clir a pharhaus
y rheolwyr i reoli’r eiddo heb unrhyw gynnydd sylweddol real o ran mynd i’r
afael â materion a oedd yn peri pryder, a methiant rheolwyr yr eiddo i
gydymffurfio â’r amcanion trwyddedu.
Ymatebodd
PC Sheridan i gwestiynau o ran yr addasiadau a argymhellwyd i amodau'r drwydded
gan ddweud, er nad oedd gwarant y byddent yn datrys yr holl faterion a oedd yn
gysylltiedig â’r eiddo, fe ystyriwyd mai dyma’r cyfle gorau i gadw staff,
cwsmeriaid a’r gymuned yn ddiogel ac arwain at welliant; yn y pen draw,
cyfrifoldeb y rheolwyr fyddai cydymffurfio â’r amodau hyn. Cadarnhawyd hefyd fod Cofnod Profi, Olrhain a
Diogelu yn cael ei gynnal yn yr eiddo.
SYLWADAU PARTÏON Â CHYSYLLTIAD
Roedd sylwadau wedi dod i law gan ddau unigolyn â
chysylltiad – Mr. Barry Jones, Goruchwyliwr Drws yn yr eiddo a Ms. Gail Rickett
(Atodiad C i’r adroddiad). Nodwyd nad oedd Ms. Rickett yn
bresennol i siarad am ei sylwadau. Roedd Mr. Jones yn bresennol i
gefnogi’r eiddo gyda Mr. Robin Jones (PLH/DPS) ond ni siaradodd yn uniongyrchol
â’r Is-Bwyllgor o hynny ymlaen ac roedd yn fodlon i’r Cynrychiolydd
Cyfreithiol, Mr. Leo Charalambides siarad ar eu rhan.
SYLWADAU DEILIAD TRWYDDED YR EIDDO
Roedd
Mr. Robin Jones (PLH/DPS) yn bresennol gyda’i Gynrychiolydd Cyfreithiol, Mr.
Leo Charalambides, Kings Chambers. Roedd
Mr. Jones wedi cyflwyno ymateb ysgrifenedig i gefnogi’r adolygiad o’r drwydded,
gan ddarparu rhywfaint o wybodaeth gefndir a dadlau rhai o’r manylion o ran y
digwyddiadau a ddarparwyd gan yr Heddlu, ac adroddodd ei fersiwn ef o’r
digwyddiadau penodol y cyfeiriwyd atynt (Atodiad D i’r adroddiad).
Tynnodd
Mr. Charalambides sylw’r aelodau at yr ymatebion a gyflwynwyd gan ei gleient
fel a nodwyd yn yr adroddiad i’r Is-Bwyllgor Trwyddedu, a chymerwyd bod pawb
wedi’i ddarllen. Cyfeiriodd at y
Canllawiau a gyhoeddwyd dan Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003 o ran pwrpas yr
adolygiad, sef nodi cyn belled ag oedd yn bosibl, beth oedd yn achosi pryder, a
rhoi ystyriaeth i gamau adferol a ddylai fod yn gymesur. O ganlyniad, roedd angen dull cydweithredol a
thynnodd sylw at addasiadau a awgrymwyd ar gyfer amodau'r drwydded a gyflwynwyd
gan yr Heddlu fel a nodwyd yn y Cais am Adolygiad ac ymateb ei gleient wedi
hynny. I grynhoi -
·
roedd cytundeb i amodau rhif
3, 6, 9 a 10 (ac eithriad i boteli o win gael eu gweini ond eu harllwys i lestri yfed poligarbonad)
·
nid oedd cytundeb i amodau
rhif 1 a 2 o ran cyfyngu ar weithgareddau trwyddedadwy ac oriau agor
·
nid oedd cytundeb i amodau
rhif 4 a 5 o ran cyfyngiadau ar ddefnyddio’r ardd gwrw a’r lloches smygu yn y
cefn
·
nid oedd
cytundeb i amodau rhif 7 ac 8 o ran yr amser mynediad olaf a chaniatáu i
gwsmeriaid a oedd wedi gadael yr eiddo gael mynediad eto
·
ystyriwyd bod amod rhif 11 o ran
defnyddio goruchwylwyr drws a oedd wedi’u hachredu gan Awdurdod y Diwydiant
Diogelwch (SIA) yn fater i’r aelodau, ond mantais y goruchwyliwr drws presennol
oedd ei fod yn brofiadol iawn ac roedd ganddo wybodaeth am yr ardal leol;
gallai fod anawsterau ymarferol o ran recriwtio o’r tu allan i’r ardal leol
hefyd
·
byddai amod rhif 12 o ran cael
gwared ar Mr. Jones fel DPS yn cael ychydig neu ddim effaith, o ystyried mai ef
sydd mewn gofal yn yr eiddo o hyd ac roedd yn ymrwymedig i’w lwyddiant, felly
ni fyddai unrhyw fantais o gael gwared arno.
Gwnaeth
Mr. Charalambides hefyd herio pa mor gadarn a dibynadwy oedd tystiolaeth yr
Heddlu gan ddadlau nad oedd yn ddilys, yn enwedig o ystyried y cyfoeth o
wybodaeth a’r diffyg craffter a roddwyd iddi gan yr Heddlu. Cyfeiriodd at gynnwys ‘galwadau ffug’ ac
achosion o ‘yfed ar ôl oriau’ yn ystod yr oriau a ganiateir a hefyd sylwadau a
wnaed nad oeddent yn ysbryd gweithio mewn partneriaeth a mynegodd bryderon o
ran dibyniaeth ar ganfyddiadau a theimladau’r Heddlu yn hytrach na ffeithiau a
thystiolaeth. Cyfeiriwyd at natur
annibynadwy gwybodaeth a thystion penodol a oedd yn dangos natur annibynadwy’r
dystiolaeth a gyflwynwyd a rhoddodd enghreifftiau lle roedd ei gleient a’r
staff wedi cydweithredu’n llawn â’r heddlu, ac o arferion rheoli da mewn
amgylchiadau penodol a oedd wedi’u beirniadu gan yr Heddlu (cyfeiriwyd at
ddigwyddiad ar 23 Mawrth 2020 a 28 Mawrth 2020). Roedd ei gleient wedi dangos
ei fod yn agored pan oedd yn ymateb i’r rhestr o ddigwyddiadau’r heddlu hefyd,
gan ddarparu cyfaddefiadau llawn a phlaen.
Roedd
Mr. Charalambides yn derbyn bod yr eiddo’n heriol o ystyried ei fod yn
gweithredu yn yr economi gyda’r nos a bod alcohol yn chwarae rhan. Amlygodd bwysigrwydd gweithio mewn
partneriaeth i fynd i’r afael â heriau a nodi datrysiadau er mwyn cydweithredu
ac amlygodd fanteision y dull hwnnw, fel pan gaeodd yr eiddo o’u gwirfodd
(cyfeiriwyd at 21/22 Rhagfyr 2019) i helpu i wasgaru cwsmeriaid, gan ymateb i
bryderon yr Heddlu. Amlygodd hefyd
effaith Covid 19, gan nodi bod ei gleient wedi buddsoddi yn yr eiddo tra roedd
wedi cau, ond ei fod yn gweithredu ar lefel is o lawer bellach, tua chwarter i
draean o gapasiti. Roedd ei gleient wedi
bod yn ddiolchgar am gyngor swyddogion cyfrifol yn hynny o beth, yn enwedig o
ystyried y sefyllfa na welwyd ei debyg o’r blaen, a’r newidiadau o ran
canllawiau. I gloi dadleuodd Mr. Charalambides y byddai addasu amodau'r
drwydded fel a gytunwyd gan ei gleient yn gymesur a digonol i fynd i’r afael
â’r problemau a nodwyd, a sicrhau bod yr eiddo yn dal i fod yn rhan ffyniannus
o’r economi gyda’r nos ac anogodd aelodau i addasu amodau'r drwydded ar y sail
honno.
Gan
ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth Mr. Charalambides -
·
gytuno bod achosion wedi bod lle
roedd cwsmeriaid wedi bod yn swnllyd ac roedd angen i’r Heddlu eu gwasgaru a
hefyd yr eiddo a oedd yn rhan o weithredu yn yr economi gyda’r nos mewn ardal
sydd o dan bwysau, ond ni fu mwy na llond llaw o achosion o arestio, a oedd
wedi’u hwyluso gan luniau TCC a ddarparwyd gan yr eiddo, ac roedd y ffaith fod
yr eiddo wedi bod yn fodlon cydweithredu wedi bod o glod iddynt a dylid annog
hyn.
Roedd
yr Heddlu wedi bod yn hapus bod y cynllun gweithredu cyntaf a gytunwyd ar gyfer
yr eiddo wedi gweithio ond roedd angen cynllun lefel uwch bellach. Dywedodd nad oedd adolygiadau yn fethiannau
ond roeddent yn rhan o reoleiddio’r economi gyda’r nos a dull o ymateb i heriau
newydd a newidiol.
·
cyfeirio at gamau cadarnhaol a
gymerwyd gan ei gleient gan gynnwys buddsoddi mewn TCC a darparu lluniau i’r
Heddlu eu defnyddio fel tystiolaeth; buddsoddi mewn staff gyda phump yn meddu
ar Drwyddedau Personol; presenoldeb mewn cyfarfodydd gydag awdurdodau, a
sicrhau cyllid ar gyfer radios i dafarndai’r Rhyl gyda’r bwriad o atal trosedd
ac anrhefn a darparu mantais gadarnhaol i blismona yn y gymuned leol.
·
egluro o ran amod rhif 12 a
oedd yn ymwneud â chael gwared ar Robin Jones fel DPS, fod hyn yn fater i’r
Is-Bwyllgor ond o ystyried mai Robin Jones oedd unig gyfranddaliwr yr eiddo ac
mai ef oedd mewn gofal, byddai cael gwared arno fel DPS yn annhebygol o wneud
unrhyw wahaniaeth yn ymarferol.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)
Wrth wneud datganiad terfynol, ailadroddodd Cyfreithiwr yr Heddlu y
pryderon difrifol o ran rheolaeth yr eiddo, gan gynnwys diffyg cydymffurfio â’r
amodau trwyddedu a’r amcanion trwyddedu, ynghyd â’r achosion difrifol o drais
ac ymosod, cysylltiadau â throseddoldeb, a ffugio tystiolaeth a chamarwain yr
Heddlu yn ystod ymchwiliadau. Nid oedd y
cyfeiriadau gan Mr. Charalambides o ran bod yr eiddo wedi cydweithio a
chydweithredu wedi eu cadarnhau yn y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr
Heddlu. Gwrthodwyd y cyfeiriadau at
unrhyw amharodrwydd gan yr Heddlu i weithio mewn partneriaeth ac roedd yr
Heddlu wedi gweithio i ymgysylltu a datrys pryderon a chwynion ar amryw
gamau. Yn olaf, cyfeiriwyd at Covid 19 a
methiannau’r eiddo o ran cadw pellter cymdeithasol a gwrthfesurau o ran y
feirws, gan roi diogelwch cwsmeriaid mewn perygl.
Ychwanegodd PC Manus Sheridan fod Mr. Charalambides wedi ceisio bychanu pa
mor ddifrifol oedd y digwyddiadau yn yr eiddo.
Ymatebodd i nifer o faterion a godwyd ac eglurodd rôl yr Heddlu o ran
gweithredu ar wybodaeth a gafwyd ac amlygodd ymdrechion gan reolwyr yr eiddo i
gamarwain yr Heddlu yn fwriadol yn ystod ymchwiliadau, methiannau o ran
rheolaeth yr eiddo, a pheidio rhoi gwybod i’r Heddlu am ddigwyddiadau pan fo’n
briodol. Roedd PC Sheridan wedi bod yn
arbennig o bryderus o glywed na fyddai cael gwared ar y DPS yn cael unrhyw
effaith ymarferol ar reolaeth, ac awgrymodd fod hyn yn fater i’r Is-Bwyllgor
roi ystyriaeth bellach iddo fel rhan o’u hystyriaethau.
Caniataodd y Cadeirydd i Mr. Charalambides roi ymateb terfynol, er mwyn
cyfiawnder naturiol ac i sicrhau tegwch i bawb.
Rhybuddiodd Mr. Charalambides yn erbyn dibynadwyedd tystiolaeth yr
Heddlu pe bai apêl ddilynol yn erbyn penderfyniad yr Is-Bwyllgor. Ailadroddodd fod rheolwyr yr eiddo yn cymryd
cyfrifoldeb, a ddangoswyd trwy fuddsoddi a darparu TCC, a’r broblem oedd pa
gamau eraill gellid eu cymryd. O ran
ymateb yr eiddo i Covid 19, roedd y cyfeiriad yn ymwneud at ganllawiau ac roedd
pawb yn parhau i ddysgu wrth i faterion ddatblygu. Roedd y ddwy ochr wedi cytuno ar nifer o
addasiadau i amodau'r drwydded i fynd i’r afael â phroblemau ac anogodd yr
Is-Bwyllgor i weithredu’r mesurau hynny y cytunwyd arnynt yn yr achos hwn.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (12.30
p.m.), daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben i bawb arall, ac aeth yr
Is-Bwyllgor Trwyddedu ati i ystyried y cais mewn sesiwn breifat.
PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD bod amodau’r
Drwydded Eiddo yn cael eu haddasu yn unol â’r deuddeg addasiad fel a
argymhellir gan Heddlu Gogledd Cymru yn eu Cais am Adolygiad, gan gynnwys cael
gwared ar y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig, fel a nodir isod -
1. Dylai pob gweithgaredd trwyddedadwy ddod i ben erbyn 11.00 p.m.
2. Dylai pob cwsmer adael yr eiddo erbyn hanner nos.
Dim ond pobl y gellir eu hadnabod yn ffurfiol fel staff a ganiateir yn yr
eiddo wedi’r amser hwn.
3. Dylai person sy’n gallu cael mynediad at a lawrlwytho delweddau TCC fod ar
y safle bob amser pan fo gweithgareddau trwyddedadwy yn cael eu cyflawni.
Os nad oes y fath berson ar y safle, dylai’r eiddo roi'r gorau i bob
gweithgaredd trwyddedadwy nes bod yr unigolyn hwnnw ar y safle ac ar gael.
4. Ni ddylai’r ardd gwrw gefn a’r lloches smygu gefn gael eu defnyddio ar ôl
9.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Sul.
5. Dylid defnyddio ardal smygu benodol ar ôl 9.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd
Sul yng nghefn yr eiddo.
Dylid cyfyngu’r ardal i 5 person ar yr un pryd a bydd yr ardal yn cael ei
monitro’n weithredol gan oruchwyliwr drws SIA. Ni ddylid
caniatáu unrhyw ddiodydd yn yr ardal hon (mae hyn er mwyn atal pobl rhag cymryd
hirach nag sydd angen).
6. Ni chaniateir i unrhyw un smygu o flaen yr eiddo ar ôl 9.00 p.m.
7. Dylid gweithredu amser mynediad terfynol o 11.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd
Sul.
8. Ni ddylid caniatáu i unrhyw gwsmer(iaid) sy’n gadael i ddod yn ôl i mewn
i’r eiddo ar ôl 11.00 p.m.
Ni fydd unrhyw eithriadau i’r rheol hon e.e. cwsmeriaid yn codi arian o’r
twll yn y wal neu wneud galwad ffôn.
9. Bydd o leiaf un deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd yn yr eiddo bob
amser pan fod gweithgareddau trwyddedadwy yn cael eu cyflawni.
10. Dylid gweini pob diod a thywallt cynnwys pob potel i lestr yfed
poligarbonad bob amser pan fo gweithgareddau trwyddedadwy yn cael eu cyflawni.
11. Dylai pob goruchwylydd drws fod wedi eu hachredu gan Gynllun Contractwyr
Cymeradwy SIA.
12. Dylid cael gwared ar Robin Jones fel Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig.
Y rhesymau dros y penderfyniad yw
-
Roedd yr
Is-Bwyllgor Trwyddedu wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r adroddiad a’r sylwadau
ysgrifenedig a wnaed gan yr amryw bobl a chyflwyniadau ar lafar yn ystod y
gwrandawiad a’r ymatebion i gwestiynau gan aelodau’r Is-Bwyllgor. Roedd yr Is-Bwyllgor hefyd wedi rhoi
ystyriaeth i’r gyfraith a’r canllawiau perthnasol fel rhan o’u hystyriaethau.
Ar sail y
dystiolaeth a ddarparwyd ac yng ngoleuni’r gyfres o ddigwyddiadau yn yr eiddo
yn ystod cyfnod mis Rhagfyr 2018 – mis Chwefror 2020 a nodwyd yn y dystiolaeth
a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru, ac yn y dystiolaeth ychwanegol a
gyflwynwyd ar gyfer y cyfnod mis Mawrth 2020 i fis Awst 2020, gwelodd yr
Is-Bwyllgor Trwyddedu fethiannau difrifol o ran rheolaeth effeithiol yr eiddo
dan y drefn reoli bresennol, ac felly penderfynwyd cael gwared ar Robin Jones
fel Goruchwyliwr Drws Dynodedig hefyd yn y gobaith y byddai hynny, ynghyd ag
addasiadau eraill amodau'r drwydded, yn arwain at well rheolaeth o’r eiddo yn y
dyfodol yn unol ag amcanion Trwyddedu perthnasol. Roedd yr Is-Bwyllgor hefyd wedi cymryd sylw
penodol o’r amser hwyr y nos pan oedd cyfran fawr o’r digwyddiadau wedi'u
cofnodi wrth wneud y penderfyniad i gwtogi gweithrediad gweithgareddau
trwyddedadwy ac oriau agor yr eiddo.
Roedd y penderfyniad wedi’i wneud ar sail hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
sy’n ymwneud ag atal trosedd ac anrhefn, hyrwyddo diogelwch y cyhoedd ac atal
niwsans cyhoeddus.
Wrth roi
ystyriaeth i’r cyfoeth o dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn, gwelodd yr
Is-Bwyllgor Trwyddedu fod patrwm cyson o drosedd, anhrefn ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â’r eiddo, a oedd yn dyddio’n ôl dros gyfnod
sylweddol. Nodwyd hefyd fod y
digwyddiadau yn cyfeirio at amrywiaeth o faterion a lefelau difrifoldeb a oedd
wedi cael ystyriaeth ofalus gan yr Is-Bwyllgor.
Roedd barn yr Heddlu wedi perswadio’r Is-Bwyllgor, sef y byddai addasu
amodau'r drwydded, fel a argymhellwyd, yn rhoi cyfle i wella arferion rheoli a
chadw staff, cwsmeriaid a’r gymuned yn ddiogel, ac ar ôl rhoi ystyriaeth i
barodrwydd Mr. Robin Jones (a fynegwyd ar ei ran) i weithio mewn partneriaeth
â’r Heddlu i ddatrys problemau.
Rhoddwyd crynodeb
i bawb o’r penderfyniad yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, a chyhoeddwyd
penderfyniad â rhesymau llawn wedi hynny.
Daeth y cyfarfod i ben am 1.15
pm.
Dogfennau ategol: