Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO - Y BODUNIG, STRYD FAWR, DYSERTH
Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 51
o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
Pleidlais: 3 o
blaid, 0 yn erbyn
PENDERFYNWYD diddymu’r
Drwydded Eiddo.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (wedi’i
ddosbarthu’n flaenorol) yn dilyn -
(i)
cais a ddaeth i law gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu
trwydded eiddo a ddelir gan Mr Abdulhamit Salih Colakoglu mewn perthynas â Y
Bodunig, Stryd Fawr, Dyserth (copi o'r Drwydded Eiddo bresennol a'r amserlen
weithredu gyfredol wedi’u hatodi fel Atodiad A i’r adroddiad);
(ii)
Y sail dros adolygu, a nodir yn y cais, yw:
“Methu â
hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu, yn enwedig Diogelwch y Cyhoedd ac Atal Trosedd
ac Anrhefn.”
Mae manylion llawn y cais i
adolygu ynghlwm yn Atodiad B yr adroddiad, ond yn gryno roedd yn ymwneud ag
adroddiadau amrywiol fod yr eiddo wedi bod ar agor ar sawl achlysur gan dorri’r
rheoliadau sydd mewn grym er mwyn ymateb i bandemig y Coronafeirws pan fu’n rhaid
i dafarndai, clybiau a bwytai gau; mae'r Heddlu hefyd yn sôn am dystiolaeth
CCTV a'u diffyg hyder yng ngallu rheolwyr yr eiddo i weithredu’n gyfrifol;
felly gofynnodd yr Heddlu bod yr eiddo’n cau'n barhaol;
(iii)
cyfeiriwyd
hefyd at Adolygiad blaenorol gan yr Heddlu arweiniodd at gael gwared ar
Oruchwyliwr Safle Dynodedig Mr. Derek Coulton, a chafodd y swydd ei llenwi gan
y Goruchwyliwr Safle Dynodedig presennol Mr. Nihat Colakoglu; serch hynny
arhosodd Mr Derek Coulton yn Rheolwr oedd yn gyfrifol am redeg yr eiddo o ddydd
i ddydd;
(iv)
derbyniwyd pedwar sylw yn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus
gofynnol ynglŷn â’r cais i adolygu (ynghlwm yn Atodiad C yr adroddiad yma)
– Mr. Derek Coulton yn gweithredu fel rhywun â diddordeb, ynghyd â thri llythyr
pellach gan bartïon eraill â diddordeb, a thra eu bod yn cydnabod y materion a
godwyd gan yr Heddlu, roeddynt yn gefnogol i’r eiddo aros agor;
(v)
ni chafwyd ymateb i’r cais i adolygu gan Ddeiliad
Trwydded yr Eiddo Mr. Abdulhamit Salih Colakoglu;
(vi)
yr
angen i ystyried adolygu’r cais gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r
Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth
berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a
(vii)
yr opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor tra’n penderfynu ar
y cais.
Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos. Fe dynnodd sylw hefyd at wybodaeth ychwanegol
oedd wedi cael ei ddosbarthu i bob parti ers cyhoeddi’r adroddiad oedd yn
cynnwys (1) cronoleg lluniau fideo teledu cylch caeedig ar 30 Mawrth oedd wedi
cael eu gadael allan o Atodiad 14 y papurau, a (2) cyflwynodd Heddlu Gogledd
Cymru ddau adroddiad am wybodaeth bellach a datblygiadau diweddar yn yr
eiddo. Fe nodwyd hefyd y byddai’r
Goruchwyliwr Safle Dynodedig – Mr. Nihat Colakoglu yn cynrychioli Deiliad
Trwydded y Safle – Mr. Abdulhamit Salih Colakoglu yn ei absenoldeb.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)
Roedd
Cyfreithiwr Cynorthwyol yr Heddlu Mr. Gareth Preston a Swyddog Trwyddedu’r
Heddlu PC Manus Sheridan yn bresennol ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
Wrth
gyflwyno’r achos dros yr Heddlu, awgrymodd Mr. Preston fod rheolwyr y safle
wedi methu’n llwyr â chadw at yr amcanion trwyddedu, yn enwedig diogelwch y
cyhoedd, ac o ystyried y pandemig byd eang, roedd hynny’n anfaddeuol. Cafwyd
gwared ar y rheolwr ar y pryd, Derek Coulton fel Goruchwyliwr Safle Dynodedig
yn 2014 yn dilyn Adolygiad blaenorol gan yr Heddlu, ond roedd wedi parhau fel
rheolwr gyda chyfrifoldeb dydd i ddydd ar yr eiddo. Nid oedd unrhyw dystiolaeth
o reolaeth weithgar gan y Goruchwyliwr Safle Dynodedig na Deiliad Trwydded yr
Eiddo. Y sail ar gyfer yr adolygiad yw methu â hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu,
yn enwedig diogelwch y cyhoedd ac atal trosedd ac anrhefn.
Fe fanylodd
Cyfreithiwr yr Heddlu ar y dystiolaeth gynhwysfawr a ddarparwyd yn y cais i
adolygu, a thynnodd sylw at y digwyddiadau niferus yn ystod mis Mawrth ac
Ebrill 2020 oedd yn dangos yn glir fod yr eiddo wedi bod yn masnachu gan dorri
rheolau'r Coronafeirws a rhoi diogelwch y cyhoedd mewn perygl. Roedd y
dystiolaeth yn cynnwys cudd-wybodaeth ac adroddiadau i’r heddlu ynglŷn â
masnachu ynghyd ag ymchwiliadau dilynol ac ymweliadau gan yr heddlu i’r eiddo,
roedd rhai o’r rhain wedi cael eu cyfnerthu gan fideo teledu cylch caeedig o’r
eiddo ers hynny. Fe awgrymwyd fod Derek
Coulton wedi mynd ati’n fwriadol i dwyllo’r heddlu a’r awdurdod trwyddedu yn
ystod y cyfnod yma, gan ddweud mai gwaith trwsio/atgyweirio oedd yn cael ei
wneud fel esgus bod pobl yn yfed yn yr eiddo, ac o ran lluniau fideo cylch
caeedig, roedd wedi bod yn fwriadol rhwystrol. Mae’n ymddangos bod fideo teledu
cylch caeedig a gasglwyd o’r eiddo yn dangos amhariad â’r system, ac ar ôl
archwiliad fforensig, roedd fideo a gafodd ei ddileu wedi cael ei adennill oedd
yn cyd-fynd ag amseroedd digwyddiadau penodol ac yn cyfnerthu’r adroddiadau
hynny.
Fe
dynnodd Cyfreithiwr yr Heddlu sylw hefyd at wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd
gan yr Heddlu (a ddosbarthwyd i bob parti’n flaenorol) oedd yn ymwneud â
datblygiadau diweddar a gwybodaeth perthnasol pellach. Cyfeiriwyd yn benodol at
y canlynol -
·
bod yr eiddo wedi cynnal
cyfarfod clwb ar 6 Awst gyda lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos diffyg
llwyr o geisio cadw pellter cymdeithasol nac unrhyw fesurau i atal y feirws. Cafodd adroddiad gan Swyddog
Iechyd yr Amgylchedd a fynychodd yr eiddo (gyda dau heddwas) ar 7 Awst ei
ddarllen, gan dynnu sylw at y diffyg mesurau diogelwch i amddiffyn cwsmeriaid
a’r rhai allai ddod i gysylltiad â'r feirws. Fe dynnwyd sylw hefyd at y
sylwadau a wnaed ar gyfryngau cymdeithasol oedd yn deillio o adrodd ar yr
Adolygiad yn y wasg leol.
·
roedd Rheolwr newydd wedi bod
yn yr eiddo ers 18 Awst ac fe awgrymwyd fod angen gwylio rheolwyr yr eiddo’n ofalus
gan fod pob parti yn bartner busnes achos, a darparwyd manylion cysylltiadau i
eiddo trwyddedig eraill hefyd i ddangos y byddai unrhyw newid i reolwyr rhwng
yr unigolion hynny yn destun pryder. Oherwydd natur y berthynas rhwng y
partïon, awgrymodd yr Heddlu ei bod yn debygol iawn y byddai’r steil rheoli
annerbyniol yn parhau heb newid clir mewn cyfeiriad ac unigolion. O ystyried
hynny a natur y perygl i’r cyhoedd, nid oedd cyfryngu yn cael ei ystyried yn
gymesur yn yr achos hwn. Yn amlwg, roedd rheolwyr yr eiddo wedi tanseilio
amcanion trwyddedu ac wedi rhoi pobl mewn perygl o drosglwyddo’r feirws pan
oedd y cyngor yn hollol glir.
Fe
ymatebodd Cyfreithiwr yr Heddlu i’r sylwadau a gyflwynwyd gan Derek Coulton
(Atodiad C yr adroddiad) fel a ganlyn -
·
fe honnodd fod yna nam ar y
system teledu cylch caeedig o dro i dro, ond ni chafodd yr awdurdod trwyddedu
wybod am unrhyw nam, fel sy’n ofynnol yn ôl amodau trwyddedu.
·
fe gadarnhaodd nad oedd
Deiliad Trwydded yr Eiddo yn rhan o’r busnes nac yn ymwybodol o'r gwaith oedd
yn cael ei wneud yn yr eiddo, gan brofi nad oedd Deiliad Trwydded yr Eiddo yn
goruchwylio ac nad oedd ganddynt ddiddordeb
·
yr honiad fod gweithwyr yn yr
eiddo wedi cael ei wrthbrofi gan fideo teledu cylch caeedig ac yn dangos yn
glir eu bod yn twyllo gan honni fod gwaith yn cael ei wneud
·
nid oedd sôn am yr honiad o
bobl yn cuddio yn yr eiddo yn ystod ymweliad yr heddlu ar 29 Mawrth nac
eglurhad am bobl yn yfed yn yr eiddo nac arian yn y bar oedd yn amlwg ar gyfer
gwerthu alcohol
·
o ran y llythyr gan yr
unigolyn yn honni eu bod wedi gwneud gwaith yn yr eiddo, nid oedd y llythyr yn
manylu ar ddyddiadau y gwnaed y gwaith ac nid oedd yn darllen fel crefftwr
amhleidiol na chontract rheolaidd
·
darparwyd lluniau i ddangos
bod y gwaith wedi cael ei wneud ond roedd teledu cylch caeedig yn dangos fod y
gwaith eisoes wedi cael ei wneud a bod pobl yn yfed yn y bar.
O ran
y llythyrau eraill a dderbyniwyd gan bartïon â diddordeb, fe nodwyd fod y prif
bwyslais ar golli tafarn ac effaith cymunedol ond roedd y rheolwyr presennol
wedi profi eu bod yn annerbyniol ac yn anniogel. Fe soniodd y llythyr sylwadau
terfynol gan gymydog cyfagos hefyd am bryderon mewn cysylltiad â rheoli’r
safle.
Gan
gloi cyflwyniad yr Heddlu, fe dynnodd PC Sheridan sylw at y canlynol -
·
ar 29 Mawrth, dywedodd Derek
Coulton wrth yr Heddlu mai dim ond fo a’i wraig oedd yn yr eiddo, ond o’r
lluniau teledu cylch caeedig, roedd modd gweld pobl yn cuddio yn y fflat yn
ystod ymweliad yr Heddlu, ac roedd hyn yn ymgais fwriadol i’w twyllo
·
cyfeiriwyd at sylwadau yn yr
wybodaeth ychwanegol a ddosbarthwyd gan yr Heddlu ac roedd yn credu fod yr hyn
oedd yn digwydd ar y safle yn gyfrinach agored
·
fe ailadroddodd pryderon yr
Heddlu ynglŷn â’r Rheolwr newydd o ystyried y digwyddiadau y cyfeiriwyd
atynt mewn mannau trwyddedig eraill roeddynt yn eu gweithredu
·
fe dynnodd sylw at ymgeisiau
bwriadol gan Derek Coulton i dwyllo’r Heddlu o ran y fideo teledu cylch caeedig
a dywedodd fod cydweithwyr a gafodd afael ar y fideo wedi dweud eu bod yn credu
iddo gael ei ddileu yn fwriadol
·
ar ôl edrych ar bob fideo
teledu cylch caeedig yn bersonol, roedd hi’n amlwg nad oedd unrhyw waith wedi
cael ei wneud yn yr eiddo yn ystod y cyfnod y maent yn ei honni.
Gan
ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd PC Sheridan nad oedd unrhyw drosedd wedi cael
ei chofnodi yn yr eiddo cyn i’r dystiolaeth gael ei chyflwyno yn y cais i
adolygu presennol, ers cael gwared ar Derek Coulton fel Goruchwyliwr Safle
Dynodedig yn 2014.
SYLWADAU PARTÏON Â DIDDORDEB
Cyflwynwyd sylwadau gan bedwar parti â diddordeb – Mr.
Derek Coulton, Y Cynghorydd David Williams (Ward Dyserth), Cyngor Cymuned
Dyserth a Ms. B. Glover (Atodiad C yn yr adroddiad). Fe nodwyd nad oedd Cyngor Cymuned
Dyserth a Ms. B. Glover yn bresennol i ddarllen eu sylwadau ac y dylid eu
cymryd fel y maent yn cael eu darllen.
Ymatebodd Mr. Derek Coulton i’r materion penodol a
godwyd gan yr Heddlu fel hyn -
·
fe ymddiheurodd am yr hyn a ddigwyddodd gan ddweud
ei fod wedi ymddiswyddo fel Rheolwr ac nad oedd ganddo unrhyw beth i wneud â'r
eiddo bellach
·
dywedodd nad oedd cyffuriau yn gysylltiedig â chael
gwared arno fel Goruchwyliwr Safle Dynodedig yn 2014
·
fe wrthbrofodd honiadau a wnaed fod yr eiddo wedi
bod ar agor yn ystod y cyfnod clo
·
mynnodd fod pobl yn yr eiddo yno i wneud gwaith
amrywio, yn cynnwys gweithwyr a’u gwragedd, a dim mwy na phump o bobl yn
bresennol ar unrhyw adeg
·
cyfaddefodd roi diodydd i weithwyr yn yr eiddo fel
ffordd o ddiolch iddynt ac roedd unrhyw arian a gymerwyd ar gyfer y diodydd yn
mynd i gael ei roi i elusen
·
fe eglurodd ei fod wedi ffonio’r Adran Drwyddedu i
holi a fyddai plymwr yn cael dod i mewn i’r eiddo gan ei fod yn ansicr
·
cyfeiriodd at yr offer teledu cylch caeedig gan
ddweud fod yna nam ar y system a oedd wedi cael ei drwsio sawl gwaith; roedd yr
iCould wrth gefn; doedd ganddo ddim i’w guddio o ran hynny ac roedd wedi rhoi’r
fideo teledu cylch caeedig i’r Heddlu yn ddi-ffws
·
roedd wedi digio â’r adroddiad arolygu ar fesurau
diogelwch a gynhaliwyd ar 7 Awst yn cynghori am fesurau diogelwch a oedd ar
waith
·
roedd yn erbyn cyffuriau ac o ran y digwyddiad ar
21 Mawrth, roedd y troseddwr tu allan ond yr Heddlu ddaeth ag o i mewn
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Williams at ei sylwadau
ysgrifenedig a dywedodd fod y dafarn yn hanesyddol wedi bod yn rhan fywiog o'r
gymuned ac yn ganolbwynt ac yn ased i’r gymuned. Er nad
oedd yn beirniadu nac yn cymeradwyo’r hyn oedd wedi digwydd yn yr eiddo, fe
siaradodd ar ei ran ei hun, y Cyngor Cymuned a nifer o bobl Dyserth pan ddywedodd
ei fod yn ystyried y byddai’n gam yn ôl petai’r safle yn peidio â bod yn
dafarn, ac fe fyddai’n andwyol i’r gymuned. O
ganlyniad, roedd yn gobeithio bod modd dod o hyd i ffordd o gadw’r dafarn ar
agor, gyda rheolwyr gwahanol efallai, a sicrhau ei dyfodol fel tafarn.
CYNRYCHIOLYDD DEILIAD TRWYDDED YR EIDDO
Yn
absenoldeb Deiliad Trwydded y Safle Mr. Abdulhamit Salih Colakoglu, fe
fynychodd Goruchwyliwr Safle Dynodedig Mr. Nihat Colakoglu ar ei ran.
Wrth
gyflwyno ei sylwadau, fe honnodd Mr. Colakoglu -
·
nad oedd ganddo unrhyw
wybodaeth o’r hyn oedd wedi bod yn digwydd yn yr eiddo gan ei fod wedi bod yn
hunan ynysu ar y pryd; nid oedd wedi ei gymeradwyo ac nid oedd yn ei esgusodi
·
ni allai Deiliad Trwydded yr Eiddo
fod yn gyfrifol gan ei fod allan o’r wlad ers mis Chwefror ac roedd yn gweithio
mewn ysbyty yn Nhwrci
·
roedd y Rheolwr newydd wedi
cael ei gyflogi yn seiliedig ar ei lwyddiant mewn tafarn/bwyty arall a’r
gobaith oedd y byddai’n atgynhyrchu’r llwyddiant hwnnw yn nhafarn Y Bodunig
·
fe ymatebodd i faterion a
godwyd gan yr Heddlu ynglŷn ag eiddo eraill oedd yn cael eu rhedeg gan y
rheolwyr gan roi eglurhad i liniaru’r pryderon a godwyd
·
roedd yn credu fod gan yr
Heddlu broblem bersonol gyda’r tîm rheoli gan nad oeddynt wedi cymryd rhan yn y
broses gyfryngu.
Gofynnodd
yr Aelodau am eglurhad pellach ynglŷn â threfniadau rheoli a chadarnhaodd
Mr. Colakoglu y trefniadau perchnogaeth/prydles oedd yn gysylltiedig â’r
Bodunig a chysylltiadau gyda safleoedd trwyddedig a phartneriaid busnes eraill.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)
Wrth roi’r datganiad terfynol dywedodd Cyfreithiwr yr Heddlu nad oedd yna
gynllun gweithredu pendant a chlir ar waith ynglŷn â sut y byddai’r
eiddo’n cael ei reoli’n iawn. Fe nodwyd
na fyddai gan Derek Coulton unrhyw ran weithgar yn rhedeg yr eiddo, ond roedd y
person a fyddai'n dod yn ei le yn destun pryder i'r Heddlu a oedd yn cwestiynu
ei addasrwydd. Dewisodd y Goruchwyliwr Safle Dynodedig i beidio â chymryd camau
rheoli yn ystod y cyfnod clo pan allai fod wedi defnyddio’r dechnoleg oedd ar
gael iddo. Yn yr un modd, nid oedd y ffaith fod Deiliad Trwydded yr Eiddo
dramor yn ei ddifeio o unrhyw gyfrifoldeb gan y gallai ddynodi pobl eraill i
ymgymryd â thasgau, ond nid oedd unrhyw dystiolaeth ei fod wedi gwneud hynny.
Roedd y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr Heddlu yn ddiamheuol o ran
gweithgareddau yn yr eiddo ac roeddynt dal i fod yn arbennig o bryderus
ynglŷn â rheolwyr yr eiddo a bod diogelwch y cyhoedd mewn perygl.
Ymatebodd PC Sheridan i sylwadau a wnaed yn ystod argymhellion, gan ddweud
-
·
nad oedd y Goruchwyliwr Safle Dynodedig wedi bod yn
gwirio'r safle er ei fod yn byw gerllaw
·
roedd yr archwiliad o fesurau diogelwch a gynhaliwyd ar 7
Awst wedi cael eu gwneud gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor
·
cadarnhaodd datganiadau’r ddau heddwas a fynychodd y
digwyddiad cyffuriau ar 29 Mawrth fod y digwyddiad wedi digwydd y tu mewn i’r
eiddo
·
nid oedd yna broblem personol gyda rheolwyr yr eiddo, a
dim ond ar ôl derbyn adroddiadau gan y cyhoedd y cafodd y cynhaliwyd
ymchwiliad.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (11.40 am)
caeodd y Cadeirydd y cyfarfod i bob parti arall, ac aeth yr Is-bwyllgor
Trwyddedu i ystyried y cais mewn sesiwn breifat.
PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD dirymu’r
Drwydded Eiddo.
Y rhesymau dros y penderfyniad
oedd -
Roedd yr
Is-bwyllgor Trwyddedu wedi ystyried yr adroddiad yn ofalus ynghyd â’r sylwadau
ysgrifenedig a wnaed gan y partïon amrywiol a’r cyflwyniadau llafar yn ystod y
gwrandawiad ac ymateb i gwestiynau. Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y
gyfraith a chanllawiau perthnasol fel rhan o’u trafodaeth.
Ar sail y
dystiolaeth a ddarparwyd, ac yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau yn yr eiddo yn
ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2020 a nodwyd yn y dystiolaeth, roedd yr
Is-bwyllgor yn fodlon fod yr eiddo wedi cael ei redeg mewn modd oedd yn groes i
amcanion trwyddedu Atal Trosedd ac Anrhefn a Diogelwch y Cyhoedd. Roedd y
dystiolaeth ychwanegol a gyflwynwyd mewn cysylltiad â chynnal cyfarfod clwb yn
yr eiddo ar 6 Awst a diffyg cadw pellter cymdeithasol neu fesurau i atal y
feirws yn ystod y cyfarfod hwnnw, a gafodd eu cyfnerthu ymhellach ar ôl
archwiliad o fesurau diogelwch gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ar 7 Awst, yn
dangos eu bod yn barhau i fethu â rheoli hyd heddiw.
Roedd yr
Is-bwyllgor o’r farn fod angen i’r eiddo gael ei reoli’n iawn yn unol â
chyfraith a chanllawiau perthnasol ac roeddynt yn ymwybodol o'r angen i warchod
diogelwch y cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd yma yn sgil argyfwng iechyd
cyhoeddus presennol Covid-19. Roedd y methiant i reoli’r eiddo hyd heddiw wedi
arwain at benderfyniad i ddirymu’r drwydded.
Er bod
cydnabyddiaeth fod camau wedi cael eu cymryd yn ddiweddar i newid rheolwyr yr
eiddo, o ystyried natur y berthynas rhwng y partïon fel y nodwyd gan yr Heddlu
a’u pryderon, nid oedd gan yr Is-bwyllgor unrhyw hyder y byddai’r methiannau
rheoli presennol yn gwella o ganlyniad i’r cynigion hyn a phenderfynwyd yn
unfrydol er mwyn atal trosedd ac anrhefn ac er mwyn hyrwyddo amcanion trosedd a
diogelwch y cyhoedd, ei bod yn briodol i ddirymu trwydded safle.
Cafodd y partïon
grynodeb o’r penderfyniad yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, a chyhoeddwyd
penderfyniad â’r rhesymau llawn wedyn.
Daeth y cyfarfod i ben am 12.15
p.m.
Dogfennau ategol: