Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYMERADWYAETH GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y ddau Achos Busnes sy’n ymwneud â'r Cyfnodau Dylunio Cynlluniau Amddiffyniad Arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn yn costio dros £1m (100% wedi ei gyllido gan grant Llywodraeth Cymru).

 

Penderfyniad:

Cynhaliwyd pleidlais:  7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo cam dylunio Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Prestatyn, a fydd yn cael ei ariannu 100% trwy grant gan Lywodraeth Cymru, ar y ddealltwriaeth nad oedd yna risg i’r Cyngor ac nad oedd hyn yn ymrwymo’r awdurdod i’r cam adeiladu ac ariannu pellach (fel y manylir yn Adran 4.2 yr adroddiad ac Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

 (b)      cymeradwyo cam dylunio Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Rhyl, a fydd yn cael ei ariannu 100% trwy grant gan Lywodraeth Cymru, ar y ddealltwriaeth nad oedd yna risg i’r Cyngor ac nad oedd hyn yn ymrwymo’r awdurdod i’r cam adeiladu ac ariannu pellach (fel y manylir yn Adran 4.3 yr adroddiad ac Atodiad 2 yr adroddiad).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet am ddau Achos Busnes sy’n ymwneud â Chamau Dylunio Cynlluniau Amddiffyniad Arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn sydd yn costio dros £1m (100% o grant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru).

 

Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion y ddau brosiect sydd wedi’u hariannu trwy grant ac maent wedi’u crynhoi isod -

 

·         Byddai Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Prestatyn yn darparu safon briodol o amddiffyniad yn erbyn digwyddiad 1 mewn 200 mlynedd er mwyn gwarchod 2045 o eiddo preswyl a 62 o eiddo nad ydynt yn rhai preswyl, ac amddiffyniad ychwanegol yn erbyn y cynnydd disgwyliedig yn lefel y môr dros y ganrif nesaf. 

Mae angen cymeradwyaeth i ddechrau dylunio a datblygu’r cynllun, ac amcangyfrif o’r gost yw £1,487,180. Gwnaed cais am grant i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr elfen yma ac mae disgwyl y bydd LlC yn ei ariannu 100%.

 

·         Byddai Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Rhyl yn darparu safon briodol o amddiffyniad yn erbyn digwyddiad 1 mewn 200 mlynedd er mwyn gwarchod 548 o eiddo preswyl a 33 o eiddo nad ydynt yn rhai preswyl, ac amddiffyniad ychwanegol yn erbyn y cynnydd disgwyliedig yn lefel y môr dros y ganrif nesaf. 

Mae angen cymeradwyaeth i ddechrau dylunio a datblygu’r cynllun, ac amcangyfrif o’r gost yw £2,550,950. Gwnaed cais am grant i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr elfen yma ac mae disgwyl y bydd LlC yn ei ariannu 100%.

 

Roedd y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi argymell cymeradwyo’r ddau brosiect i’r cam dylunio yn unig ar y sail na fyddai yna risg ariannol i’r Cyngor ac na fyddai bwrw ymlaen â’r cam dylunio yn ymrwymo’r Cyngor i’r cam dylunio ac unrhyw gyllid pellach. Byddai angen gwneud penderfyniadau am gyllid yn y dyfodol pan fyddai llawn effaith ariannol pandemig presennol y Coronafeirws yn fwy amlwg, felly roedd hi’n bwysig rheoli disgwyliadau o ran hynny mewn cysylltiad â chynnydd posibl y cynlluniau.  Roedd y Cynghorydd Brian Jones yn cefnogi argymhellion yr adroddiad o ystyried y perygl llifogydd presennol a’r amddiffyniad y byddai’n ei roi i breswylwyr a busnesau, roedd o’n credu fod y cynlluniau yn werth am arian o ran y buddsoddiad sydd ei angen.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd y cynlluniau er mwyn amddiffyn yn erbyn perygl llifogydd yn y dyfodol ac wedi ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus o ystyried y cyd-destun presennol.

 

Yn ystod y drafodaeth a gafwyd gofynnodd y Cynghorodd Mark Young a fyddai’n briodol i fwrw ymlaen i’r cam dylunio ar hyn o bryd o ystyried cost sylweddol y broses (er mai LlC fyddai’n talu) yn yr hinsawdd ariannol bresennol heb unrhyw warant o ddatblygiad yn y dyfodol ac adolygiad i ddod o flaenoriaethau’r Cyngor.  Roedd hefyd yn awyddus i sicrhau na fyddai cymeradwyo’r argymhellion yn rhagfarnu unrhyw benderfyniad am y blaenoriaethau hynny yn y dyfodol. Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn cytuno fod yna werth i oedi’r penderfyniad i fwrw ymlaen o ystyried y gwariant sylweddol a diffyg presennol oedd yn arwain at ansicrwydd dros gynnydd yn y dyfodol. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r cam dylunio yn cael ei ariannu’n llawn gan LlC ac nad oedd yna ymrwymiad ar y Cyngor i fwrw ymlaen y tu hwnt i’r cam hwnnw. Byddai’r sefyllfa yn cael ei adolygu ar yr amser priodol o ran buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol, ond o ystyried graddfa’r buddsoddiad a nifer yr eiddo a fyddai’n elwa, penderfynwyd bwrw ymlaen â’r cynlluniau, byddai’r Cyngor mewn sefyllfa dda i gael gafael ar arian grant a fyddai’n cael ei golli fel arall. Fe ychwanegodd y Cynghorydd Brian Jones efallai y bydd modd i LlC ariannu’r cynlluniau’n llawn mewn blynyddoedd i ddod.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill y byddai’r broses o adolygu blaenoriaethau’n cael ei gynnal yn fuan, ond at ddibenion yr adroddiad roedd hi’n glir nad oedd rhoi cymeradwyaeth i’r cam dylunio yn rhagfarnu’r penderfyniad i fwrw ymlaen ar y sail hwnnw, ac nid oedd yn tybio cymeradwyaeth wrth symud ymlaen. Ni fyddai yna risg i’r Cyngor wrth fwrw ymlaen â’r cynlluniau i’r cam dylunio ac roedd LlC wedi clustnodi arian ar gyfer y pwrpas penodol hwnnw a byddai cymeradwyaeth yn sicrhau fod y Cyngor mewn safle da ar gyfer y cam nesaf os na fydd y cynlluniau’n bwrw ymlaen. Roedd y Cynghorydd Tony Thomas yn cefnogi argymhellion yr adroddiad hefyd, gan dynnu sylw at yr angen i fod yn barod i fynd i’r afael â pherygl llifogydd er lles y cymunedau.

 

Yn dilyn gwahoddiad gan yr Arweinydd, anerchodd y Cynghorydd Barry Mellor y Cabinet a siaradodd o blaid bwrw ymlaen i’r cam dylunio gan dynnu sylw at y ffaith y gallai pobl farw os nad oes mesurau ar waith i fynd i’r afael â pherygl llifogydd yn y cymunedau hynny cyn gynted â phosibl. Roedd o hefyd yn bryderus y gallai unrhyw oedi yn y broses arwain at golli arian grant allai arwain at gynnydd yng nghostau’r prosiect yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo cam dylunio Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Prestatyn, a fydd yn cael ei ariannu 100% trwy grant gan Lywodraeth Cymru, ar y ddealltwriaeth nad oedd yna risg i’r Cyngor ac nad oedd hyn yn ymrwymo’r awdurdod i’r cam adeiladu ac ariannu pellach (fel y manylir yn Adran 4.2 yr adroddiad ac Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

 (b)      cymeradwyo cam dylunio Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Rhyl, a fydd yn cael ei ariannu 100% trwy grant gan Lywodraeth Cymru, ar y ddealltwriaeth nad oedd yna risg i’r Cyngor ac nad oedd hyn yn ymrwymo’r awdurdod i’r cam adeiladu ac ariannu pellach (fel y manylir yn Adran 4.3 yr adroddiad ac Atodiad 2 yr adroddiad).

 

 

Dogfennau ategol: