Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol a gytunwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelir gorwariant o £7.585m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ y gellir ei dderbyn)

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu Amgen Hamdden

·        arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448m i gael eu nodi a’u cytuno yn cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2m); 1% arbedion ysgolion (£0.692m); arbedion gwasanaeth (£1.756m)

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Fe ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill am y sefyllfa ariannol bresennol, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, yn cynnwys cyllid grant a gafwyd hyd yn hyn a’r sefyllfa ar hawliadau ar gyfer colledion refeniw ac incwm ynghyd â chyflwyno pwysau gwariant ac incwm ar gyfer Chwarter 2. O ran colli incwm, roedd yna arwyddion gan Lywodraeth Cymru fod yna o leiaf pedwar prif faes lle roedd colli incwm yn gyffredin ymysg y 22 awdurdod lleol, a fyddai'n cael eu talu o hawliad Chwater 1. Roedd hyn yn cynnwys incwm o hamdden, meysydd parcio, gwastraff a phrydau ysgol a byddai werth tua £2.5m i Sir Ddinbych – nid oedd y ffigur yma wedi cael ei gynnwys yn y ffigurau gan na dderbyniwyd cadarnhad ffurfiol eto. Efallai na fydd diffyg incwm sy’n cael ei ystyried yn ‘benderfyniad lleol’ a gymerwyd gan awdurdodau lleol unigol yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac nid yw’n hysbys sut y byddai colli incwm ar gyfer Chwarter 2 a thu hwnt yn cael ei drin.  Roedd yr ansicrwydd sylweddol yn ei gwneud yn anodd iawn ar gyfer cynllunio ariannol yn y dyfodol.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Croesawodd y Cynghorydd Bobby Feeley y cyllid grant a dderbyniwyd, yn enwedig ar gyfer gofal cymdeithasol a digartrefedd, a dywedodd y byddai gwasanaethau hamdden yn debygol o elwa o gyllid ar gyfer colli incwm yn Chwarter 1. Serch hynny, roedd hi’n teimlo y dylid gwneud achos penodol i gydnabod gwasanaethau hamdden fel gwasanaeth hamdden o ystyried y manteision iechyd a lles a ddylai gael eu hariannu’n unol â hynny.  

Gobeithio y byddai’r hawliad am golli incwm ar gyfer gwasanaethau hamdden yn Chwarter 1 yn cael ei dalu’n llawn.  Fe ychwanegodd yr Arweinydd fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn yr un sefyllfa o ran pwysau, ond fe soniodd am gyfarfodydd rheolaidd gyda Gweinidogion trwy Gymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru a oedd yn ddull effeithiol o gyfathrebu, ac roedd y pwysau ariannol roedd awdurdodau lleol yn ei wynebu wedi cael ei gydnabod.  Gobeithio y gellir mynd i’r afael â’r pwysau drwy gyllid grant, ond roedd hi’n bwysig cael neges glir mewn cysylltiad â hynny wrth symud ymlaen er mwyn dylanwadu ar y broses gyllideb

·         Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am argaeledd y £78m a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol ar gyfer colli incwm yn Chwarter 1 ac roedd yr Aelod Arweiniol Cyllid yn falch o ddweud fod yr wybodaeth ddiweddaraf yn dangos y byddai’r swm llawn bellach yn cael ei ddyrannu at y diben hwnnw.  

Fe ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn gobeithio y byddai’r hawliad am golli enillion ar draws y pedwar maes cyffredin yn y 22 awdurdod lleol yn cael ei dalu’n llawn, ond roedd y canlyniad yn dal i fod yn ansicr.  Disgwylir y bydd gweddill yr arian sydd wedi’i gyhoeddi yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â’r meysydd sydd wedi colli incwm lle roedd yna wahaniaethau mewn agweddau ac i sicrhau tegwch ar draws pob awdurdod lleol. Yn unol â strategaeth ariannol y Cyngor y cytunwyd arni, roedd gwaith yn parhau i fanteisio ar incwm gan Lywodraeth Cymru ac i sicrhau rheolaeth ariannol mewnol priodol i ymateb i’r pwysau hynny.

·         gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, fe soniodd y Cynghorydd Bobby Feeley am y gwasanaethau hamdden cyfyngedig sydd ar gael yn yr awyr agored ar hyn o bryd yn unol â chyfyngiadau'r llywodraeth, ond cadarnhaodd na fu hi'n bosibl i agor cyfleusterau dan do eto.  

Fe nododd yr aelodau’r adborth cadarnhaol a gafwyd ar ôl agor cyfleusterau hamdden awyr agored sydd wedi cael croeso mawr.  O ran Ailddatblygu Queen’s Market yn y Rhyl, cadarnhaodd yr Arweinydd bod disgwyl y bydd yr adeiladau’n cael eu clirio yn yr wythnosau nesaf.  Fe gadarnhaodd fod diffyg cyllid a gwaith yn parhau gyda phartneriaid i gael cyllid er mwyn bwrw ymlaen fel yr hyn a gynlluniwyd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol a chytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ategol: