Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID (STRATEGAETH ARIANNOL COVID 19)

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n nodi effaith ariannol COVID 19 ar gyllideb 2020/21 y Cyngor a’r strategaeth arfaethedig ar gyfer ymateb i'r argyfwng.

 

Penderfyniad:

Cynhaliwyd pleidlais:  7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi’r rhagolygon o ran effaith ariannol pandemig Covid-19 ar y Cyngor, a

 

 (b)      cymeradwyo fersiwn ddrafft Strategaeth Ariannol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn nodi effaith ariannol COVID 19 ar gyllideb 2020/21 y Cyngor. Roedd yr effaith yn gyfuniad o gostau ychwanegol yn ogystal â cholled sylweddol mewn incwm, a chynigiodd strategaeth arfaethedig i ymateb i’r argyfwng a lliniaru’r effaith hwnnw yn y tymor byr i ganolog.

 

Cafodd y Cabinet wybod y byddai effaith pandemig y Coronafeirws yn sylweddol ac nad oedd busnes fel arfer o bersbectif ariannol yn bosibl os nad oedd y Cyngor yn ymateb i’r argyfwng. Amlinellodd y Cynghorydd Thompson-Hill effaith ariannol a’r ymateb tymor byr a chanolig arfaethedig gan gymryd i ystyriaeth effaith ar lif arian a chyllideb sylfaen.    I grynhoi -

 

·         Effeithiau COVID 19 ar Incwm a Gwariant hyd at ddiwedd Mehefin – Rhagwelwyd cynnydd net o £2.1m mewn gwariant ar gyfer y chwarter at ddiwedd Mehefin (gwariant ychwanegol o £2.8m ochr yn ochr â  gostyngiad mewn gwariant o £747,000). 

Roedd rhagolygon o golledion incwm o £6.3m ar gyfer yr un cyfnod (yr effaith fwyaf o £2.22m ar Denbighshire Leisure Limited). Mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru (LlC) yn darparu cyllid ar gyfer y gwariant ychwanegol ond nid oes cyhoeddiad pendant wedi bod hyn yn hyn ar gyfer yr incwm sydd wedi’i golli. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth Cymru er mwyn llywio’r broses honno, ac mae disgwyl y bydd cyhoeddiad am gyllido erbyn diwedd mis Mai. Byddai effaith net o £8.3 miliwn fesul chwarter, pe na bai’n cael ei ariannu yn cael effaith andwyol ar gyllid y Cyngor os bydd y cyfyngiadau ar symud yn parhau am gyfnod estynedig. Fe nodwyd y gallai’r ffigurau a ragwelwyd newid ac nad oeddynt yn cynnwys yr effaith ar lefelau hawlwyr Cynllun Gostwng Treth y Cyngor na thaliadau Treth y Cyngor ei hun.

 

·         Cyfnod Ymateb Tymor Byr – mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn digwydd gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru, CLlLC a LlC er mwyn helpu i ddiffinio graddfa’r broblem a datblygu datrysiadau. 

Y strategaeth a argymhellwyd dros y misoedd nesaf oedd adnabod ffordd o sicrhau sefydlogrwydd ariannol y Cyngor ar gyfer 2020/21 a thu hwnt i gynnwys (1) parhau i weithio mewn partneriaeth i geisio cyflawni cymorth ariannol ar gyfer y gorwariant yn sgil colledion incwm; (2) parhau i adnabod a diffinio effaith ariannol i gyflawni darlun sydd yn gynyddol gywir; (3) adolygu penderfyniadau sydd wedi arwain at ostyngiad mewn incwm, a (4) sicrhau hyblygrwydd ariannol i ddelio ag unrhyw orwariant gweddilliol a pharhau i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol. Mae hyn yn cynnwys adnabod tanwariant presennol, adolygu gwasanaethau anstatudol, adolygu cronfeydd wrth ben a balansau, ac edrych ar gyfalafu colledion refeniw.

 

·         Ymateb Tymor Canolig a Chyfnod Adfer – byddai hyn yn ddibynnol ar ganlyniadau’r cyfnod adfer. 

Gobeithio y gall y Cyngor adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i ddysgu o’r argyfwng er mwyn manteisio ar gyfleoedd i weithio’n well ac yn fwy gwydn. Bydd hyn yn cynnwys nodi blaenoriaethau newydd, meysydd o arbedion parhaus a meysydd sydd angen buddsoddiad. Mae’r gwaith a fydd yn cael ei gwblhau dros y misoedd i ddod yn cynnwys: llunio Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, Proses ac Amserlen Gosod Cyllideb Refeniw, ac Adolygu Blaenoriaethau Cyfalaf a Phrosiectau.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod y sefyllfa hon yn newid yn gyflym ac ers i’r adroddiad gael ei ysgrifennu, bu diweddariad pellach mewn perthynas â’r rheoliadau a threfniadau gweinyddu o ran y cyllid grant oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chostau uniongyrchol a gofal cymdeithasol ynghyd â phrydau ysgol am ddim a dysgwyr wedi’u hallgau o’r byd digidol. O ran argaeledd cyllid ychwanegol, yr arwyddion oedd y byddai swm sylweddol o arian ar gael yn y gyllideb atodol i’w chyhoeddi ar 27 Mai a fyddai’n llywio cynllunio ariannol yn y dyfodol.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·         Diolchodd y Cynghorydd Mark Young am y gwaith caled oedd wedi digwydd er mwyn gweinyddu’r cynllun grantiau busnes a sicrhau fod gan elusennau fynediad at gyllid cadernid sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r rhai sydd wedi’u heffeithio.

·         Wrth ymateb i gwestiynau dilynol gan y Cynghorydd Mark Young, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol Cyllid a Phennaeth Cyllid ac Eiddo y byddai Llywodraeth y DU yn benthyg ar gyfer ystod o resymau ac y byddai unrhyw feysydd o fenthyg oedd yn ymwneud â materion datganoledig yn arwain at fformiwla cyllid canlyniadol Barnet ar gyfer Cymru a byddai LlC yn penderfynu ble i ddyrannu’r cyllid hwnnw; o ran diddyledrwydd yn y dyfodol, roedd yr adroddiad yn nodi’r pwysau ar gyfer  chwarter cyntaf a byddai’r cyllid a gyhoeddwyd yn ddigon am y chwarter cyntaf - gobeithio y bydd cyhoeddiad yfory yn mynd rhywfaint o’r ffordd i orchuddio’r diffyg incwm ar gyfer yr un cyfnod, yn dibynnu ar y canlyniad, roedd diffyg o tua £2m yn debygol, dyna’r rheswm am y mesurau sydd wedi’u manylu yn yr adroddiad. Yn dilyn y sefyllfa ar gyfer chwarter 1 byddai sylw’n troi at chwarter 2 a’r gwaith i lobio am y cyllid hwnnw – os bydd y cyfnod clo yn cael ei lacio rhywfaint ar ôl mis Mehefin, gallai fod yn bosibl i’r ffrydiau incwm ailddechrau. Yn olaf, cadarnhaodd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr bod disgwyl i awdurdodau lleol ymgymryd â gwaith ychwanegol, yn cynnwys y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu, ac roedd angen adnoddau sylweddol, cafwyd rhywfaint o ymrwymiad ariannol gan Lywodraeth y DU o ran hynny. Gan fod swyddogion eisoes wedi cael eu hadleoli i gyflawni dyletswyddau eraill a byddai  angen pobl eraill pan fyddai gwasanaethau’n ailddechrau, fe fyddai’n her i glustnodi ac adleoli staff at y diben hwnnw, yn enwedig os nad oedd arian ar gael.

·         Gofynnodd y Brian Jones am sicrwydd y bydd tanwariant adran priffyrdd ar gyfer 2019/20 yn cael ei gario drosodd ac y byddai gwariant cyfalaf ar gyfer priffyrdd yn 2020/21 yn parhau fel yr oedd. 

Fe eglurodd yr Aelod Arweiniol Cyllid yr arfer arferol o gyflwyno adroddiad y sefyllfa ariannol derfynol i’r Cabinet ym mis Mehefin gan fanylu ar argymhellion i'w cario ymlaen neu orwariant gwasanaeth - mae'n debygol os bydd lithriant mewn gwariant oherwydd Covid 19 yna mae’n debyg y byddai cyllid yn cael ei gario ymlaen. Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf byddai dyraniadau bloc ar gyfer buddsoddi mewn asedau, yn cynnwys priffyrdd, yn cario ymlaen ond roedd y dyraniadau hynny’n cael eu cyflwyno’n flynyddol ac felly nid oeddynt wedi’u profi eto – roedd lle i dybio y byddent yn parhau i gymryd fod cyllid ar gael.

·         Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn cydnabod effaith ariannol sylweddol pandemig y Coronafeirws a'r mesurau er mwyn ymateb i'r hynny allai gael eu cynnwys mewn adolygiad o wasanaethau anstatudol – fe dynnodd sylw at werth gwasanaethau anstatudol, mae nifer ohonynt yn effeithio ar les ac ansawdd bywyd pobl, a dywedodd y byddai’n gwrthod unrhyw gynigion i ddiystyru’r gwasanaethau hynny o blaid arbedion a wnaed trwy foderneiddio a ffyrdd eraill o weithio  nad oedd yn cael effaith ar ddarparu gwasanaeth. Fe soniodd y Cynghorydd Thompson-Hill am ddyletswydd gyfreithiol y Cyngor i ddarparu cyllideb gytbwys a’r angen i adnabod pob opsiwn i gyflawni hynny. Fodd bynnag, dyma fyddai’r sefyllfa waethaf bosib yn dibynnu ar sefyllfa ariannol y Cyngor. Fe ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod yr adroddiad yn nodi’r strategaeth i weithio mewn partneriaeth i geisio sicrhau cyllid ychwanegol, ond o ystyried nad oedd cyllid ar gael byddai angen gweithredu i ddefnyddio un neu fwy o’r mesurau a nodwyd er mwyn llenwi’r bwlch cyllid oedd yn unol â’r broses gyllideb arferol. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr eu bod wedi dysgu nifer o wersi o ran arferion gweithredol a gweithio ond os na fyddent yn derbyn arian digonol gan Lywodraeth Cymru, yna byddai angen gwneud penderfyniadau anodd.

 

Fe soniodd yr Arweinydd am yr heriau ac ansicrwydd i awdurdodau lleol yn sgil y pandemig yn cynnwys yr effaith ariannol os nad yw’r colledion ariannol yn cael eu bodloni.  Serch hynny, roedd yn falch o sôn am y berthynas gadarnhaol gyda Gweinidogion trwy Gymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru a chyfarfodydd rheolaidd ble roedd cydnabyddiaeth fod gan llywodraeth leol rôl allweddol wrth gyflwyno gwasanaethau ynghyd â’r heriau ariannol roeddynt yn ei wynebu. Roedd amgylchiadau sydd yn newid yn gyflym yn cael effaith ar yr heriau hynny gan greu anawsterau ar gyfer cynllunio ariannol at y dyfodol. Fel rhan o’r broses adfer roedd yn bwysig fod awdurdodau lleol yn ymateb i’r heriau a wynebir a’r cyfleoedd a ddarparwyd i weithio’n wahanol ac fwy effeithlon. Fe soniodd am bwysigrwydd TGCh a Gwasanaethau Democrataidd yn cydweithio i sicrhau fod prosesau democrataidd yn parhau fel y disgwyl a bod yna fwy o gyfleoedd ar gyfer dulliau modern o weithio.  Cytunodd yr Arweinydd hefyd fod gwasanaethau anstatudol yn bwysig i breswylwyr a byddai’n aros am ganlyniad cyhoeddiad y gyllideb gan Lywodraeth Cymru er mwyn llywio’r broses cynllunio’r gyllideb.

 

Ymatebodd Aelodau Arweiniol i faterion a godwyd gan aelodau nad oedd yn rhan o’r Cabinet fel a ganlyn -

 

·         Rhoddodd y Cynghorydd Brian Jones ddiweddariad am agor canolfannau ailgylchu a’r rheswm am yr oedi bychan oherwydd materion technegol. 

Gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne am ganllawiau amserol a chlir i aelodau a phreswylwyr cyn ailddechrau gwasanaethau a chyfleusterau amrywiol.

·         Cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y cyfeiriad yn yr adroddiad at brosiectau adfywio mawr yn cyfeirio at Gynllun Ailddatblygu Ysbyty Gogledd Cymru. 

Cyfeiriodd hefyd at ddiffiniadau yn y gyfraith o ran dosbarthiad gwasanaethau statudol ac anstatudol ac eglurodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd am ddehongliadau cyfreithiol a goblygiadau o ran hynny, yn enwedig yr elfen lles mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler ynglŷn â’r hyn roedd rhaid i'r Cyngor eu hystyried ond nad oedd yn wasanaeth statudol fel y cyfryw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi’r rhagolygon o ran effaith ariannol pandemig Covid-19 ar y Cyngor, a

 

 (b)      cymeradwyo fersiwn ddrafft Strategaeth Ariannol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: