Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TRWYDDEDU YCHWANEGOL TAI AMLFEDDIANNAETH

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer ail-ddynodi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth o fewn y Rhyl ac ymestyn y dynodiad i Brestatyn, Dinbych a Llangollen.

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ail-ddynodiad y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn y Rhyl ac yn ei ymestyn i Brestatyn, Dinbych a Llangollen.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-ddynodi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn y Rhyl ac ymestyn y dynodiad i Brestatyn, Dinbych a Llangollen.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynglŷn â darpariaethau deddfwriaethol a osodwyd gan Ddeddf Tai 2004 a’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i weithredu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer mathau penodol o Dai Amlfeddiannaeth i sicrhau bod cyfleusterau addas a threfniadau diogelwch tân yn cael eu rheoli a’u darparu.  Mae’r Ddeddf hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i ymestyn y cynllun trwyddedu i gategorïau eraill o Dai Amlfeddiannaeth er mwyn mynd i’r afael â phroblemau penodol a’i gwneud yn ofynnol bod y dynodiad yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd. Mae cynllun trwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn y Rhyl wedi bod yn weithredol ers 2010 (fe'i adolygwyd a'i ymestyn gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2014), a bellach mae eisiau cymeradwyaeth y Cabinet i ail ddynodi cynllun y Rhyl ac ymestyn y dynodiad i eiddo perthnasol ym Mhrestatyn, Dinbych a Llangollen.  Mae nifer o elfennau sydd angen eu hystyried wedi’u manylu yn yr adroddiad yn cynnwys y meini prawf i’w defnyddio; cyfiawnhad a thystiolaeth dros y cynllun trwyddedu ychwanegol; amodau i’w gosod a chanlyniad y broses ymgynghori ffurfiol ar y cynigion.

 

Fe ymatebodd swyddogion i gwestiynau oedd yn deillio o’r adroddiad fel a ganlyn -

 

·         ymhelaethu ar yr ymresymiad y tu ôl i’r argymhellion o ystyried llwyddiant y cynllun yn y Rhyl. Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd, roedd lle i gredu y byddai Prestatyn, Dinbych a Llangollen yn elwa o’r cynllun gan fod dwysedd uchel o Dai Amlfeddiannaeth yn yr ardaloedd hynny ar ôl y Rhyl a bod nifer fawr o gwynion gwasanaeth a digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yno

·         o ran capasiti i weinyddu a gorfodi’r cynllun, roedd lle i gredu y dylai adnoddau staff presennol fod yn ddigonol ar gyfer yr ardaloedd ychwanegol ond byddai’n ddibynnol ar gyfanswm y niferoedd a chyflwr y Tai Amlfeddiannaeth oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun – os byddai angen rhagor o adnoddau na'r disgwyl yna roedd disgwyl y byddai'r ffioedd ychwanegol a fyddai’n cael ei greu gan y cynllun yn ddigon i dalu am y gost ychwanegol

·         roedd rhai awdurdodau lleol wedi cyflwyno polisi Sir gyfan, ond nid oedd lle i gredu fod hyn yn addas ar gyfer Sir Ddinbych o ystyried diffyg tystiolaeth i gyfiawnhau’r agwedd yna a digonedd o adnoddau i’w weinyddu

·         cydnabuwyd mai Llanelwy oedd â’r nifer uchaf nesaf o stoc Tai Amlfeddiannaeth, ond o ystyried yr adnoddau staff cyfyngedig a’r dystiolaeth oedd ar gael i gyfiawnhau trwyddedu ychwanegol, fe benderfynwyd peidio â chynnwys Llanelwy yn y cynllun

·         roedd hi’n gyfamserol i ymestyn y dynodiad i feysydd eraill ochr yn ochr â’r adolygiad pum mlynedd ofynnol ar ddynodiad yn y Rhyl

·         cyfeiriwyd at y tân trasig ym Mhrestatyn yn 2012 allai fod wedi cael ei atal petai cynllun trwyddedu ychwanegol wedi bod ar waith; er nad oedd yna dystiolaeth ddigonol ar gael bryd hynny i gyfiawnhau trwyddedu ychwanegol, mae ystadegau mwy manwl a thystiolaeth gefnogol bellach ar gael i ddadlau'r achos

·         ymhelaethwyd ar storio a thaflu sbwriel o ran bodloni safonau trwyddedu gofynnol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth mewn cysylltiad â chyfrifoldebau tenantiaid a landlordiaid - rhoddwyd sicrwydd fod cefnogaeth ar gael i denantiaid diamddiffyn o ran bodloni eu rhwymedigaethau

·         mewn cysylltiad â sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r cynllun, rhoddwyd sicrwydd ynglŷn â pherthynas waith da gydag asiantaethau rheoli a gosod a’u hymgysylltiad cadarnhaol gyda’r broses ac ymatebion i geisiadau

·         cafwyd eglurhad o’r broses i adnabod Tai Amlfeddiannaeth addas ar gyfer trwyddedu ychwanegol gan ffynonellau amrywiol yn cynnwys Rhentu Doeth, ond cydnabuwyd yr anawsterau o ddenu landlordiaid twyllodrus i ymuno â’r cynllun sydd yn ddibynnol ar wybodaeth arall.

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad gan ddod i'r casgliad fod y cynllun presennol yn y Rhyl wedi gweithio'n dda, a chytunwyd y gallai Prestatyn, Dinbych a Llangollen elwa o drwyddedu ychwanegol yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ail-ddynodi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn y Rhyl ac ymestyn y dynodiad i Brestatyn, Dinbych a Llangollen.

 

 

Dogfennau ategol: