Eitem ar yr agenda
PROFI, OLRHAIN A DIOGELU - CYTUNDEB RHWNG AWDURDODAU
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol ar gyfer Cynllunio,
Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel (copi’n amgaeedig) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet o’r diwygiadau i ddirprwyo awdurdod i Bennaeth
Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad i fynd i mewn i
gytundeb.
Penderfyniad:
Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad
PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad yn dilyn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol dros
Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad, y Swyddog a151 a’r
Swyddog Monitro i gytuno a llofnodi’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod i sicrhau bod y
Cyngor yn cefnogi’r strategaeth gydlynol genedlaethol a rhanbarthol i gyfyngu
ar ledaeniad Covid-19.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddirprwyo awdurdod i Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaeth Cefn Gwlad i ymrwymo i Gytundeb Rhyng-Awdurdod gydag awdurdodau
lleol eraill Gogledd Cymru i reoli’r broses o recriwtio a rheoli staff
ychwanegol i weithredu elfen olrhain cysylltiadau o brosiect Profi, Olrhain a
Diogelu.
Ym mis Mai 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth genedlaethol oedd
yn cynnwys gofyniad i dracio ac olrhain lledaeniad Covid-19 yng Nghymru. Fel
rhan o’r strategaeth honno, fe sefydlodd awdurdodau lleol Gogledd Cymru dimau
olrhain cysylltiadau gyda staff oedd wedi’u hadleoli. Wrth i fwy o wasanaethau’r Cynghorau
ailddechrau byddai'r staff yna angen dychwelyd i'w dyletswydd arferol a byddai
staffio'r timau olrhain cysylltiadau yn fater hanfodol. Roedd Llywodraeth Cymru
wedi cymeradwyo £11.2m o gyllid ar gyfer y prosiect yng ngogledd Cymru ar gyfer
gweddill y flwyddyn ariannol. Cynigiwyd
bod Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu’r gwaith o recriwtio a rheoli staff ar gyfer
y prosiect ar ran holl awdurdodau lleol gogledd Cymru, ac y byddai’r trefniadau
llywodraethu’n cael eu nodi mewn Cytundeb Rhyng-Awdurdod. Roedd rhagor o fanylion yn cynnwys manteision
y dull a gweithrediad y prosiect wedi cael eu darparu yn yr adroddiad.
Tynnodd y Cabinet sylw at bwysigrwydd y prosiect
Profi, Olrhain a Diogelu er mwyn atal lledaeniad Covid-19 ar y cyd â rhaglen
brofi effeithiol, a mynegwyd rhywfaint o rwystredigaeth dros yr amser aros i
gael prawf a'r canlyniad. O ran adnabod ardaloedd risg uchel a strategaeth yn y
dyfodol, fe soniodd y Prif Weithredwr am ganlyniad y dadansoddiad ar ôl y don
gyntaf o Covid-19 gyda’r mwyafrif o’r rhai a gafodd eu heffeithio yn
gysylltiedig â’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd nifer o feysydd risg uchel a grwpiau
diamddiffyn wedi cael eu hadnabod ac roedd llawer o waith yn mynd rhagddo ar
draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Grŵp Adfer Iechyd a Gofal
Cymdeithasol er mwyn ymateb i’r ffactorau hynny, dadansoddi data ymhellach a
rheoli’r risgiau wrth fynd ymlaen. Roedd ffliw tymhorol yn bryder hefyd o
ystyried y pwysau ychwanegol ar systemau iechyd a gofal cymdeithasol ac fe
fyddai yna ymgyrch weithredol i gynnig a hyrwyddo brechiad y ffliw gyda’r nod o
leihau’r pwysau hwnnw ar draws y system.
Roedd yr Arweinydd yn croesawu dyraniad cyllid
Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect ar draws y rhanbarth gan obeithio y
byddai'n ddigonol. Roedd yn awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu a
hyrwyddo prosiect Profi, Olrhain a Diogelu ac i sicrhau fod y rhai oedd yn cael
eu holrhain yn gwrando ar y cyngor ac yn ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol.
Roedd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethu Cefn Gwlad yn
cytuno y byddai cynllun cyfathrebu effeithiol yn hanfodol ac fe soniodd am
gyhoeddi astudiaethau achos ar unigolion sy'n gweithio fel swyddogion olrhain
cysylltiadau er mwyn hyrwyddo'r mater a thynnu sylw at ei bwysigrwydd; fe
fyddai yna gynllun cyfathrebu rhanbarthol.
Fe soniodd hefyd am elfen ‘Diogelu’ y prosiect gan ddweud fod ei
wasanaeth yn gweithio’n agos gyda busnesau o ran gwaith atal sydd yn parhau i
fod yn ffocws allweddol ar draws gwasanaethau awdurdodau lleol eraill. Fe soniodd y Cynghorydd Mark Young am
lwyddiant prosiect Profi, Olrhain a Diogelu yn Sir Ddinbych hyd yn hyn, ond
dywedodd bod rhagor o waith yn mynd rhagddo er mwyn canfod pa gefnogaeth fyddai
ar gael i fusnesau oedd wedi’u heffeithio’n wael yn rhan o’r broses honno.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet y dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad yn dilyn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol dros
Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad, y Swyddog a151 a’r
Swyddog Monitro i gytuno a llofnodi’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod i sicrhau bod y
Cyngor yn cefnogi’r strategaeth gydlynol genedlaethol a rhanbarthol i gyfyngu
ar ledaeniad Covid-19.
Dogfennau ategol: